Beth am fynd ati i feddwl am newyddion neu gyfarchion teuluol y gallwch yrru i mewn ar gyfer rhifyn Chwefror.
Y dyddiad cau ydi diwrnod olaf Ionawr.
Gallwch yrru ebost at y golygydd neu unrhyw un o'r pwyllgor, gweler y dudalen 'Pwy 'di pwy?'
neu gallwch roi eich newyddion i'r gohebydd lleol, neu i siop yr Hen Bost.
Mi wnaiff yn iawn ar gefn amlen neu ar bapur crand... y cynnwys sy'n bwysig!
Peidiwch a bod yn swil am safon eich sillafu aballu, bydd y golygydd yn medru twtio a chywiro. Ewch ati i gyfarch eich teulu a'ch ffrindiau. Diolch
Dyma golofn y Pigwr o rifyn Rhagfyr; be ydych chi'n feddwl am y pwnc dan sylw y tro hwn? Gadewch inni wybod.
COLOFN Y PIGWR
Wrth i'r siec
o ganpunt gyrraedd yr hen gojars fel cyfraniad blynyddol i gadw'r oerni draw,
onid yw'n amser gofyn ambell gwestiwn ynglŷn â hyn? Er toriadau ar fudd-daliadau a grantiau mewn
sawl cyfeiriad dros y blynyddoedd, mae'r tâl tanwydd yn parhau. Er i'r
llywodraeth gosbi sawl teulu gyda'r dreth llofftydd, mae'r taliad tanwydd pob
gaeaf yn dal i gyrraedd pensiynwyr. A dyna lle mae'r anghysondeb yn bodoli. Tra
bo'r can punt yn cael ei groesawu'n gynnes (a maddeuwch y chwarae ar eiriau) mewn
nifer fawr o gartrefi anghenus, mae'n rhaid gofyn a yw'r taliad yn angenrheidiol
ym mhob achlysur? Tra bo toriadau rheolaidd yn y gwasanaethau a gymerem yn
ganiataol ar un adeg, rhaid gofyn cwestiynau. Tra bo ein gwasanaeth iechyd yn
gwegian, a ninnau yn y dre hon wedi colli ein hysbyty, ynghŷd â dau feddyg,
mynnwn onestrwydd.
Ni thelir grantiau i fyfyrwyr ein colegau bellach, i gyd
oherwydd sefyllfa ariannol druenus y wlad. Ond dal i gael ei anfon i bob un
dros 60 oed mae'r tâl tanwydd. A dyna lle mae'r anghysondeb.
Meddyliwch,
mewn difri', ar sefyllfa fel hyn: Gŵr priod, 60 oed, mewn gwaith, yn ennill
cyflog anferthol o £100,000 mewn swydd fras, a'r wraig o'r un oed, hithau'n
brifathrawes, er enghraifft, ar £60,000
y flwyddyn o gyflog, yn derbyn dau gan punt o dâl tanwydd.
Beth am aelodau
seneddol? (ac mae nifer fawr ohonynt dros 60). Meddyliwch am rai fel Alex Ferguson,
a Roy Hodgson, dau reolwr, neu gyn-reolwyr cyfoethog timau pêl-droed, yn derbyn
y tâl. Onid yw'r cwîn a'i gŵr, a'i mab hynaf, a'i merch yn cael y siec o £100
bob blwyddyn? Beth am filiwnyddion rif-y-gwlith y wlad? Mae'n warth o beth fod
y miloedd ar filoedd o ex-pats Prydeinig, sydd wedi cefnu ar oerni
Prydain, ac wedi ymddeol i'w hafanau yn Sbaen yn derbyn y nawdd. (Nid af i
fanylu am rai sy'n derbyn dau bensiwn, ac yn dal i weithio ymhell wedi oed
ymddeol)
Ydyn, mae'r rhain i gyd yn derbyn yr arian hwn, heb ei wir angen o
gwbl, tra bo galwadau am arian mewn sawl cyfeiriad arall yn cael clust fyddar
gan y llywodraeth. Mae'n hwyr glas i wleidyddion fod yn ddigon dewr i dynnu
sylw at y fath anghysondeb, a gweithredu i unioni'r camwedd. Byddai'r arbedion
a wneid yn galluogi talu mwy o lwfans tanwydd i'r rhai sydd wirioneddol ei
angen.
A sôn am wastraffu arian mewn cyfnod o gyfyngder, glywsoch chi am y cynllun
hurt o osod ymylon concrid newydd, diangen, bob cam o'r bont dros y rheilffordd
ger hen stesion London i gyfeiriad croesffordd Sgwâr Oakeley? Ac wedi cwblhau'r
gwaith, gorfod codi pob un, a'i hail-osod yn ôl, oherwydd nad oeddynt yn ddigon
uchel i blesio peirianwyr y priffyrdd! Colli'r ffordd, ta be?
Da fyddai cael ymateb i'r uchod. Ond diwedd y gân yw'r geiniog, yn amlwg.
ReplyDelete