28.3.22

Tra Môr- Gareth

Y Stiniogwyr Rhyngwladol! Colofn gan Gai Toms yn nodi hynt a helynt rhai o blant ardal Llafar Bro sydd bellach yn byw dramor.

 

Gareth Vaughan Jones, Vancouver, Canada

Lle ges di dy fagu?
Hogyn o Dorfil ydw i. Yno ces i fy magu hefo fy nheulu. Lle braf iawn i fyw, reit ar ochr coed Cwm Bowydd.

Atgo' cyntaf?
Cwestiwn da, ac anodd i’w ateb. Fel mae rhywun yn mynd yn hyn, mae’r cof yn mynd. Byswn i yn dweud na hwyl a chwerthin ydi fy atgofion cyntaf i o fyw yn Dorfil. Roedd 'na o hyd rhywun i chwarae hefo, neu bobl yn dod draw i'r tŷ. Gyda dwy chwaer fawr a brawd bach, doedd rhif 7 Stryd Dorfil byth yn dawel!

Lle i enaid gael llonydd ym Mro Ffestiniog?
Bydd rhaid i mi ddweud Cwmorthin, a'r mynyddoedd o amgylch y llyn arbennig yma. Mae na rywbeth hudolus iawn am gerdded fyny heibio Llyn Cŵn at ddistawrwydd Cwmorthin. Mae’n donic i’r enaid yn wir.

Vancouver! Sut? Pam?
Wnes i gyfarfod merch o Ganada yn y Blaenau tra’r oeddwn i adref o’r brifysgol am yr haf. Ar ôl i ni ganlyn am gyfnod, daeth y syniad o symud i Vancouver. Gwelais i o fel sialens, cyfle am antur. Ar y 6ed o Fai, 2010, dyma ffarwelio hefo’r teulu, a Chymru, a neidio ar awyren am wyth awr. Roedd hi’n ddipyn hirach o daith gan fod llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ wedi ffrwydro yn ddiweddar ac roedd rhaid mynd o amgylch y cwmwl enfawr o lwch.

Sut le ydi Vancouver?
Eithaf tebyg i Gymru o ran tywydd a dweud y gwir. Gwlyb ac oer yn y gaeaf, a poeth yn yr haf.
Cawsom dymheredd o 40°C yr haf diwethaf a -14°C dros y ‘Dolig, sydd ddim yn naturiol i’r rhan yma o’r byd. Mae llawer yn dweud bod Vancouver yn ddinas diflas, ond mae llawer iawn i’w wneud yma. Mae mynyddoedd a dŵr yn ein amgylchynu, felly mae digon o weithgareddau awyr agored. Mae cymysgedd rhyngwladol o bobl yn byw yma, dwi wedi cyfarfod bobl o Tsiena, Mecsico, Corea, Yr Almaen, Iwerddon, Yr Alban a hyd yn oed Llandudno yma! Ond neb o Blaenau, sydd yn dipyn o siom gan bod nhw’n dweud lle bynnag yr ewch chi, fe wnewch chi gyfarfod rhywun o'r Blaenau. Dwi’n hanner disgwyl gweld Sion Aeron yn cerdded lawr y stryd yma yn chwilio am beint o Guinness, ond heb ddigwydd eto. Dwi’n mwynhau byw yma, er braidd yn ddrud ar adegau.

Oes cymdeithas Gymraeg yn Vancouver?
Mae yna “Vancouver Welsh Society" yma a mae na “Vancouver Welsh Men’s Choir” sydd yn cynnal digwyddiadau yn aml drwy’r flwyddyn. Mae’r covid ma wedi rhoi stop ar lawer o bethau cymdeithasol, ond mae’r gymuned yn dal i gyfarfod dros Zoom. Dwi’n ffrindiau gyda bachgen o Gaernarfon sy’n gweithio mewn tafarn Wyddelig yma, ac mae’n braf cael mynd yno i siarad Cymraeg. Pan mae Cymru’n chwarae rygbi, mae na griw go lew o Gymry yn cymdeithasu gyda ei gilydd.

Wyt ti wedi dysgu rywbeth newydd ers symud?
Dwi’n llawer iawn mwy derbyniol o eraill ers symud yma. Mae na bobl o bob lliw a llun yma. Wedi byw mewn tref fach o 5,000 o bobl am dros 30 mlynedd roedd hi’n dipyn o sioc symud i ddinas hefo dros 630,000 o bobl a gweld tlodi, digartrefedd a cham drin cyffuriau. Agoriad llygaid go iawn. Pan ddechreuodd y pandemig yma fe wnes i ddysgu gweu a dwi wedi bod yn gwneud hetiau i’r di-gartref. Mae ffrind i mi yn gweithio gydag un o gymdeithasau lloches i’r digartref ac yn eu dosbarthu bob blwyddyn. Dwi’n meddwl bo' fi wedi gwneud dros 200 o hetiau erbyn hyn!

Os fysa rywun ifanc yn cychwyn yn dy faes di o waith be fysa dy gyngor di iddyn nhw?
Dwi wedi bod yn eithriadol o lwcus i weithio i gwmni Amazon ers sawl blynedd bellach. Tydi nhw ddim mor ddrwg a mae bawb yn ddweud eu bod nhw. Ond wedi dweud hyna, dwi’n dal i ddisgwyl fy ngwahoddiad i fynd i’r gofod gan Jeff Bezos! Dwi hefyd yn gwneud gwaith dylunio graffeg yn fy amser rhydd. Fy nghyngor i fysa mynd amdani; paid a gadael i bobl ddweud wrtha ti nad wyt ti’n gallu. Rho dy feddwl arno, pen i lawr a gweithio’n galed a fe ddoith i ti. Mae Vancouver yn ddinas weddol ifanc a mae na cyn gymaint o gyfleoedd yma. 

Ddoi di nol i ‘Stiniog / i Gymru?
Hogyn o ‘Stiniog fyddai am byth ac yn falch iawn o’r ffaith yna. Mae na hiwmor ym mhobl Blaenau na fedri di ei gael yn unrhyw le arall. Ddos i adref yn 2019 i gladdu fy nhad, ac roedd hi’n anodd iawn i mi fod yn Blaenau. Dwi’n meddwl fy mod wedi tyfu allan o fod yn hogyn trefol, er siom i mi. Bysa hi’n braf cael dod yn ôl adref i’r Blaenau, ond ar hyn o bryd Vancouver ydi adref. Gormod yn mynd ymlaen yma i ddod yn ôl i’r hen gynefin. Dod adref i ymddeol efalle? 

Ti isio dweud helo wrth rhywun?
Fyddai’n siarad gyda fy ewythr a modryb, Eryl a Valmai Jones, yn aml iawn ac yn cael y newyddion o adref ganddyn nhw. Mae’n drist ar adegau clywed pwy sydd wedi ein gadael ni. 

Helo i’r teulu i gyd! Da iawn clywed bod Rhodri Jones, fy nai, yn gwneud yn dda iawn yn chwarae i Clwb Rygbi Bro Ffestiniog. Hogyn talentog iawn! Gobeithio bod pawb yn cadw yn saff ac iach.
- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2022



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon