Showing posts with label apêl. Show all posts
Showing posts with label apêl. Show all posts

27.5.25

Llongyfarchiadau Seren!

Braf yw cael cyhoeddi ein bod wedi ennill gwobr CLAS Cymru (Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol). Gwobr yw hon wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru am lunio gardd gymunedol ragorol gan wneud defnydd da o lefydd gwyrdd. Mae’r cydweithio rhwng Seren a’r Dref Werdd wedi bod yn arbennig er mwyn cyrraedd y safon yma.

 

Yn rhifyn Ionawr, roeddem yn sôn am greu gwlybdir yng Ngerddi ‘Stiniog gan ddefnyddio coeden fawr oedd wedi syrthio yn y gerddi yn dilyn tywydd gaeafol. Wel, os ewch heibio'r Gerddi rŵan, fe welwch fod y llyn bach yn llawn dŵr a bod y planciau wedi eu defnyddio i greu cuddfan gwylio adar. Mae ein diolch yn fawr i Hefin o'r Dref Werdd am dorri'r goeden ddisgynnodd yn blanciau ar gyfer y prosiect hwn ac roedd hi'n rhyfeddol i weld ei grefftwaith. Diolch o galon i Meg a Hefin o'r Dref Werdd am y gefnogaeth.


Bechgyn lleol yn anelu at y Brig
Yn ystod wythnos gyntaf mis Mai, bu chwe bachgen ifanc (5 ohonynt o ardal 'Stiniog) yn ceisio taclo Her 4000 Cairngorm, a hynny er mwyn codi arian i Seren. Mae'r her yn cynnwys dringo y PUM mynydd sydd dros 4000 troedfedd o fewn Parc Cenedlaethol y Cairngorm (y parc cenedlaethol mwyaf yn ynysoedd Prydain) - a hynny o fewn 24 awr! Mae'r daith o gwmpas 22 milltir o hyd, gyda tua 2400 metr o uchder ymysg golygfeydd ysblennydd a thir heriol.

Maent o'r farn bod Seren yn darparu gwasanaethau a chefnogaeth hanfodol i oedolion sydd ac anghenion arbennig, gan eu helpu i fyw bywydau cyflawn ac annibynnol.

[Erbyn hyn -diwedd Mai- mae'r apêl JustGiving wedi codi mwy na tair gwaith y nod gwreiddiol o £1000. Gwych!]

Y chwech sy'n drigo yw: Sion Jones, Chris Baker, Cybi Williams, Tomos Pugh ac Elgan a Garmon Lewis. Diolch am eu cefnogaeth! 

Cefnogaeth Cwmni ADRA – Prosiect Budd Cymdeithasol
Yn dilyn cais llwyddiannus cafodd Hefin, Gwyndaf a Gethin fynd gyda un o’n staff, Joss i dderbyn offer fel rhodd gan gwmni ADRA.    

Llinos Bracegirdle sydd yn cydlynu’r prosiect ar ran ADRA, er mwyn dangos brwdfrydedd eu cwmni i  gefnogi'r gymuned leol.

Cafwyd sawl darn gwerthfawr o offer gwerthfawr ganddynt a fydd o gymorth inni mewn sawl i leoliad o fewn Seren. Byddwn yn rhagweld eu defnyddio wrth adeiladau a thrwsio dodrefn yn Harods, gwaith Cynnal a Chadw cyffredinol ar draws holl unedau'r cwmni a hefyd gwaith bob dydd yn y Gerddi. Mae hyn yn arbed cost sylweddol inni fel cwmni bach sydd a sawl lleoliad i’w gynnal.
Mae’n rhodd werthfawr iawn a diolch o galon i gwmni ADRA am roi cefnogaeth i’n cais.

- - - - - -

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025


17.5.23

Apêl Daeargryn

Roedd mis Chwefror yn fis ofnadwy i drigolion Twrci a Syria, gyda’r daeargryn a darodd y gwledydd hynny yn lladd mwy na hanner can mil ac yn gadael miliwn a hanner yn ddigartref. Hon oedd y ddaeargryn waethaf yn Nhwrci ers mil a hanner o flynyddoedd, a'r fwyaf yn Syria ers dwy ganrif. Amcangyfrifir fod cost y difrod yn fwy na chan biliwn o ddoleri. 

Mewn ymdrech i godi arian at yr ymgyrch fyd-eang i gynorthwyo’r dioddefwyr, cynhaliwyd bore coffi yn Nhŷ Coffi Antur Stiniog ar Ddydd Sul y 26ain o Fawrth. Dechreuwyd am 11 y bore ac aethpwyd ymlaen tan 3 y pnawn. Roedd pobl o bob oed yn bresennol, yn drigolion lleol ac yn ymwelwyr, gyda bwrlwm bywiocaol bro i’w deimlo, ac awyrgylch hyfryd lond y lle. Mae hi’n codi calon yn wir gweld pobl yn dod ynghyd i godi arian at achos da fel hyn, yn anrhydeddu hen draddodiad Cymreig o estyn dwylo dros y môr, ac yn dangos y dref mewn golau hynod gadarnhaol i ymwelwyr hefyd.

Dywedodd un o staff y Tŷ Coffi:

“Roedd hi’n ddiwrnod anhygoel ac yn werthfawr dros ben gweld pobl yn mwynhau eu hunain ac yn barod i gefnogi’r apêl. Roedden nhw’n hael iawn. Dw i’n synnu faint o arian a godwyd.”
Ar adeg mynd i’r wasg, roedd £3,200 wedi ei godi, a mwy o arian eto i gyrraedd. Cafwyd tombola, raffl a chacennau hyfryd. Roedd adloniant byw gan Hanna Seirian a’r Parchedig Wynne Roberts - Elvis Cymru. Bu Ken Parry yn paentio wynebau’r plantos – ac wynebau rhai oedolion hefyd! Ac at hyn, cafodd un o gynghorwyr y fro, Elfed Wyn ap Elwyn, ei noddi i gael ei goesau wedi eu cwyro (ond nid ei locsyn, afraid dweud!) 


Un o’r rhai a oedd yno ar y diwrnod oedd Andrew Cockerill o’r Manod, a ddywedodd: “Roedd y diwrnod yn ffantastig. Roedd o’n braf gweld cymaint o bobl leol yma i gefnogi’r achos.” 

Diolch yn neilltuol i’r canlynol:

- Wynne Roberts (Elvis)
- Y chwiorydd Hanna a Gwawr Evans – y naill am ganu a’r llall am helpu’n fedrus iawn efo’r tombola.
- David Williams, Llan.
- Ken Parry am ei fedrau arlunio
- Gai Toms, am drin y system sain.
- Gwenlli, am greu fideo i’w roi ar sianel ‘BROcast Ffestiniog’, i gadw cofnod o’r achlysur i’r oesoedd a ddêl.
- Tŷ Coffi Antur Stiniog, am gynnal y digwyddiad.
- Y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn am fynd drwy’r boen o gael ei gwyro
- Non Rowlands – am wneud y cwyro (gweler uchod).
- I bawb a gyfrannodd pethau at y raffl.

- - - - - - -

Ymdddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Ebrill 2023


20.10.22

Mae Llafar Bro angen eich help!

Mae Geraint, ein dosbarthwr, yn camu i lawr ar ôl rhifyn Tachwedd, felly rydym yn chwilio am rywun sy'n fodlon sefyll yn y bwlch.


 

Be mae'r job yn olygu?
Mae Gwasg Carreg Gwalch yn Llanrwst yn argraffu 800 copi bob mis, ac mae gwirfoddolwyr Llafar Bro wedyn yn eu danfon o ddrws i ddrws, neu i'r siopau.

Gwaith y dosbarthwr ydi derbyn yr 800 copi (mae gennym rywun sy'n medu eu cario i'r Blaenau bob mis, ond gall y dosbarthwr newydd eu nôl os yn fwy cyfleus) a'u rhannu nhw yn fwndeli i'w rhoi i'r dosbarthwyr cymunedol, er enghraifft pecyn o 100 i fan hyn a bwndal o 30 i fan draw, ac yn y blaen. Mae'r dosbarthwyr lleol yn dod i fan canolog ar y noson ddosbarthu bob mis i nôl eu pecyn.

Hefyd, mae angen mynd a bwndeli i wyth neu naw o siopau lleol ar y diwrnod dosbarthu neu'r diwrnod canlynol, a derbyn y pres gwerthiant am y rhifyn blaenorol (gan basio hwnnw ymlaen i'n trysorydd efo manylion syml lle/faint).

Ar hyn o bryd, mae Llafar Bro ar werth hefyd ym Mhorthmadog, Penrhyn a'r Bala, a gall y pwyllgor helpu'r dosbarthwr newydd i ganfod gwirfoddolwyr i ddanfon i'r rheiny neu gall y dosbarthwr wneud hynny ei hun os yw'n hwylus.

Fel pob joban arall yn Llafar Bro, GWIRFODDOL ydi'r gwaith hwn, llafur cariad, a'r wobr ydi'r balchder o gyfrannu at barhad ein papur bro.

OND, mae costau tanwydd ar gael i'r dosbarthwr.

Cysylltwch os ydych yn fodlon helpu i sicrhau dyfodol Llafar Bro. Mae cyfle i gydweithio efo Geraint efo rhifyn Tachwedd, er mwyn cael blas ar y gwaith.

Diolch bawb.

- - - - 

Efallai y cofiwch hefyd i ni wneud apêl am Swyddog Codi Arian, nôl ar ddechrau'r flwyddyn; mae'r swyddo honno dal yn wag  :(

Be' amdani? Fedrwch chi roi awr neu ddwy y mis i sicrhau dyfodol ein papur Cymraeg lleol?

 

21.8.21

Balŵn Blwm

Colofn olygyddol rhifyn Gorffennaf/Awst 2021

Mae llawer wedi’i ddweud am berfformiad Cymru yn yr Ewros, ac er nad oes gwadu eu bod yn salach tîm na Denmarc yn eu gêm olaf, eto’i gyd roedd yn gamp arbennig iddyn nhw gyrraedd mor bell yn y gystadleuaeth o ystyried yr amodau teithio fu’n rhaid dioddef. Does yna ddim cywilydd mewn mynd allan ‘run pryd a chewri fel Portiwgal, yr Iseldiroedd, a Ffrainc, a gallwn edrych ymlaen rwan at gemau rhagbrofol Cwpan y Byd ym mis Medi; pawb at y peth y bo! 

Elfen gododd galon yn arw iawn yn ystod yr Ewros oedd anogaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar ddisgyblion Cymru i ganu Hen Wlad Fy Nhadau ar ddydd Gwener y 25ain o Fehefin. Bu’r ymateb yn anhygoel gan ysgolion cynradd ac uwchradd trwy Gymru benbaladr; o’r Fro Gymraeg i’r Cymoedd, ac i Glawdd Offa. Roedd llywodraeth San Steffan, ‘da chi’n gweld, wedi bod yn hwrjio syniad chwerthinllyd ar gyfer yr un dyddiad, sef diwrnod ‘un brydain, un genedl’ ac wedi gofyn i ysgolion ganu cân newydd efo jac-yr-undeb i ysgogi balchder brydeinig! Aeth y syniad lawr fel balŵn blwm yng Nghymru a’r Alban! Diolch i athrawon a disgyblion Bro Ffestiniog a Chymru am dynnu deigryn i lygad a chodi calon efo ffilmiau ohonyn nhw’n bloeddio canu ein hanthem genedlaethol ni yn falch efo’r ddraig goch. Arbennig.

Llongyfarchiadau hefyd, a diolch i’r Cynghorydd Glyn Daniels -swyddog hysbysebion Llafar Bro- ar ei gynnig blaengar gerbron y cyngor sir yn ddiweddar, y dylid codi dwy bunt ar bawb sydd am gael mynd i ben yr Wyddfa. Syniad ardderchog fyddai wedi dod a miliwn o bunnau i’r economi leol. Tydi’r Parc Cenedlaethol ddim yn cefnogi’r syniad, ond o leia’ bu rhywfaint o drafod ar faterion gor-dwristiaeth yn Eryri yn sgîl y cynnig.

Dwi’n edrych ymlaen yn arw at haf eleni, yn fwy na’r arfer efallai, ar ôl yr holl gyfyngiadau ers llynedd. Does dim cynlluniau i deithio ymhell, dim ond crwydro’r filltir sgwâr a rhoi traed i fyny yn yr ardd. Os gawn ni dywydd da!

Gobeithiaf fod rhywbeth o fewn cloriau’r rhifyn yma fydd o ddiddordeb i bawb. Mae’n bleser a braint cael hel deunydd at ei gilydd efo gohebwyr a cholofnwyr Llafar Bro, ond dwi braidd yn bryderus am y dyfodol os dwi’n onest. Mae’r gwerthiant wedi gostwng ac mae wedi mynd yn anodd iawn cael pobl i yrru cyfarchion i golofnau’r ardaloedd, er annog, cymell, ac atgoffa ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Gadewch i ni wybod sut fedrwn wella’r ddarpariaeth gyfeillion ac mi geisiwn, gyda’n gilydd, gyhoeddi papur o safon am flynyddoedd eto i ddod. Diolch am eich cefnogaeth; daliwn i gredu!

Paul Williams

6.8.21

Apêl

Mae’r deunaw mis diwetha, diolch i’r Covid, wedi drysu patrwm bywyd y rhan fwya ohonon ni, a go brin y cawn ni weld pob dim yn ôl fel ag yr oedd o fyth eto. Yn reit siŵr, mi fydd raid gweithio’n galed i godi’r gwahanol gymdeithasau yn ôl ar eu traed - y Gymdeithas Hanes a’r Fainc Sglodion, Merched y Wawr a’r W.I, yn ogystal â sawl cymdeithas arall. A be am ddyfodol Band yr Oakeley a phob un o’n corau lleol ni? Oes, mae lle i bryderu.

Mae ‘Llafar Bro’ hefyd wedi bod mewn peryg o fynd o dan y don.  

Dychmygwch mor anodd fu hi i gynhyrchu’r papur o fis i fis - mor anodd i’r gwahanol ohebwyr fynd ati i hel newyddion, a hynny pan oedd pawb ohonom yn gorfod cadw yn ein tai, a phob ysgol ar gau. 


 

Dychmygwch hefyd yr anhawster o rannu copïau o gwmpas y siopau ac o dŷ i dŷ. Ond fe ddoed i ben â hi’n rhyfeddol ac fe lwyddwyd i gynhyrchu pob un rhifyn - ambell un, o reidrwydd, yn ddigidol, - ac i’w gael allan wedyn i chi’r darllenwyr, hyd yn oed pan oedd y sefyllfa ar ei gwaethaf. 

Fu petha ddim yn hawdd o bell ffordd gan mai criw bach o wirfoddolwyr sydd wrthi o fis i fis. A dyna pam y gwnaed apêl ddiwedd 2020, yn rhifyn Rhagfyr. Apêl oedd honno nid yn unig am fwy o brynwyr, ond hefyd am fwy ohonoch i hyrwyddo’r gwerthiant o fis i fis trwy wirfoddoli i ddosbarthu’r papur o fewn eich stryd neu’ch ardal fach eich hun. Gwaith hanner awr ar y mwya, bob mis. 

Ond siomedig iawn fu’r ymateb hyd yma, a dyna pam ein bod ni’n gorfod gneud yr un apêl eto fyth - Os ydach chi’n teimlo ar eich calon fel helpu, yna be am gysylltu efo Shiân* ein hysgrifenyddes neu Vivian* yr is-ysgrifennydd, i roi eich enw ymlaen fel dosbarthydd i’ch cymdogion agos a thrwy hynny neud eich rhan i sicrhau dyfodol ‘Llafar Bro’ am flynyddoedd eto i ddod.

*(manylion cyswllt)

19.3.20

Prysurdeb ar Gae Clyd


Mae aelodau a chefnogwyr Clwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn gwneud gwellianau angenrheidiol yng Nghae Clyd.

Mae'n rhan o'r ymdrech i godi cae mwyaf trawiadol Cymru i safonau haen 3 y Gymdeithas Bêl-droed.

Cafwyd hwb yn ddiweddar gan Gyngor Tref Ffestiniog  i’r ymdrech i godi arian i osod seddi ar gyfer y cefnogwyr.


1. Cadeirydd y Cyngor Tref a Llywydd y Clwb
Dadorchuddwyd arwydd noddi newydd ar ochr y cae, cyn eu gêm gwpan yn erbyn Mynydd Llandegai ym mis Chwefror, gyda’r Cynghorydd Glyn Daniels yn cynrychioli’r cyngor a Mici Plwm, y llywydd yno ar ran y clwb.


Yn anffodus, colli fu hanes y tîm ar y diwrnod, mewn gêm galed, dan amodau chwarae anodd iawn. Ar ôl bore sych, daeth y glaw wrth i’r i’r gêm gychwyn. Er y gwledd o goliau, roedd yn 5-5 ar ddiwedd y amser ychwanegol, a bu’n rhaid chwarae’r amser ychwanegol ar gae mwdlyd trwm, a cholli o 5-6 fu’r hanes.

2. Chwaraewyr a swyddogion Cae Clyd.
3. Rhai o'r cefnogwyr oedd wedi troi allan ar ddiwrnod gwlyb iawn!

4. Niwl, glaw, mwd...

Diweddariad gan Andrew Roberts:

Seddi.
Mae’r clwb wedi prynu 88 o seddi i lenwi'r eisteddle erbyn hyn. Mi fydd angen cael 12 sedd arall i gyrraedd y cant angenrheidiol, ac rydym yn y broses o'u harchebu ac mi fydd yn rhaid i ni gael hyd i rwbath fel lloches bws i'w gosod nhw ynddo.

Gyda llaw, mae'r clwb yn chwilio am noddwyr ar gyfer y seddi hyn. Mae manylion ar y dudalen facebook.

Rydym hefyd yn chwilio am feinciau ychwanegol ar gyfer yr ystafelloedd newid cyn gynted a phosib.

Llwybr caled.
Mae'r criw wrthi'n gosod y sylfaen yn barod i’r concrid. Mae'r rhediad o flaen y stand yn cael ei wneud yn gyntaf, cyn gwneud y darn tu ol i’r gôl.

Mae'r canllaw newydd (llun 5, uchod) wedi ei osod o flaen y stand -ac yn edrych yn dda- gyda chymorth ariannol gan gwmni Magnox.

