llun PW |
‘Hanes a Llenyddiaeth Gynnar
yr Ysgol Sul’ oedd testun sgwrs y Parchedig Ddr. Hugh John Hughes, yng
nghyfarfod Tachwedd.
Yn y drafodaeth fywiog ar
ddiwedd y ddarlith, soniodd Mrs. Pegi Lloyd-Williams am Ysgol Sul Jerwsalem,
lle cafodd ei phenodi’n ysgrifennydd yr Ysgol yn y Festri, a chofnodi nifer y
plant a’r casgliad a’r adnodau, cyn cael dyrchafiad, tua diwedd y 1940’au i fod
yn ysgrifennydd yr ysgol i oedolion, i fyny’r grisiau yn y capel. A bod tua
400, yn y dyddiau hynny, rhwng y ddwy ysgol yn Jerwsalem. Erbyn heddiw, mae’n
debyg mai yng nghapel y Bowydd yn unig y cynhelir Ysgol Sul ym mysg yr enwadau
anghydffurfiol yn y dref.
Daeth Twm Elias o Blas
Tan-y-bwlch atom ar fyr rybudd (oherwydd salwch y siaradwr oedd wedi ei drefnu
ar y rhaglen) – ym mis Rhagfyr. Gan fod Canolfan Astudiaethau Parc
Cendedlaethol Eryri yn noddi’r Fainc Sglodion ynghŷd â Llenyddiaeth Cymru, yr
ydym yn ddwbl ddiolchgar i Twm Elias am sefyll yn y bwlch fel hyn, ac y mae ei
arddull unigryw yn diogelu cyflwyniad bywiog bob tro. Chawsom ni mo’n siomi.
Yn dymhorol iawn, cafwyd
sgwrs am Arferion y Nadolig, a’r
is-benawd ‘O Saturnalia i Sion Corn’.
Mewn oesoedd cyntefig, ofnai cymdeithasau o bobl syml fod yr haul yn crebachu
wrth i’r dydd fyrhau, a’r tywydd yn oeri, gan deffro pryderon am gnydau’r
flwyddyn oedd i ddod. Rhaid aberthu i’r duwiau tuag Alban Arthan ein
cyndeidiau, er diogelu na fyddai Lleu, duw’r goleuni yn cilio am byth.
Cyfeddach baganaidd y Celtiaid yn ddigon tebyg i ddefodau’r hen Roegiaid a’r
hen Rufeiniaid ac eraill a geisiai foddio eu duwiau hwythau.
Erbyn oes y Seintiau,
tua’r bumed ganrif o Oed Crist, heb fawr o groeso i’r grefydd newydd, gwelodd
yr eglwys na thyciai dim oni fyddent yn impio’r credoau Cristnogol wrth yr hen
goelion a chydio eu syniadaeth wrth hen arferion paganaidd. Os oedd dynion i’w
hennill i addoli’r Duw Cristnogol oedd wedi creu’r haul, rhaid cydio geni Crist
wrth yr hen Saturnalia a arferai
addoli duw’r haul.
Yn ei ddull dihafal ei
hun, pentyrrodd Twm Elias wybodaeth am darddiad arferion megis y wledd
Nadoligaidd, y pwdin a’r darn arian wedi ei guddio ynddo, y celyn a’r canu
carolau.
Daeth y Canu Plygain yn
boblogaidd yng Nghymru, a’r canhwyllau’n dwyn goleuni i gaddug y bore bach yn
Eglwysi’r plwyfi, y goleuni’n troi’r tywyllwch yn ei ôl, yn union fel y
gwnelsai aberthau’r hen Saturnalia.
Tyfodd Eisteddfod ddydd Nadolig yn arfer yn llawer o bentrefi a threfi bychain
Cymru rhwng y ddau Ryfel Byd - efallai am fod blaenoriaid capeli’n dymuno i’r
bechgyn wneud rhywbeth amgen na chwarae pêl-droed.
Tybed, erbyn heddiw, fod
Gŵyl y Geni wedi troi’n Ŵyl y gwario, fel yr awgrymodd Twm Elias? Ynteu, a oes
gobaith ein bod wedi cyrraedd oes lle’r ydym yn dechrau alaru ar y tinsel ac yn
cofio am anghenion rhai nad yw eu byd mor gysurus a’n bywydau ni dros gyfnod y
gwyliau?
Rhagrybudd ... Cyfarfod Chwefror:
Daw’r Dr. Jerry Hunter,
Athro yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, i’r Fainc Sglodion nos Iau 6ed o Chwefror am 7.30 yn y Ganolfan
Gymdeithasol (ar y llawr isaf yno) i ddarlithio ar ‘Y Cymry a Brodorion America’. Croeso, nid yn unig i aelodau’r Fainc Sglodion; ond i unrhyw un arall
hefyd, o dalu £1 wrth y drws.
-dbj.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon