Parhau'r gyfres yng ngofal Vivian Parry Williams.(Allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones)
Tymor 1964-65
Roedd Eidalwr o'r enw Paolo Ponoginibio, o'r Bala ymysg chwaraewyr 1964-65. Dywedid ei fod yn chwaraewr rhyng-genedlaethol ar raddfa ieuenctid. Cafodd 17 gêm a phedair gôl.
Bryn Hughes, Dolwyddelan oedd y prif sgoriwr y tymor hwnnw, ac fe gafodd D.Glyn Pierce 14 gôl, a Gwyn Roberts (Dolwyddelan) naw. Nid aed ar ôl y chwaraewyr proffesiynol o Lerpwl o gwbl gan fod polisi amatur wedi ei benderfynu arno.
Gydag amaturiaid eithriadol o ddawnus fel Glyn M.Owen, W.H.Jones, Bryn Hughes, John Lloyd Price, Ellis Roberts, Ken Roberts, D.Glyn Pierce, Gwyn Roberts, Eban Davies a Gwilym Ellis - disgwylid i'r Blaenau wneud yn dda yn y cystadlaethau am Gwpan Amatur Cymru a Chwpan Amatur y Gogledd.
Fel hyn y gwnaethant:
Cwpan Cymru - curo Llangefni, Porthaethwy, Bwcle a cholli i Dreffynnon.
Cwpan y Gogledd - curo Pwerdy Trawsfynnydd a cholli i'r Bala.
Siomedig, a dweud y lleiaf. Yr oedd colli yn y Bala gyda thîm a gynhwysai W.H.Jones, Ellis Roberts, Glyn Owen, J.Lloyd Price, Gwilyn Ellis, Ken Roberts, Glyn Pierce a Gwyn Roberts yn anghredadwy.
Wedi curo Llandudno yng Nghwpan Cymru ymddangosai fod gan y Blaenau gêm hawdd o'u blaenau yn y rownd nesaf yn erbyn Llangollen. I ffwrdd oedd y gêm, ac fe ddaliwyd y Blaenau i gêm gyfartal. Ond yr oedd y Blaenau yn arfer cael canlyniadau coch yn eu gemau Cwpan Cymru, a dyna a ddigwyddodd eto yn yr ail-chwarae yn erbyn Llangollen. Collwyd 0-3!
Tila oedd canlyniadau y gemau cwpannau eraill hefyd ac yn y Gynghrair collwyd saith gêm gartref a deg oddi cartref.
Tîm y Blaenau yng Nghae Clyd, rywbryd yn y chwedegau. (O wefan Stiniog.com) |
Tymor 1965-66
Un o nodweddion y tymor 1965-66 oedd y dyrfa fawr yng Nghae Clyd i weld Mel Charles a Colin Webster yn chwarae i Borthmadog. Glynodd clwb y Blaenau at eu polisi amatur, ond fe benodwyd Billy Russell yn Rheolwr. Gadael wedi ychydig fisoedd oedd hanes Russell.
Un clwb oedd rhwng y Blaenau a bod yn waelod y tabl ar ddiwedd y tymor. Glynodd Glyn Owen gyda'r Blaenau drwy'r tymor alaethus hwn, ac yr oedd nifer dda o dalentau amlwg yn y tîm, fel David W.Thomas, Glyn Pierce, John Price, Ken Roberts, Gwyn Roberts, Ellis Roberts.
Yr oedd deugain ar lyfrau'r clwb - yr oll wedi cael rhyw gymaint o gemau. Bryn Hughes, eto, oedd y prif sgoriwr. Enillwyd gêm Cwpan Amatur y Gogledd 4-2 yn Nolwyddelan, ond er bod gan y Blaenau Ellis Roberts, John Price a Bryn Hughes yn eu tîm, rhoes Dolwyddelan brotest i mewn oherwydd bod Keith Jones wedi chwarae yn y cwpan efo thîm arall yr un tymor.
Yr oedd Ifor Glyn Griffiths, Penmachno, yn chwarae i'r Blaenau tua'r adeg hynny ac yr oedd ef a Bryn Hughes ymysg sgorwyr y Blaenau yn Nolwyddelan.
Dau o gyn-chwaraewyr Porthmadog heblaw Glyn Owen a Glyn Pierce ar lyfrau y Blaenau y tymor hwnnw oedd William H.Jones a William Humphreys. Nid oedd Prestatyn a Dolgellau yn y gynghrair y tymor hwn.
--------------------------------------
(llun y bêl gan Beca Elin)
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2006.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon