Showing posts with label Hywel Dda. Show all posts
Showing posts with label Hywel Dda. Show all posts
20.6.16
Y Golofn Werdd -gwenyn
TRI PHETH A FFYNNA AR DES — GWENITH, A GWENYN, A MES.
Yn ôl pob adroddiad, mae gwenyn mêl Cymru (a thramor) wedi dioddef yn arw yn y blynyddoedd diweddar. Lleuen o’r enw varroa, plaladdwyr, a llygredd sy’n bennaf gyfrifol mae’n debyg, ac mae’n sicr fod cyfres o hafau gwlyb wedi rhoi halen ar y briw i heidiau gwan hefyd.
Ni welais yr un wenynen fêl yn yr ardd acw'r llynedd, a phan sylweddolais hynny, mi wthiodd hyn gwch i’r dŵr, heb imi sylwi’n llawn ar y pryd. Dros y misoedd nesaf, cefais sgyrsiau difyr iawn efo Dafydd Yoxall a fu’n cadw gwenyn yn lleol, ac arweiniodd hyn yn y pen draw at fynd ar gwrs undydd ‘Cyflwyniad i Gadw Gwenyn’ ar safle fferm Prifysgol Bangor, yn Henfaes, Abergwyngregyn, ganol Mehefin eleni [2010]. Cefais ddiwrnod wrth fy modd yn fanno, yn dysgu am wenyn. Wyddoch chi er enghraifft mae dim ond llond llwy de o fêl bydd un wenynen yn gynhyrchu yn ystod ei bywyd? A hynny wedi golygu miloedd o filltiroedd o hedfan.
Amcangyfrifir bod traean o fwyd pobl y byd yn ddibynnol ar beillio gan bryfetach fel gwenyn.
Mae un peth yn sicr: cafwyd tywydd gwell o lawer hyd yma yn 2010, gyda nifer yn adrodd am gnydau da o fêl yn y cychod yn barod.
Ddiwedd Mehefin, cefais y pleser o gwrdd â Mr Frank Roberts, Conglywal; gŵr sydd wedi cadw gwenyn ers dros hanner canrif. Roedd yn barod iawn ei gyngor ac yn hael iawn ei amser, a chefais dreulio orig efo fo yn archwilio un o’i gychod, yma ym mro Ffestiniog. Dyna fraint oedd cael edrych i mewn i’r cwch, a hwnnw’n berwi efo gwenyn prysur, pob un a’i swyddogaeth ei hun: rhai wedi dod ‘nôl efo neithdar, eraill efo paill; rhai’n bwydo’r genhedlaeth nesaf a rhai’n amddiffyn y mynedfeydd.
“Mae ‘na tua 30,000 o wenyn yn y cwch yma, a phob un mor bwysig â’i gilydd!” meddai.
“Dwi’n dal i gael pigiad o dro i dro” meddai wedyn, ac wrth gwrs pan mae gwenyn yn pigo, mae’n gwneud yr aberth eithaf gan farw wrth amddiffyn ei dylwyth. Tynnodd fy nghoes nad oeddynt yn hoff o’r lliw coch, a finnau wedi cyrraedd mewn crys rygbi Cymru, ond bu’n ddigon bonheddig i roi benthyg côt wen imi, a gyda’i osgo pwyllog, a pherthynas amlwg efo’i wenyn rhoddodd hyder i mi sefyll ynghanol y prysurdeb heb ofni unrhyw beryg’. Er gwaetha’ cael eu tarfu gennym, roedd gwres yr haul, ynghyd ag ychydig o fwg, wedi rhoi’r gwenyn mewn hwyliau da iawn, diolch i’r drefn!
Roedd ganddo bymtheg o gychod ar un adeg, ond bellach cariad at y gwenyn sy’n ei ysgogi, yn hytrach na’r awydd i gynaeafu eu mêl.
Pan mae’r tywydd yn dda yn y gwanwyn, mae’r gwenyn yn medru hel mwy o stôr o fwyd, ac efo hynny daw’r gallu a’r awydd i gynyddu’r boblogaeth trwy heidio. “Dwi’n dod yn ddyddiol rŵan, gan obeithio medru eu dal” meddai, wrth ddangos cell brenhines newydd ar un o’r fframiau; “maen nhw’n heidio’n aml i’r goeden ‘sgawen acw”.
Mi fydd yr haid yn ffurfio cychiad newydd o wenyn ganddo wedyn.
Os nad ydi gwenynwr eisiau cynyddu’i gychod, gallai rwystro’r gwenyn rhag magu brenhines newydd a heidio, achos yn ôl Frank: “mae colli haid o wenyn, a hwythau’n cario pwysi o fêl efo nhw i’w bwydo, yn torri calon rhywun!”
Mae’r cacwn (bymbl-bîs) yn niferus eto yn yr ardd eleni, yn peillio’r ffa a’r pys am ddim i mi; mae’r gwenyn meirch yn hel pren o’r polion i adeiladu nyth yn rhywle eto, ac er mawr cyffro gwelais un wenynen fêl hyd yma hefyd. ‘Un wenynen ni wna haf’ efallai, mae Frank yn pryderu am eu prinder.
Mae cadw gwenyn yn hen, hen grefft wrth gwrs -roedd cyfreithiau Hywel Dda’n rhestru’r gosb am ddwyn mêl, gan awgrymu ei werth, a heddiw mae’r awdurdodau yn sylweddoli gwerth poblogaethau o wenyn Cymreig yn y frwydr yn erbyn clefydau newydd, gyda Phrifysgol Bangor yn arwain yr ymchwil.
Gyda lwc bydd gwenyn mêl Cymru yma i aros a ffynnu. Diolch yn fawr i Mr Frank Roberts am roi cipolwg imi ar y grefft, ac i Mrs Roberts hefyd am ei pharodrwydd i rannu lluniau a hanesion.
Mae gan Gymdeithas Gwenynwyr Meirionnydd wefan dda iawn, ac maent yn gwahodd aelodau newydd i ymuno â’u gweithgareddau. Beth amdani? Mae gen’ i’n sicr awydd…cawn weld. Cefais fy nhemtio ymhellach pan holais Frank Roberts os oedd cadw gwenyn mor uchel â Stiniog, ac mewn lle mor wlyb, yn anoddach na llawr gwlad? Ei ateb parod, â’i wyneb yn goleuo oedd: “Ydi, ond w’sti be? Galli di ddim curo mêl grug o lethrau’r Manod Bach, a chei di mo hwnnw lawr wrth y môr!”
Yn union.
------------------------------------------
Erthygl gan Paul Williams a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2010.
Lluniau PW.
12.4.15
Tân Goddaith
Erthygl gan Vivian Parry Williams, wedi’i hysgogi gan y tanau diweddar ar ffriddoedd Bro Ffestiniog.
Wrth chwilota yn archif Prifysgol Bangor rhyw ddydd, mi ddois ar draws y darn isod, gan W. Barnes, yn y cylchgrawn Archaeological Journal, 1856 (t.287).
Dro arall, dois ar draws y bennill isod yng ngherdd ‘Y Llwynog’, o’r un cyfnod, gan Dafydd ap Gwilym (1320 - 1370):
Goddaith a roi’r mewn eithin,
Gwanwyn cras, mewn gwynnon crin
Anodd fydd ei ddiffoddi
Ac un dyn a'i hennyn hi.
O'r gair 'goddaith' y daw'r gair 'goddeithio/gydeithio' a ddefnyddid gennym dros y cenedlaethau ym Mhenmachno am losgi eithin crin, rhedyn a glaswellt, ac ati ym misoedd y gaeaf. Dyna, yn ddi-os yw tarddiad y gair 'creithio' sydd mewn defnydd yn 'Stiniog hefyd.
Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn cydnabod bod cydeithio mewn defnydd ar lafar yn y gogledd ond ddim yn cynnwys creithio. Mae’r GPC hefyd yn rhoi enghreifftiau eraill o ddefnydd hanesyddol, gan gynnwys un o Lyfr Coch Hergest, tua 1400:
Kalan gayaf llwm godeith.
