Showing posts with label Cors Goch. Show all posts
Showing posts with label Cors Goch. Show all posts

5.5.18

Rhod y Rhigymwr -Blas ar gerdded


Er mod i wedi byw’n yr ardal ers dros ddeng mlynedd ar hugain, fum i ‘rioed yr ochr draw i Lyn Trawsfynydd tan yn ddiweddar iawn. Y ‘fitbit’ a gefais yn anrheg gan Alwena’r wraig ddechreuodd pethau. Ers tro bellach, rydw i’n cerdded o’r Caffi ger yr Atomfa i fyny at Argae Maentwrog (neu’r ‘Main Dam’ fel y cyfeiria llawer ati) - taith hynod bleserus a gymer ryw 35 munud i gerdded i fyny a’r un amser i ddychwelyd.

Ardal Pandy'r Ddwyryd, Llyn Traws. Llun -Paul W.

Rhaid fu manteisio ar y tywydd braf a sych a gafwyd a mentro ymhellach, gan ddilyn y llwybr beicio drosodd am Moelfryn Isaf a Choed Rhygen, a’r ffordd dar am Dŷ’n Twll, Cae Adda a Thŷ’n Drain, cyn croesi’r bont bren hir ar draws y llyn tua Bryn ‘Sguboriau a phentre’r Traws. Yna dilyn y llwybr beicio sy’n cydredeg â’r briffordd a throi i lawr eto tua’r llyn gan ddilyn Nant Islyn.

Gweld meinciau a byrddau picnic yn cofnodi enwau’r hen ffermydd a ddiflannodd dan ddŵr y llyn pan foddwyd y Gors Goch ynghanol y 1920au -  Brynrwy, Ty’n Ddôl a Phandy’r Ddwyryd - lle trigai Lowri William (1704-78), a fu’n gyfrifol ‘am blannu hadau gwir grefydd yn y parthau hyn gyntaf’.

Pan ddaeth yr Ŵyl Cerdd Dant i Ysgol Ardudwy, Harlech ym 1974, un o’r darnau a ddewiswyd ar gyfer yr unawd i rai dros 21 oed oedd cywydd J. H. Roberts (Monallt)- ‘Trawsfynydd’.  Un o Fôn ydoedd yn enedigol, ond a fu’n gweithio ar y ffordd i Gyngor Sir Meirionnydd am nifer o flynyddoedd. Roedd Monallt yn gynganeddwr cywrain, yn Gymro pybyr, yn Gristion digymrodedd ac roedd ei gariad tuag at ‘y pethe’ yn angerddol. Ef oedd tad y diweddar Brifardd ac Archdderwydd Emrys Deudraeth (1929-2012).

Wrth edrych ar y llyn yn disgleirio dan heulwen Chwefror ac ar goncrid yr Atomfa’n y pellter, dychwelodd rhai o gwpledi o gywydd Monallt i’r cof:

‘O fewn i blwy’ Trawsfynydd
Glân deios yn swatio sydd,
A’r gwynt o’i oriog antur
Yn rhoi marc ar lawer mur;
Ond y ddyfal ardal hon
Ddyry fawredd ar Feirion ...


A’r un brys, yr hen Brysor
A lif o hyd i’r gloyw fôr –
Bydd hon dan wres plwtoniwm
Yn mynnu canu’n y cwm’.


Cefais gryn flas ar y cerdded, a dyma benderfynu mentro ar daith arall – o’r caffi at yr argae a throsodd i Landecwyn - gan ddilyn y ‘gamlas’ i’w phen a thros y crawcwellt i gyfeiriad Panwr a Nantpasgan, yna i lawr i gyfeiriad Caerwych a Llyn Tecwyn Isaf tua Bryn Bwbach. Roedd y golygfeydd yn odidog a gwelwn olion sawl hen furddun oedd yn dyst bod rhai wedi bod yn preswylio’n yr unigeddau yma mewn oes a fu.

Daeth englyn arall o waith Monallt i’r co’ wrth droedio glannau nant fechan a lifai i lawr o gyfeiriad Bryn Cader Faner – a honno mewn mannau wedi rhewi’n gorn:

‘Hi a wasgwyd i gysgu, - am ei dŵr
Mae dôl yn sychedu;
Stôr o ddawn dan ffenestr ddu
A’i pharabl wedi fferru.’


Wrth gerdded i lawr drwy Goed Caerwych, sylwais ar lwybr oedd yn arwain tuag Aberdeunant Uchaf. Cofiais mai yno’r oedd cartre’r pregethwr enwog gydag enwad y Wesleaid – David ‘Tecwyn’ Evans (1876-1957). Adroddais linellau ei emyn wrth brofi’r heddwch tangnefeddus o’m cwmpas:

‘Duw a Thad yr holl genhedloedd,
O! sancteiddier d’enw mawr;
Dy ewyllys Di a wneler
Gan dylwythau daear lawr;
Doed dy deyrnas
Mewn cyfiawnder ac mewn hedd’.


A’r pennill olaf:

‘Rhodded pobloedd byd ogoniant
Fyth i’th enw, Arglwydd Iôr;
Llifed heddwch fel yr afon,
A chyfiawnder fel y môr;
Doed dy deyrnas
Mewn tangnefedd byth heb drai’.


Clywn furmur y nant fechan islaw, ac wedi dod allan o’r coed ar gyrion Caerwych, gwelwn Afon Dwyryd, y Traeth Bach ac Aber Iâ’n banorama o’m blaen ynghyd â Chastell Harlech a Bae Aberteifi i gyfeiriad y de orllewin.
------------------------------------

Rhan o erthygl Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2018.
 

23.1.14

Crwydro Carreg yr Ogof

Dyma'r golofn gynta' o gyfres o erthyglau a ymddangosodd dro'n ol yn Llafar Bro, gan Keith O'Brien, yn tywys y darllenwyr o amgylch ei hoff lecyn, ym mhlwyf Trawsfynydd.

Ydych chi'n cofio y gallwch weld ol-rifynnau o Llafar Bro yn llyfrgell y Blaenau? O'r rhifyn cyntaf un maen nhw wedi eu rhwymo'n daclus ac wedi eu cadw at ddefnydd trigolion Bro Ffestiniog a thu hwnt. Gallwch ddilyn pob un o erthyglau Crwydro Carreg yr Ogof, a llawer, llawer mwy!


CALON YN Y GRAIG
 



Ar hirddydd haf ni cheir un man gwell i wylio’r haul yn machlud na Charreg yr Ogof, Traws, gyda’r bel fawr oren yn suddo’n ara’ deg tu cefn i Foel Hebog, a hwnnw, fel petai yn arbed iddo foddi yn nyfnder dwr y llyn tua chyffiniau Pandy’r Ddwyryd.
 
Llun o gyfri' Flickr Keith
Tybed sawl gwaith bu i John Owen syllu ar yr un ddefod brydferth naturiol hon, sydd wedi ei hail chwarae yn gyson pob dydd ers cyn cof, cyn i’r diciâu ddyfod a’i gymryd ymaith yn ddyn cymharol ifanc. Brawd i’m hen-daid, Robert Owen, gof y pentre’, oedd John, a gwelir ei enw wedi ei gerfio yn yr ithfaen ar ben deheuol Carreg yr Ogof, neu Garragrogo ar lafar gwlad. Mae’n debyg i’w salwch olygu na fedrai weithio, ac o ganlyniad cafodd amser i ffurfio calon yn y graig gyda’r geiriau J. OWEN a’r flwyddyn 1898 wedi eu nodi yn daclus yng nghanol y galon.


Wrth gwrs, machlud tra gwahanol byddai ef wedi tystio yn ei amser, gan nad oedd llyn yng Nghwm Coed Rhygen yn 1898. Y Gors Goch, fel y gelwid, oedd yr olygfa o ben y graig adeg honno. 

Yno byddai’r pentrefwyr yn cyrchu i gynaeafu mawn ar gyfer cynhesu eu tai. Hawdd byddai dechrau trafod y gorchwyl difyr yma, hefyd y llyn a’r ffermydd oddi tano - ond rhaid gwrthsefyll y demtasiwn; traethawd am Garreg yr Ogof a’i gysylltiadau yw hwn - nid y llyn fel y cyfryw. Serch hynny, ni ellir ei osgoi yn gyfan gwbl. Gyda dyfodiad y llyn yn 1926, bu i Gweno, chwaer fy hen-daid, ysgrifennu’r rhigwm canlynol yn llyfr llofnodion ei nith, Nel:


Garrag’r Ogo’ garegog,

gwair rhos a gwair medi;

Oll o dan y dwr, biti, biti, yn te Nellie?




Tyllau Canon

Gadawn y llyn am funud, gan droi ein golygon tua wyneb copa’r graig ar yr ochr ogleddol, yno canfyddwn tua deg-ar-hugain o dyllau ebill, i gyd wedi eu cysylltu a’u gilydd trwy rychau wedi eu cynio i’r graig. Ffurfir y rhain mewn siap hirgrwn, a’u gelwir yn dyllau canon. 

Wrth edrych yn fanwl ar ambell dwll fe welwn ôl llosgi, y rheswm y tu ôl i hyn yw, bod y tyllau i gyd wedi eu llenwi a phowdwr du yn ogystal a’r rhychau cysylltiol, er mwyn iddynt danio mewn cyfres o un i’r llall ar achlysuron arbennig. Beth sy’n wych am y lleoliad hwn wrth gwrs yw’r garreg ateb a geir o gyfeiriad Cae Adda. Gellir dychmygu y byddai’r ffenomen naturiol yma’n effeithiol i ddyblu swn y ‘magnelau’ - 60 ergyd!


Troed y Diafol
Cyn gadael top y graig codwn ein golygon tuag at y de ac fe welwn nid nepell i ffwrdd, garreg sgwâr ei golwg, ger man a elwir yn Llyn Boddi Cathod - dim marciau am ddyfalu beth oedd yn digwydd yn fan honno!

Mae’r blocyn gwenithfaen yma tua wyth troedfedd o hyd a phum troedfedd mewn lled, gydag uchder o bedair troedfedd. Ar ochr ddwyreiniol y graig gwelwn ôl ebill ymhle holltwyd darn ohoni ryw dro, yn ffodus mae hyn wedi creu stepen i ni gymryd golwg mwy manwl ar wyneb ucha’r graig. Y peth mwyaf amlwg a welir yn gyntaf yw ôl dysgl fas tua deng modfedd o ddiamedr. Yn ôl llen gwerin, ôl troed ‘y Diafol’ yw hwn - ac fe wnaeth ef hyn pan yn camu o’r blocyn i Garreg yr Ogof!

Uwchben Troed y Diafol mae tarian ddestlus wedi ei cherfio i’r graig ac o fewn y darian ceir y disgrifiad canlynol: JMR BORN 1914. Mae’n bosib mai John Meirion Roberts, Madryn House, oedd y cyfaill hwn, neu ‘Hacks’ Mei fel y gelwir ef. Cafodd ei lysenw trwy fod yn yrrwr cerbydau ‘hackney’. Roedd yn fachgen hynaws iawn yn ôl pob son.

Mae yno galon hefyd a llythrennau ynddi ar ymyl y graig i’r dde o’r darian, ond nid yw’n bosib dehongli’r manylion.