Showing posts with label Cae Clyd. Show all posts
Showing posts with label Cae Clyd. Show all posts

17.10.25

Manion o'r Manod- traffig a chwyn

Teithio trafferthus

‘Dwi wedi cael llond bol o drafeilio’n ôl a ‘mlaen rhwng Manod a Blaenau. Sawl un ohonoch sy’n teimlo’r yn fath? Ei bod yn mynd o ddrwg i waeth efo ceir yn parcio ymhob man ac yn ei gwneud yn anodd i deithwyr eraill basio’u gilydd.

Pam fod dim un arwydd ar y ffordd, neu ar hyd yr ymylon yn rhybuddio gyrrwyr i arafu, er enghraifft ar dro Tabernacl a Bethania. Cymharwch hyn efo llefydd eraill ar hyd yr A470, fel Dolwyddelan lle mae’r geiriau ARAF/SLOW a bandiau cochion yn ymddangos ar y ffordd mewn tua deg lle! 

Problem arall ydi’r darn rhwng y Wynnes ac Eglwys Holl Saint Cymru, lle mae llinellau dwbl melyn er mwyn sicrhau llefydd pasio diogel, ond nad ydyn nhw’n amlwg i yrrwyr diarth. Oes posib cael arwydd i dynnu sylw at y llefydd pasio hyn tybed? Be’ ydi barn ein cynghorwyr?

Hefyd, ger hen gapel Disgwylfa a’r safle bws, rydw i wedi bod o fewn modfeddi i gael damwain ddwy waith wrth basio cerbydau eraill. Tydi rhai o’r ceir sy’n teithio i gyfeiriad y Blaenau’n ddim yn arafu i weld oes oes cerbyd yn dod o’r cyfeiriad arall, ac mae angen llinellau melyn sydd o leiaf hyd tri char yno i wneud y safle’n fwy diogel. Gofynnaf yn garedig i’r cynghorydd sir i edrych i mewn i’r posibilrwydd o wneud hyn gan fy mod i’n poeni’n ofnadwy fod damwain yn mynd i ddigwydd yno.

Drain ac ysgall, mall ai medd... 

Mi fues i am dro yn ddiweddar, ar ddiwrnod ofnadwy o braf, i Dyddyn Gwyn, a thorri ‘nghalon o weld fod hen reilffordd y Blaenau i’r Bala wedi diflannu yn llwyr. Yr hyn welwch chi heddiw ydi tyfiant rhemp wedi gorchuddio’r cledrau a llwybr y rheilffordd. 


Pam o pam fedrwn ni ddim troi gwely’r hen lein yn llwybr diogel i gerddwyr a beicwyr? Mi fyddai hynny o les arbennig i’r dref ac i’r trigolion, ac yn golygu na fyddai raid i feicwyr gystadlu efo’r trafferthion teithio yr ydw i’n son amdanynt uchod. Ac wrth gwrs mae gennym siop yn Stiniog erbyn hyn -Beics Blaenau- sy’n llogi ac adnewyddu beics. Gobeithio y cawn newyddion yn fuan ar ddyfodol y lein!

Hapus Dyrfa 

Pleser, ar y llaw arall, oedd cael mynd am dro i ben Bryn Glas ar noson braf, a gweld y bwrlwm ar gae pêl-droed Cae Clyd. Dyma’r dorf fwyaf i mi weld yno ers tro byd, i weld y darbi lleol yn erbyn Penrhyn. Pob lwc i’r Amaturiaid y tymor hwn; maen nhw i weld yn gwneud yn dda yn y gynghrair uwch hyd yma. DR

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2025


19.3.20

Prysurdeb ar Gae Clyd


Mae aelodau a chefnogwyr Clwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn gwneud gwellianau angenrheidiol yng Nghae Clyd.

Mae'n rhan o'r ymdrech i godi cae mwyaf trawiadol Cymru i safonau haen 3 y Gymdeithas Bêl-droed.

Cafwyd hwb yn ddiweddar gan Gyngor Tref Ffestiniog  i’r ymdrech i godi arian i osod seddi ar gyfer y cefnogwyr.


1. Cadeirydd y Cyngor Tref a Llywydd y Clwb
Dadorchuddwyd arwydd noddi newydd ar ochr y cae, cyn eu gêm gwpan yn erbyn Mynydd Llandegai ym mis Chwefror, gyda’r Cynghorydd Glyn Daniels yn cynrychioli’r cyngor a Mici Plwm, y llywydd yno ar ran y clwb.


Yn anffodus, colli fu hanes y tîm ar y diwrnod, mewn gêm galed, dan amodau chwarae anodd iawn. Ar ôl bore sych, daeth y glaw wrth i’r i’r gêm gychwyn. Er y gwledd o goliau, roedd yn 5-5 ar ddiwedd y amser ychwanegol, a bu’n rhaid chwarae’r amser ychwanegol ar gae mwdlyd trwm, a cholli o 5-6 fu’r hanes.

2. Chwaraewyr a swyddogion Cae Clyd.
3. Rhai o'r cefnogwyr oedd wedi troi allan ar ddiwrnod gwlyb iawn!

4. Niwl, glaw, mwd...

Diweddariad gan Andrew Roberts:

Seddi.
Mae’r clwb wedi prynu 88 o seddi i lenwi'r eisteddle erbyn hyn. Mi fydd angen cael 12 sedd arall i gyrraedd y cant angenrheidiol, ac rydym yn y broses o'u harchebu ac mi fydd yn rhaid i ni gael hyd i rwbath fel lloches bws i'w gosod nhw ynddo.

Gyda llaw, mae'r clwb yn chwilio am noddwyr ar gyfer y seddi hyn. Mae manylion ar y dudalen facebook.

Rydym hefyd yn chwilio am feinciau ychwanegol ar gyfer yr ystafelloedd newid cyn gynted a phosib.

Llwybr caled.
Mae'r criw wrthi'n gosod y sylfaen yn barod i’r concrid. Mae'r rhediad o flaen y stand yn cael ei wneud yn gyntaf, cyn gwneud y darn tu ol i’r gôl.

Mae'r canllaw newydd (llun 5, uchod) wedi ei osod o flaen y stand -ac yn edrych yn dda- gyda chymorth ariannol gan gwmni Magnox.

Cyfleusterau.
Diolch i gwmni D & C Jones am gyfrannu caban ar gyfer hyn. Mi fydd angen plymio pan ddaw.

Diolch i’r rhai sydd wedi helpu hyd yma.
Heb yr elfen llafur yma mi fasa’r tasgau uchod yn amhosib.

Os ydym am gyrraedd y nod erbyn diwedd Ebrill, mae angen hwb arall a help llaw gan bwy bynnag sydd ar gael dros y penwythnos yma. Mae angen clirio llanast i sgip a help llaw hefo’r gwaith rhawio, ac amryw dasg arall. Diolch.

Lluniau:
> 1,2,3 Alwyn Jones
> 4 Paul W
> 5 o dudalen FB y Clwb

26.9.19

Tîm sy'n dod o'r graig

Apêl am ‘gefnogaeth’ gan lywydd Clwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau
Heb os rwy’n tybio fod pawb yn y Blaenau a’r cylch wedi clwad am dymor llwyddianus CP yr Amaturiaid cyn yr haf – nid yn unig wedi gorffen y tymor yn yr ail safle yn y gynghrair, ond hefyd yn ennill dyrchafiad haeddianol i’r Adran Gyntaf.

Ma’ hi fel ‘stalwm yn y dref! Ysbrydion Wil ‘bach’ a Dei Dw, Crymei a Tibbott ac Ishmael yn cyd-gerdded y strydoedd, i gyd yn trafod pêl-droed, ac yn awyddus i gael gair tawel yng nghlust Ceri (Roberts) y rheolwr er mwyn dymuno’n dda iddo fo a’r hogia!

Ymlaen a ni! Ewch i’n tudalen Gweplyfr/Facebook am fanylion y gemau sy'n dod.

Gan fod yr Amaturiaid wedi codi i gynghrair uwch, mae’n orfodaeth arnom i wneud cryn dipyn o wellianau i Gae Clyd, gwaith sydd yn hynod gostus. Mae Cyngor Tref Ffestiniog a nifer o gwmniau busnes y dref eisioes wedi bod yn hynod o hael gyda rhoddion arianol caredig tuag at y gwellianau sydd yn yr arfaeth. Dewch draw i weld gêm ac i weld y gwelliannau hefyd.

Cae Clyd: cae pêl-droed mwyaf trawiadol Cymru? Llun- Paul W. Awst 2019
Hoffwn ar ran yr Amaturiaid i apelio, nid yn unig am gefnogaeth byddarol o gwmpas Cae Clyd, ond hefyd mewn rhoddion ariannol er parhad y clwb. Felly os yn berchen cwmni busnas, yn gefnogwr brwd, yn aelod o glwb neu asinataeth ac yn awyddus i rhoi cefnogaeth, dowch i gysylltiad hefo swyddogion y clwb ar unwaith.

Clwb Pêl-droed trigolion tref Blaenau Ffestiniog a’r cylch ydi’r Amaturiaid ac felly fe fydd eich cefnogaeth chi yn gymorth gwerth chweil i’w lwyddiant yn ystod y tymor nesaf ac i’r dyfodol.
Diolch yn fawr.
Mici Plwm

Tymor 2019-20
Mae'r tymor newydd wedi hen gychwyn bellach. Pob lwc i’r hogia yn Adran 1 y gynghrair undebol. Dyma drydedd haen pêl-droed yng Nghymru, ac mae’r Chwarelwyr yn amlwg yn anelu at ddringo’n uwch eto yn y dyfodol.

Mae llawer o’r hogiau lleol oedd yn chwarae i dimau eraill y tymor d’wytha wedi arwyddo i Stiniog eleni, a’r dyfodol yn gyffrous iawn! Cofiwch gefnogi ar Gae Clyd eto eleni, neu ymunwch yn yr hwyl os na fuoch chi ers talwm.

Torf Cae Clyd oedd yr uchaf yn y gynghrair y tymor dwytha, ac mae’r tîm yn gwerthfawrogi’n fawr pan mae cefnogaeth dda yn troi allan i’w hannog.

Mae Gwefan Llafar Bro yn falch o noddi un o'r chwaraewyr eto eleni. Amdani Bryn Humphreys!


Prosiect Barddoniaeth a Phêl-droed Ysgol y Moelwyn
Bydd cerddi gan gefnogwyr ifanc Clwb Pêl-droed y Blaenau yn cael eu gosod o amgylch Cae Clyd yn fuan. Fe gyfansoddwyd y cerddi gan fechgyn blwyddyn 10 Ysgol y Moelwyn mewn gweithdai barddoniaeth gyda Rhys Iorwerth a Dewi Prysor yn ddiweddar.

Roedd y prosiect yn rhan o gynllun Llên Pawb, Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Eryri. Fe luniodd y bechgyn naw cerdd fer i gyd, yn eu mysg mae cerddi sy’n trafod y cae, y chwaraewyr, y cefnogwyr, y gelynion ac hefyd athro’r hogia a rheolwr y tîm, Ceri ‘Yeboah’ Roberts.


Dywedodd Dewi Prysor am y profiad:
"Bu'r gweithdai yn bleser pur, gyda chriw da o ddisgyblion ffraeth, hyderus a chreadigol oedd yn hawdd i weithio efo nhw. Roedd eu balchder yn eu bro, eu cymuned a'r clwb pêl-droed lleol yn amlwg, ac rwy'n gwbl argyhoeddiedig fod y cyfuniad o bêl-droed a chreu cerddi, wedi tanio diddordeb mewn barddoniaeth ynddynt."
Dyma flas o’r cerddi – fe gewch chi weld y casgliad cyflawn yn harddu Cae Clyd os ewch chi draw yno i gefnogi’r tîm!

Y Chwarelwyr
Tîm o Gymry Cymraeg i gyd
Fel y gymuned – dani yma o hyd;
Tîm ydan ni sy’n dod o’r graig,
Ni di’r chwarelwyr sydd â chalon draig.

Cae Clyd
Rhwng y Manod a’r Moelwyn mae fel carped hardd,
Y maes y mae Bynsan yn ei drin fel gardd,
Dyma ail adra pob chwaraewr ac ultra,
Fan hyn mae’r panads yn mega.
Hwn ydi’r cae sy’n werth y byd,
Hwn dani’n nabod fel Cae Clyd.

--------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2019


24.3.19

Trafod Tictacs -Ceri Roberts

Colofn newydd yn holi rhai o sêr a hoelion wyth chwaraeon Bro Stiniog, gan gychwyn efo Ceri Roberts, rheolwr/hyfforddwr tîm pêl-droed Amaturiaid y Blaenau.

Llongyfarchiadau mawr ar eich llwyddiant hyd yn hyn y tymor yma. Er gwaetha’r enw, does ‘na ddim byd yn amaturaidd am drefniadau ac agwedd y tîm ar hyn o bryd: Be ydi’r gyfrinach?
Yn gynta’ diolch o galon i chi, Llafar Bro, am eich cefnogaeth ffyddlon ers y diwrnod cyntaf un. Dim cyfrinach rîli! Trefn, cysondeb a thrio gwneud pob dim mor broffesiynol ac sy’n bosib dwi’n credu sydd wedi bod yn allweddol. Ychwanegu gwaith caled at y 3 peth yna, a dwi’n credu gall llwyddiant ddilyn yn naturiol.

Ceri. Llun- Alwyn Jones
Pan ti ddim yn hyfforddi a chwarae, be ti’n wneud o ddydd i ddydd? Rho ychydig o dy hanes peldroedio hyd yma hefyd.
Er bod yna rhan o bob dydd yn mynd tuag at ddatblygu’r clwb mewn un ffordd neu’r llall, athro Addysg Gorfforol a Diffoddwr Tân rhan amser, yma ym Mlaenau ydw i’n gwneud am fywoliaeth o ddydd i ddydd. O ran yr ochr pêl-droed, rwyf yn dod o deulu pêl-droedio (Bolton Cafe), a dwi wedi llwyddo i ennill sawl tlws efo’r Amaturiaid fel chwaraewr yn y gorffennol, yn cynnwys curo’r ‘dwbwl’ ddwywaith. Mae cyn glybiau eraill yn cynnwys Wolverhampton Wanderers, Porthmadog, Llanrwst a’r Bermo.



Be ydi’r uchafbwyntiau’r tymor hyd yma; oes yna gêm neu gôl neu ddigwyddiad yn sefyll allan?
Mae hi’n anodd dewis un uchafbwynt neu ddigwyddiad - ond yr un sydd yn sefyll allan yw’r fuddugoliaeth oddi-cartref i dîm Mochdre Sports, nôl ym mis Awst. Roedd y sgôr yn 3-2 i Fochdre gyda munudau yn weddill, ond llwyddodd yr ‘ogia i ddod oddi ar y cae gyda’r tri phwynt. Dwi’n credu bod y fuddugoliaeth honno wedi rhoi hyder i gredu bod hi’n bosib curo unrhyw dîm y tymor hwn.

Ar ôl treulio llawer o’r tymor ar frig adran 2 Cynghrair Undebol y gogledd, sut mae cadw traed pawb ar y ddaear wrth baratoi at weddill y tymor?
Gêm ar y tro!! Dyna’r neges ers y gêm gyntaf un tymor yma! Trin pob gêm fel ffeinal, a chwarae teg i’r hogia’ maen nhw wedi gwneud hynny.

Roedd y record cartra’ wedi bod yn ddi-guro ers Ebrill y llynedd cyn colli adra yn erbyn Bae Cinmel ganol Ionawr, sut oedd yr ysbryd yn y ‘stafall newid wedyn?
Wrth gwrs roedd yr hogia’n siomedig, ond beth sydd yn dda tymor yma ydi pob tro rydym wedi colli gêm yn y gynghrair rydym wedi llwyddo i ymateb yn y ffordd gywir, a choelio yn ein gallu ein hunain pob tro.

Wythnos wedyn –mewn gêm gwpan yn erbyn Llangefni, arweinwyr adran 1-  roedd perfformiad y Blaenau yn arbennig.  Er colli (ar ôl amser ychwanegol a chiciau o’r smotyn),  oeddech chi’n rhannu barn y cefnogwyr  nad oes angen ofni neb yn adran 1 os caiff yr Amaturiaid ddyrchafiad tymor nesa’?
O safbwynt personol, roedd y teimlad o fynd a Llangefni’r holl ffordd i giciau o’r smotyn yn deimlad o falchder enfawr. Canlyniad a pherfformiad sy’n profi pa mor bell rydym wedi dod mewn cyfnod byr. Gallwn nawr 'mond datblygu’n bellach, sydd yn profi fod nad oes angen ofni unrhyw wrthwynebwyr, boed yn y gynghrair yma neu’n uwch!

Mae’r cae yn edrych yn ardderchog ar hyn o bryd, a Cae Clyd ymysg lleoliadau pêl-droed mwyaf trawiadol Cymru efo’r Moelwynion a Manod Bach yn gefndir, pa gaeau eraill ydych chi wrth eich boddau’n ymweld â nhw?
Does dim ond un dyn i ddiolch am safon y cae - a Bynsan ydi hwnnw! Mae’r oriau o lafur, ym mhob tywydd ar fwy neu lai budget o geiniogau yn anhygoel!! Mae o’n un o fil - ac fel clwb byddwn am byth mewn dyled iddo am ei holl lafur a’i garedigrwydd. O safbwynt personol, roeddwn wrth fy modd yn chwarae ar Y Traeth, yn enwedig pan roedd hi’n gêm rhwng yr Amaturiaid a Porthmadog.

Cae Clyd. Llun- Paul W
Mae wedi bod yn bleser gwylio’r gemau ar Gae Clyd, a’r dorf wedi cynyddu wrthi’r tîm fynd o nerth i nerth. Mae Blaenau’n denu mwy o gefnogwyr na phawb arall yn yr adran (a’r rhan fwya’ o’r timau yn adran 1 o ran hynny!) Sut beth ydi cael cefnogaeth dda, a faint o hwb ydi o i berfformiad yr hogia?
Mae’n deimlad braf iawn gweld pobl ‘Stiniog yn disgyn yn ôl mewn cariad gyda phêl-droed lleol. Mae hi wedi bod yn amser hir iawn ers i ni weld cefnogaeth o’r fath yma ym Mlaenau, ac nid yn unig yn ystod gemau cartref ond y nifer sydd yn teithio i gemau oddi-cartref hefyd. Y cefnogwyr yn aml sydd yn rhoi’r hwb sydd ei angen arnom i guro gêm, felly rydym yn werthfawrogol iawn o’ch cefnogaeth!

Dwi’n cofio dilyn tîm llwyddianus y Blaenau yn yr 80au, ond ychydig iawn o’r chwaraewyr oedd yn lleol. Mae gwylio criw o hogia lleol, Cymraeg,  yn brafiach o lawer. Pa mor bwysig ydi datblygu pêl-droed ar bob lefal yn y gymuned?
Mae datblygu a chodi safon pêl-droed yma yn y Blaenau yn holl bwysig i ddyfodol y clwb. Bellach mae yna gyfle i blant o’r oedran 6 oed i fyny at oedolion (ar wahân i grŵp oedran dan 14)  i chwarae a hyfforddi’n wythnosol yma. Rydym yn cael ein adnabod fel ardal sydd yn cynhyrchu pêl-droedwyr o’r safon uchaf yma yn ‘Stiniog, ond y nod nawr yw cadw’r talentau hyn  i gynhyrchiol ein clwb ni, yn hytrach nag arwyddo i glybiau ein cymdogion.

Dwi’n siwr bod timau eraill yn gwylio llond dwrn o chwaraewyr yr Amaturiaid ar hyn o bryd, ac mae’n amhosib gweld bai ar chwaraewyr talentog sydd isio mynd ymlaen i chwarae ar y lefal ucha’ posib,  ond sut mae cadw’r sêr ar y llyfrau?
Mynd yn ôl i’r cwestiwn diwethaf, mae cadw talent leol yn flaenoriaeth bellach. Y gobaith yw cael ddyrchafiad i Adran 1 tymor nesa, felly drwy chwarae ar safon uwch y gobaith yw bod y temtasiwn i chwaraewyr symud i glybiau yn lleihau, ond petai yna gyfle i un ohonynt chwarae ar safon uwch ac i ddatblygu eu gêm, ni fuaswn yn gwrthod y cyfle yna i unrhyw un ohonynt.

Pwy yn y byd pêl-droed –yn chwaraewyr neu’n hyfforddwyr- ydi dy arwyr di?
Alex Ferguson, Gwilym ‘Penial’ (Taid!)  a Ronaldo (Brasil!)

Mae ambell beth fel gwerthu Tocyn Tymor a chael cwmniau lleol a chefnogwyr i noddi chwaraewyr wedi llwyddo i godi pres yn tymhorau diweddar; oes yna gynlluniau eraill ar y gweill? Sut fedr bobl gyfrannu?
Rydym yn werthfawrogol iawn i’r holl bobl, cwmnïau a chefnogwyr sydd wedi cyfrannu hyd yma. Mae rhedeg clwb pêl-droed yn fusnes drud iawn, sydd efallai yn newyddion i rai. Un o flaenoriaethau'r clwb rwan i’r dyfodol agos yw datblygu cyfleusterau Cae Clyd, er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y safonau sydd angen i chwarae yn nhrydedd adran pêl-droed Cymru, erbyn diwedd tymor nesa’.  Felly, y cyfraniad orau gallwn ei ofyn amdano gan y cefnogwyr a’r cwmnïau lleol yw i plîs parhau i gefnogi ni a choelio yn ein prosiect yma ym Mlaenau, sef i ddatblygu’r clwb a’i symud ymlaen.

Diolch yn fawr a phob lwc am weddill y tymor. “Rhowch hél iddyn nhw!”
PW
--------------------------

Ymddangosodd fersiwn fyrrach o'r uchod yn rhifyn Chwefror 2012.



4.9.16

Peldroed. 1977 i 1980

Ychydig o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau.
Parhau'r gyfres, yng ngofal Vivian Parry Williams (allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones).


1977-78
At y tymor 1977-78 penderfynodd y clwb gael tîm lleol eto gyda Billy Williams yn chwaraewr/reolwr a Glyn Jones yn gapten. Cynhaliwyd tîm wrth gefn hefyd. 

Dychwelodd Caernarfon i'r gynghrair ac ymunodd Conwy a Rhos Llandrillo, a gadawodd Bethesda.  Diweddwyd y cynllun Cynghrair Atodol.  Gwnaeth y tîm yn rhesymol dda a diweddu'r tymor ar ganol y tabl. 

Cawsant hwyl reit dda hefyd yn y cwpannau, a chyrraedd ffeinal Cwpan Alves. Rhoddwyd dwy gêm gwpan iddynt wedi canlyniadau cyfartal gan Brestatyn ac Abergele. 

Chwaraewyd cyfanrif o 40 gêm gan ennill deunaw ohonynt.  Bu Dafydd Jones, Y Bala a Steven Parry yn chwarae yn y gôl cyn i Penrhyn Jones, Llandudno ymuno am weddill y tymor.

Gareth Roberts (17), Richard Jones (18), Billy Williams (11) Glyn Davies a Carl Davies oedd y prif sgorwyr.  Chwaraeodd Steve Southall chwe gêm.


Cae Clyd. Llun- Paul W
1978-79
I raddau helaeth, yr un tîm oedd yn gweithredu ym 1978-79, gan ychwanegu David Hughes, Llandudno, (bachgen a chanddo gysylltiad â theulu Cemlyn, Stiniog), Dafydd Williams ac Ian Williams.  David Hughes, (Cemlyn) oedd y prif sgoriwr. 

Chwaraewyd 31 gêm, gan ennill deg.