Cyfleusterau.
Diolch i gwmni D & C Jones am gyfrannu caban ar gyfer hyn. Mi fydd angen plymio pan ddaw.

Diolch i’r rhai sydd wedi helpu hyd yma.
Heb yr elfen llafur yma mi fasa’r tasgau uchod yn amhosib.

Os ydym am gyrraedd y nod erbyn diwedd Ebrill, mae angen hwb arall a help llaw gan bwy bynnag sydd ar gael dros y penwythnos yma. Mae angen clirio llanast i sgip a help llaw hefo’r gwaith rhawio, ac amryw dasg arall. Diolch.

Lluniau:
> 1,2,3 Alwyn Jones
> 4 Paul W
> 5 o dudalen FB y Clwb

26.9.19

Tîm sy'n dod o'r graig

Apêl am ‘gefnogaeth’ gan lywydd Clwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau
Heb os rwy’n tybio fod pawb yn y Blaenau a’r cylch wedi clwad am dymor llwyddianus CP yr Amaturiaid cyn yr haf – nid yn unig wedi gorffen y tymor yn yr ail safle yn y gynghrair, ond hefyd yn ennill dyrchafiad haeddianol i’r Adran Gyntaf.

Ma’ hi fel ‘stalwm yn y dref! Ysbrydion Wil ‘bach’ a Dei Dw, Crymei a Tibbott ac Ishmael yn cyd-gerdded y strydoedd, i gyd yn trafod pêl-droed, ac yn awyddus i gael gair tawel yng nghlust Ceri (Roberts) y rheolwr er mwyn dymuno’n dda iddo fo a’r hogia!

Ymlaen a ni! Ewch i’n tudalen Gweplyfr/Facebook am fanylion y gemau sy'n dod.

Gan fod yr Amaturiaid wedi codi i gynghrair uwch, mae’n orfodaeth arnom i wneud cryn dipyn o wellianau i Gae Clyd, gwaith sydd yn hynod gostus. Mae Cyngor Tref Ffestiniog a nifer o gwmniau busnes y dref eisioes wedi bod yn hynod o hael gyda rhoddion arianol caredig tuag at y gwellianau sydd yn yr arfaeth. Dewch draw i weld gêm ac i weld y gwelliannau hefyd.

Cae Clyd: cae pêl-droed mwyaf trawiadol Cymru? Llun- Paul W. Awst 2019
Hoffwn ar ran yr Amaturiaid i apelio, nid yn unig am gefnogaeth byddarol o gwmpas Cae Clyd, ond hefyd mewn rhoddion ariannol er parhad y clwb. Felly os yn berchen cwmni busnas, yn gefnogwr brwd, yn aelod o glwb neu asinataeth ac yn awyddus i rhoi cefnogaeth, dowch i gysylltiad hefo swyddogion y clwb ar unwaith.

Clwb Pêl-droed trigolion tref Blaenau Ffestiniog a’r cylch ydi’r Amaturiaid ac felly fe fydd eich cefnogaeth chi yn gymorth gwerth chweil i’w lwyddiant yn ystod y tymor nesaf ac i’r dyfodol.
Diolch yn fawr.
Mici Plwm

Tymor 2019-20
Mae'r tymor newydd wedi hen gychwyn bellach. Pob lwc i’r hogia yn Adran 1 y gynghrair undebol. Dyma drydedd haen pêl-droed yng Nghymru, ac mae’r Chwarelwyr yn amlwg yn anelu at ddringo’n uwch eto yn y dyfodol.

Mae llawer o’r hogiau lleol oedd yn chwarae i dimau eraill y tymor d’wytha wedi arwyddo i Stiniog eleni, a’r dyfodol yn gyffrous iawn! Cofiwch gefnogi ar Gae Clyd eto eleni, neu ymunwch yn yr hwyl os na fuoch chi ers talwm.

Torf Cae Clyd oedd yr uchaf yn y gynghrair y tymor dwytha, ac mae’r tîm yn gwerthfawrogi’n fawr pan mae cefnogaeth dda yn troi allan i’w hannog.

Mae Gwefan Llafar Bro yn falch o noddi un o'r chwaraewyr eto eleni. Amdani Bryn Humphreys!


Prosiect Barddoniaeth a Phêl-droed Ysgol y Moelwyn
Bydd cerddi gan gefnogwyr ifanc Clwb Pêl-droed y Blaenau yn cael eu gosod o amgylch Cae Clyd yn fuan. Fe gyfansoddwyd y cerddi gan fechgyn blwyddyn 10 Ysgol y Moelwyn mewn gweithdai barddoniaeth gyda Rhys Iorwerth a Dewi Prysor yn ddiweddar.

Roedd y prosiect yn rhan o gynllun Llên Pawb, Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Eryri. Fe luniodd y bechgyn naw cerdd fer i gyd, yn eu mysg mae cerddi sy’n trafod y cae, y chwaraewyr, y cefnogwyr, y gelynion ac hefyd athro’r hogia a rheolwr y tîm, Ceri ‘Yeboah’ Roberts.


Dywedodd Dewi Prysor am y profiad:
"Bu'r gweithdai yn bleser pur, gyda chriw da o ddisgyblion ffraeth, hyderus a chreadigol oedd yn hawdd i weithio efo nhw. Roedd eu balchder yn eu bro, eu cymuned a'r clwb pêl-droed lleol yn amlwg, ac rwy'n gwbl argyhoeddiedig fod y cyfuniad o bêl-droed a chreu cerddi, wedi tanio diddordeb mewn barddoniaeth ynddynt."
Dyma flas o’r cerddi – fe gewch chi weld y casgliad cyflawn yn harddu Cae Clyd os ewch chi draw yno i gefnogi’r tîm!

Y Chwarelwyr
Tîm o Gymry Cymraeg i gyd
Fel y gymuned – dani yma o hyd;
Tîm ydan ni sy’n dod o’r graig,
Ni di’r chwarelwyr sydd â chalon draig.

Cae Clyd
Rhwng y Manod a’r Moelwyn mae fel carped hardd,
Y maes y mae Bynsan yn ei drin fel gardd,
Dyma ail adra pob chwaraewr ac ultra,
Fan hyn mae’r panads yn mega.
Hwn ydi’r cae sy’n werth y byd,
Hwn dani’n nabod fel Cae Clyd.

--------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2019


30.5.19

Apêl y Tabernacl

Y drydedd bennod yng nghyfres W. Arvon Roberts.

Yn Hydref 1916, cyrhaeddodd llythyr oddi wrth y Parch R.R. Morris, Gweinidog y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog, yn diolch i’r ‘Drych’ am gefnogi yr apêl dros y Capel at Gymry yr America. Yn y llythyr hwnnw, dywed ymysg pethau eraill:
“Diolchaf i chwi yn uwch na’r Manod a’r Moelwyn. Cyn gweld y nodiad yn ‘Y Drych’ yr oeddwn bron mewn anobaith dod i fyny a’r telerau, wedi bod yn cynnal cyfarfod swyddogion nos Fercher i geisio cynllunio beth i’w wneud, gan ein bod eto yn fyr i gyrraedd y nod. Ond wedi gweld ‘Y Drych’ cododd fy nghalon, bu i mi fel goleuni y bore. Yr ydym yn teimlo yn angerddol wrth feddwl colli darn mawr o’r addewid. Yr wyf yn siŵr fod yr achos yn achos teilwng, a ninnau yn gwneud ein gorau gwyn ein hunain.”
Tabernacl -llun o dudalen FB Blaenau Ffestiniog, gan Rhian Areteg

Daeth rhoddion pellach:
“Annwyl Mr Williams
Y mae’r apêl wedi cyrraedd Butte, Montana, ac yr ydym wedi gwneud yr apêl yn hysbys yn yr Eglwys. Os daw ychwaneg, gwnawn eu hanfon ar unwaith. Ym amgaeedig cewch order am $3.50.

T. Eilian Williams.”    
Cydnabyddwyd eisoes    $39
Cyfaill o Utica     $2
Drwy law T.E. Williams, Butte, Montana: James Knoyle    $2.50
T.E. Williams     $1
Cyfanswm hyd yma:    $44.50

Oherwydd yr aur a’r arian a ddarganfuwyd, roedd talaith Montana yn cael ei adnabod fel ‘Talaith y Trysor’. Cynyddodd ransio gwartheg yno a denodd y rheilffordd dyddynwyr amaethyddol yno. Yn ôl Cyfrifiad 1900, roedd yna dros fil o Gymry yn ninas Butte. Ond dim ond un achos Cymraeg oedd yn yr holl dalaith, Capel Methodistiaid Calfinaidd Butte (1902-1947).

Un o Gymry mwyaf adnabyddus Butte oedd Samuel Williams (m. 1917), mab i John a Grace Williams, Lord St, Blaenau Ffestiniog. Ymfudodd Samuel i Jamaica yn 1882, ac yn croesodd i’r America, i Utica, yn 1886 cyn ymsefydlu yn Butte yn 1913. Yr oedd ei chwaer ei briod yn byw yn Bryn Eirian, Ffestiniog.

