21.3.16

Sgotwrs Stiniog -Croeso'r gwanwyn

Erthygl o gyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans.

Croeso’r gwanwyn tawel cynnar,
Croeso’r gog a’i llawen lafar;
Croeso’r tes i rodio’r gweunydd,
A gair llon, ac awr llawenydd.

A dyna hen bennill telyn, fel mae’r math yma’n cael eu galw, yn croesawu’r gwanwyn inni. Ac yn sicr fe fydd sawl sgotwr yn falch o’i groesawu â ‘gair llon’, ac ar ôl dyheu dros y misoedd diwethaf am ‘awr llawenydd’ unwaith eto o fedru gafael yn yr enwair.

Ychydig yn ôl yr oeddem yn ofni y byddai Llyn y Ffridd -neu Lyn Ffridd y Bwlch a rhoi ei enw llawn iddo- yn cael ei gladdu o dal dunnelli lawer o rwbel y chwarel. Ond daeth ‘gair llon’ oddi wrth berchnogion newydd hen Chwareli’r Oakeley yn dweud nad oedd ganddynt unrhyw fwriad i’w gladdu o’r golwg.

Llyn Ffridd. Llun- Paul W.
Tydi Llyn y Ffridd ddim yn lyn naturiol, ond yn un a gronnwyd rywbryd yng nghanol y ganrif diwethaf i roi dŵr i hen Chwarel y Welsh Slate fel y byddai’n cael ei galw, sef rhan isaf hen Chwareli’r Oakeley. Ond ers sawl degawd bellach y mae o wedi dod yn rhan o’n hamgylchfyd, fel y mae rhai llynnoedd eraill a wnaed gan wahanol chwareli yn ystod Oes Aur y diwydiant llechi yn ein hardal, rhai fel Llyn Newydd Dubach, Llyn Mawr Barlwyd, a Llyn Newydd Bowydd. Roedd hi’n dda iawn cael cadarnhad, beth bynnag, nad oes gan y chwarel fwriad i’w gladdu o’r golwg.

A thwym, twym, yw’r alwad hen
I le’r hwyl a’r wialen.

Ydi, mae o wedi dod unwaith eto, dechrau tymor y brithyll arall newydd sbon, a diolch amdano; dyma gyfle i afael yn yr enwair eto ac i’w hel hi am y mynydd a rhoi cynnig ar dwyllo y brithyll brych, a chael cwmni hen gyfoedion yr un pryd.

Gofynnwyd imi yn ddiweddar gan un a oedd a’i fryd a’i feddwl ar fynd i bysgota pluen yn gynnar yn y tymor, pa blu a fuaswn i’n eu rhoi ar fy mlaen-llinyn pe tawn i’n mynd allan hefo’r enwair fel bo’r tymor yn agor yn nechrau mis Mawrth – a chaniatau wrth gwrs fod y tywydd yn o resymol i fedru mynd allan.

Wedi meddwl tipyn ac edrych drwy y dyddiadur pysgota sydd gennyf, y dair bluen y buaswn i’n eu rhoi ar fy mlaen-llinyn pryd bynnag yr awn i bysgota yn ystod mis Mawrth, fyddai:

Yn bluen flaen, y Nimff Bolwyrdd;
yn bluen ganol, Macrel fawr Corff piws; ac
yn bluen agosaf-at-law, Petrisen Corff Coch.

Nymff bolwyrdd. Llun Gareth T. Jones, o lyfr Emrys Evans 'Plu Stiniog' 2009.

Rydw i wedi cael y Nimff Bolwyrdd yn un eithaf dibynnol am bysgodyn yn ystod y ddau fis cyntaf o’r tymor. Yr hyn ydi’r Facrel Fawr Corff Piws ydi fersiwn fwy o Facrel Fach Corff Piws, ac mae honno yn un o hen ‘Blu Stiniog’. Mae y Betrisen Corff Coch yn hen bluen, hefyd, a rhai yn ei galw yn Betrisen Corff Coch Cymreig. Rhoir dau fath o draed iddi, sef rhai coch yr un lliw a’r corff, ac yna traed petris ar rheini.

Os bydd iechyd a’r tywydd yn caniatau imi gael mynd hefo’r enwair ym mis Mawrth eleni, dyna’r dair buen a fydd ar fy mlaen-llinyn, a’r dair bluen a fydd yn cael eu cynnig yn gyntaf un i’r brithyll.
--------------------------------------------------

Addaswyd yr uchod o ddwy erthygl a ymddangosodd yn rhifynnau Mawrth 1998, a Mawrth 1999.
Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon