2.8.21

Cwm Teigl- cerdded

Atgofion Emlyn Williams [3]

Weithiau byddai Mam yn picio i mewn a dweud... “Dwi’n mynd i garthu’r beudy. Aros yn y tŷ. Mae’n oer” … neu … “Dwi’n mynd i ddyfrio’r gwartheg at yr afon” … neu … “Dwi’n mynd i roi llith i’r llo” … neu …  “Dwi’n corddi yn y bwtri.” 

Ymadroddion o’r oes a fu, ac er na ddefnyddiais i rhyw lawer arnynt yn ystod fy ngyrfa, eto i gyd, maent wedi eu hanfawroli a’u selio ar y cof.

Does dim dwywaith mai allan yn y caeau yr oeddwn yn y gwanwyn a’r haf, a hyd heddiw, pan fyddaf yn arogli gwair ffrés newydd ei dorri, rwy’n clywed llais Mam yn galw..... “Cer i nôl dy gribin, a ty’d i chwalu’r ystodau efo fi.”  Roedd Dad wedi torri’r gwair am hanner awr wedi pump y bore cyn mynd i’w waith yn Bwlch. Bu llawer tro ar fyd ers hynny, a ni chlywir byth mwy dermau fel ‘cribinio’, ’rhencio’, neu ‘mydylu’ yn y caeau gwair. Eto i gyd, i rai ohonom, maen nhw’n dal i atseinio yn nyfnderoedd y cof.

Mae tywydd tesog yr haf yn fy arwain at ddigwyddiad cofiadwy arall yn 1957.....clywed pobl yn parablu mewn iaith estron … ‘Eggs,’ ‘How much?’ a ‘Shooting break’. Ai dyma’r tro cyntaf i mi amgyffred ei bod hi’n bosib cyfathrebu mewn iaith arall? Ymwelwyr oeddynt ar eu ffordd i Gae Canol, y tŷ mwyaf anghysbell yn y cwm. Ar ôl prynu hanner dwsin o wyau, ail-gychwynodd y ‘shooting break’ a fe’i dilynais yn hercian yn araf i fyny’r ffordd drol hyd at odrau’r Manod Mawr.

Roedd ymwelwyr (neu ‘pobl ddiarth’ fel eu gelwid y pryd hynny) yn brin iawn yn y cwm yn y pum-degau. Ond, wedi’r cwbl, roedd yna griw o bobl arbennig yn mentro i’r cwm yn yr haf. Roeddynt yn gwisgo esgidiau uchel fel clocsiau, trwsus byr ac anorac liwgar (coch, melyn neu las).
Pwy ydy’r bobl ‘ma, Mam? Ble maen nhw’n byw? Ble maen nhw’n mynd? Ydy’n nhw’n ffeind?
Hithau yn ateb, “Hikers, fy ngwas i. Maen nhw’n crwydro’r mynyddoedd.
Crwydro ? Pam?” 

Cerddwr yn edrych lawr ar ben uchaf Cwm Teigl o lethrau'r Manod Mawr. Llun Paul W

Doeddwn i ddim yn fy myw yn deall beth oedd pwrpas yr holl gerdded ‘ma. I’r gwrthwyneb, roeddwn yn deall yn iawn y rheswm dros gerdded pedair milltir yn ôl a blaen i ysgol Llan bob dydd. Roeddwn yn deall y rheswm dros gerdded heibio Teiliau Mawr, i fyny i Fryn Eithin ac wedyn carlamu i lawr heibio Bro Manod a cnocio drws Bryn Llwyd ym mhen uchaf Cae Clyd. Y pwrpas oedd ymweld â Taid a Nain, a’r pleser mwyaf oedd cael mynd efo Taid (Jac Glan) a Guto Bryn Teg i wylio ‘gêm ffwt’ ar y cae cyfagos. 

Yn ogystal, roeddwn yn deall y rheswm dros neidio’r gamfa a dringo’r ffridd i gyfeiriad Tŷ Nant y Beddau bob nos Sadwrn neu nos Sul. Y bwriad oedd ymweld â Medwyn a Bronwen ac Einir Wyn a chael swper blasus yn eu cwmni diddan. Ond cerdded yn ofer, heb bwrpas … roedd hynny’n creu dipyn o benbleth i mi.

Chwe-deg mlynedd yn ddiweddarach, mae darluniau o’r ‘hikers’ yn parhau i fflachio drwy’r meddwl. Ac mewn gwirionedd, hwyrach fod yr ‘hikers’ wedi gwneud mwy o argraff arnaf nag oeddwn yn tybio ar y pryd. Mae’n wir fod rhai estroniaid ymhlith y cerddwyr, a hwythau’n parablu mewn ieithoedd annealladwy i blentyn 5 oed. Wrth fynd heibio’r fferm, roedd rhai yn fy nghyfarch, yn torri gair neu ddau a cheisio cynnal sgwrs. Roedd fy atebion innau braidd yn anystwyth a bratiog, mae’n siŵr. Ond wrth wylio y smotiau amryliw yn diflannu i gyfeiriad Hafod Ysbyty, tybed ai dyna’r foment y cafodd yr hedyn ei hau, a gwneud i mi freuddwydio a dweud yn ddistaw bach wrth fy hun....."Ys gwn i fedra’i siarad fel nhw rhyw ddydd? Pwy a ŵyr?”

Pwy oedd y cymeriadau a’r digwyddiadau eraill a ddylanwadodd arnaf yn ystod fy mhlentyndod yng Nghwm Teigl? 

Un o hoelion wyth y gymuned, wrth gwrs, oedd John Davies Tryfal. Roedd yn arferiad ganddo fynd â’r tarw du Cymreig am dro heibio Llechwedd hyd at Bant yr Hedydd. Roedd yr ymarfer yn help i ystwytho cyhyrau’r anifail, mae’n siŵr. Rwyn cofio, unwaith, i’r hen darw urddasol ei olwg sefyll yn stond o flaen beudy Llechwedd, ei lygaid yn pefrio a’r carnau blaen yn stampio’r ddaear. Doedd dim modd ei symud. Pam felly, feddyliech chi?

Wel, roedd Mam a finnau yn y cae gwair cyfagos ac roedd hithau wedi agor ffenestri’r tŷ led y pen er mwyn i ni fwynhau Côr Godre’r Aran yn bloeddio canu ar y recordydd ‘Dansette’. Fe fu’n rhaid i Mam frysio i’r tŷ i dawelu’r côr a chaniatáu i John Davies hebrwng yr anifail yn hamddenol braf yn ôl i fuarth Tryfal. Wn i ddim os mai wedi ei frawychu’n ddisymwth oedd yr hen darw neu wedi ei swyno gan sain peraidd y côr meibion yn canu cerdd dant. Gyda llaw, mae’r record hir honno yn dal yn fy meddiant heddiw. (Label Delysé 1957 neu 1958).
------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2021

(Heb y llun)

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon