24.3.22

Stolpia- cofio ac anghofio

Atgofion am Chwarel Llechwedd... pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Yn ddiau, y mae’r mwyafrif ohonom yn cael profiadau o anghofrwydd ar adegau, h.y. lle amheuwch eich hun a wnaethoch chi gyflawni rhyw orchwyl a oeddech i fod i’w wneud, megis a wnes i gloi’r drws, ynteu beth? Neu dro arall, a wnes i ddiffodd y popty cyn mynd allan; a wnes i gau ffenestri’r car cyn noswylio -a llawer peth tebyg? A chofier, nid rhywbeth sy’n taro’r henoed yn unig yw anghofio gwneud ambell beth yng nghanol eich prysurdeb.

Un o’m dyletswyddau yn Chwarel Llechwedd fel ffitar oedd cychwyn y cywasgyddion awyr, amrywiaeth o beiriannau trydan fel generaduron, cynhyrchydd trawsnewid, ayyb. Gan mai oddeutu 21 mlwydd oed oeddwn ar y pryd, tueddai Emrys fy mos gadw llygad arnaf a sicrhau fy mod wedi diffodd a chloi drysau adeiladau’r peiriannau cyn caniad a’i throedio hi am gartre’.

Dyna oedd y drefn, ar wahân i’r ail, a’r drydedd wythnos ym mis Awst, pan fyddai Emrys yn cael ei wyliau haf. Golygai hynny mai fi oedd yn gyfrifol am gychwyn y peiriannau trydan a’u diffodd ar ddiwedd stem. Cofiaf i’r diweddar Thomas H. Jones, prif oruchwyliwr y chwarel, ofyn imi un bore i gychwyn y motor a elwid yn rotary converter a finnau yn rhyw bryderu braidd oherwydd dim ond unwaith yr oeddwn wedi ei gychwyn a hynny gyda help Emrys. Gan fod rhaid ei gael y diwrnod hwnnw i droi’r cerrynt o un i’r llall, mentrais i fynd at yr holl reolyddion, sef y ‘controls’, ac ar ôl pendroni tipyn mi es ati hi i’w gychwyn, a thrwy rhyw drugaredd mi weithiodd yn iawn.

Byddai cynhyrchydd trydan arall fel deinamo mawr mewn rhan o’r adeilad a elwid Caban Tŷ Gwyn ar Bonc yr Efail, lle byddai’r ‘black gang’ yn cael eu paned naw a’u cinio. Byddwn yn cychwyn y peiriant hwn yn weddol aml, gan fod ei angen i roi hwb i gyflenwad trydan pwerdy’r gwaith ym Mhant yr Afon.

Beth bynnag, un prynhawn a phan oedd hi’n tynnu at amser caniad mi es ati hi i ddiffodd yr holl beiriannau, a chan fod Emrys yn dal ar ei wyliau, syrthiai’r cyfrifoldeb amdanynt ar fy ysgwyddau fi. 

Hen lun o gasgliad yr awdur yn dangos lleoliad Caban Tŷ Gwyn ar Bonc yr Efail (islaw’r saeth).

Gan ei bod yn brynhawn braf, mi wnes y gwaith cyn gynted â phosib, ac ar ôl caniad y corn, heglais am adre’ am fy nhe. Ond, pan gyrhaeddais ddrws fy nghartref daeth rhyw ansicrwydd i’m meddwl, a theimlad nad oeddwn wedi diffodd y motor yng Nghaban Tŷ Gwyn. Doedd dim byd amdani hi, ond cerdded yr holl ffordd i fyny’n ôl i Llechwedd, a phicio i nôl y goriadau o’r Cwt Letrig. 

Wedi agor drws adeilad y motor gwelais ei fod yn hollol dawel, a phopeth wedi ei ddiffodd yn iawn. Fel y dywedais, gall anghofrwydd daro’r ifanc ar adegau hefyd, a bu hyn’na yn wers imi sicrhau fy mod wedi cwblhau fy dyletswyddau yn iawn cyn ei goleuo hi am gartre!
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2022


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon