Showing posts with label Traws. Show all posts
Showing posts with label Traws. Show all posts

9.6.14

Maes y Magnelau

Arddangosfa Newydd Llys Ednowain

Bu lansiad o arddangosfa arbennig yn rhannol er mwyn cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf mewn bore coffi yn Llys Ednowain, Trawsfynydd  bore Gwener 25ain o Ebrill.  Maes y Magnelau yw teitl yr arddangosfa, sef cyfeiriad at y gwersyll milwrol a maes tanio oedd ym Mronaber a Chwm Dolgain o 1905 tan tua 1959, a bydd yw gweld yn y ganolfan am weddill y flwyddyn.



Bu i Keith O’Brien, Cadeirydd y ganolfan, egluro wrth y gynulleidfa niferus dipyn o hanes a chefndir y gwersyll trwy gymorth sleidiau o hen luniau o’r ardal.  Nodwyd mai mewn ymateb i wersi a ddysgwyd yn Rhyfeloedd y Böer sefydlwyd y maes tanio, oherwydd i Gwm Dolgain ymdebygu i dirwedd Dde Affrig a’r angen i ymarfer technegau newydd o danio magnelau mewn tir cyffelyb. 


Cyfeiriwyd hefyd at yr oll geffylau oedd yno i bwrpas swyddogion ac i dynnu’r gynau mawr.  I’r perwyl, nodwyd fod y ceffylau wedi bod yn destun cwyn i’r Adran Ryfel gan y Cyngor Plwy; oherwydd iddynt gael eu cerdded trwy bentref Traws ar fore Sul, fel ymarfer ystwytho iddynt, ac i swn eu carnau amharu ar wasanaethau’r capeli!


Cafwyd gwybodaeth hefyd am y protestio bu yno yn hydref 1951 gan Blaid Cymru yn erbyn ymestyn maint y maes tanio, gyda neb llai na’r diweddar Gwynfor Evans yn arwain y brotest.  Hon oedd y brotest gyntaf i’r Blaid gynnal trwy ddefnyddio dulliau heddychlon Gandhi o wrthwynebu, trwy eistedd i lawr ar brif fynedfeydd y gwersyll er mwyn rhwystro symudiadau i mewn ac allan o’r safle.

Bu i nifer gyfrannu trwy atgofion a bu llawer o ddiddordeb mewn gorchymyn swyddogol o’r Rhyfel Byd Cyntaf a ddangoswyd gan Mrs Glenys Cartwright sef cofarwydd o eiddo ei thad, Mr Henry William Jones, cyn prifathro Ysgol Bro Hedd Wyn.  Roedd  yn “Signaler” yn yr RWF ac er iddo fod yn gyfrifol am lawer o negeseuon, hon oedd yr unig enghraifft iddo gadw.  Mae’r neges wedi ei dderbyn ar y 30ain o Fai 1916 ac yn rhoi gorchymyn i’r milwyr “Stand to in fighting order with steel helmets and wait for orders”.

Sian O’Brien oedd yn gyfrifol am baratoi’r
arddangosfa yn ystod cyfnodau gwyliau o Brifysgol
Bangor, ble mae hi’n astudio i fod yn athrawes.  Dywedodd Sian, “Rwyf wedi dysgu dipyn am fy ardal trwy ddarparu’r arddangosfa.  Diddorol iawn oedd darganfod pwysigrwydd ffeiriau cyflogi’r plwy ym mân ddeddfau’r maes tanio, sef na fyddai unrhyw saethu’n digwydd ar ddiwrnod ffair.  Hefyd y cyfeiriad ynddynt ynglyn â beth i wneud gyda defaid wedi eu lladd gan fagnel - a’u gwerth, 15 swllt am ddafad a 10 swllt am oen!”

Mae’r arddangosfa i’w weld rhwng 10:00 a 4:00 Llun i Wener yn Llys Ednowain, Canolfan Treftadaeth Trawsfynydd ac mae croeso gynnes i unrhyw un ymweld a’r arddangofa. 

