31.8.21

Llyfrau Lleol

Eigra: Hogan Fach o’r Blaena

Eigra Lewis Roberts.  Gwasg y Bwthyn 2021.  £9.95

Mae’n anodd meddwl am awdur mwy toreithiog nag Eigra Lewis Roberts. Mae wedi cyfoethogi ein bywyd diwylliannol ni dros y blynyddoedd, gan greu nofelau a straeon arbennig a chyfresi teledu fel Minafon - sy’n parhau i aros yn y cof.

Merch o’r Blaenau ydy hi, ac mae’r gyfrol hon yn dangos maint dylanwad yr ardal honno arni. A’i llyfrau hi ydy’r cerrig milltir sy’n ein tywys ninnau ar y daith.

Dyma gyfrol sy’n gweiddi am gael ei chyhoeddi …Yr ydym yng nghwmni awdur gwirioneddol ymroddgar, un y mae’n fraint cael treulio amser yn ei chwmni.’

Mae Aled Islwyn yn ei adolygiad o’r llyfr yng nghylchgrawn Barn (Mai 2021) yn dweud:

Ar ddiwedd un bennod o’r hunangofiant hwn, wrth drafod ei chymhellion i ysgrifennu, hola’r awdur, ‘be ydi’r ysfa i godi caead oddi ar benglog ac agor drws y galon ond busnesa?’ …

Gydag awdur mor doreithiog ag Eigra Lewis Roberts yn agor drws ei chalon a chodi caead ei phenglog, tybiais y byddai yma doreth o faterion difyr i ‘fusnesa’ drwyddynt. A ches i mo fy siomi!

Fel yr awgryma’r teitl gwylaidd, mae i Flaenau Ffestiniog le canolog yn ei magwrfa. Y tu hwnt i’w haelwyd a’i theulu, ymddengys fod popeth a lywiodd ei phlentyndod yn ddibynnol ar gapel neu ysgol. Er bod elfennau o’r darlun a gawn o gymdeithas glòs yn cydymffurfio â’r disgwyliadau, ceir hefyd ddogn da o’r craff a’r crafog i roi min ar y cofio. Dyma wraig sy'n giamstar ar fod yn driw iddi hi ei hun ac na fu arni erioed ofn torri dros y tresi. Gall ddweud ei dweud gyda hyder…’

Dyma hunangofiant pwysig am un o lenorion ein tref sy’n werth i’w ddarllen.  -TVJ
- - - - - 

Stwff Ma Hogia ‘Di Ddeud Wrtha Fi
Llio Elain Maddocks, 2021 Cyhoeddiadau’r Stamp. £5


Mae’n debyg nad ydi Dei Tomos Radio Cymru yn ffan! Ac os ‘da chi’n weddol sensitif i iaith blaen a thestunau corfforol, bysa’n well i chi sticio at Y Casglwr yn hytrach na’r bamffled newydd yma gan y bardd a’r awdur o Lan Ffestiniog. 

Ar y llaw arall, prynwch gopi ar bob cyfri’ os ‘da chi’n mwynhau ymdriniaeth gonest ac agored o faterion sy’n gyffredin i ferched ymhob man. Er na feiddiwn gynnwys rhai o’r cerddi yn Llafar Bro, mae’r gyfrol yn llawn o ddarnau bachog, punchy fydd yn achosi ebychiadau o gytuno a dathlu plwc y bardd sy’n gorfod ‘treulio ei hamser gwerthfawr yn ymateb’ i bethau twp mae hogia’n ddeud.

Dyluniwyd y clawr gan Erin Thomas, artist o’r Blaenau, sydd hefyd wedi creu darluniau hyfryd i gyd-fynd â bob un o’r cerddi, fel hon.

   “Ti’n Hyll Eniwe”
   Waw, dyna syndod
   mod i’n troi yn hyll
   ar ôl dy wrthod.

Mae Llio yn cyhoeddi cerddi ers tro ar ei chyfrif instagram (@llioelain) ac meddai wrth gyhoeddi’r bamffled yma: ‘er mod i’n gwybod fod pob merch yn gorfod dioddef yr un math o bethau, mi ges i fy synnu faint oedd yn ymateb i’r cerddi gan ddweud eu bod nhw hefyd wedi arfer clywed yr un hen bethau.’  

Mae’n gorffen fel hyn: ‘A phwy â ŵyr, falle bydd ambell i hogyn yn darllen rhain hefyd, ac yn dechrau meddwl cyn siarad!’ 

Cytuno’n llwyr Llio! -GD

Llyfr y Flwyddyn
Cafodd nofel Llio, Twll Bach yn y Niwl, 2020 Lolfa- ei chynnwys ar restr fer adran ffuglen Llyfr y Flwyddyn, Llenyddiaeth Cymru eleni. Er nad hon aeth a hi yn y pen draw, mae’r nofel yn haeddu’r sylw ychwanegol sy'n dod o’r gystadleuaeth yma.

- - - - -

Chwedl Calaffate
Lleucu Gwenllian, 2021 Gwasg Carreg Gwalch. £6.50

Os ei di i’r Wladfa, rwyt ti’n siŵr o gael cynnig jam ffrwyth y Calaffate, ac rwyt ti’n sicr o weld y blodau aur tlws yn tyfu dros y paith. Yn ôl y sôn, caiff pawb sy’n blasu’r ffrwyth eu swyno i ddod yn ôl i Batagonia. 

Dyma’r addasiad Cymraeg cyntaf o’r chwedl drist o gariad, brad a thor calon, sy’n rhoi cipolwg i ni o fywyd ym Mhatagonia ymhell cyn i’r Cymry groesi’r môr.

Mwy o fanylion yn fan hyn.

- - - - -

 

Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn rhifynnau Mehefin a Gorffennaf/Awst 2021




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon