Showing posts with label Canada. Show all posts
Showing posts with label Canada. Show all posts

12.12.25

Stolpia -Y Dwymyn Aur

Rhwng y blynyddoedd 1848 ac 1860 bu i gannoedd o ddynion ddal ‘y dwymyn aur’ ac aeth llawer ohonynt o Gymru, ac amryw o wledydd eraill, i chwilio am y mwyn melyn gwerthfawr yng Nghaliffornia, U.D.A, a  thalaith Victoria yn Awstralia. 

Aeth rhai o’r ardal hon i Ballarat oddeutu 1856. Digwyddodd yr un peth eto fyth rhwng 1896 ac 1899 pan ganfuwyd aur yn y Klondyke, yn rhanbarth Yukon, gogledd-orllewin Canada. Y mae’n rhaid bod y rhuthr am aur wedi cael dylanwad ar chwarelwyr ein hardal gan iddynt enwi ponc yn Chwarel Holland gynt yn ‘California’, a rhan o Chwarel Llechwedd yn ‘Klondyke’- lle dywedir y canfuwyd tipyn bach o aur. 

Yn y llun cyntaf cawn olygfa o’r rhuthr am aur yn y Klondyke ym 1898, Bu cloddio am aur yn ‘Stiniog hefyd, sef yng Nghwm Bywydd, Cwm Teigl, Cwm Cynfal, Llwynygell, a sawl lle ar y Migneint. Bu ewythr i’r diweddar Jo Wyn Jones, Prifathro Ysgol Maenofferen gynt, yn gyrru’r lefel yng Nghwm Bywydd ym mis Mai 1888. ‘Yr Ogof Aur’ yw’r enw gan rai ar y lefel sydd ar ochr dde i’r llwybr sy’n arwain draw at ymyl Tyn Cefn. Darganfuwyd plwm, arian ac aur ar dir Teiliau Mawr hefyd yn 1889.

Yn yr 1880au bu rhai yn chwilio am aur ym mro Trawsfynydd, sef ar diroedd Plas Capten, Yr Ysgwrn a Bod Fuddai. Bu dau o’r Blaenau yn arolygu’r gwaith cloddio yn y lleoedd hyn, sef E. Meredith Owen ac O. J. Owen. Dyma’r adeg hefyd y bu cloddio gan un Mr Hudson o Lerpwl yng ngwaith aur Bwlch y Llu, a adnabyddid yn ddiweddarach fel ‘Mwynfa Prince Edward’. Daeth y lle hwn yn bur enwog gan iddynt ddefnyddio peth o’r aur i wneud modrwyau i rai o deulu brenhinol Lloegr. 

Yn ddiweddarach, sef yn 1924, bu ymchwil am aur yn ardal Gellilydan gydag un Mr Holt yn arolygu’r gwaith. Yn ôl y diweddar gyfaill Alan Tudor, Solihull (Maentwrog gynt), ar y ffin rhwng Penyglannau a Fferm Gellilydan y gyrrwyd y lefelydd prawf a bod dau agoriad i’w gweld yn mynd i lawr ar ogwydd a rheiliau yn un ohonynt. Yn ôl maint y domen wastraff gerllaw ni pharhaodd y gwaith yn hir. - Pwy all roi mwy o’i hanes inni? Yn yr ail lun gwelwn ŵr yn archwilio’r mwyn a gloddiwyd.

 

Blew Geifr, Sgrympiau Gŵyl Grog a Haf Bach Mihangel 

Dyma eiriau a glywais sawl tro pan oeddwn yn gweithio yn y chwarel yn yr 1960au, sef tair idiom yn ymwneud â’r tywydd a’r hinsawdd. Y mae’r cyntaf yn cyfeirio at gymylau sirws (cirrus), sy’n ymdebygu i flew cyrliog a geir ar eifr. Tueddant i fod yn gymylau gwyn ysgafn yn bur uchel yn yr awyr ac yn arwydd o law. 

Cymylau blew geifr. Llun gan PiccoloNamek dan drwydded Comin Creadigol (CC Attribution-Share Alike 3.0 Unported)

Ystyr yr ail, sef sgrympiau, yw cawodydd trwm sydyn o law, neu genllysg, ond rhai ysbeidiol, fel rheol, yn enwedig ym mis Medi. Syrthia Gŵyl y Grog ar Fedi 14, a dyna sut y cafwyd yr enw hwn. Y mae ’sgrympiau penwaig’ yn enw arall arnynt. Cawsom rhai oddeutu canol y mis diwethaf, on’do? 

Y mae’r ymadrodd ‘Haf Bach Mihangel’ neu ‘Haf Bach Gŵyl Mihangel’ yn golygu sbelan o dywydd braf ogylch diwedd mis Medi (Gŵyl Mihangel 29 Medi), a dechrau mis Hydref. Credaf imi glywed y dywediad ‘Ha’ Bach Dic Pengwern’ amdano yn ein hardal. Tybed pa mor gyffredin yw’r ymadroddion hyn heddiw?

- - - - -

Ymddangosodd erthygl Steffan ab Owain yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2025

 

28.3.22

Tra Môr- Gareth

Y Stiniogwyr Rhyngwladol! Colofn gan Gai Toms yn nodi hynt a helynt rhai o blant ardal Llafar Bro sydd bellach yn byw dramor.

 

Gareth Vaughan Jones, Vancouver, Canada

Lle ges di dy fagu?
Hogyn o Dorfil ydw i. Yno ces i fy magu hefo fy nheulu. Lle braf iawn i fyw, reit ar ochr coed Cwm Bowydd.

Atgo' cyntaf?
Cwestiwn da, ac anodd i’w ateb. Fel mae rhywun yn mynd yn hyn, mae’r cof yn mynd. Byswn i yn dweud na hwyl a chwerthin ydi fy atgofion cyntaf i o fyw yn Dorfil. Roedd 'na o hyd rhywun i chwarae hefo, neu bobl yn dod draw i'r tŷ. Gyda dwy chwaer fawr a brawd bach, doedd rhif 7 Stryd Dorfil byth yn dawel!

Lle i enaid gael llonydd ym Mro Ffestiniog?
Bydd rhaid i mi ddweud Cwmorthin, a'r mynyddoedd o amgylch y llyn arbennig yma. Mae na rywbeth hudolus iawn am gerdded fyny heibio Llyn Cŵn at ddistawrwydd Cwmorthin. Mae’n donic i’r enaid yn wir.

Vancouver! Sut? Pam?
Wnes i gyfarfod merch o Ganada yn y Blaenau tra’r oeddwn i adref o’r brifysgol am yr haf. Ar ôl i ni ganlyn am gyfnod, daeth y syniad o symud i Vancouver. Gwelais i o fel sialens, cyfle am antur. Ar y 6ed o Fai, 2010, dyma ffarwelio hefo’r teulu, a Chymru, a neidio ar awyren am wyth awr. Roedd hi’n ddipyn hirach o daith gan fod llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ wedi ffrwydro yn ddiweddar ac roedd rhaid mynd o amgylch y cwmwl enfawr o lwch.

Sut le ydi Vancouver?
Eithaf tebyg i Gymru o ran tywydd a dweud y gwir. Gwlyb ac oer yn y gaeaf, a poeth yn yr haf.
Cawsom dymheredd o 40°C yr haf diwethaf a -14°C dros y ‘Dolig, sydd ddim yn naturiol i’r rhan yma o’r byd. Mae llawer yn dweud bod Vancouver yn ddinas diflas, ond mae llawer iawn i’w wneud yma. Mae mynyddoedd a dŵr yn ein amgylchynu, felly mae digon o weithgareddau awyr agored. Mae cymysgedd rhyngwladol o bobl yn byw yma, dwi wedi cyfarfod bobl o Tsiena, Mecsico, Corea, Yr Almaen, Iwerddon, Yr Alban a hyd yn oed Llandudno yma! Ond neb o Blaenau, sydd yn dipyn o siom gan bod nhw’n dweud lle bynnag yr ewch chi, fe wnewch chi gyfarfod rhywun o'r Blaenau. Dwi’n hanner disgwyl gweld Sion Aeron yn cerdded lawr y stryd yma yn chwilio am beint o Guinness, ond heb ddigwydd eto. Dwi’n mwynhau byw yma, er braidd yn ddrud ar adegau.

Oes cymdeithas Gymraeg yn Vancouver?
Mae yna “Vancouver Welsh Society" yma a mae na “Vancouver Welsh Men’s Choir” sydd yn cynnal digwyddiadau yn aml drwy’r flwyddyn. Mae’r covid ma wedi rhoi stop ar lawer o bethau cymdeithasol, ond mae’r gymuned yn dal i gyfarfod dros Zoom. Dwi’n ffrindiau gyda bachgen o Gaernarfon sy’n gweithio mewn tafarn Wyddelig yma, ac mae’n braf cael mynd yno i siarad Cymraeg. Pan mae Cymru’n chwarae rygbi, mae na griw go lew o Gymry yn cymdeithasu gyda ei gilydd.

Wyt ti wedi dysgu rywbeth newydd ers symud?
Dwi’n llawer iawn mwy derbyniol o eraill ers symud yma. Mae na bobl o bob lliw a llun yma. Wedi byw mewn tref fach o 5,000 o bobl am dros 30 mlynedd roedd hi’n dipyn o sioc symud i ddinas hefo dros 630,000 o bobl a gweld tlodi, digartrefedd a cham drin cyffuriau. Agoriad llygaid go iawn. Pan ddechreuodd y pandemig yma fe wnes i ddysgu gweu a dwi wedi bod yn gwneud hetiau i’r di-gartref. Mae ffrind i mi yn gweithio gydag un o gymdeithasau lloches i’r digartref ac yn eu dosbarthu bob blwyddyn. Dwi’n meddwl bo' fi wedi gwneud dros 200 o hetiau erbyn hyn!

Os fysa rywun ifanc yn cychwyn yn dy faes di o waith be fysa dy gyngor di iddyn nhw?
Dwi wedi bod yn eithriadol o lwcus i weithio i gwmni Amazon ers sawl blynedd bellach. Tydi nhw ddim mor ddrwg a mae bawb yn ddweud eu bod nhw. Ond wedi dweud hyna, dwi’n dal i ddisgwyl fy ngwahoddiad i fynd i’r gofod gan Jeff Bezos! Dwi hefyd yn gwneud gwaith dylunio graffeg yn fy amser rhydd. Fy nghyngor i fysa mynd amdani; paid a gadael i bobl ddweud wrtha ti nad wyt ti’n gallu. Rho dy feddwl arno, pen i lawr a gweithio’n galed a fe ddoith i ti. Mae Vancouver yn ddinas weddol ifanc a mae na cyn gymaint o gyfleoedd yma. 

Ddoi di nol i ‘Stiniog / i Gymru?
Hogyn o ‘Stiniog fyddai am byth ac yn falch iawn o’r ffaith yna. Mae na hiwmor ym mhobl Blaenau na fedri di ei gael yn unrhyw le arall. Ddos i adref yn 2019 i gladdu fy nhad, ac roedd hi’n anodd iawn i mi fod yn Blaenau. Dwi’n meddwl fy mod wedi tyfu allan o fod yn hogyn trefol, er siom i mi. Bysa hi’n braf cael dod yn ôl adref i’r Blaenau, ond ar hyn o bryd Vancouver ydi adref. Gormod yn mynd ymlaen yma i ddod yn ôl i’r hen gynefin. Dod adref i ymddeol efalle? 

Ti isio dweud helo wrth rhywun?
Fyddai’n siarad gyda fy ewythr a modryb, Eryl a Valmai Jones, yn aml iawn ac yn cael y newyddion o adref ganddyn nhw. Mae’n drist ar adegau clywed pwy sydd wedi ein gadael ni. 

Helo i’r teulu i gyd! Da iawn clywed bod Rhodri Jones, fy nai, yn gwneud yn dda iawn yn chwarae i Clwb Rygbi Bro Ffestiniog. Hogyn talentog iawn! Gobeithio bod pawb yn cadw yn saff ac iach.
- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2022



29.7.17

Bwrw Golwg -Eisteddfod Ynys Drysor

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, darn gan W. Arvon Roberts.

Cafodd yr Eisteddfod ei chyflwyno i Galiffornia gan yr arloeswyr Cymreig yn ystod darganfyddiad yr aur yno.  Ymsefydlodd nifer yn ardaloedd mwyngloddio Siroedd Sierra, Nevada a Yuba.  Dynion ieuanc oeddynt yn bennaf, yn hannu o’r teuluoedd gorau ac yn dalentog mewn cerddoriaeth a llenyddiaeth.  Roedd hi’n arferiad ganddynt gyfarfod ar y Suliau mewn cabanau gwahanol i ganu emynau yr ‘Hen Wlad’.

Fe fu iddynt adeiladu tri chapel yn ddiweddarach.  Erbyn 1860, yr oedd eu teuluoedd o Gymru wedi ymuno â hwy.  Ffurfiwyd tri o gorau yng Ngogledd San Juan a Camptonville, ac ar Gorffennaf 4ydd, 1860, cynhaliwyd yr Eisteddfod Califfornia gyntaf, gyda William ap Rees yn llywydd a Thomas Gwallter Price (Cynhelyn) yn feirniad barddoniaeth.  Y mae’r ffaith i’r corau ganu campweithiau fel ‘Corws yr Haleliwia’ Handel a ‘Teyrnasoedd y Ddaear’ J. Ambrose Lloyd yn profi eu cymhwyster yn y grefft o ganu.

Yn Camptonville yr oedd teulu y Jonesiaid ... Hannah (soprano), Mary (alto), Francis (tenor) a John Owen (baswr) ... rhai oedd yn enillwyr mynych fel pedwarawd ac fel unawdwyr.  Yr oedd yna hefyd lawer o feirdd talentog a llenorion ymysg y mwynwyr Cymreig.  Talodd Morgan a Watkin Morgan, arolygwyr y mwyngloddiau, dreuliau côr unedig i gystadlu yn Eisteddfod Dydd Gŵyl Dewi San Francisco yn 1879.  Mewn blynyddoedd diweddarach, cynhaliwyd yr Eisteddfod o dan nawdd capeli Cymraeg San Francisco ac Oakland.

Yn gynnar yn 1939, ar wahoddiad yr ‘Adran Digwyddiadau Arbennig, Arddangosiad Rhyngwladol’ y Golden Gate, penodwyd pwyllgor i gynnal Eisteddfod ar yr Ynys Drysor ym Mae San Francisco, gyda David Hughes (Arfonydd) yn Llywydd.  Trefnwyd rhaglen ddeniadol o destunau cystadleuol yn agored i’r holl gystadleuwyr ac fe’i dosbarthwyd drwy’r wlad.

Cafwyd ymateb parod gan gorau ac unawdwyr yn y Taleithiau Gorllewinol. Yr oedd rhif y cystadleuwyr yn y gwahanol gystadlaethau yn 20 o gorau a thros 300 o unawdwyr – hynny’n ddigon i sicrhau y byddai’r ŵyl yn un llwyddiannus.
Llun o gasgliad yr awdur

Cynhaliwyd yr ŵyl ar un o’r ynysoedd mwyaf o wneuthuriad dyn, o fewn golwg Pont y ‘Golden Gate’ a dwy o bontydd mwya’r byd, a hynny ymysg prydferthwch ysblennydd  palasau arddangos mawr, ymysg miliynau o flodau, ffynhonnau godidog a cherfluniaeth o’r radd uchaf. Go brin i’r un Eisteddfod erioed gael ei chynnal mewn lleoliad mor ddelfrydol.

Gellid ymhelaethu rhagor am brynhawn a hwyr yr Eisteddfod, ac ychwanegu mwy am y cystadleuwyr a‘r canlyniadau ac yn y blaen.  Ond rhaid imi gael nodi cyfraniad un â chysylltiad ag ardal ‘Llafar Bro’, a ddaeth i amlygrwydd yn ‘Eisteddfod yr Ynys Drysor’.

Owen Hughes oedd y brawd hwnnw. Ei enw barddol oedd ‘Glascoed’.  Ganwyd ef yn y Glasgoed, Trawsfynydd.  Ymgartrefodd yn Vancouver, British Columbia, Canada.  Does gennyf ddim rhagor o wybodaeth amdano. Nis gwn ddyddiad ei eni, enwau ei rieni, pryd yr ymfudodd, na phryd y bu ef farw.  Efallai fod yna ddisgynyddion iddo yn Nhrawsfynydd neu’r cyffiniau heddiw?  Ef enillodd y brif wobr yng nghystadleuaeth y gerdd: ‘YNYS DRYSOR’ – dan feirniadaeth J.R. Jones, Ponoka, Alberta (‘Ap Ceiriog’).

Hyd at y flwyddyn 1940, enillodd Owen Hughes 11 o gadeiriau, 1 coron aur a nifer o wobrwyon eraill am awdlau, pryddestau, englynion a thoddeidau.  Y mae’r rhestr isod yn rhoi rhyw syniad am ei lwyddiant, ynghyd â’r testunau ac enwau’r beirniaid:


1923.    Bangor, Sask., pryddest ‘Tlysni’.  Cynonfardd.
1924.    Toronto, pryddest. ‘Pwy yw fy nghymydog?’ Pedrog.
1925.    Utica, awdl, ‘Anadl Einioes’.  Cynonfardd.
1925.    Edwardsville, PA., pryddest. ‘Sêr y Nen’.  J.M. Pritchard.
1926.    Y Wladfa, awdl-bryddest, ‘Yr Hauwr’. Gwili.
1927.    Utica, awdl, ‘Y Gwerinwr’.  Pedrog.
1928.    Wilkesbarre, PA, awdl, ‘Concwest y Gorllewin’.  Bryfdir.
1929.    Granville, NY., pryddest goffa, ‘Y Diweddar Parch J.W. Morris, Poultney’. Ioan Eryri.
1929.    Los Angeles, pryddest, ‘Prydferthwch yr Hwyr’.  Ioan Eryri
1935.    San Francisco, pryddest, ‘Rhamant yr Awyr’. Ap Ceiriog.
1936.    Los Angeles, pryddest, ‘Y Gweledydd’, Ieuan Fardd.
1936.    Los Angeles, pryddest goffa, ‘Mrs Moelwyn Wms’, Ieuan Fardd
1940.    Los Angeles, penillion coffa, ‘Moelwyn’, John M. Pritchard.

------------------------------------

[Diddorol nodi mai’r beirniad yn Eisteddfod Wilkesbarre ym 1928 oedd Bryfdir - y cyfeirir ato yn ‘Rhod y Rhigymwr’ yn y rhifyn hwn. Tybed oedd gan ‘Mrs Moelwyn Williams’ – testun y bryddest goffa yn Los Angeles (1936) gysylltiad â’n hardal ni?  Go brin mai ‘Moelwyn’ (Y Parch. J. G. Moelwyn Hughes) ... awdur ‘Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn’ a ‘Fy Nhad o’r Nef, o gwrando ‘nghri’ a goffeid yn Los Angeles ym 1940, gan mai 1944 oedd blwyddyn ei farw ef ... Gol; IM]
 -----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2017. Dilynwch y gyfres Bwrw Golwg efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


30.9.16

Llyfr Taith Nem -Hen bechadur o Feirion


Rhyfedd fel mae crefydd yn dal ei afael mewn dyn ar hyd ei oes. Beth bynnag wnaiff dyn, neu lle bynnag yr aiff, mae yn sicr o ddod i gysylltiad â chrefydd mewn rhyw ffurf neu gilydd. Yn ystod fy niferus deithiau, deuais innau, yr hen bechadur o Feirion, i gysylltiad â chrefydd mewn llawer lle, ac er nad wyf yn grefyddwr bybyr, melus ydyw gweled fod Brenin y Brenhinoedd yn eistedd yn gadarn ar ei orsedd.

Yr wyf yn gwybod yn eitha bod hanes gweddol ddigalon i eglwysi Cymru ar hyn o bryd, ond mae'n debyg mai bywyd esmwyth sy'n gyfrifol i ran helaeth am hynny. Wedi gweled llawer math ar grefydd ar hyd a lled y byd, yr wyf yn credu fod yn hen bryd i Gymru newid peth ar ddull y molianau yn y capeli. Hwyrach fod gormod o seremonio mewn eglwysi, ond yr wyf yn berffaith sicr fy meddwl fod rhy ychydig o seremonio mewn capeli. Yr un drefn ers cyn cof, emyn, darllen, emyn a gweddio, cyhoeddi, emyn, pregeth a'r fendith. Onid gwledd fuasai canu anthemau, pregeth fer a holi dipyn ar y pregethwr ar y diwedd. Credaf hefyd fod oes y codwr canu fel yr adnabyddir ef wedio mynd heibio.

Awd i gostau mawr i brynu offerynnau gwych, ond yr hyn sydd yn digwydd yn aml iawn ydyw rhyw gystadleuaeth rhwng y codwr canu a'r organ, a'r gynulleidfa yn methu gwybod p'run i'w ddilyn. Nid ydyw peth fel hyn yn gynorthwy i greu awyrgylch, ac wedi'r cwbwl, mae awyrgylch briodol yn anhebgorol angenrheidiol i wasanaeth crefyddol.

Cofiaf unwaith i mi aros yn Salt Lake City, cartref y Mormoniaid -Saint y Dyddiau Diwethaf- ac os oes rhywun wedi bod yn y fan honno ac yn methu crefydda, y mae wedi ei ddamnio i golledigaeth dragwyddol, yn reit siwr. Mae'r peth tu hwnt i ddisgrifiad, y gwisgoedd a'r canu yn esgyn dyn i fyny at rhyw binaclau o orfoledd na phrofodd mohonyn gynt nac wedyn.

Cofier, gyda llaw, fod nifer fawr o golofnau y Mormoniaid yn Gymry trwyadl. Cwrddais ac amryw ohonynt tra yn y dre. Gŵr mawr yn eu plith oedd Judge Roberts, teulu'r hwn oedd yn hanu o Lanfrothen. Credaf fod y Barnwr yn gefnder i Bryfdir o Flaenau Ffestiniog, ac mae nifer fawr o'r teulu yn byw yno yn awr. Deallaf i un o'r meibion ymweled â Bryfdir tra yn y fyddin yn ystod y rhyfel diwethaf. Aeth i lawr i Groesor i weled yr anfarwol Bob Owen, a chan y gŵr amryddawn hwnnw cafodd hanes ei deulu o'r amser yr hwyliodd nifer fawr o Feirionnydd am Utah.

Cyn 1907 yr oedd tair mil o egwlysi hollol Gymreig yn yr Unol Daleithiau a Chanada. Magwyd plant ynddynt i fedru siarad yr hen iaith yn berffaith. Yn wir, yn llawer gwell nac ambell Gymro na symudodd erioed o Gymru. Iaith y Beibl Cymraeg oedd ganddynt, ac yr oeddynt yn ymffrostio yn y ffaith eu bod yn gallu siarad iaith enedigol eu cyndadau. Mae rhai, wrth gwrs wedi anghofio eu Cymeigdod, ond mae hynny yn bod hyd yn oed yr Sir Fôn!

Clywais hanesyn un tro am Gymro gweddol ymffrostgar yn yr Amerig, ac fel finnau yn llawn o 'bluff'. Gofynnwyd iddo a allasai bregethu a dywedodd ei fod yn hen law ar y gwaith. Gofynnwyd iddo gymeryd y gwasanaeth mewn capel y Sul canlynol. Un o'r capeli 'neis' oedd hwn, a gwelodd yr hen frawd wendid yr aelodau mewn munud.

Wedi pregethu yn Saesneg am ychydig o funudau, yr oedd yn bur galed ar yr hen frawd i feddwl bod eisiau cario ymlaen am chwarter awr araIl. Ac meddai
"Brothers and sisters, the urge is within me to preach to you in one of the dialects of darkest Africa, and I know the good Spirit will enable you to follow my teachings". 
Dialect Affrica Dywyll oedd Cymraeg, ac yr oedd yr hen frawd mewn hwyl fawr yn dweud pob math o bethau.

Wedi bod wrthi am beth amser sylwodd fod un gŵr yn un o'r seddau cefn yn chwerthin nes oedd yn ysgwyd. Ac meddai'r hen frawd, gan ostwng ei lais yn effeithiol,
"A thi, yr hwn sydd yn chwerthin yn y set ôl, os Cymro wyt ti, cau dy geg, neu byddwn ein dau yn uffern".
----------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 1999.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


11.2.16

Llyfr Taith Nem- 'gwlad chwe mis'

Hedfan i Ganada
Er i mi deithio gymaint ar hyd fy oes, ychydig iawn deithiais mewn awyrenau.  Mae’n debyg fy mod yn perthyn i’r dosbarth hwnnw sydd yn credu buasai’r Bod Mawr wedi rhoi adain i ddyn pe tae wedi bwriadu iddo hedfan.  Daw hyn a hen stori o ‘Stiniog i fy nghof.

Yr oedd hen gymeriad doniol yn labro yn y chwarel, a’i waith oedd cynorthwyo i dynnu y wageni yn y lefel dan y ddaear.   Un dydd yr oedd yr hen frawd yn ysmygu pan ddaeth y stiward heibio, ac meddai’r stiward, “John, pe tae’r Bod Mawr wedi bwriadu i ddyn ysmygu, fe fuasai wedi rhoddi corn simdde ar ei ben.”  Edrychodd John yn graff arno, ac meddai, “Ddigon posib wir, ond pe tae o wedi bwriadu i minnau dynnu wagen, mi fuasai wedi rhoddi bachyn ar fy nhîn hefyd!

Unwaith, fodd bynnag, bu i mi deithio mewn awyren o Detroit, Michigan i Calgarry, Alberta trwy Montreal a Winnipeg.  Rhyw syniad rhyfedd oedd edrych i lawr o’r uchelder a gweled yr holl fyd megis yn mynd heibio.  Daeth yr adnod honno i’m meddwl “Yr Arglwydd sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd ac yn gweled holl feibion dynion.”  Yn wir teimlais y gallwn ddweud, “Y fi sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd ac yn gweled holl feibion dynion.

Yr oeddwn yn gweled natur yn ei holl ogoniant, yr afonydd yn gwau drwy’i gilydd, a’r mynyddoedd yn esgyn y naill wrth ben y llall, a miloedd o aceri o geirch a chorn.  Rhyfedd ydyw sylweddoli er mor fychan yw maint dyn yn ochor y pethau yma, mai dyn wedi’r cwbwl ydyw creadigaeth fwyaf Duw.  Ambell waith yn hedfan yn uwch na’r cymylau, ac fel pe taswn wedi ffarwelio oddi wrth y byd yn gyfangwbl.  Hoffwn pe tawn wedi cael y profiad heb swn y moduron, a chael teithio yng nghanol distawrwydd yr eangder mawr.

Cymerodd y daith ddeuddeng awr gan gyrraedd Calgarry hanner awr wedi saith y nos.  Cymerais fodur o’r porth awyr i’r ddinas a’r peth cyntaf welais oedd adeilad yn dwyn yr enw ‘Wales Hotel’.  Cofier mai’r gair ‘Wales’ dynodd fy sylw ac nid ‘Hotel’.  Sylwodd gyrrwr y modur fy mod yn craffu ac yr enw a gofynodd i mi ai Cymro oeddwn.  Ymddengys mai Cymro oedd yntau o Forgannwg.  Wedi cerdded dipyn o amgylch y ddinas, cyfeiriais tua’r orsaf i gymeryd trên am Ponaka, a chyrhaeddais yno tua phump o’r gloch y bore.  Nid oedd yr un creadur dau – na phedwar – troed o gwmpas, ond wedi ychydig amser gwelais heddwas, a chyfeiriodd hwnnw fi at gartref fy nghyfneither, gynt o Benrhyndeudaeth.  Cerddais tua wyth milltir drwy gaeau o yd, ceirch a haidd.

Rhyw 200 milltir ymhellach nae Edmonton, ar derfynnau Alaska, ond oherwydd yr hin ofer meddwl am fyned yno ond rhwng Ebrill a Medi.  Yn ystod y misoedd eraill mae’r tywydd oer yn rhy eithafol, a rhewir y ddaear dros ddeg troedfedd i lawr.  Dywedodd ffermwr o Winnipeg wrthyf mai gwlad chwe mis ydyw Canada.  Mae llawer o hysbysebu am ffermwyr o Brydain, ac addaw cyflogau da, ond fy nghyngor i i unrhyw un yn y cyswllt yma ydyw gwneud yn siwr ym mha ran o’r wlad mae y fferm, a sicrhau gwybodaeth gyflawn am y tywydd.

Peth arall i’w gofio ydyw fod llawer o’r ffermydd yma mewn lleoedd anial iawn, heb fywyd cymdeithasol o gwbwl, fuasai hynny yn dipyn o newid i unrhyw un o Gymru, oherwydd bywyd unig ydyw’r bywyd di gymdeithas.  Ar un adeg arferid rhoi 60 o aceri o dir i unrhyw un ddeuai i’r wlad i ffermio o Brydain.  Neidiodd llawer i’w derbyn, ond wedi cyrraedd yno, sylweddasant fod yr aceri hynny yn goed a mieri.  Rhaid oedd tynnu’r coed o’r gwraidd gydag ychain, a hwythau yn tyfu yn agos at eu gilydd.  Gwaith torcalonus oedd dechrau ar waith felly, a thorodd llawer un ei galon cyn gorffen y gwaith.  Os nad oedd y gwaith yn cael ei gwblhau, cymerai’r llywodraeth y tir yn ôl.

Er hyn i gyd, mae Canada yn wlad eithriadol o gyfoethog.  “Ei thorrog wythien arian, a’i phlwm a’i dur yn fflam dân.”  Oherwydd hynny mae amryw o gyfleusterau i’r gŵr nerthol a diwid, ond i lwyddo yno rhaid wrth iechyd a phenderfyniad eithriadol.  Fel y dywedodd hen Gymro rhyw dro, “Nid lle i deiliwr o ddyn.”
---------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 1998. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.