Showing posts with label ffermio. Show all posts
Showing posts with label ffermio. Show all posts

2.10.18

Ffermydd Bro Ffestiniog -7

Parhau â chyfres Les Darbyshire; y tro hwn, cylchoedd Cwm Prysor a Llyn Traws

Mae nifer o ffermydd wedi eu lleoli o gwmpas y ffordd newydd i’r Bala - sef yr A4212. 
Yn cychwyn o gyfeiriad Traws, ac ar y dde i’r ffordd cawn Wern Gron (neu Pandy - ar lafar),  Tŷ’n y Carneddau, Tŷ’n y Griafolen, Penybryn, Hafod Wen,  Caerhingylliad, Nant y Frwydr – neu Nant Fudr ar lafar, a Dolhaidd. Ar yr ochor chwith i’r ffordd mae ffermydd Pant Mawr, Cae Glas, Glan Llafar, Bryn Heulog, Fad Filltir,  Dôl Prysor, Hendre Bryn Crogwydd a Blaen Cwm  (tŷ preifat yn awr).

Edrych i lawr am Gwm Prysor o flaen y cwm. (Llun -Paul W)
Mae hanes difyr i rai o’r ffermydd yma. Cyhoeddodd yr Athro Syr Ifor Williams lyfryn yn 1942 - Enwau Lleoedd' - a chawn eglurhad ar yr enw Dôl Prysor - ‘Prys’ yn golygu llwyn neu llwyni, ac ‘Or’ yn golygu nifer neu gasgliad. Ystyr Dôl Prysor felly ydi dôl â nifer o lwyni yn tyfu ynddo. Cawn hefyd hanes am Fad Filltir -mul oedd ganddynt i droi y werthyd i gorddi. Hefyd bu i Glan Llafar rannu y ffarm yn ddwy ac adeiladwyd tŷ ffarm newydd, sef Bryn Heulog.

Ar yr ochor ddwyreiniol i Afon Gain, yng Nghwm Dolgain, ceir olion dwy ffarm - sef Dôlmynach a Dôlmynach Uchaf - dywedir iddynt fod â chysylltiad ag Abaty Cymer, Llanelltyd; hefyd fe welir adfeilion hen ffarm Yr Alltwen.

Bu y diweddar David Tudor yn byw yn Nant y Frwydr ac ʼroedd yn enwog am ei fuches o wartheg duon. Dyma’n ôl y sôn lle bu ymladd rhwng dynion Llawrplwyf a Chwm Prysor.

Mae llawer o enwau eraill yn gysylltiedig â’r Cwm, ond dydw i ddim yn sicr o’u lleoliad. Dyma rai - Y Gors, Cae Gwair, Tanrallt, Darngae. Hwyrach bod rhai o ddarllenwyr Llafar Bro yn gwybod eu hanes, yn ogystal ag enwau ffermydd eraill nad wyf wedi eu crybwyll yn yr erthygl.

Awn eto at Bont Prysor yn Nhrawsfynydd ac ymuno â ffordd yr A470 a mynd i gyfeiriad Dolgellau, a dilyn y ffermydd ar yr ochor dde, gan gychwyn gyda ffermydd yng Nghwm Cefn Clawdd, sef Foty Graig Wian, Wern Uchaf, Wern Bach, Cefn Clawdd, Tŷ Cerrig a Tŷ’n Drain - a gollodd beth tir  i’r llyn.

Ar ochor orllewinol i’r llyn, cawn amrhyw o ffermydd sef - Cae Adda, Cae Rhys, Ffridd Wen, Tŷ’n Twll, Moelfryn Uchaf ac Isaf a Coed Rhygyn.

Dyma restr o’r ffermydd sydd o dan y dŵr fel y cefais gan John Gwyn Davies, y Goppa:
Brynwy,  Tŷ’n Ddôl,  Llwyn Derw a Pandy’r  Ddwyryd, ond fe roddir ychwaneg yn y llyfryn ‘Hanes Bro Trawsfynydd’ sef - Gwndwn, Moel Fryn, Brynhir, Llennyrch a rhan o dir Cefngellgwm.
Awn yn ôl i Dŷ’n Drain, ond  cyn dechrau, cawn ychydig o hanes y ffarm. Mae Ellen Davies, Tŷ’n Drain wedi crynhoi ar bapur beth o hen hanes y ffarm:
“Mae’r ffarm yn 132 acer ac yn cadw o gwympas dau gant o ddefaid a rhyw dri deg o wartheg, gydag ychydig o ieir a mochyn yn yr hen ddyddiau. Byddent yn tyfu tatws, moron a llysiau eraill. Hefyd roeddynt yn plannu llond cae o flaen y tŷ  -ynghyd â bresych er mwyn eu rhoi i’r gwartheg. Pan fu i’r CEGB (Bwrdd Cynhyrchu Trydan) agor canal yn 1956-57, bu hynny’n rhwystr i amryw bethau. Roedd ganddynt ddŵr a thrydan yn y ffarm cyn hynny ond fe stopiwyd am gyfnod o’r herwydd. Bu’r Americanwyr yn gwersylla ar y ffarm adeg yr Ail Ryfel Byd yn barod  at ‘D Day’. Roeddynt  yn rhannu anrhegion megis sigarenau a siocled ac yn y blaen.” 

Diolch i Ellen  am y wybodaeth.  Roedd y Teulu Davies yn denantiaid Tŷ’n Drain ers  llawer blwyddyn cyn i’r CEGB roi caniatad iddynt ei brynu.
-------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifyn Gorffennaf 2018.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde (

rhaid dewis web view os yn darllen ar ffôn).


29.7.18

Atgofion Cynhaeaf Gwair

Erthygl gan Wil Price

Fel dywed y bardd Eifion Wyn:
‘Gwrendy y weirglodd
Am lais y bladur.’
Amser pleserus iawn yng nghalendr y fferm oedd y cynhaeaf gwair.

Mae paratoi am y cynhaeaf yn dechrau yn niwedd mis Mawrth a dechrau Ebrill, pryd mae’r amaethwr yn gwrteithio’r tir gyda thail y gwartheg dros gyfnod y gaeaf.  Yna, at ddiwedd Ebrill, roedd y plant 10-14 mlwydd oed yn cael eu gyrru allan i ‘grega’, sef mynd o amgylch y weirglodd i gyd gyda bwced i godi unrhyw gerrig a fuasai wedi dod i wyneb y tir, neu drwy ddifaterwch eraill o daflu cerrig i’r cae, a hynny heb sylweddoli mor helbulus y gallai hynny fod i’r pladurwr.

Cael y pladuron i gyd wedi eu hogi ar y maen llifio, y cribiniau i gyd gyda dannedd newydd, y picffyrch a’r drol yn barod at eu gorchwyl.

Llun gan Ellen Maiden -hel ym Mhantllwyd

Disgwyl diwrnod braf i gychwyn, un ai gwrando ar y radio am ragolygon – doedd dim sôn am deledu yn y dyddiau hynny – neu  ail-brocio’r cof am hen arwyddion a ddaeth i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth – gweld y gwenoliaid yn hedfan yn uchel neu’n isel; sut roedd hi’n nosi? Oedd y mynyddoedd yn edrych yn bell neu’n agos? ... ac yn y blaen.

Rhaid oedd dechrau rywdro, gyda’r tad rhan amlaf yn cychwyn, a’r meibion neu’r  gwas yn ei ganlyn, a hynny tua 5 o gloch y bore cyn i’r gwlith godi.

Byddent yn wyliadwrus iawn faint i’w dorri yn ôl y rhagolygon neu eu gweledigaeth hwy eu hunain.  Ofn torri gormod, rhag ofn i’r tywydd droi yn anffafriol, neu ar yr ochor arall, ofn colli tywydd braf i barhau am wythnos neu well.  Ond profiad y tad oedd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad yma eto.

Yna, yn amal iawn byddai’r tad yn mynd at ei waith dyddiol erbyn 8 yn y bore, a’r hogia i odro’r gwartheg yn y beudy ac yna i’r ysgol erbyn 9 o’r gloch.

Ar ôl ymborthi’r pladurwyr, amser i’r merchaid ddod allan i chwalu’r ‘stodiau’ er mwyn i’r gwair ddechrau gwywo. Y diwrnod canlynol, dilyn yr un drefn, gyda’r merchaid yn ‘troi’ y gwair er mwyn gwneud yn siŵr fod ochor isaf y gwair yn cael cyfle i wywo.

Y tad fel rheol oedd yn penderfynu os oedd y gwair yn ddigon aeddfed i’w gario i’r gadlas.

Ambell dro, byddai’r tywydd yn troi’n gymylog a gwan ac roedd yn ansicr dweud os oedd glaw yn agos.  Yr amser yma, roedd yn rhaid ‘mydylu’, a  dyma’r orchwyl gasaf gan bawb i’w wneud, achos mi fyddai’n orfodol i ‘rencio’ gwair i gyd, yna ei godi fel pebyll bach ar hyd y cae gan ofalu fod pen y mwdwl wedi ei godi fel bod y glaw yn rhedeg oddi arno i gyd, a dim yn mynd trwodd i’w du mewn.

Clywsoch lawer gwaith rwy’n siŵr fod eisiau pen iawn ar y mwdwl – wel dyma yn sicr i chwi o lle daeth y dywediad yma. Cyn cario’r gwair i’r gadlas, rhaid oedd bod yn hollol siŵr o ddau beth.

1.    Peidio byth â’i gario os nad oedd o wedi gwywo’n iawn.   Os buasai tamed ohono heb wywo, gallai’r mymryn yma boethi i’r fath wres yng nghanol y gadlas nes achosi tân a difa’r cynnyrch i gyd.  Byddai hynny’n digwydd o fewn 6 wythnos o’i gario fel rheol.
2.    Peidio byth â’i gario os oedd rhywfaint o law heb sychu yn iawn ar y gwair.  Mewn dim amser mi fuasai’r gwair yma yn llwydo'r holl gynnyrch a’i ddifetha.

Ple bynnag yr oeddech yn gorffen eich gorchwyl yn y cae gwair, y pechod mwyaf fuasai cario eich cribin tuag at y gadlas.  Na – rhaid oedd tynnu’r gribin tu ôl – rhag ofn y buasai rhywfaint o wair wedi ei fethu a hynny ar ôl i chwi hel yr olion.  Yr eglurhad yr oeddech yn ei gael – er cyn lleied o wair oedd gennych ar y gribin, fuasai hwnnw ddim ar gael pe baech ei angen yn ystod y gaeaf maith. Hwyrach y byddai’n ddigon i wneud un pryd i’r fuwch odro!

Ni fedraf orffen heb gynnwys cwpled o gyngor a gefais gan fy nhad pan oeddwn yn cychwyn ar fy ngyrfa fel plymar ym 1948.
“Cwyd dy bladur cyn iddi fynd heb ddim min,
A stopia dy geffyl cyn iddo stopio ei hun.”
Cyngor sydd â llawer o feddwl tu ôl  iddo ‘rwy’n siŵr - tu allan i fyd ffermio! 
Dyddiau difyr iawn. 
----------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifyn Mehefin 2018

9.5.18

Ffermydd Bro Ffestiniog -3

Cyfres Les Derbyshire.

Ar ol crwydro o Dalywaenydd i Danybwlch ac yn ol i Dyddyn Gwyn, symudwn ymlaen i gyfeiriad Plas Tanymanod, ac wedyn Ty’n Drain, Pen y Bryn, Pen Cae a'r Fuches Wen, tyddynnod i bob pwrpas.

Yn gyfagos, ac i lawr y dyffryn, mae fferm Cwm Bowydd: hon mae'n debyg yw ffarm fwyaf y cylch.  Ffarm ddefaid a gwartheg, â digon o dir pori ynddi, mae yn debyg iddi hefyd fod y ffarm hynaf y cylch a dywedir i'r tŷ gael ei adeiladu yn y 15fed ganrif.

Yn ôl i'r Manod ac fyny'r ffordd i Gae Clyd, cawn Tanybwlch a oedd yn cynnwys dau dŷ; nid oedd y rhain yn ffermydd ond ʼroedd stablau tu cefn iddynt.  Morris Jones, ei wraig  a'i ddau blentyn, Stanley a Ted oedd yn byw yn rhif dau.  ʼRoedd ‘Moi Tanybwlch’, fel ei adnabyddir,  yn arbenigwr ar geffylau a chredaf ar un cyfnod yr oedd yn gweithio yn y chwarel gyda'r ceffylau.  Ceffylau oedd ei fyd, hardd oedd gweld  ei waith adeg y cymanfaoedd  pan oedd y ceffylau'n cael eu haddurno, a'r plant yn eistedd yn y lori - golygfa gwerth ei weld.  Mae’n hawdd deall pam fod ei fab, Ted Breeze Jones, yn naturiaethwr.  

Nepell o Danybwlch, ac ar y brif ffordd, mae Tŷ Gwyn, lle oedd y stablau tu cefn i'r adeilad. Tebygrwydd eto mai ceffylau at wasanaeth y chwareli a oedd yno, lle’u defnyddwyd i dynnu wageni o'r twll i'r felin.

Wedyn dilyn y ffordd i ben draw Cae Clyd, mae Bron Manod, fferm ddefaid eto gyda 'chydig o wartheg ac un ceffyl.  John Davies oedd y perchennog - dyn cyfiawn a gonest, 'roedd effaith y Rhyfel Fawr arno a bu'n dioddef o be elwid yn ‘Trench Foot’, clwyf a oedd yn boen i lawer o hen soldiwrs wedi gorfod sefyll mewn dŵr yn y ffosydd am gyfnodau hir.  

Ymlaen i Fryn Eithin: y teulu Thomas oedd yn byw yno, tyddyn arall.  Y gŵr yn y chwarel,  'roedd mab y ffarm, Ceredig, yn cyd oesi a fi yn ysgol y Manod.  Ffordd drol annifyr oedd yn cysylltu'r ffarm, a hefyd i'r ffarm fechan gyfagos sef Cae Canol; sut yr oeddynt yn cael bywoliaeth ynddi nis gwn.  Yn anffodus ʼroedd gan Bob nam ar ei leferydd, a byddan ni, y plant, yn mynd ato yn yr haf i chwarae a helpu efo'r cynhaeaf gwair.  Cyfagos i'r ffarm oedd ffarm y Tryfal yng ngylch Llan Ffestiniog.

I’r dde o Bron Manod mae dwy ffarm, sef Cae Du a Frondirion, ffermydd bach a'r gwŷr yn y chwarel.  Ffordd drol oedd yn eu cysylltu nhw a'r brif ffordd ger Rhiwlas, ac yr oedd rhaid croesi'r rheilffordd a honno heb arwyddion, a gorfod fod yn ofalus pan yn croesi gyda throl a cheffyl. ----------------------------------------


Dyma ail hanner y bennod a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2018.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen 'Ffermydd Bro Ffestiniog'.

Llun -Paul W


11.2.16

Llyfr Taith Nem- 'gwlad chwe mis'

Hedfan i Ganada
Er i mi deithio gymaint ar hyd fy oes, ychydig iawn deithiais mewn awyrenau.  Mae’n debyg fy mod yn perthyn i’r dosbarth hwnnw sydd yn credu buasai’r Bod Mawr wedi rhoi adain i ddyn pe tae wedi bwriadu iddo hedfan.  Daw hyn a hen stori o ‘Stiniog i fy nghof.

Yr oedd hen gymeriad doniol yn labro yn y chwarel, a’i waith oedd cynorthwyo i dynnu y wageni yn y lefel dan y ddaear.   Un dydd yr oedd yr hen frawd yn ysmygu pan ddaeth y stiward heibio, ac meddai’r stiward, “John, pe tae’r Bod Mawr wedi bwriadu i ddyn ysmygu, fe fuasai wedi rhoddi corn simdde ar ei ben.”  Edrychodd John yn graff arno, ac meddai, “Ddigon posib wir, ond pe tae o wedi bwriadu i minnau dynnu wagen, mi fuasai wedi rhoddi bachyn ar fy nhîn hefyd!

Unwaith, fodd bynnag, bu i mi deithio mewn awyren o Detroit, Michigan i Calgarry, Alberta trwy Montreal a Winnipeg.  Rhyw syniad rhyfedd oedd edrych i lawr o’r uchelder a gweled yr holl fyd megis yn mynd heibio.  Daeth yr adnod honno i’m meddwl “Yr Arglwydd sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd ac yn gweled holl feibion dynion.”  Yn wir teimlais y gallwn ddweud, “Y fi sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd ac yn gweled holl feibion dynion.

Yr oeddwn yn gweled natur yn ei holl ogoniant, yr afonydd yn gwau drwy’i gilydd, a’r mynyddoedd yn esgyn y naill wrth ben y llall, a miloedd o aceri o geirch a chorn.  Rhyfedd ydyw sylweddoli er mor fychan yw maint dyn yn ochor y pethau yma, mai dyn wedi’r cwbwl ydyw creadigaeth fwyaf Duw.  Ambell waith yn hedfan yn uwch na’r cymylau, ac fel pe taswn wedi ffarwelio oddi wrth y byd yn gyfangwbl.  Hoffwn pe tawn wedi cael y profiad heb swn y moduron, a chael teithio yng nghanol distawrwydd yr eangder mawr.

Cymerodd y daith ddeuddeng awr gan gyrraedd Calgarry hanner awr wedi saith y nos.  Cymerais fodur o’r porth awyr i’r ddinas a’r peth cyntaf welais oedd adeilad yn dwyn yr enw ‘Wales Hotel’.  Cofier mai’r gair ‘Wales’ dynodd fy sylw ac nid ‘Hotel’.  Sylwodd gyrrwr y modur fy mod yn craffu ac yr enw a gofynodd i mi ai Cymro oeddwn.  Ymddengys mai Cymro oedd yntau o Forgannwg.  Wedi cerdded dipyn o amgylch y ddinas, cyfeiriais tua’r orsaf i gymeryd trên am Ponaka, a chyrhaeddais yno tua phump o’r gloch y bore.  Nid oedd yr un creadur dau – na phedwar – troed o gwmpas, ond wedi ychydig amser gwelais heddwas, a chyfeiriodd hwnnw fi at gartref fy nghyfneither, gynt o Benrhyndeudaeth.  Cerddais tua wyth milltir drwy gaeau o yd, ceirch a haidd.

Rhyw 200 milltir ymhellach nae Edmonton, ar derfynnau Alaska, ond oherwydd yr hin ofer meddwl am fyned yno ond rhwng Ebrill a Medi.  Yn ystod y misoedd eraill mae’r tywydd oer yn rhy eithafol, a rhewir y ddaear dros ddeg troedfedd i lawr.  Dywedodd ffermwr o Winnipeg wrthyf mai gwlad chwe mis ydyw Canada.  Mae llawer o hysbysebu am ffermwyr o Brydain, ac addaw cyflogau da, ond fy nghyngor i i unrhyw un yn y cyswllt yma ydyw gwneud yn siwr ym mha ran o’r wlad mae y fferm, a sicrhau gwybodaeth gyflawn am y tywydd.

Peth arall i’w gofio ydyw fod llawer o’r ffermydd yma mewn lleoedd anial iawn, heb fywyd cymdeithasol o gwbwl, fuasai hynny yn dipyn o newid i unrhyw un o Gymru, oherwydd bywyd unig ydyw’r bywyd di gymdeithas.  Ar un adeg arferid rhoi 60 o aceri o dir i unrhyw un ddeuai i’r wlad i ffermio o Brydain.  Neidiodd llawer i’w derbyn, ond wedi cyrraedd yno, sylweddasant fod yr aceri hynny yn goed a mieri.  Rhaid oedd tynnu’r coed o’r gwraidd gydag ychain, a hwythau yn tyfu yn agos at eu gilydd.  Gwaith torcalonus oedd dechrau ar waith felly, a thorodd llawer un ei galon cyn gorffen y gwaith.  Os nad oedd y gwaith yn cael ei gwblhau, cymerai’r llywodraeth y tir yn ôl.

Er hyn i gyd, mae Canada yn wlad eithriadol o gyfoethog.  “Ei thorrog wythien arian, a’i phlwm a’i dur yn fflam dân.”  Oherwydd hynny mae amryw o gyfleusterau i’r gŵr nerthol a diwid, ond i lwyddo yno rhaid wrth iechyd a phenderfyniad eithriadol.  Fel y dywedodd hen Gymro rhyw dro, “Nid lle i deiliwr o ddyn.”
---------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 1998. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.


14.4.15

Atgofion Bore Oes

Darn o'r archif y tro hwn: rhan o erthygl gan Ellen Maiden (Ephraim gynt), Southampton, a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2014.

Pan fydda i’n gweld rhaglenni ar y teledu am ffermwyr heddiw, gyda phob arf a’r peiriannau diweddaraf sy’n gwneud eu gwaith gymaint ysgafnach nag oedd i ffermwyr saithdeg mlynedd yn ôl, byddaf yn cofio mor galed y byddai ffermwyr bychain yn gorfod gweithio.

Adeg cynhaeaf gwair, byddai fy nhad yn codi’n fore iawn – tua phedwar o’r gloch y bore – yna, ar ôl bwyta ei frecwast, yn syth â fo i’r cae gwair, i dorri darn go fawr o’r cae efo pladur. Wedyn byddai’n rhaid rhedeg am y trên gweithiwrs, a cherdded wedyn i chwarel yr Oclis. 

Pwrpas torri’r gwair mor gynnar yn y dydd oedd i’r haul gael cyfle i’w sychu.  Ar ôl dod adref tua phump o’r gloch, ac ar ôl cael pryd o fwyd sylweddol, byddai fy nhad yn ei ôl yn y cae gwair yn torri eto.

Lle hynod o gymdogol oedd Pant Llwyd yn y tri degau, a byddai fy Mam yn cael help gan ddwy gymdoges i droi’r rhesi o wair yn fydylau.  Yna trannoeth ar ôl haul poeth, byddent yn gwneud “rhenci” o’r gwair.  Cofiaf yn dda, pan oeddwn tua deuddeg oed, yn helpu yn y cae yn troi y rhenci, a dyma ufflwm o lyffant mawr du yn neidio ataf!  Teflais fy nghribin.  Sgrechiais.  Chwim iawn oedd fy ymadawiad o’r cae gwair y diwrnod hwnnw, a hyd yn oed heddiw mae gennyf ofn llyffantod.


Byddai’n rhaid i’r gwair fod yn hollol sych cyn mynd â fo i’r das.  Byddem ni’r plant yn cael llawer o hwyl wrth neidio yn y das, er mwyn sathru’r gwair i lawr.


<  Dyma lun o fy nhad, William Ephraim gyda Goronwy, yr ieuengaf o’m chwe brawd, yn mynd â llwyth o wair i’r das, gyda  Polsan, y ferlen fynydd (c.1936)




Yr oedd yna ffermwyr eraill yn yr ardal oedd yn gweithio yn y chwarel yn ogystal â ffarmio – sef Robat Griffith Roberts Tŷ Nant y Beddau, Wil Haf (William Evans) Llety Gwilym, a Dafydd Price, Tŷ’n Ffridd.


 Un ‘dda-at ei byw’ oedd fy Mam.  Byddem yn rhentu darn go lew o dir tu ôl i’r cartref.  Yn ogysal â’r cae gwair (tua dwsin o aceri) roeddem hefyd yn rhentu ychydig o aceri yn ychwanegol.  ‘Roedd gennym dair neu bedair o wartheg, dwy hwch fagu; tua deugain o ieir; a rhyw hanner dwsin hwyaden ac un ferlen mynydd.

Byddai fy mam hefyd yn codi’n fore iawn – hi oedd yn godro’r gwartheg.  Yna byddwn i yn mynd i fyny ac i lawr Pant Llwyd ddwy neu dair gwaith hefo piseri o lefrith cynnes, yn syth o’r fuwch.  Na, nid oedd yna’r ffasiwn beth â ‘Iechyd a Diogelwch’ yn y tri- a’r pedwar degau!  Ar ôl i bawb gael eu llefrith, yna byddwn yn rhedeg am y trên i fynd i’r Ysgol Sir (Ysgol y Moelwyn heddiw).

Byddwn yn helpu Mam ar fore Sadwrn wrth garthu’r cwt ieir, a’r ddau gwt mochyn.  Cofiaf yn dda y tro cyntaf y gwelais fôr o foch bach (tua 12 i 14 ohonynt yn cael eu geni – mor lân – fel sidan pinc!).  Byddem yn gwneud menyn trwy gorddi hefo’r fuddai – gwaith reit galed ac am amser reit hir nes byddai fy mreichiau yn brifo; er y byddai Mam yn cymeryd trosodd reit aml!  Wrth gwrs, adeg rhyfel oedd hyn, felly ‘roedd y menyn yn werthfawr iawn achos, os ydwyf yn cofio yn iawn, dim ond dwy owns o fenyn y pen fyddem yn gallu ei brynu o’r siop.

Cefais swllt a chwech am lanhau’r cytiau a’r corddi – pris sêt yn y Forum neu’r Park ar nos Sadwrn.  Pan oeddwn yn chwarae hoci hefo’r ysgol, yna, wrth gwrs, nis gallwn wneud y dyletswyddau hyn ar ddydd Sadwrn.  (Ac yr oedd gwneud hyn ar fore Sul allan o’r cwestiwn!)

Rhyw ddwywaith y flwyddyn, byddem yn lladd un o’r hychod fagu. Cofiaf fel petai ddoe fel y byddai Dafydd Jones, Ysgubor Hen, yn dod acw ar ei foto beic i wneud y weithred waedlyd.  Byddwn yn diflannu i waelod Llan ond, serch hynny, byddwn yn dal i glywed yr hen hwch druan yn sgrechian.  Anodd iawn oedd cerdded adref y noson honno, a hyd heddiw pur anaml y byddaf yn bwyta cig moch.

‘Roedd fy Mam yn gogyddes dda iawn, a byddai yn cymeryd archebion am frôn, pwdin gwaed, traed moch ac yn y blaen.  ‘Roedd ein cartref yn hynod o brysur am ddyrnodiau wedyn.  Byddai’n halltu pedair coes yr hwch, a’u rhoi i hongian o’r nenfwd am fisoedd wedyn (ond nid i mi!).

Edrychaf yn ôl ar y blynyddoedd hapus a dreuliais ym Mhant Llwyd pan yn blentyn gydag atgofion melys am yr Ysgol Sul, a’m cyfeillion annwyl bore oes – cyfeillion sy’n dal i gadw cysylltiad cynnes – er gwaethaf y pellter sydd rhyngom.