Un o 1672 gan Rees Prichard am y pla yn ymledu trwy’r wlad:
Ac fel gwaddaith ar sych fynydd,
Yn gorescyn ei holl drefydd.
Mae Iolo Morgannwg hefyd yn son yn 1829 (Cyfrinach Beirdd Ynys Prydein) am y:
Mellt yn goddeithio gelltydd.
Ar ôl sawl noson o losgi o amgylch ‘Stiniog, yn hytrach na goddeithio –dwi’n gobeithio, er mwyn yr adar a’r gwasanaeth tân, ein bod wedi gweld diwedd ar yr arfer am flwyddyn arall.
Wrth chwilota yn archif Prifysgol Bangor rhyw ddydd, mi ddois ar draws y darn isod, gan W. Barnes, yn y cylchgrawn Archaeological Journal, 1856 (t.287).
“I might here, in speaking of the British people, caution antiquaries against the too hasty conclusion that bits of charcoal found thinly scattered in the up-dug soil must be traces of body cremation, as among the British, as early, at least, as the 6th century, a fire was kindled in March to clear the ground of scrub & other such growth. It was called Tân Goddaith 'scrub fire', or tân mawr, 'the great fire'. By the laws of Hywel Dda, a fine was set for the kindling of the scrub fire at any other time than between the middle of March and the middle of April, and that the scrub fire was in use in the 6th century is shown by a line of a poem of Llywelyn Hen, who says that the onset of the men was like the scrub fire on the hill:
-Rhuthr goddaith ar ddiffaith vynydd.”Y Llywelyn Hen uchod mae’n debyg oedd Llywelyn Goch ap Meurig Hen, y bardd llys o Feirionnydd (tua 1330 – 1390) a ysgrifennodd ‘Marwnad Lleucu Llwyd’.
Dro arall, dois ar draws y bennill isod yng ngherdd ‘Y Llwynog’, o’r un cyfnod, gan Dafydd ap Gwilym (1320 - 1370):
Goddaith a roi’r mewn eithin,
Gwanwyn cras, mewn gwynnon crin
Anodd fydd ei ddiffoddi
Ac un dyn a'i hennyn hi.
O'r gair 'goddaith' y daw'r gair 'goddeithio/gydeithio' a ddefnyddid gennym dros y cenedlaethau ym Mhenmachno am losgi eithin crin, rhedyn a glaswellt, ac ati ym misoedd y gaeaf. Dyna, yn ddi-os yw tarddiad y gair 'creithio' sydd mewn defnydd yn 'Stiniog hefyd.
Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn cydnabod bod cydeithio mewn defnydd ar lafar yn y gogledd ond ddim yn cynnwys creithio. Mae’r GPC hefyd yn rhoi enghreifftiau eraill o ddefnydd hanesyddol, gan gynnwys un o Lyfr Coch Hergest, tua 1400:
Kalan gayaf llwm godeith.
Un o 1672 gan Rees Prichard am y pla yn ymledu trwy’r wlad:
Ac fel gwaddaith ar sych fynydd,
Yn gorescyn ei holl drefydd.
Mae Iolo Morgannwg hefyd yn son yn 1829 (Cyfrinach Beirdd Ynys Prydein) am y:
Mellt yn goddeithio gelltydd.
Ar ôl sawl noson o losgi o amgylch ‘Stiniog, yn hytrach na goddeithio –dwi’n gobeithio, er mwyn yr adar a’r gwasanaeth tân, ein bod wedi gweld diwedd ar yr arfer am flwyddyn arall.
Lluniau o Gefn Trwsgl a Ben Banc Fron Fawr, gan PW, Pasg 2015.
Ystyr gwynnon gyda llaw ydi crawcwellt, neu wair hir sych.
- - - - - -
Rhuthr goddaith -blog lleol
Subscribe to:
Posts (Atom)