1979-80
Lluchiwyd y polisi chwaraewyr lleol drwy'r ffenestr at dymor 1979-80, a'r prif chwaraewyr oedd Graham Jones, Peter Jackson, Terry Atkinson, Pete Davies, Alan Griffiths, Billy Williams (lleol), Tony Nabcurvis, Alan Wiliams, Mike McBurney a Nicky Hencher. Cafodd McBurney 26 gôl, Alan Williams 18, Billy Williams 13 a Hencher 10. 

Daeth llwyddiant y tro hwn fel huddugl i botes megis;  enillwyd y bencampwriaeth a hefyd Gwpan Alves a Chwpan Ganol Cymru.  Cyflenwyd y gamp hefyd o guro Porthmadog ddwywaith yn y Gynghrair.  Efallai y gellid dadlau nad oedd y clod arferol mewn ennill y bencampwriaeth yn y tymor hwn gan fod rhif y timau wedi gostwng i ddeg, ond ar y llaw arall, gellid hawlio bod y perfformiadau yn y cwpannau yn awgrymu y gallai tîm Graham Jones fod wedi gwneud yn dda mewn cwmni cryfach.
-------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2007.
Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


15.8.16

Clwb Peldroed y Blaenau

Adroddiad ar gêm gynta'r tymor, gan Ceri Roberts, cyd-reolwr y tîm cyntaf.

Gêm gynghrair, ail adran Cymru Alliance; Cae Clyd, 13eg Awst 2016.

Amaturiaid y Blaenau 0 - 2 Llannerchymedd

Ar ôl cyfnod cyn-tymor gwych a threfnus, roedd Yr Amaturiaid yn cychwyn y tymor a'u hysbryd yn uchel. Yr unig beth sydd wedi mynd yn eu erbyn hyd at y gêm agoriadol yw'r nifer o anafiadau o fewn y garfan, gyda Cai Hughes, Gareth Evans, Huw Parry, Gethin Jones, Tomos Osian a Rhodri Pugh i gyd allan.

Gêm gynta'r tymor yn lleoliad gorau'r gynhrair.

Cychwynodd Yr Amaturiaid yn dda, wrth hawlio'r meddiant, a chadw siâp yn wych. Gwelodd Geraint Edwards ei ergyd yn crafu y tu allan i'r postyn, a Sion Jones ei ergyd drydanol yn cael ei arbed gan y gôlgeidwad!

Cafodd Yr Amaturiaid eu cosbi 5 munud cyn hanner amser am fethu eu cyfleuoedd o flaen gôl, pan sgoriodd Llannerchymedd yn erbyn llif y chwarae.

Cychwynodd yr ail hanner rhywbeth tebyg i'r hanner cyntaf, gyda'r Amaturiaid yn pwyso, ond methu troi cyfleoedd yn goliau. Gwelodd Kieron Ellis, yr is-gapten, ei ergyd yn chwibanu heibio'r trawst, ac aeth ergyd Joe Dukes dros y trawst o 5 llath, pan y dyliai wedi taro cefn y rhwyd.

Aeth y gêm o afael Yr Amaturiaid pan aeth Llannerchymedd ar yr ymosod yn erbyn llif y chwarae unwaith eto ar ôl i Gavin Lewis, yn y gôl i'r Amaturiaid, fethu a chlirio'r peryg, a rhoi'r dasg syml i ymosodwr Llannerchymedd o roi y bêl yn nghefn y rhwyd. Gyda'r amser yn diflannu, welodd Bedwyr Jones ei ergyd yn cael ei arbed, ac ergyd Karl Kavanagh hefyd.

Dyna sut orffennodd y gêm, gyda'r Amaturiaid yn teimlo y dyliai nhw fod wedi curo ar ôl chwarae'n dda iawn, gyda'r dorf yn eu canmol hefyd. Dal i gredu 'gia, llawer o bwyntiau uchel heddiw!!

Seren Yr Amaturiaid = Bryn Humphreys.

Colli oedd hanes yr ail dîm hefyd, yn erbyn un o ffefrynau cynnar Cynghrair Gwynedd, Bodedern, o naw gôl i ddim. Curodd Bodedern gwrthwynebwyr y tîm cyntaf, Llannerchymedd, 5-1 mewn gêm gyfeillgar ychydig wythnosau yn ôl, sy'n profi fod yno dîm cryf iawn y tymor yma.
----------------------------

Ymddangosodd yr adroddiad a'r llun yn wreiddiol ar dudalen Gweplyfr/Facebook Clwb Peldroed Blaenau Ffestiniog. Mae'r dudalen yn Gymraeg, felly 'Hoffwch' er mwyn dilyn a chael adroddiadau difyr fel uchod ar eu gemau. 
Pob lwc i'r clwb am y tymor i ddod.


11.6.16

Peldroed. 1971 - 1973

Ychydig o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau. Parhau'r gyfres yng ngofal Vivian Parry Williams (Allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones).

1971-72 
Wedi iddynt benodi Peter Rowlands yn reolwr/chwaraewr ym 1971-72 cafodd clwb y Blaenau gyfnod eithriadol o lwyddiant.  Nid gormodiaith yw dweud mai y saithdegau oedd oes aur clwb pêl-droed y Blaenau.

Chwaraewyd 52 gêm yn cynnwys mwy nag erioed o gemau am gwpannau, sef saith ar hugain.  Rhoddwyd y gwaith o ddewis tîm yn gyfangwbl i Peter Rowlands, rheolwr. Dychwelodd Wilkinson i Stiniog o Skelmersdale ac fe gafodd dros 30 gôl.

Agorwyd ystafelloedd newid ar y cae ar ddechrau'r tymor hwn.  Chwaraeodd y tîm ugain gêm heb golli rhwng Ionawr a mis Mai.  Enillwyd y bencampwriaeth, Cwpan Gogledd Cymru, Cwpan Cookson a Chwpan Alves.

     Rhaglen y dydd yn dathlu agor yr ystafelloedd newid newydd     

Buwyd yn chwarae hyd ddiwedd Mai, ond ni chwaraewyd gêm gartref ar ôl Ebrill y 1af, Sadwrn y Pasg.  Yng Nghwpan Cymru chwaraewyd un gêm yn Lloegr, sef Whitchurch Allport.  Hwn oedd y tymor yr achosodd tîm pêl-droed y Blaenau i fwy nag erioed o dripiau gael eu trefnu.

