Ydych chi'n cofio y gallwch weld ol-rifynnau o Llafar Bro yn llyfrgell y Blaenau? O'r rhifyn cyntaf un maen nhw wedi eu rhwymo'n daclus ac wedi eu cadw at ddefnydd trigolion Bro Ffestiniog a thu hwnt. Gallwch ddilyn pob un o erthyglau Crwydro Carreg yr Ogof, a llawer, llawer mwy!
CALON YN Y GRAIG
Ar hirddydd haf ni cheir un man gwell i
wylio’r haul yn machlud na Charreg yr Ogof, Traws, gyda’r bel fawr oren yn
suddo’n ara’ deg tu cefn i Foel Hebog, a hwnnw, fel petai yn arbed iddo foddi
yn nyfnder dwr y llyn tua chyffiniau Pandy’r Ddwyryd.
Tybed
sawl gwaith bu i John Owen syllu ar yr un ddefod brydferth naturiol hon, sydd
wedi ei hail chwarae yn gyson pob dydd ers cyn cof, cyn i’r diciâu ddyfod a’i
gymryd ymaith yn ddyn cymharol ifanc. Brawd i’m hen-daid, Robert Owen, gof y
pentre’, oedd John, a gwelir ei enw wedi ei gerfio yn yr ithfaen ar ben deheuol
Carreg yr Ogof, neu Garragrogo ar
lafar gwlad. Mae’n debyg i’w salwch olygu na fedrai weithio, ac o ganlyniad
cafodd amser i ffurfio calon yn y graig gyda’r geiriau J. OWEN a’r flwyddyn
1898 wedi eu nodi yn daclus yng nghanol y galon.
Wrth
gwrs, machlud tra gwahanol byddai ef wedi tystio yn ei amser, gan nad oedd llyn
yng Nghwm Coed Rhygen yn 1898. Y Gors Goch, fel y gelwid, oedd yr olygfa o ben
y graig adeg honno.
Yno byddai’r pentrefwyr yn cyrchu i gynaeafu mawn ar gyfer
cynhesu eu tai. Hawdd byddai dechrau trafod y gorchwyl difyr yma, hefyd y llyn
a’r ffermydd oddi tano - ond rhaid gwrthsefyll y demtasiwn; traethawd am Garreg
yr Ogof a’i gysylltiadau yw hwn - nid y llyn fel y cyfryw. Serch hynny, ni
ellir ei osgoi yn gyfan gwbl. Gyda dyfodiad y llyn yn 1926, bu i Gweno, chwaer
fy hen-daid, ysgrifennu’r rhigwm canlynol yn llyfr llofnodion ei nith, Nel:
Garrag’r Ogo’ garegog,
gwair rhos a gwair medi;
Oll o dan y dwr, biti,
biti, yn te Nellie?
Tyllau Canon
Gadawn
y llyn am funud, gan droi ein golygon tua wyneb copa’r graig ar yr ochr
ogleddol, yno canfyddwn tua deg-ar-hugain o dyllau ebill, i gyd wedi eu
cysylltu a’u gilydd trwy rychau wedi eu cynio i’r graig. Ffurfir y rhain mewn
siap hirgrwn, a’u gelwir yn dyllau canon.
Wrth edrych yn fanwl ar ambell dwll
fe welwn ôl llosgi, y rheswm y tu ôl i hyn yw, bod y tyllau i gyd wedi eu
llenwi a phowdwr du yn ogystal a’r rhychau cysylltiol, er mwyn iddynt danio
mewn cyfres o un i’r llall ar achlysuron arbennig. Beth sy’n wych am y lleoliad
hwn wrth gwrs yw’r garreg ateb a geir o gyfeiriad Cae Adda. Gellir dychmygu y
byddai’r ffenomen naturiol yma’n effeithiol i ddyblu swn y ‘magnelau’ - 60
ergyd!
Troed y Diafol
Cyn
gadael top y graig codwn ein golygon tuag at y de ac fe welwn nid nepell i
ffwrdd, garreg sgwâr ei golwg, ger man a elwir yn Llyn Boddi Cathod - dim marciau am ddyfalu beth oedd yn digwydd yn
fan honno!
Mae’r
blocyn gwenithfaen yma tua wyth troedfedd o hyd a phum troedfedd mewn lled,
gydag uchder o bedair troedfedd. Ar ochr ddwyreiniol y graig gwelwn ôl ebill
ymhle holltwyd darn ohoni ryw dro, yn ffodus mae hyn wedi creu stepen i ni
gymryd golwg mwy manwl ar wyneb ucha’r graig. Y peth mwyaf amlwg a welir yn
gyntaf yw ôl dysgl fas tua deng modfedd o ddiamedr. Yn ôl llen gwerin, ôl troed
‘y Diafol’ yw hwn - ac fe wnaeth ef hyn pan yn camu o’r blocyn i Garreg yr
Ogof!
Uwchben
Troed y Diafol mae tarian ddestlus
wedi ei cherfio i’r graig ac o fewn y darian ceir y disgrifiad canlynol: JMR
BORN 1914. Mae’n bosib mai John Meirion Roberts, Madryn House, oedd y cyfaill
hwn, neu ‘Hacks’ Mei fel y gelwir ef. Cafodd ei lysenw trwy fod yn yrrwr
cerbydau ‘hackney’. Roedd yn fachgen hynaws iawn yn ôl pob son.
Mae
yno galon hefyd a llythrennau ynddi ar ymyl y graig i’r dde o’r darian, ond nid
yw’n bosib dehongli’r manylion.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon