Showing posts with label lladd gwair. Show all posts
Showing posts with label lladd gwair. Show all posts

2.8.21

Cwm Teigl- cerdded

Atgofion Emlyn Williams [3]

Weithiau byddai Mam yn picio i mewn a dweud... “Dwi’n mynd i garthu’r beudy. Aros yn y tŷ. Mae’n oer” … neu … “Dwi’n mynd i ddyfrio’r gwartheg at yr afon” … neu … “Dwi’n mynd i roi llith i’r llo” … neu …  “Dwi’n corddi yn y bwtri.” 

Ymadroddion o’r oes a fu, ac er na ddefnyddiais i rhyw lawer arnynt yn ystod fy ngyrfa, eto i gyd, maent wedi eu hanfawroli a’u selio ar y cof.

Does dim dwywaith mai allan yn y caeau yr oeddwn yn y gwanwyn a’r haf, a hyd heddiw, pan fyddaf yn arogli gwair ffrés newydd ei dorri, rwy’n clywed llais Mam yn galw..... “Cer i nôl dy gribin, a ty’d i chwalu’r ystodau efo fi.”  Roedd Dad wedi torri’r gwair am hanner awr wedi pump y bore cyn mynd i’w waith yn Bwlch. Bu llawer tro ar fyd ers hynny, a ni chlywir byth mwy dermau fel ‘cribinio’, ’rhencio’, neu ‘mydylu’ yn y caeau gwair. Eto i gyd, i rai ohonom, maen nhw’n dal i atseinio yn nyfnderoedd y cof.

Mae tywydd tesog yr haf yn fy arwain at ddigwyddiad cofiadwy arall yn 1957.....clywed pobl yn parablu mewn iaith estron … ‘Eggs,’ ‘How much?’ a ‘Shooting break’. Ai dyma’r tro cyntaf i mi amgyffred ei bod hi’n bosib cyfathrebu mewn iaith arall? Ymwelwyr oeddynt ar eu ffordd i Gae Canol, y tŷ mwyaf anghysbell yn y cwm. Ar ôl prynu hanner dwsin o wyau, ail-gychwynodd y ‘shooting break’ a fe’i dilynais yn hercian yn araf i fyny’r ffordd drol hyd at odrau’r Manod Mawr.

Roedd ymwelwyr (neu ‘pobl ddiarth’ fel eu gelwid y pryd hynny) yn brin iawn yn y cwm yn y pum-degau. Ond, wedi’r cwbl, roedd yna griw o bobl arbennig yn mentro i’r cwm yn yr haf. Roeddynt yn gwisgo esgidiau uchel fel clocsiau, trwsus byr ac anorac liwgar (coch, melyn neu las).
Pwy ydy’r bobl ‘ma, Mam? Ble maen nhw’n byw? Ble maen nhw’n mynd? Ydy’n nhw’n ffeind?
Hithau yn ateb, “Hikers, fy ngwas i. Maen nhw’n crwydro’r mynyddoedd.
Crwydro ? Pam?” 

Cerddwr yn edrych lawr ar ben uchaf Cwm Teigl o lethrau'r Manod Mawr. Llun Paul W

Doeddwn i ddim yn fy myw yn deall beth oedd pwrpas yr holl gerdded ‘ma. I’r gwrthwyneb, roeddwn yn deall yn iawn y rheswm dros gerdded pedair milltir yn ôl a blaen i ysgol Llan bob dydd. Roeddwn yn deall y rheswm dros gerdded heibio Teiliau Mawr, i fyny i Fryn Eithin ac wedyn carlamu i lawr heibio Bro Manod a cnocio drws Bryn Llwyd ym mhen uchaf Cae Clyd. Y pwrpas oedd ymweld â Taid a Nain, a’r pleser mwyaf oedd cael mynd efo Taid (Jac Glan) a Guto Bryn Teg i wylio ‘gêm ffwt’ ar y cae cyfagos. 

Yn ogystal, roeddwn yn deall y rheswm dros neidio’r gamfa a dringo’r ffridd i gyfeiriad Tŷ Nant y Beddau bob nos Sadwrn neu nos Sul. Y bwriad oedd ymweld â Medwyn a Bronwen ac Einir Wyn a chael swper blasus yn eu cwmni diddan. Ond cerdded yn ofer, heb bwrpas … roedd hynny’n creu dipyn o benbleth i mi.

Chwe-deg mlynedd yn ddiweddarach, mae darluniau o’r ‘hikers’ yn parhau i fflachio drwy’r meddwl. Ac mewn gwirionedd, hwyrach fod yr ‘hikers’ wedi gwneud mwy o argraff arnaf nag oeddwn yn tybio ar y pryd. Mae’n wir fod rhai estroniaid ymhlith y cerddwyr, a hwythau’n parablu mewn ieithoedd annealladwy i blentyn 5 oed. Wrth fynd heibio’r fferm, roedd rhai yn fy nghyfarch, yn torri gair neu ddau a cheisio cynnal sgwrs. Roedd fy atebion innau braidd yn anystwyth a bratiog, mae’n siŵr. Ond wrth wylio y smotiau amryliw yn diflannu i gyfeiriad Hafod Ysbyty, tybed ai dyna’r foment y cafodd yr hedyn ei hau, a gwneud i mi freuddwydio a dweud yn ddistaw bach wrth fy hun....."Ys gwn i fedra’i siarad fel nhw rhyw ddydd? Pwy a ŵyr?”

Pwy oedd y cymeriadau a’r digwyddiadau eraill a ddylanwadodd arnaf yn ystod fy mhlentyndod yng Nghwm Teigl? 

Un o hoelion wyth y gymuned, wrth gwrs, oedd John Davies Tryfal. Roedd yn arferiad ganddo fynd â’r tarw du Cymreig am dro heibio Llechwedd hyd at Bant yr Hedydd. Roedd yr ymarfer yn help i ystwytho cyhyrau’r anifail, mae’n siŵr. Rwyn cofio, unwaith, i’r hen darw urddasol ei olwg sefyll yn stond o flaen beudy Llechwedd, ei lygaid yn pefrio a’r carnau blaen yn stampio’r ddaear. Doedd dim modd ei symud. Pam felly, feddyliech chi?

Wel, roedd Mam a finnau yn y cae gwair cyfagos ac roedd hithau wedi agor ffenestri’r tŷ led y pen er mwyn i ni fwynhau Côr Godre’r Aran yn bloeddio canu ar y recordydd ‘Dansette’. Fe fu’n rhaid i Mam frysio i’r tŷ i dawelu’r côr a chaniatáu i John Davies hebrwng yr anifail yn hamddenol braf yn ôl i fuarth Tryfal. Wn i ddim os mai wedi ei frawychu’n ddisymwth oedd yr hen darw neu wedi ei swyno gan sain peraidd y côr meibion yn canu cerdd dant. Gyda llaw, mae’r record hir honno yn dal yn fy meddiant heddiw. (Label Delysé 1957 neu 1958).
------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2021

(Heb y llun)

14.4.15

Atgofion Bore Oes

Darn o'r archif y tro hwn: rhan o erthygl gan Ellen Maiden (Ephraim gynt), Southampton, a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2014.

Pan fydda i’n gweld rhaglenni ar y teledu am ffermwyr heddiw, gyda phob arf a’r peiriannau diweddaraf sy’n gwneud eu gwaith gymaint ysgafnach nag oedd i ffermwyr saithdeg mlynedd yn ôl, byddaf yn cofio mor galed y byddai ffermwyr bychain yn gorfod gweithio.

Adeg cynhaeaf gwair, byddai fy nhad yn codi’n fore iawn – tua phedwar o’r gloch y bore – yna, ar ôl bwyta ei frecwast, yn syth â fo i’r cae gwair, i dorri darn go fawr o’r cae efo pladur. Wedyn byddai’n rhaid rhedeg am y trên gweithiwrs, a cherdded wedyn i chwarel yr Oclis. 

Pwrpas torri’r gwair mor gynnar yn y dydd oedd i’r haul gael cyfle i’w sychu.  Ar ôl dod adref tua phump o’r gloch, ac ar ôl cael pryd o fwyd sylweddol, byddai fy nhad yn ei ôl yn y cae gwair yn torri eto.

Lle hynod o gymdogol oedd Pant Llwyd yn y tri degau, a byddai fy Mam yn cael help gan ddwy gymdoges i droi’r rhesi o wair yn fydylau.  Yna trannoeth ar ôl haul poeth, byddent yn gwneud “rhenci” o’r gwair.  Cofiaf yn dda, pan oeddwn tua deuddeg oed, yn helpu yn y cae yn troi y rhenci, a dyma ufflwm o lyffant mawr du yn neidio ataf!  Teflais fy nghribin.  Sgrechiais.  Chwim iawn oedd fy ymadawiad o’r cae gwair y diwrnod hwnnw, a hyd yn oed heddiw mae gennyf ofn llyffantod.


Byddai’n rhaid i’r gwair fod yn hollol sych cyn mynd â fo i’r das.  Byddem ni’r plant yn cael llawer o hwyl wrth neidio yn y das, er mwyn sathru’r gwair i lawr.


<  Dyma lun o fy nhad, William Ephraim gyda Goronwy, yr ieuengaf o’m chwe brawd, yn mynd â llwyth o wair i’r das, gyda  Polsan, y ferlen fynydd (c.1936)




Yr oedd yna ffermwyr eraill yn yr ardal oedd yn gweithio yn y chwarel yn ogystal â ffarmio – sef Robat Griffith Roberts Tŷ Nant y Beddau, Wil Haf (William Evans) Llety Gwilym, a Dafydd Price, Tŷ’n Ffridd.


 Un ‘dda-at ei byw’ oedd fy Mam.  Byddem yn rhentu darn go lew o dir tu ôl i’r cartref.  Yn ogysal â’r cae gwair (tua dwsin o aceri) roeddem hefyd yn rhentu ychydig o aceri yn ychwanegol.  ‘Roedd gennym dair neu bedair o wartheg, dwy hwch fagu; tua deugain o ieir; a rhyw hanner dwsin hwyaden ac un ferlen mynydd.

Byddai fy mam hefyd yn codi’n fore iawn – hi oedd yn godro’r gwartheg.  Yna byddwn i yn mynd i fyny ac i lawr Pant Llwyd ddwy neu dair gwaith hefo piseri o lefrith cynnes, yn syth o’r fuwch.  Na, nid oedd yna’r ffasiwn beth â ‘Iechyd a Diogelwch’ yn y tri- a’r pedwar degau!  Ar ôl i bawb gael eu llefrith, yna byddwn yn rhedeg am y trên i fynd i’r Ysgol Sir (Ysgol y Moelwyn heddiw).

Byddwn yn helpu Mam ar fore Sadwrn wrth garthu’r cwt ieir, a’r ddau gwt mochyn.  Cofiaf yn dda y tro cyntaf y gwelais fôr o foch bach (tua 12 i 14 ohonynt yn cael eu geni – mor lân – fel sidan pinc!).  Byddem yn gwneud menyn trwy gorddi hefo’r fuddai – gwaith reit galed ac am amser reit hir nes byddai fy mreichiau yn brifo; er y byddai Mam yn cymeryd trosodd reit aml!  Wrth gwrs, adeg rhyfel oedd hyn, felly ‘roedd y menyn yn werthfawr iawn achos, os ydwyf yn cofio yn iawn, dim ond dwy owns o fenyn y pen fyddem yn gallu ei brynu o’r siop.

Cefais swllt a chwech am lanhau’r cytiau a’r corddi – pris sêt yn y Forum neu’r Park ar nos Sadwrn.  Pan oeddwn yn chwarae hoci hefo’r ysgol, yna, wrth gwrs, nis gallwn wneud y dyletswyddau hyn ar ddydd Sadwrn.  (Ac yr oedd gwneud hyn ar fore Sul allan o’r cwestiwn!)

Rhyw ddwywaith y flwyddyn, byddem yn lladd un o’r hychod fagu. Cofiaf fel petai ddoe fel y byddai Dafydd Jones, Ysgubor Hen, yn dod acw ar ei foto beic i wneud y weithred waedlyd.  Byddwn yn diflannu i waelod Llan ond, serch hynny, byddwn yn dal i glywed yr hen hwch druan yn sgrechian.  Anodd iawn oedd cerdded adref y noson honno, a hyd heddiw pur anaml y byddaf yn bwyta cig moch.

‘Roedd fy Mam yn gogyddes dda iawn, a byddai yn cymeryd archebion am frôn, pwdin gwaed, traed moch ac yn y blaen.  ‘Roedd ein cartref yn hynod o brysur am ddyrnodiau wedyn.  Byddai’n halltu pedair coes yr hwch, a’u rhoi i hongian o’r nenfwd am fisoedd wedyn (ond nid i mi!).

Edrychaf yn ôl ar y blynyddoedd hapus a dreuliais ym Mhant Llwyd pan yn blentyn gydag atgofion melys am yr Ysgol Sul, a’m cyfeillion annwyl bore oes – cyfeillion sy’n dal i gadw cysylltiad cynnes – er gwaethaf y pellter sydd rhyngom.