Chwarewyd saith o gemau cyn-derfynol a therfynnol ar gae Bangor.  Wedi gêm gyfartal, enillwyd ar brotest yn erbyn Bethesda yng Nghwpan Alves. Collwyd 1-2 yn erbyn Ellesmere Port yng ngystadleuaeth Tlws Cymdeithas Pêl-droed Lloegr.  Bill Conlon oedd yn y gôl i'r Blaenau.

Dechreuwyd y tymor drwy sgorio 15 gôl yn y ddwy gêm gyntaf,- wyth gartref yn erbyn Caergybi a saith ym  Mhwllheli.  Y ddau brif sgoriwr oedd Wilkinson (36) a Sumner (24).  Sgoriwyd 45 gôl arall rhyngddynt gan Joe Duncan, Langstaffe ac Alan Windsor.

1972-73
Ym 1972-73 roedd y Blaenau yn chwarae yng nghystadlaethau Cwpan Lloegr a Thlws Cymdeithas Pêl-droed Lloegr.  Croesoswallt, eto fyth, a'u taflodd allan o Gwpan Lloegr, ac Accrington a'u curodd yn yr ornest arall.

Yn y gystadleuaeth am y Tlws roedd y Blaenau wedi curo Rhyl ac wedi ennill yn Hyde cyn cyfarfod ag Accrington.  Mewn gemau Cwpan Cymru curwyd Dyffryn Nantlle a'r Bermo cyn cael eu curo gan y Trallwng.

Enillwyd Cwpan Cookson a Chwpan Alves a cholli yn ffeinal Cwpan Gogledd Cymru i Ddinbych.

Chwaraewyd 21 o gemau am yr amrywiol gwpannau, ond nid aeth hynny â sylw y Blaenau oddi ar y gorchwyl o ennill pencampwriaeth y Gynghrair am yr ail dro yn olynol.  Mewn 51 o gemau ni sgoriwyd ond 35 gôl yn eu herbyn tra buont hwy sgorio 149.

Dim ond dwy gêm a gollwyd ar Gae Clyd.  Eddie Langstaffe (35), Bryn Jones (25) a Joe Duncan (15) oedd y prif sgorwyr.

Chwaraewyd gemau cwpan oddi cartref, bob un, ac fe chwaraewyd y rowndiau terfynol yn Ninbych, Porthmadog, Rhyl a Bangor.
--------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2006.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


9.3.16

Peldroed. 1964-65 a 1965-66

Ychydig o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau. 
Parhau'r gyfres yng ngofal Vivian Parry Williams.(Allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones)
 
Tymor 1964-65 

Roedd Eidalwr o'r enw Paolo Ponoginibio, o'r Bala ymysg chwaraewyr 1964-65.  Dywedid ei fod yn chwaraewr rhyng-genedlaethol ar raddfa ieuenctid.  Cafodd 17 gêm a phedair gôl.

Bryn Hughes, Dolwyddelan oedd y prif sgoriwr y tymor hwnnw, ac fe gafodd D.Glyn Pierce 14 gôl, a Gwyn Roberts (Dolwyddelan) naw.  Nid aed ar ôl y chwaraewyr proffesiynol o Lerpwl o gwbl gan fod polisi amatur wedi ei benderfynu arno.

Gydag amaturiaid eithriadol o ddawnus fel Glyn M.Owen, W.H.Jones, Bryn Hughes, John Lloyd Price, Ellis Roberts, Ken Roberts, D.Glyn Pierce, Gwyn Roberts, Eban Davies a Gwilym Ellis - disgwylid i'r Blaenau wneud yn dda yn y cystadlaethau am Gwpan Amatur Cymru a Chwpan Amatur y Gogledd.

Fel hyn y gwnaethant:

Cwpan Cymru - curo Llangefni, Porthaethwy, Bwcle a cholli i Dreffynnon.

Cwpan y Gogledd - curo Pwerdy Trawsfynnydd a cholli i'r Bala.
Siomedig, a dweud y lleiaf. Yr oedd colli yn y Bala gyda thîm a gynhwysai W.H.Jones, Ellis Roberts, Glyn Owen, J.Lloyd Price, Gwilyn Ellis, Ken Roberts, Glyn Pierce a Gwyn Roberts yn anghredadwy.

Wedi curo Llandudno yng Nghwpan Cymru ymddangosai fod gan y Blaenau gêm hawdd o'u blaenau yn y rownd nesaf yn erbyn Llangollen.  I ffwrdd oedd y gêm, ac fe ddaliwyd y Blaenau i gêm gyfartal.  Ond yr oedd y Blaenau yn arfer cael canlyniadau coch yn eu gemau Cwpan Cymru, a dyna a ddigwyddodd eto yn yr ail-chwarae yn erbyn Llangollen.  Collwyd 0-3!

Tila oedd canlyniadau y gemau cwpannau eraill hefyd ac yn y Gynghrair collwyd saith gêm gartref a deg oddi cartref.

Tîm y Blaenau yng Nghae Clyd, rywbryd yn y chwedegau. (O wefan Stiniog.com)

Tymor 1965-66

Un o nodweddion y tymor 1965-66 oedd y dyrfa fawr yng Nghae Clyd i weld Mel Charles a Colin Webster yn chwarae i Borthmadog.  Glynodd clwb y Blaenau at eu polisi amatur, ond fe benodwyd Billy Russell yn Rheolwr. Gadael wedi ychydig fisoedd oedd hanes Russell.

Un clwb oedd rhwng y Blaenau a bod yn waelod y tabl ar ddiwedd y tymor.  Glynodd Glyn Owen gyda'r Blaenau drwy'r tymor alaethus hwn, ac yr oedd nifer dda o dalentau amlwg yn y tîm, fel David W.Thomas, Glyn Pierce, John Price, Ken Roberts, Gwyn Roberts, Ellis Roberts.