23.1.14

Crwydro Carreg yr Ogof

Dyma'r golofn gynta' o gyfres o erthyglau a ymddangosodd dro'n ol yn Llafar Bro, gan Keith O'Brien, yn tywys y darllenwyr o amgylch ei hoff lecyn, ym mhlwyf Trawsfynydd.

Ydych chi'n cofio y gallwch weld ol-rifynnau o Llafar Bro yn llyfrgell y Blaenau? O'r rhifyn cyntaf un maen nhw wedi eu rhwymo'n daclus ac wedi eu cadw at ddefnydd trigolion Bro Ffestiniog a thu hwnt. Gallwch ddilyn pob un o erthyglau Crwydro Carreg yr Ogof, a llawer, llawer mwy!


CALON YN Y GRAIG
 



Ar hirddydd haf ni cheir un man gwell i wylio’r haul yn machlud na Charreg yr Ogof, Traws, gyda’r bel fawr oren yn suddo’n ara’ deg tu cefn i Foel Hebog, a hwnnw, fel petai yn arbed iddo foddi yn nyfnder dwr y llyn tua chyffiniau Pandy’r Ddwyryd.
 
Llun o gyfri' Flickr Keith
Tybed sawl gwaith bu i John Owen syllu ar yr un ddefod brydferth naturiol hon, sydd wedi ei hail chwarae yn gyson pob dydd ers cyn cof, cyn i’r diciâu ddyfod a’i gymryd ymaith yn ddyn cymharol ifanc. Brawd i’m hen-daid, Robert Owen, gof y pentre’, oedd John, a gwelir ei enw wedi ei gerfio yn yr ithfaen ar ben deheuol Carreg yr Ogof, neu Garragrogo ar lafar gwlad. Mae’n debyg i’w salwch olygu na fedrai weithio, ac o ganlyniad cafodd amser i ffurfio calon yn y graig gyda’r geiriau J. OWEN a’r flwyddyn 1898 wedi eu nodi yn daclus yng nghanol y galon.


Wrth gwrs, machlud tra gwahanol byddai ef wedi tystio yn ei amser, gan nad oedd llyn yng Nghwm Coed Rhygen yn 1898. Y Gors Goch, fel y gelwid, oedd yr olygfa o ben y graig adeg honno. 

Yno byddai’r pentrefwyr yn cyrchu i gynaeafu mawn ar gyfer cynhesu eu tai. Hawdd byddai dechrau trafod y gorchwyl difyr yma, hefyd y llyn a’r ffermydd oddi tano - ond rhaid gwrthsefyll y demtasiwn; traethawd am Garreg yr Ogof a’i gysylltiadau yw hwn - nid y llyn fel y cyfryw. Serch hynny, ni ellir ei osgoi yn gyfan gwbl. Gyda dyfodiad y llyn yn 1926, bu i Gweno, chwaer fy hen-daid, ysgrifennu’r rhigwm canlynol yn llyfr llofnodion ei nith, Nel:


Garrag’r Ogo’ garegog,

gwair rhos a gwair medi;

Oll o dan y dwr, biti, biti, yn te Nellie?




Tyllau Canon

Gadawn y llyn am funud, gan droi ein golygon tua wyneb copa’r graig ar yr ochr ogleddol, yno canfyddwn tua deg-ar-hugain o dyllau ebill, i gyd wedi eu cysylltu a’u gilydd trwy rychau wedi eu cynio i’r graig. Ffurfir y rhain mewn siap hirgrwn, a’u gelwir yn dyllau canon. 

Wrth edrych yn fanwl ar ambell dwll fe welwn ôl llosgi, y rheswm y tu ôl i hyn yw, bod y tyllau i gyd wedi eu llenwi a phowdwr du yn ogystal a’r rhychau cysylltiol, er mwyn iddynt danio mewn cyfres o un i’r llall ar achlysuron arbennig. Beth sy’n wych am y lleoliad hwn wrth gwrs yw’r garreg ateb a geir o gyfeiriad Cae Adda. Gellir dychmygu y byddai’r ffenomen naturiol yma’n effeithiol i ddyblu swn y ‘magnelau’ - 60 ergyd!


Troed y Diafol
Cyn gadael top y graig codwn ein golygon tuag at y de ac fe welwn nid nepell i ffwrdd, garreg sgwâr ei golwg, ger man a elwir yn Llyn Boddi Cathod - dim marciau am ddyfalu beth oedd yn digwydd yn fan honno!

Mae’r blocyn gwenithfaen yma tua wyth troedfedd o hyd a phum troedfedd mewn lled, gydag uchder o bedair troedfedd. Ar ochr ddwyreiniol y graig gwelwn ôl ebill ymhle holltwyd darn ohoni ryw dro, yn ffodus mae hyn wedi creu stepen i ni gymryd golwg mwy manwl ar wyneb ucha’r graig. Y peth mwyaf amlwg a welir yn gyntaf yw ôl dysgl fas tua deng modfedd o ddiamedr. Yn ôl llen gwerin, ôl troed ‘y Diafol’ yw hwn - ac fe wnaeth ef hyn pan yn camu o’r blocyn i Garreg yr Ogof!

Uwchben Troed y Diafol mae tarian ddestlus wedi ei cherfio i’r graig ac o fewn y darian ceir y disgrifiad canlynol: JMR BORN 1914. Mae’n bosib mai John Meirion Roberts, Madryn House, oedd y cyfaill hwn, neu ‘Hacks’ Mei fel y gelwir ef. Cafodd ei lysenw trwy fod yn yrrwr cerbydau ‘hackney’. Roedd yn fachgen hynaws iawn yn ôl pob son.

Mae yno galon hefyd a llythrennau ynddi ar ymyl y graig i’r dde o’r darian, ond nid yw’n bosib dehongli’r manylion.
 







21.7.13

Ugain mlynedd ers 'cau' yr atomfa

Ugain mlynedd yn ôl yng Nghorffennaf 1993 cyhoeddwyd yn swyddogol na fyddai atomfa Trawsfynydd fyth yn cynhyrchu trydan eto. Hynny ydi, roedd y lle i 'gau'.

Oedd, roedd y ddau adweithydd wedi bod yn segur ers 1991 tra cynhaliwyd profion a gwaith cynnal a chadw ar yr offer; ac roedd nifer o'r gweithlu wedi amau'r gwaethaf. Ond i'r 600 oedd yn gweithio yno bryd hynny, roedd dal yn ergyd i gael y cadarnhad hwnnw fod y gwaith yn 'darfod'.

Waeth be fo'ch barn chi ar ynni niwclear, does dim gwadu pwysigrwydd yr atomfa fel cyflogwr, a gwerth y cyflogau hynny i deuluoedd a chymunedau'r fro hon.

llun o gasgliad Comin Wikimedia
Mi fu Llafar Bro yn holi ambell un o gyn-weithwyr y safle am eu hynt a'u teimladau erbyn hyn. Fel mae'n digwydd bod, roeddwn i'n beiriannydd yno bryd hynny; wedi prynu fy nhŷ cyntaf a newydd briodi (daeth y newyddion swyddogol pan oeddwn ar fy mis mêl -dyna groeso adra!).


Y prif gof sydd gennyf i -a dwi wedi bod yn eithaf blin a thrist am hyn o dro-i-dro dros y ddau ddegawd ers hynny- ydi rheolwyr y cwmni yn creu ofn ymysg y gweithwyr am eu dyfodol. Awgrymwyd bryd hynny mae dim ond sgerbwd o weithlu fyddai yno yn fuan iawn, ac y dylai pawb godi pac am atomfeydd breision Lloegr ar unwaith.
Fel y gwyddom i gyd, gadawodd llu o deuluoedd ifanc ac unigolion yn y cyfnod wedi’r cau, a gwelsom newidiadau mawr yn ein cymunedau ers hynny. Roedd tua 600 yn gweithio yno ym 1993. 

Yn ôl gwefan Magnox mae rhywbeth rhwng 633 a 797 yn gweithio yno heddiw (haf 2013, yn staff; staff asiantaeth; a chontractwyr).

Mewn cyfweliad efo disgyblion Ysgol Bro Hedd Wyn yn 2011, sydd ar gael ar ffurf cryno-ddisg 'Stori Traws' yn llyfrgelloedd Gwynedd, ac ar wefan Casgliad y Werin, mae'r peiriannydd Madog Jones yn dweud:
"Dyna un newid dwi wedi'i weld -pan wnes i ddechrau roedd 90-95% oedd yn gweithio yn Traws yn byw yn gymharol leol".
Rwan, meddai, mae llawer yn dod yma o bell iawn... yn aros am yr wythnos, ac yn mynd adra i Newcastle, Southampton ac yn y blaen am y penwythnos...

"Mae'r gweithlu'n llawer mwy symudol ers i'r atomfa gau".


Tybed oedd wir angen i Fro Ffestiniog golli cymaint o deuluoedd a’u sgiliau a’u cyflogau? 
Oni ellid fod wedi cadw llawer o'r staff lleol a datblygu canolfan ragoriaeth yno ar gyfer dadgomisiynu'r atomfa, a gorsafoedd trydan eraill?

Wrth gwrs, mae rhai yn gweithio rwan yn yr Wylfa, ac eraill wedi mwynhau ac elwa o ehangu gorwelion. Fel dywed rhai, pan mae un drws yn cau, mae rhai eraill yn agor...

Un a gafodd swydd oddi cartra' oedd Gareth Jones, oedd yn arolygwr iechyd ffiseg -health physics monitor:

“Roedd o’n un o’r dewisiadau anodda i fi orfod gwneud. ‘Rioed di bod yn bell o’n milltir sgwâr. Yn 23 oed efo dau o blant bach a dim garantî am fwy na 3/5 mlynadd o waith. Symudais i Suffolk i ddechra'. Roedd mynd i fanno fel culture shock ar ôl Traws lle oedd pawb fel teulu agos ac yn nabod eu gilydd. Roedd pawb yn chwilio am promotion yn Sizewell a ddim yn poeni am roi cyllall yn dy gefn er mwyn ei gael! Mi ddois i Hinkley wedyn ym 1998, oedd yn fwy fel Traws fel lle i weithio -ond fydd nunlla 'run fath. Bob cyfla' fyddai'n gael, fyddai'n siarad Cymraeg efo'r criw Traws sydd yma".
Mae Gareth yn Beiriannydd Diogelwch Amgylcheddol erbyn heddiw. "Dwi wedi hiraethu ers y diwrnod cyntaf" meddai, "Dwi'n ffonio adra bob dydd er mwyn cael siarad efo fy rhieni a'm chwiorydd, a hen ffrindia bob hyn a hyn, er mwyn cael siarad Cymraeg".

Aros wnaeth Heather Evans-Rice:
"Roeddwn yn glerc yn yr adran beirianneg, a bu'm yn ffodus i gael fy newis i fod ar y tîm craidd. Roeddwn yn ifanc iawn bryd hynny a doedd symud o’r ardal ddim yn opsiwn i mi gysidro a dweud gwir.  Pe bawn wedi gorfod gadael mae'n debyg mae chwilio am waith yn lleol y byswn wedi'i wneud. Os dwi’n cofio’n iawn doedd dim sicrwydd pendant faint o flynyddoedd o waith oedd gennym ond dwi yn cofio iddynt ddweud y byddai adolygiad arall ('toriadau') wedi i'r tanwydd adael y safle (oddeutu dwy flynedd felly). Cymryd pethau fel y daethant a wnes i felly, a bod yn lwcus iawn o gael fy nghadw ymlaen bob tro roedd adolygiad yn cael ei wneud".
Erbyn heddiw, mae Heather yn gweithio fel Cymhorthydd Gweinyddol i Antur Stiniog, ond efo atgofion melys am weithio yn yr atomfa. "Bu imi wneud llawer iawn o ffrindiau ac mae ambell i gyfeillgarwch wedi parhau hyd heddiw".

Mae Dewi Euron Griffiths yn disgrifio'i hun fel 'cyw-beiriannydd' ym 1993, ac erbyn hyn yn Beiriannydd Trydanol efo First Hydro, yn gyfrifol am y generaduron ym mhwerdai Dinorwig a Thanygrisiau.

"Gadewais yr atomfa i fynd i wneud gradd ym Mhrifysgol Bangor. cefais swydd unwaith eto gyda Magnox yn eu canolfan yn Berkeley rhwng Caerloyw a Bryste. Fy mwriad o'r cychwyn oedd dychwelyd, a thrwy'r cyfnod cadwais gysylltiad cyson â'r ardal. Ro'n i'n dod adra bob penwythnos ac yn chwarae criced i dîm Bro Ffestiniog bryd hynny. Yna cefais gyfnod yn yr Wylfa cyn cael y swydd dwi ynddi heddiw. Erbyn hyn dwi'n falch o'r dewisiadau wnes i ac yn mwynhau fy swydd bresennol, ond doedd ambell i benderfyniad ddim yn hawdd ar y pryd. Er fy mod yn byw yng Nghaernarfon sydd ond tua 30 milltir o’r Blaenau dwi'n dal i hiraethu am yr ardal, yn enwedig y llynnoedd dwi mor hoff o'u pysgota".
Arhosodd Marc Williams yn ei swydd yn yr adran health physics, cyn gadael ym 1994 er mwyn astudio am radd Radiograffeg ym Mangor.
“Mae’n rhyfedd o fyd i feddwl bod mwy o weithwyr yn yr Atomfa rŵan na phan oedd y lle yn cynhyrchu trydan! Ond roedd rhywun reit bryderus ar y pryd os oedd gwaith yn mynd i fod yno yn yr hir dymor.” 
Erbyn hyn mae Marc yn Uwch Radiograffydd yn adran pelydr-x Ysbyty Glan Clwyd, ac yn gyfrifol am yr adran feddygaeth niwclear yno.
"Dwi'n dal i fyw yng ngogledd Cymru: roedd hynny'n bwysig iawn i mi. Mae teuluoedd Eirian a finna dal i fyw yn Blaenau a Llan, felly mae cyfle yn codi i ymweld yn aml iawn. Mae'n rhyfedd fel mae rhywun yn mynd yn hŷn, mae 'tynfa' yr ardal yn cryfhau. Pwy a wyr, falle bydd cyfle i ail ymgartrefu yn 'Stiniog un diwrnod".
Dyna grisialu'r hyn sy'n amlwg am bobl Bro Ffestiniog, sef bod y gwreiddiau'n rhai dyfnion, a theimlad o berthyn yn gryf o hyd.

Mi fues innau'n lwcus i fedru cofrestru ar gwrs ym Mangor, er mwyn cyfuno fy niddordeb ym myd natur efo gyrfa newydd yn y maes cadwraeth. Roedd yn gyfnod anodd o ran jyglo'r astudio a thalu morgais ac ati, ond mae wedi caniatáu imi aros yn fy nghynefin. Dwi'n falch o lle ydw i rwan, ond hefyd yn hynod falch o fod wedi cydweithio a mwynhau dyddiau difyr iawn efo pob un o'r cymeriadau uchod.
Paul Williams


[Diweddarwyd 2018 er mwyn cynnwys yr erthygl gyfa']