Ymysg y Cymry eraill o Ffestiniog oedd yn trigo yn Butte ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd :- Hugh Hughes (m.1918) o Danygrisiau; Hugh Pierce; John Richard Williams (m.1918) o Ffestiniog. Un o Ffestiniog hefyd oedd Robert Gwilym Jones, Butte – bu farw yn sydyn ym mhrifddinas Montana, sef Helena yn Hydref 1917.
-------------



Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifyn Mawrth 2019



22.4.19

Cymry America yn ymateb i Apêl y Tabernacl

Parhau â chyfres Cysylltiadau Dalgylch ‘Llafar Bro’ ac America, W. Arvon Roberts.

Yn Medi 1916, daeth llythyr i law oddiwrth Thomas R. Williams, Williamsburg, Iowa, ynghyd a rhodd o $10.
Capel Tabernacl -llun o FB Blaenau gyda chaniatâd Evans Ycart

Ganwyd T.R. Williams (1861-1939) ym Mlaenau Ffestiniog. Ymfudodd pan oedd yn wyth oed.  Ei rieni oedd William Williams (1937-1910) a Jane Thomas (g.1829). Yr oedd yn briod â Margaret, merch Mr a Mrs Henry J. Jones, Waunfawr, Arfon. Cyrhaeddodd teulu T.R. Carbondale, Pennsylfania, ac yna symudont i Olyphant, cyn ymsefydlu yn Williamsburg, Iowa yn 1870. Bu farw ei briod, Margaret, yn Medi 1916, yn 63 mlwydd oed. Ail-briododd â Margaret Roberts yn 1920. Collont ferch, Margaret Jane, 11 oed, ym Mehefin, 1932. (Diddorol nodi fod y Parch. Edward Joseph (1854-1919) a anwyd ym Mhant Llwyd, Blaenau Ffestiniog, yn weinidog yn Williamsburg, Iowa, yn 1889. Sefydliad amaethyddol Cymraeg a thiroedd rhagorol am gynhyrchu gwair a gwenith oedd Wiliamsburg. Ymysg y Cymry cyntaf yno oedd John J. Jones (1862), Robert W. Roberts (1866), David Roberts (1869) a William Williams (1869), y pedwar o Flaenau Ffestiniog.)

Llythyr T.R. Williams i R. Morris Williams:

Annwyl Frawd Williams,
Gan fy mod yn un o blant Ffestiniog, yr wyf yn anfon drafft o $10 i chwi at ddyled eglwys y Tabernacl. Cefais y fraint o gyfarfod y Parch R.R. Morris pan yn yr Hen Wlad rai blynyddoedd yn ôl.
Thomas R. Williams, Williamsburg.


Gyda’r $23 a dderbyniwyd eisoes daeth y swm yn $33. Parhawyd i apelio at unrhyw Gymro neu Gymraes a garai estyn eu cymorth i’r capel. Byddai pob rhodd yn cael eu cydnabod yn  ‘Y Drych’.

Llythyr arall a dderbyniwyd tua'r un pryd yn 1916, a llythyr Thomas R. Williams, oedd un Laura E. Jones, Rhode Island. Ganwyd Laura yn 1879 naill ai yn Ffestiniog neu Dolwyddelan. Ymfudodd i’r America yn 1894, talaith go ddieithr i unrhyw Gymro neu Gymraes. Cafodd waith fel morwyn ymysg cyfoethogion Rhode Island, yn nhŷ haf Elbridge Thomas Gerry (1837-1927), cyfreithiwr Livingston (1836-1920). Yr oedd Matilda yn wyres i Margaret Lewis (1780-1860), a hi oedd unig blentyn ac etifedd y Llywodraethwyr, Morgan Lewis (1754-1844), ail fab yr enwog Francis Lewis (1713-1802), Llandaf, un a arwyddodd y Datganiad o Annibyniaeth yn 1776.

Annwyl Syr,
Yr wyf yn anfon $6 at yr achos yn y Tabernacl, oddiwrth pedair o ferched Ffestiniog, ac un o Ddolwyddelan. Gobeithio y cewch swm sylweddol i’w anfon yno.
Laura E. Jones.


Cydnabyddwyd eisoes    $33
Drwy law Laura E. Jones, Newport, Rhode Island    $6
Cyfanswm    $39
---

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2019


3.3.19

Cysylltiadau Dalgylch ‘Llafar Bro’ ac America

Rhan o gyfres W. Arvon Roberts, o rifyn Ionawr 2019.

Apêl y Tabernacl
Y Tabernacl (MC), Blaenau Ffestiniog, oedd un o’r capeli mwyaf oedd yn perthyn i Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd, ac ynddo y cyfarfu'r gynulleidfa fwyaf a’r eglwys luosocaf rhwng blynyddoedd 1870 ac 1890. Agorwyd y capel a ffurfiwyd yr achos Chwefror 14, 1864. Yr oedd yn mesur 63 troedfedd wrth 51 troedfedd oddi mewn. Cynlluniwyd gan Ellis Williams, Porthmadog. Costiodd y tir, y capel a’r tai, dros £3,700. Ychwanegwyd oriel yn 1869 yn costio £550. Codwyd tŷ ar gyfer y gweinidog yn 1894 ac ail-adeiladwyd y capel yn 1902 ar draul o £1,200. Cafodd y capel ei ddymchwel cyn 1987 ond y mae'r tŷ capel a’r ysgoldy oedd y tu ôl i’r adeilad yn aros fel tŷ annedd.

Llun o dudalen FB Blaenau Ffestiniog, diolch i Evans Ycart


Yn ‘Y Drych’ -papur mwyaf llwyddiannus Cymry America- yn 1916, daeth yna apêl gan John Morris Edwards (1876-1963), 1114 Park Avenue, Utica, ac R. Morris Williams (1884-1950), Wall Street, Utica, yn gofyn am gyfraniadau ariannol ymysg dynion a merched oedd a chysylltiad â Ffestiniog, oedd erbyn hynny wedi gosod eu gwreiddiau yn y Taleithiau, tuag at glirio dyled drom oedd yn llethu Capel Tabernacl yn y flwyddyn honno.

Brodor o Faenofferen oedd J.M. Edwards, yn fab i Morris R. a Mary Edwards. Chwarelwr oedd ei dad, ac yntau hefyd, cyn iddo ymfudo i’r America yn 1907. Ar ôl hynny gwasanaethodd fel clerc stoc mewn banc, yn borthor yng Nghapel Cymraeg Moriah, Utica, ac yna yn argraffydd. Yr oedd yn briod ac Annie (1876-1940), merch i Thomas a Laura Edwards, Dolawel, Ffestiniog. Graddiodd Annie yn athrawes yng Ngholeg Bangor cyn priodi. Yr oeddynt yn rieni i Nesta M. Powell (1908-2002).

Un o Ffestiniog oedd R. Morris Williams hefyd. Bu yn un o olygyddion ‘Y Drych’ o 1912 i 1918. Cyn hynny bu’n ohebydd i’r ‘Scranton Republic’ ar ôl iddo ymfudo i Scranton, Pennsylfania, o Danygrisiau yn 1908. Gadawodd ‘Y Drych’ i ffurfio cwmni argraffu ei hun yn Utica, Efrog Newydd. Yr oedd yn briod a Sarah J. (g.1883) ac yn dad i John P. William (g.1913).

Yr oedd dirwasgiad masnachol y cyfnod wedi dal y Taberncal pan oedd baich trwm o ddyled arni, ac er gwneuthur ymdrechion rhagorol i’w glirio yn 1913, aed i gyfyngder mawr. Felly, yn y sefyllfa, anfonwyd cais am gymorth at David Davies (1818-1890), aelod seneddol Llandinam, ac ymatebodd gydag addewid odidog o £1,000 os casglai'r capel fil arall atynt o fewn tair blynedd.

Ond daeth y Rhyfel Mawr a’i ofynion a’i wasgfeuon, a galwyd y gwŷr ifanc i’r gad, fel mai gorchwyl anodd ydoedd codi £1,000 er yr holl ymdrechion.  Yr oedd yn y Taleithiau lu o garedigion y Tabernacl a’i gweinidog, y Parch. R.R. Morris (1852-1935) a mawr disgwyliwyd y byddai ymateb brwd ganddynt i’w cynorthwyo.

Bu Richard Robert Morris yn weinidog gyda’r Methodistiaid yn Seilo, Caernarfon (1881-93) a Tabernacl, Ffestiniog (1893-1924). Yr oedd yn briod â Catherine Morris ers 1882, ganwyd iddynt bedwar o blant. Daeth i amlygrwydd fel bardd ac emynydd, ei emyn mwyaf poblogaidd oedd ‘Ysbryd byw y deffroadau’. Bu farw ym Metws Garmon, Awst 24, 1935. (Ymysg y 74 o eitemau amrywiol sydd ar gadw yn Archifdy Prifysgol Bangor, y mae ei lyfr casglu at glirio'r ddyled yn y Tabernacl).

Am bob doler a gyfrannwyd tuag at yr apel yr oedd addewid David Davies, Llandinam, yn golygu y byddai yn chwyddo cymaint ddwywaith. Er enghraifft, pe byddai'r Cymry yn America yn anfon $100 o’r America buasai $100 yn dod o Landinam. Meddai dau ohebydd ‘Y Drych’ o Ffestiniog:

Blant Ffestiniog mae yr achos yn deilwng. Mae’r amser yn brin. Nid oes ond rhyw fis neu ddau hyd nes y bydd tymor yr addewid i ben. Rhaid gweithredu ar unwaith.

-----------------------------------
I'w barhau...