Yr oedd deugain ar lyfrau'r clwb - yr oll wedi cael rhyw gymaint o gemau.  Bryn Hughes, eto, oedd y prif sgoriwr.  Enillwyd gêm Cwpan Amatur y Gogledd 4-2 yn Nolwyddelan, ond er bod gan y Blaenau Ellis Roberts, John Price a Bryn Hughes yn eu tîm, rhoes Dolwyddelan brotest i mewn oherwydd bod Keith Jones wedi chwarae yn y cwpan efo thîm arall yr un tymor.

Yr oedd Ifor Glyn Griffiths, Penmachno, yn chwarae i'r Blaenau tua'r adeg hynny ac yr oedd ef a Bryn Hughes ymysg sgorwyr y Blaenau yn Nolwyddelan.

Dau o gyn-chwaraewyr Porthmadog heblaw Glyn Owen a Glyn Pierce ar lyfrau y Blaenau y tymor hwnnw oedd William H.Jones a William Humphreys.  Nid oedd Prestatyn a Dolgellau yn y gynghrair y tymor hwn.
--------------------------------------

(llun y bêl gan Beca Elin)

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2006. 
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.

3.12.15

Peldroed. 1954-1958

Ychydig o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau. 
Parhau'r gyfres yng ngofal Vivian Parry Williams.(Allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones)

1954-55
Dychwelodd Meirion Roberts i'r tîm ym 1954-55, ond dim ond am y ddwy gêm gyntaf.  Cyrhaeddwyd ffeinal yr Her Gwpan a cholli i'r Rhyl.  Pwllheli, eto fyth, a daflodd y Blaenau o Gwpan Cymru.  Yr oedd y Blaenau wedi cael gêm rownd gyntaf y gystadleuaeth ym Methesda.  Pan ddaeth y gêm i ben yr oedd y sgôr yn 6-6, ond am rhyw reswm rhoddwyd y gêm i'r Blaenau heb ail-chwarae.  Y sgorwyr i Stiniog oedd David W.Thomas (2) Tony Roberts (2) Harvey Davies a Warren Gittins.

Blaenau Ffestiniog. 1955. Llun oddi ar wefan Stiniog.com

Yng ngêm gyntaf y tymor yr oedd Meirion Roberts a Joe Mullock yn cyd-chwarae.  Cafodd Meirion ddwy gôl i roi gêm gyfartal i'r Blaenau yn erbyn Boro United, ond Mullock, efo tair gôl, a aeth â'r sylw yn yr ail gêm yn Llanrwst, a dyna a fu diwedd gwasanaeth Meirion Roberts i Stiniog. Aeth Mullock ymlaen i sgorio 34 mewn 45 gêm.  Hwn oedd y tymor y gwelwyd yr asgellwr de talentog lleol, Wiliam Jones yn sgorio 28 o weithiau.  Creodd Wiliam record o goliau (84) o'r asgell dde.


Cafodd Stiniog 125 gôl yn ystod y tymor.  Roedd Tonfannau yn dal yn y Gynghrair ac fe gurasant y Blaenau ddwywaith.  Parhâi Ellis Jones ac Eddie Cole i chwarae i'r Blaenau a dyma dymor llawn cyfan o 43 gêm i'r bachgen lleol, David W. Thomas.  yn ystod y tymor yr ymddangosodd Llew Morris gyntaf - bachgen o sir Ddinbych a chanddo gysylltiadau lleol.


1955-56
Yn 1955-56 daeth Nantlle Vale i'r Gynghrair yn lle Tonfannau.  Dyma dymor euraid Joe Mullock.  Cafodd Joe 55 gôl, ac fe dorrodd yr asgellwr de, Wiliam Lones, ei record ei hun drwy sgorio 34 gôl o'r asgell.

Hwn oedd tymor llawn cyntaf y bachgen lleol Ronnie Jones.  Chwaraeodd 43 o gemau, a gwnaeth argraff fel chwaraewr meddylgar ac o ymddygiad delfrydol.  Yn dal efo'r Blaenau o'r hen griw yr oedd Ellis Jones a Ron James.  Cafodd Blaenau afael ar yr asgellwr chwith chwim o Borthmadog, Dafydd Glyn Pierce.

Yr oedd y pâr o asgellwyr, William Jones a D.G.Pierce yn creu problemau mawr i wrthwynebwyr y Blaenau. Sgoriodd y ddau rhyngddynt 46 gôl.  Naw gêm gollodd Blaenau drwy'r tymor.  Ni chafodd hyd yn oed Pwllheli a Phorthmadog guro Stiniog yn 1955-56.  Ond bu Cwpan Cymru yn fwgan unwaith eto.  Sgoriwyd 129 gôl y tymor hwn - pymtheg ohonynt yn yr un gêm yn erbyn y Rhyl.


1956-57
Tymor 1956-57 oedd y cyntaf i Stiniog gael chwarae ar eu cae newydd yng Nghae Clyd.  Symudwyd yno o Gae Haygarth a oedd yn dueddol iawn o fynd yn un cawdal o fwd.  Roedd gan glwb pêl-droed Porthmadog luniau un o furiau eu hystafelloedd newid yn portreadu a gor-liwio cyflwr gwael cae Haygarth.  Hwyl oedd y cyfan, mae'n siwr, ond nid oedd cefnogwyr Stiniog yn gweld yr ochr ddigrif i'r mater.

Y gêm gyntaf ar y cae newydd oedd Blaenau v Llanrwst, ac enillodd Stiniog 4-2.  Peter Holmes, Blaenau oedd y cyntaf i sgorio ar Gae Clyd.  Collodd Stiniog wasanaeth Fred Corkish yn 1956-57.  Tymor sâl a fu hwn i'r Blaenau.  Yr oeddynt yn weddol dda gartref ond yr oedd yn chwith iawn eu gweld yn perfformio oddi cartref.  Dim ond mewn tair cystadleuaeth cwpannau yr oeddynt yn cymryd rhan, Cwpan Cymru, Her Gwpan a Chwpan Cookson, ac yr oeddynt allan ohonynt yn gynnar iawn.

Llwyddasant i sgorio 107 gôl ond bu bron iddynt adael i dimau eraill sgorio hynny yn eu herbyn. Y prif sgorwyr oedd Eccleson (21), Ron James (18), D.G.Pierce (14), William Jones (11) ac R.T.Jones (11).  Cafodd Geraint Vaughan Jones dair gôl mewn un gêm ddwywaith ar ôl eu gilydd.


1957-58
Yr oedd tymor 1957-58 yn salach fyth. Hyn er i'r Blaenau gael gwasanaeth Jack Robinson - y gellid dadlau mai ef a fu'r dalent fwyaf erioed ar lyfrau Stiniog.  Bu Mullock yn y tîm bedair gwaith ond ni chafodd gôl.  Cymerwyd ei le gan Bradley, Finney, Lane, J.D.Hughes, Gwilym Griffiths.

Ni fu gan Blaenau fawr erioed gymaint o chwaraewyr ar y llyfrau - 51 i gyd. Yn y gôl bu David Neville Davies, Tom Jones.  Bu Orig Williams yn y tîm saith gwaith.  Wrth edrych yn ôl ar y rhestri gwelir bod chwaraewyr medrus iawn ynddi, ond nid oedd obaith gyda'r fath gyfnewidiadau a ddigwyddai.

Er hyn oll, nid aeth y Blaenau i waelodion y tabl - yr oedd pump tîm odanynt.
----------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifynnau Gorffennaf  a Medi 2005
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.


22.8.15

Peldroed- Cae Clyd

Pumed ran y gyfres am 'hanes y bêldroed yn y Blaenau'.

Pan oedd golwg am gae da i'w gael yng Nghae Clyd, sefydlwyd Pwyllgor Apêl ym Medi 1955 i gael lloches ar gyfer y cefnogwyr yno, ac ystafelloedd newid. (Ar y 14eg o Awst, 1971 yr agorwyd yr ystafelloedd newid yn swyddogol).

Roedd sgerbwd adeilad y stesion fain ar gael, ond roedd angen ei ddatgymalu, ei adnewyddu a'i ail-adeiladu ar ei safle newydd, a'r costau o wneud hynny'n uchel.  Rhaid oedd cychwyn cronfa i godi arian ar gyfer y gwaith, ac wedi cyhoeddi'r apêl, anfonwyd copïau i sawl rhan o'r byd, ac at holl glybiau Cynghrair y Gogledd.

Siomedig oedd nifer yr atebion o dramor, er i ambell gyfraniad sylweddol gael ei dderbyn, megis John Humphreys (Rhedegydd gynt) a gasglodd gyfatebol i £35 mewn doleri mewn Londri yn Washington.  Cafwyd £30 gan Dr Arthur Maddock Jones, Llandudno.  Daeth cyfanswm o £439.11.8 gan 275 o bobl, a'r symiau yn amrywio o dair ceiniog gan weddw leol i £10, Wedi cynnal dawns, raffl ac ati daeth cyfanswm yr arian yn y gronfa i £918.

Bu tri thrysorydd yn cadw'r cyfrifon hyn dros gyfnod y casglu, Ivor LL Thomas, R.E.Davies a J.T.Jones. Yr ysgrifennydd oedd Beryl Jones, ac M.T.Pritchard a benodwyd yn bensaer ar y cynllun o ail-godi'r gysgodfan.  Roedd 64 ar y pwyllgor apêl ar y dechrau, ond fel y dengys y cofnod - "ciliodd llawer."

Mae'n debyg mai yn 1958 y cwblhawyd y gwaith o godi'r lloches, wrth weld nodiadau Ernest o hanes 'Swper Dathlu Lloches Stesion Fain'.  Gwnaed y sylw ar y dechrau mai John Jones Roberts a John Humphreys oedd wedi mynd i'w pocedi i dalu am y swper!  Cafwyd areithiau pwrpasol gan John Humphreys a John J.Robers, a dalodd deyrnged i waith Humphreys. Ategodd Elias Jones mai hwn oedd y pwyllgor gorau fu arno erioed. Ymysg  gweddill o ffyddloniaid y pwyllgor roedd Alwyn Jones, Beryl Jones, Mrs William Owen, John Ellis Edwards, Mrs Andrew Jones, Mrs Lewis Lloyd Jones, Mrs Eluned Jones, Mrs Kitty Williams a llawer mwy.

Ar Bamffled y pwyllgor Apêl cafwyd dau englyn gan R.J.Roberts (Tan'rallt). Dyma un ohonynt:
Elw a mwy, 'rôl treuliau mawr -ddaw o'ch rhan
  Boed eich rhodd yn werthfawr;
O'i anfon cawn lwydd enfawr,
A chawn faes - diolch yn fawr.
Agorwyd maes Cae Clyd yn swyddogol ar Awst 18fed 1956, gyda'r 'cic-off' i'w wneud gan Mrs K.W.Jones-Roberts, gwraig llywydd y clwb.

Llanrwst oedd y gwthwynebwyr ar y diwrnod pwysig hwnnw yn hanes clwb pêl-droed y 'Town Tîm' .  Swyddogion eraill y clwb am 1956-57 oedd: Swyddog Meddygol -Dr D.Whitaker; Cadeirydd - R.G.Richards;  Is-Gadeirydd - Vernon Davies;  Ysgrifennydd - Alwyn Jones; Is-ysgrifennydd - Gwilym Morgan;  Trysorydd - Harry Williams;  Rheolwr-  Orthin Roberts,

Tîm y Blaenau ar y dyddiad hwn oedd Ifan Wyn Jones, Ron James, E.Jones, Tony Roberts, D.W.Thomas, Llew Morris, Wm.Jones, Peter Holmes, R.T.Jones, Frank Eccleson, G.Jones.

Cae Clyd heddiw. Oes cae peldroed mewn lleoliad gwell yng Nghymru dybed? Mae'r stand o'r stesion fain bellach wedi dychwelyd i'w wreiddiau rheilffordd, ar lein bach Ucheldir Cymru. Llun PW


----------------------
Paratowyd y gyfres yn wreiddiol ar gyfer Llafar Bro o 2004 hyd 2007 gan Vivian Parry Williams. 
Ymddangosodd y bennod yma yn rhifyn Ionawr 2005.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.