Showing posts with label Dafydd ap Gwilym. Show all posts
Showing posts with label Dafydd ap Gwilym. Show all posts

26.1.26

Rhod y Rhigymwr- Gwylanod Digywilydd

Yn ystod fy nghyfnod o bron ugain mlynedd fel prif athro ar Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth sefydlwyd Canolfan Hwyrddyfodiaid ar y campws. Dros y blynyddoedd, manteisiodd ysgolion cynradd gogledd Meirionnydd ar anfon disgyblion yno am dymor i ddysgu’r Gymraeg. O dan arweiniad athrawon disglair, ymroddgar fel Sulwen Edwards, Rowena Griffiths, Eifiona Rider a Gwenda Wyn, llwyddodd canran helaeth o’r rhai a fynychodd i ddod yn rhugl yn yr iaith ac yn hyderus i’w defnyddio. Gallaf feddwl am rai a dreuliodd gyfnod yno sydd wedi dod yn gyfathrebwyr arbennig ac wedi gwneud eu marc yn y Gymru gyfoes.

Ond o blith yr ugeiniau a fynychodd y Ganolfan, fe ddaeth un bachgen i’r cof yn ddiweddar. Fedra i ddim cofio’i enw, nag yn wir, o ba ysgol gynradd y cafodd ei anfon atom i’r Penrhyn. Yr unig ffeithiau gofiaf ydy mai un o ddinas Gdansk yng ngogledd Gwlad Pwyl ydoedd. Prin iawn oedd ei Saesneg, ond am ryw reswm, fe’i derbyniwyd i’r Ganolfan i geisio dysgu gymaint ag oedd posib o Gymraeg iddo. Roedd yn amlwg yn fachgen galluog, ac yn meddu ar ddawn arbennig i dynnu lluniau.

Cefais gyfle i ymweld â dinas hardd Gdansk, ar lan Môr y Baltic ym mis Mai 2019 ar un o deithiau Côr Meibion Ardudwy. Manteisiais ar y cyfle i edrych ar y lluniau a dynnais ac a gedwais ar fy nghyfrifiadur. Â hithau’n dywydd anarferol o braf, aeth criw ohonom am dro ar hyd un o’r traethau, ac wrth weld yr holl wylanod o gwmpas, dychwelodd yr hogyn bach o Gdansk i’r cof.

Oherwydd anallu’r Pwyliad i ddilyn ambell wers, cafodd ddod i’r swyddfa ata i. Buan y deuthum i wybod ei fod yn arlunydd tan gamp, a’i fod yn dangos diddordeb ysol mewn math arbennig o adar, a’i fod yn gallu tynnu lluniau ardderchog ohonyn nhw. Ac ie, gwylanod oedd yr adar rheiny.

Gwylan y penwaig. Llun gan Andreas Trepte, trwy drwydded Comin Creadigol CC BY-SA 2.5

Rhwng y llyfrau adar amrywiol oedd yn llyfrgell yr ysgol, yr hyn ganfuwyd ar y gwefannau perthnasol, a hefyd, dan arweiniad fy nisgybl, fe ddysgais lawer iawn am wylanod. Cyn hynny, gwylan oedd gwylan i mi, ond buan y canfyddais fod sawl math ohonyn nhw. Deuthum i wybod cryn dipyn am y wylan benddu, gwylan y penwaig, yr wylan gefnddu fwyaf a’r un leiaf, gwylan y gweunydd a’r wylan goesddu. 

Roedd yr hen bennill telyn cyfarwydd a ddysgais yn blentyn yn parhau yn y cof. Mae’n siŵr i chithau’r dearllenwyr adrodd hwnnw sawl gwaith tra’n ceisio rhagddweud y tywydd:

Yr wylan fach adnebydd
Pan fo'n gyfnewid tywydd;
Hi hed yn deg ar adain wen
O'r môr - i ben y mynydd.

Bron i saith gant o flynyddoedd yn ôl, yn un o’i gywyddau, dewisodd Dafydd ap Gwilym yr wylan i fynd yn negesydd serch, neu’n ‘llatai’, drosto at ferch ddienw a oedd yn byw mewn tref gastellog ar lan y môr. 

Yr unig beth a ddysgwn am y ferch yma ydy fod ganddi wallt coch a’i bod yn byw wrth ymyl castell yn un o drefi glan môr Cymru yn y bedwaredd-ganrif-ar-ddeg. Yn ôl ysgolheigion, gallasai’r castell fod naill ai’n gastell Aberystwyth neu gastell Cricieth. Mae’r cywydd hwn yn agor yn uniongyrchol drwy gyfarch yr wylan a’i chanmol:

Yr wylan deg ar lanw di-oer,
Unlliw a'r araf wenlloer,
Dilwch yw dy degwch di,
Darn fei haul, dyrnfol heli;
Ysgafn ar don eigion wyd,
Esgud-falch edn bysgod-fwyd.

A dyma englyn gan yr un bardd sy’n disgrifio gwynder plu’r aderyn:  

Lliw eira mewn mantell arian - ar don
Hwyr y dydd, yn cwynfan;
Ewyn môr yn y marian,
A chwaer i luwch ar y lan.

Ond os mai clodfori’r wylan wnaeth Dafydd ap Gwilym gynt, wedi dau brofiad diweddar, ei melltithio wnes i.

A minnau’n cerdded ar hyd y prom yn Llandudno dro’n ôl, gwelais wylan yn ymosod yn haerllug ar sgodyn a sglodion rhyw wraig. Daeth nifer o wylanod eraill heibio wedyn i grio’n aflafar wrth glirio’r gweddill a’i gleuo hi.

Ceisiais ddarlunio’r olygfa mewn hir a thoddaid:

Tra’n gwylio’r ymwthgar donnau arian
Cyson a chry’n diferu ar farian,
Yn ddigywilydd cyrhaeddodd gwylan
I ddihysbyddu cinio rhyw druan;
Yn uchel seiniau’r sgrechian – llwyddodd fflyd
I ddianc hefyd, gan ddwyn y cyfan.


Yn ddiweddar, â minnau’n gyrru troli llawn neges y tu allan i Archfarchnad ym Mhorthmadog, oedais i gael sgwrs efo ffrind. Yn sydyn, dyma wylan ddigywilydd yn cyrraedd o rywle gan ymosod ar y pecyn briwgig [minced meat] oedd ynddo:

I’n nhroli’n slei gythreulig – o rywle
Daeth rhyw wylan flysig;
Yn flêr â phŵer ei phig
Rhwygodd fy mhecyn briwgig. 

- - - - - - - 

Rhan o erthygl Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025  

26.5.15

Rhod y Rhigymwr -mis Mai

Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Mai 2015:

Dros y canrifoedd, canodd nifer o feirdd i fis Mai.

Un o feirdd enwocaf Cymru, a ystyrir yn feistr ar y cywydd a’r canu serch oedd Dafydd ap Gwilym, a ganai yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr, yn ôl yn y 14eg ganrif, a chydnabyddir ef fel un o feirdd pwysicaf Ewrop yn yr oes honno. Meistrolodd y mesur caeth newydd, sef, y ‘cywydd.’

Credir iddo gael ei eni rhwng 1320 a 1330 ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, ger Aberystwyth ac iddo farw tua 1380, a’i gladdu, yn nhyb haneswyr, o dan yr ywen yn Abaty Ystrad Fflur yng Ngheredigion.


Prif destunau cerddi Dafydd oedd natur a serch. Roedd y rhain yn bynciau dieithr i farddoniaeth Cymru cyn ei gyfnod ef.

Mae ganddo sawl cywydd sy’n cyfeirio at fis Mai. Mae un o’r cywyddau hyn, sy’n agor gyda’r llinellau:

‘Duw gwyddiad mai da gweddai
Dechreuad mwyn dyfiad Mai’

i gyd ar yr un odl.

Mae ganddo gywydd arall i Fis Mai a Mis Tachwedd. Mae’n agor drwy gyfarch Mai:

‘Hawddamor, glwysgor glasgoed,
Fis Mai haf, canys mau hoed ...’

Ceir cyferbyniad yn y cywydd rhwng Mai a Thachwedd y ‘dig du.’ Mae’n un o gerddi enwoca’r bardd i fyd natur. Ynddo, mae’n ymhyfrydu yng ngogoniant yr haf, sy’n llawn bywyd ac egni, ac wrth wneud hynny, mae’n cofio caru â’i ‘Forfudd.’

Cyferbynnir wedyn y tymor hyfryd hwn â mis Tachwedd - y mis sy’n rhwystro cariadon rhag caru, a mis sy’n llawn o gysgod marwolaeth.

Mae Dafydd ap Gwilym yn llwyddo i greu argraff ddisgrifiadol, synhwyrus o’r ddau fis, sydd hefyd yn ddelweddau o brofiad dyn.

Mis llawn lliw ac o ganu adar ydy Mai i’r bardd. Mae’r lliwiau gwyrdd a’r glesni’n cael lle amlwg. Ond uwchlaw’r cyfan, mae’r mis yn deffro nwyd a serch ynddo, a ‘Morfudd’ yn amlwg iawn yn ei feddwl. Ym Mai, tymor y synhwyrau, mae bywyd ar ei orau a chysylltir y deffro hwn ym myd natur â chariad Dafydd a Morfudd.

Tachwedd ydy’r gwrthwyneb i Fai. Ceir cyferbyniad llwyr:

‘Annhebig i’r mis dig du
A gerydd i bawb garu ...’

Mae’r gair ‘annhebig’(sic) yn pwysleisio’r cyferbyniad. Nid yw Tachwedd yn annog cariadon. Yn hytrach, ysbeiliwr ydyw, sy’n dwyn dail oddi ar y coed; yn achosi glaw a dyddiau byrion; neu fel y mynega’r bardd:

‘A llesgedd, breuoledd braw,
A llaesglog a chenllysglaw’


Yn nes at ein dyddiau ni, canodd sawl bardd arall i’r mis arbennig yma. Telyneg a wnaeth argraff arnaf ydy un Eifion Wyn (1867-1926):

‘Gwn ei ddyfod, fis y mêl,
Gyda’i firi yn yr helyg,
Gyda’i flodau fel y barrug –
Gwyn fy myd bob tro y dâl.’

Disgrifia’r bardd fel yr aeth ‘tua’r waun’ ar las y dydd i weld ‘y gwlith ar wasgar’ac i ‘eistedd tan brennau’ i weld yr ‘edn glas’ yn disgyn arnynt ‘gan barablu enw’r gog’.


‘Mai’ oedd mis geni Eifion Wyn. Ar yr 2ail o Fai, 1867 y gwelodd olau dydd gyntaf yn y Garth, Porthmadog.

Mae gosodiad telynegol y cerddor o Ddyffryn Ardudwy, Meirion Williams (1901-76) o’r delyneg yn enghraifft nodedig o’r gân gelf Gymreig. Llwyddodd Meirion Williams i gyfuno sensitifrwydd geiriol barddoniaeth Eifion Wyn a defnyddio’i ddawn gynhenid i greu cyfeiliant mor effeithiol a diddorol.

Pe bae rhywun yn gofyn i mi p’run yw fy hoff englyn, un o’r rhai a fyddai ar frig y siart fyddai un fy hen gyfaill o Ardudwy, John Ieuan Jones (1924-2003) i Fis Mai:

‘Hen fuwch y borfa uchel – heb aerwy
   A bawr heddiw’n dawel,
 A dail Mai fel diliau mêl
 Wedi rhoswellt y rhesel.’

Cyhoeddwyd cyfrol fechan o gerddi Ieuan (Cyfres Beirdd Bro 4 – Gwasg Christopher Davies Cyf) yn ôl ym 1976. Cyfeiria’r Prifardd Alan Llwyd ato’n ei gyflwyniad fel ‘gŵr yr encilion … gŵr swil a diymhongar.’  Daeth y ddau ar draws ei gilydd yn nhre’r Bala yn ystod cyfnod Alan yn Awen Meirion a Ieuan yn ymweld â’r dre’n rhinwedd ei waith fel Swyddog Lles Addysg. Yn ystod yr ychydig seiadau a gawsant ‘dros baned neu ddwy,’ clywodd Alan ef yn adrodd yn wylaidd ei delyneg neu ei englyn diweddaraf, a hynny gyda rhyw fflach fach ddireidus yn ei lygaid.  Ac fe wyddai ei fod yng nghwmni ‘bardd,’ oherwydd, yng ngeiriau Alan ei hun, ‘dim ond bardd a allai lunio englyn fel yr un i Fis Mai, gyda’i gynildeb cywasgedig a’i urddas ymataliol.’

Noda Dafydd Islwyn, sy’n cynnwys yr englyn ymysg ei gasgliad ‘Cant o Englynion’ (Cyhoeddiadau Barddas 2009):

‘Dim ond tyddynnwr sylwgar a allai ganu englyn fel hwn.’

Dywed Alan Llwyd ymhellach na cheir yr un gair llanw ynddo; bod pob ansoddair yn ffitio’n daclus a phob gair ‘yn cydweithio â gweddill y geiriau’n berffaith.’ Mae ‘heb aerwy’ yn awgrymu ‘rhyddid’ lle bu ‘caethiwed y gaeaf,’ a’r ansoddair ‘tawel’ yn awgrymu rhyddid ar ôl  anniddigrwydd y tymor hirlwm. Ceir cyferbyniad twt wedyn rhwng ‘diliau mêl’ a ‘rhoswellt’. ‘Hen fuwch’ sydd yma, a’r englyn yn awgrymu fod Mai ‘yn dod â chyffro ieuenctid yn ôl wrth iddo adnewyddu a ffrwythloni’r ddaear o’r newydd’.

Yn niwedd y saithdegau a blynyddoedd cynnar yr wythdegau, cefais y fraint o fod yn gyd-aelod â Ieuan yn nhîm ‘Talwrn y Beirdd’ Ardudwy. A dyna fraint oedd honno! Braint hefyd fu cael llunio teyrnged goffa iddo yng nghylchgrawn ‘Barddas.’
IM

Llun- blodau drain gwynion, PW

12.4.15

Tân Goddaith

Erthygl gan Vivian Parry Williams, wedi’i hysgogi gan y tanau diweddar ar ffriddoedd Bro Ffestiniog.



Wrth chwilota yn archif Prifysgol Bangor rhyw ddydd, mi ddois ar draws y darn isod, gan W. Barnes, yn y cylchgrawn Archaeological Journal, 1856 (t.287). 

I might here, in speaking of the British people, caution antiquaries against the too hasty conclusion that bits of charcoal found thinly scattered in the up-dug soil must be traces of body cremation, as among the British, as early, at least, as the 6th century, a fire was kindled in March to clear the ground of scrub & other such growth. It was called  Tân Goddaith 'scrub fire', or  tân mawr, 'the great fire'. By the laws of Hywel Dda, a fine was set for the kindling of the scrub fire at any other time than between the middle of March and the middle of April, and that the scrub fire was in use in the 6th century is shown by a line of a poem of Llywelyn Hen, who says that the onset of the men was like the scrub fire on the hill:
-Rhuthr goddaith ar ddiffaith vynydd.” 
Y Llywelyn Hen uchod mae’n debyg oedd Llywelyn Goch ap Meurig Hen, y bardd llys o Feirionnydd (tua 1330 – 1390) a ysgrifennodd ‘Marwnad Lleucu Llwyd’.

Dro arall, dois ar draws y bennill isod yng ngherdd ‘Y Llwynog’, o’r un cyfnod, gan Dafydd ap Gwilym (1320 - 1370):

  Goddaith a roi’r mewn eithin,  
  Gwanwyn cras, mewn gwynnon crin 
  Anodd fydd ei ddiffoddi  
  Ac un dyn a'i hennyn hi. 

O'r gair 'goddaith' y daw'r gair 'goddeithio/gydeithio' a ddefnyddid gennym dros y cenedlaethau ym Mhenmachno am losgi eithin crin, rhedyn a glaswellt, ac ati ym misoedd y gaeaf. Dyna, yn ddi-os yw tarddiad y gair 'creithio' sydd mewn defnydd yn 'Stiniog hefyd.   

Mae Geiriadur Prifysgol Cymru  yn cydnabod bod cydeithio mewn defnydd ar lafar yn y gogledd ond ddim yn cynnwys creithio. Mae’r GPC hefyd yn rhoi enghreifftiau eraill o ddefnydd hanesyddol, gan gynnwys un o Lyfr Coch Hergest, tua 1400:

   Kalan gayaf llwm godeith.

Un o 1672 gan Rees Prichard am y pla yn ymledu trwy’r wlad:

   Ac fel gwaddaith ar sych fynydd,
   Yn gorescyn ei holl drefydd.

Mae Iolo Morgannwg hefyd yn son yn 1829 (Cyfrinach Beirdd Ynys Prydein) am y:

   Mellt yn goddeithio gelltydd.

Ar ôl sawl noson o losgi o amgylch ‘Stiniog, yn hytrach na goddeithio –dwi’n gobeithio, er mwyn yr adar a’r gwasanaeth tân, ein bod wedi gweld diwedd ar yr arfer am flwyddyn arall.


Lluniau o Gefn Trwsgl a Ben Banc Fron Fawr, gan PW, Pasg 2015.
Ystyr gwynnon gyda llaw ydi crawcwellt, neu wair hir sych.
- - - - - - 

Rhuthr goddaith -blog lleol