4.3.22

Stolpia- trawstiau a mwsog

Atgofion am Chwarel Llechwedd... pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Rwyf wedi sôn ychydig am gwt compresor Ponc Ganol o’r blaen, ond nid wyf yn credu fy mod wedi crybwyll y stori hon. Cofiaf fel y bu’n rhaid newid rhan o’r cywasgydd awyr un tro, ond gan nad oedd y distyn uwchlaw y peiriant yn ddigon cryf i godi’r partiau trwm, penderfynwyd gosod trawst haearn o un talmaen i’r llall. 

Codwyd ystol i gyrraedd y lle a gwnaed dau dwll yn y wal ar ei gyfer gan y diweddar Barry Williams a finnau. Daethpwyd â’r gyrdar yno a chodwyd un pen i fyny ar silff a wnaed tros dro ger twll y talmaen gorllewinol a rhywfodd medrwyd ei gael i mewn yn weddol ddidrafferth. Pa fodd bynnag, roedd angen codi ei ben dwyreiniol i fyny at y twll, yn ogystal â’i wthio i mewn iddo, a chan nad oedd fawr o le i fwy nag un wneud y gwaith ar yr ystol, roedd yn golygu cael dyn cryf i gwblhau y gwaith. 

 

Robin Gof a Hefin Bryfdir (Llun Geoff Charles)
Y gŵr hwnnw oedd Robert George Griffiths (Robin Go’). Yn y cyfamser, roedd Barry a finnau i dynnu ar raff a oedd wedi ei daflu dros y distyn a’i glymu o amgylch y gyrdar er mwyn rhannu tipyn ar y pwysau. 

Gafaelodd Robin ymhen y gyrdar a’i godi, ac yna dringodd yr ystol yn bwyllog a phan gyrhaeddodd gyferbyn a’r twll yn y wal, a ninnau yn tynnu’n gorau glas ac yn hongian ar y rhaff, bellach, ceisiodd Robin godi ei ben dwyreiniol a’i wthio i mewn i’w le priodol, ond er yr holl fustachu, a’i wyneb yn fflamgoch, methodd yn lan a llwyddo y tro cyntaf gan fod cryn bwysau ar y gyrdar. Daeth i lawr yr ystol a dywedodd wrth Emrys, “mi dreiaf eto ar ôl cael fy ngwynt ataf,” a dyna a wnaeth, ac ymdrechodd yr eilwaith, ond methu eto. Ceisiodd am y trydydd tro, ac wedi cael nerth o rywle gallodd roi pen dwyreiniol y gyrdar yn ei le. Llwyddiant o’r diwedd.

Golygodd y job dipyn o strach inni, ac aeth rhan dda o’r prynhawn i’w chwblhau, a phan sylweddolodd Robin ar yr amser mi ddywedodd “rwyf angen mynd i fyny i gau fflodiat Llyn Bowydd rŵan,” a ffwrdd a fo ar ei daith hirbell.

Llyn Bowydd (blaen) a Llyn Newydd y tu ôl iddo (llun SabO) 
 

Stori’r migwyn – cofiaf Robin yn dweud wrthym un tro pan oedd ar ei ffordd un bore i agor y llifddor yn Llyn Bowydd iddo ddod ar draws Boreugwyn (Brigwyn) yn hel migwyn (sef mwsog cors) nid ymhell o Lyn Fflags. 

Roedd Brigwyn a’i ben i lawr yn rhoi peth o’r migwyn mewn sach, a dyma Robin yn ei gyfarch – “Bore da Migwyn, hel brigwyn, ia ?” Sylweddolodd Robin, ar ôl ychydig gamrau, beth a oedd wedi ei ddweud wrtho, a dyma fo’n cywiro ei hun – “daria, fel arall yr oeddwn yn meddwl ei ddweud!

- - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2022
Gallwch ddilyn cyfres Stolpia trwy glicio ar y ddolen isod (rhaid clicio Web View os yn darllen ar ffôn)



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon