Pan oedd golwg am gae da i'w gael yng Nghae Clyd, sefydlwyd Pwyllgor Apêl ym Medi 1955 i gael lloches ar gyfer y cefnogwyr yno, ac ystafelloedd newid. (Ar y 14eg o Awst, 1971 yr agorwyd yr ystafelloedd newid yn swyddogol).
Roedd sgerbwd adeilad y stesion fain ar gael, ond roedd angen ei ddatgymalu, ei adnewyddu a'i ail-adeiladu ar ei safle newydd, a'r costau o wneud hynny'n uchel. Rhaid oedd cychwyn cronfa i godi arian ar gyfer y gwaith, ac wedi cyhoeddi'r apêl, anfonwyd copïau i sawl rhan o'r byd, ac at holl glybiau Cynghrair y Gogledd.
Siomedig oedd nifer yr atebion o dramor, er i ambell gyfraniad sylweddol gael ei dderbyn, megis John Humphreys (Rhedegydd gynt) a gasglodd gyfatebol i £35 mewn doleri mewn Londri yn Washington. Cafwyd £30 gan Dr Arthur Maddock Jones, Llandudno. Daeth cyfanswm o £439.11.8 gan 275 o bobl, a'r symiau yn amrywio o dair ceiniog gan weddw leol i £10, Wedi cynnal dawns, raffl ac ati daeth cyfanswm yr arian yn y gronfa i £918.
Bu tri thrysorydd yn cadw'r cyfrifon hyn dros gyfnod y casglu, Ivor LL Thomas, R.E.Davies a J.T.Jones. Yr ysgrifennydd oedd Beryl Jones, ac M.T.Pritchard a benodwyd yn bensaer ar y cynllun o ail-godi'r gysgodfan. Roedd 64 ar y pwyllgor apêl ar y dechrau, ond fel y dengys y cofnod - "ciliodd llawer."
Mae'n debyg mai yn 1958 y cwblhawyd y gwaith o godi'r lloches, wrth weld nodiadau Ernest o hanes 'Swper Dathlu Lloches Stesion Fain'. Gwnaed y sylw ar y dechrau mai John Jones Roberts a John Humphreys oedd wedi mynd i'w pocedi i dalu am y swper! Cafwyd areithiau pwrpasol gan John Humphreys a John J.Robers, a dalodd deyrnged i waith Humphreys. Ategodd Elias Jones mai hwn oedd y pwyllgor gorau fu arno erioed. Ymysg gweddill o ffyddloniaid y pwyllgor roedd Alwyn Jones, Beryl Jones, Mrs William Owen, John Ellis Edwards, Mrs Andrew Jones, Mrs Lewis Lloyd Jones, Mrs Eluned Jones, Mrs Kitty Williams a llawer mwy.
Ar Bamffled y pwyllgor Apêl cafwyd dau englyn gan R.J.Roberts (Tan'rallt). Dyma un ohonynt:
Elw a mwy, 'rôl treuliau mawr -ddaw o'ch rhanAgorwyd maes Cae Clyd yn swyddogol ar Awst 18fed 1956, gyda'r 'cic-off' i'w wneud gan Mrs K.W.Jones-Roberts, gwraig llywydd y clwb.
Boed eich rhodd yn werthfawr;
O'i anfon cawn lwydd enfawr,
A chawn faes - diolch yn fawr.
Llanrwst oedd y gwthwynebwyr ar y diwrnod pwysig hwnnw yn hanes clwb pêl-droed y 'Town Tîm' . Swyddogion eraill y clwb am 1956-57 oedd: Swyddog Meddygol -Dr D.Whitaker; Cadeirydd - R.G.Richards; Is-Gadeirydd - Vernon Davies; Ysgrifennydd - Alwyn Jones; Is-ysgrifennydd - Gwilym Morgan; Trysorydd - Harry Williams; Rheolwr- Orthin Roberts,
Tîm y Blaenau ar y dyddiad hwn oedd Ifan Wyn Jones, Ron James, E.Jones, Tony Roberts, D.W.Thomas, Llew Morris, Wm.Jones, Peter Holmes, R.T.Jones, Frank Eccleson, G.Jones.
![]() |
Cae Clyd heddiw. Oes cae peldroed mewn lleoliad gwell yng Nghymru dybed? Mae'r stand o'r stesion fain bellach wedi dychwelyd i'w wreiddiau rheilffordd, ar lein bach Ucheldir Cymru. Llun PW |
----------------------
Paratowyd y gyfres yn wreiddiol ar gyfer Llafar Bro o 2004 hyd 2007 gan Vivian Parry Williams.
Ymddangosodd y bennod yma yn rhifyn Ionawr 2005.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon