Showing posts with label Bro Ffestiniog. Show all posts
Showing posts with label Bro Ffestiniog. Show all posts

26.2.15

Clwb Nofio Bro Ffestiniog

Cyfnod prysur i Glwb Nofio Bro Ffestiniog

Mae hi wedi bod eithaf prysur i aelodau'r Clwb yn ddiweddar, gyda nofio noddedig 24 awr a'r gala gymunedol gyntaf erioed.


Fel diolch am waith caled ac ymroddiad y bobl ifanc, cafodd 38 o aelodau gyfle yn ddiweddar i fwynhau diwrnod o weithgareddau llawn hwyl mewn atyniadau lleol gyda chinio yn Antur Stiniog a chyffro wedyn ar linellau ZipWorld gyda hwyl Bounce Below i ddilyn.

Meddai Paul Williams, Rheolwr Pwll Nofio Bro Ffestiniog a Hyfforddwr y Clwb Nofio: ‘Allwn i ddim bod yn fwy balch o’r plant anhygoel hyn. Mae gweithio gyda nhw, a’u gweld yn datblygu, wir yn anrhydedd. Eu gweld yn ennill y gala nofio diweddar oedd uchafbwynt fy ngyrfa hyfforddi. Hoffwn ddiolch i'r rhieni am eu cefnogaeth gyson, ac i Gymuned Bro Ffestiniog am eu haelioni. Mae gennym le i fod yn falch iawn o'r nofwyr bach gwych.’

Daw’r ganmoliaeth yn sgîl yr her nofio noddedig 24 awr diweddar lle gwelwyd plant o chwech i 15 mlwydd oed yn nofio hyd y pwll 4,380 o weithiau - cyfanswm o 75 milltir. Llwyddwyd i godi'r swm anhygoel o £3,272 a fydd yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn y clwb i wella datblygiad nofwyr lleol.

Yn ogystal â’r gamp arbennig yma, mae Clwb Nofio Bro Ffestiniog wedi ennill eu Gala Gymunedol cyntaf erioed, sy'n dangos pa mor bell y mae'r nofwyr wedi dod yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Ychwanegodd y Cynghorydd Mair Rowlands, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer Gwynedd Iach: ‘Mae'n wych gweld y clwb nofio ym Mro Ffestiniog yn gwneud mor dda. Llongyfarchiadau mawr iddynt. Mae'n amlwg eu bod wedi datblygu yn sylweddol, a chyda'r offer newydd, pwy a ŵyr pa mor bell y gallant fynd?’

Os am wybodaeth am y clwb nofio, yna ffoniwch 01766 831066.

[Darn a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2015]

13.1.15

Taro'r post i'r parad gl'wad

Heno, yn fwy nac erioed, dwi'n falch o fod yn un o drigolion 'Stiniog.


 Roedd gen' i lwmp yn fy ngwddw'n gynharach heno wrth i fil o bobl y fro ddod i Ysgol y Moelwyn ar noson oer, er mwyn gyrru neges glir i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr; i'r gweinidog iechyd, Mark Drakeford; ac i'r rhai sy'n cael eu talu i'n cynrychioli ni yn seneddau Caerdydd a Llundain.

Ciwio brwdfrydig tu allan
Clywch! Mae'r gymuned hon yn mynnu cael gwelyau i gleifion yn ôl yn yr ysbyty, yn ogystal â'r gwasanaeth pelydr X, a'r adran mân anafiadau.

Bu'n rhaid cau drysau'r neuadd orlawn oherwydd rheolau tân, a'r cefnogwyr yn dal i giwio i ddod i mewn, felly fe gynhaliwyd y cyfarfod ddwywaith, i ddwy llond neuadd!

Roedd y trefnwyr -Cyngor Tref Ffestiniog a Phwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog- angen cefnogaeth cant a hanner o etholwyr y fro, er mwyn cael cynnal refferendwm lleol, yn holi'r cwestiwn:

"A ddylai gwlâu ar gyfer cleifion, gwasanaeth pelydr-x ac uned mân anafiadau fod yn rhan o unrhyw gynlluniau ar gyfer Ysbyty Coffa Ffestiniog?"


Cafwyd 150 sawl gwaith!

Byddai'n GYWILYDD i neb beidio talu sylw y tro yma. 
Diolch i'r trefnwyr, a diolch i bobl dda Bro Ffestiniog am ddangos eu hochor. Eto.

Ymlaen!

PW. 13eg Ionawr 2015
----------------------------------

Ôl-nodyn: 'Y gair olaf' am yr ymgyrch.



17.9.14

Pryderon iechyd yn dwyshau!

Ar dudalen flaen, a thu mewn i rifyn Medi Llafar Bro, cafwyd y newyddion diweddaraf gan Bwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Bro Ffestiniog, gan gynnwys torri'r newyddion syfrdanol y gall y fro fod yn ddi-feddyg ymhen 6 mis. Cafwyd adroddiad am y cyfarfod cyhoeddus diweddaraf lle bu trafod brwd ar y pwnc, ac fe gafwyd nifer o lythyrau hefyd.


Roedd pob un o'r rhain yn holi lle oedd cynrychiolwyr trigolion y fro: yn gynghorwyr tref, cynghorwyr sir, a'r aelodau cynulliad a seneddol.

Roedd galw yn arbennig ar y Cyngor Tref i ateb cwestiynau penodol. Erbyn heddiw, mae newyddion Radio Cymru, a Golwg 360 wedi rhoi sylw i ddatganiad gan Gyngor Tref Ffestiniog.

Dyma flas o'r erthyglau yn rhifyn Medi. Prynwch Llafar Bro i ddarllen y stori'n llawn. Hefyd mae datganiad y Cyngor Tref yn ymddangos ar y gwaelod. Ar ddiwrnod lle mae'r British Medical Association wedi galw am ymchwiliad annibynnol i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, mi gewch chi benderfynu be ddaw o hyn oll...

O'R PWYLLGOR AMDDIFFYN
gan GVJ
Bydd yr Athro Marcus Longley, sef y gŵr a gomisiynwyd gan Mark Drakeford i wneud arolwg o gyflwr gwasanaethau iechyd yng nghefn gwlad Cymru, yn cyflwyno’i adroddiad i’r Gweinidog Iechyd ddiwedd Medi, a’n gobaith ydi y bydd y Llywodraeth Lafur yn parchu’n deiseb ddiweddaraf ni ac yn aros tan ar ôl hynny cyn rhoi ystyriaeth i’r ‘Cynllun Busnes’ a gyflwynwyd gan y Bwrdd Prosiect [sef Prosiect Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig a sefydlwyd gan Betsi i ystyried beth i'w wneud efo'r adeilad ar ol cau'r Ysbyty yma yn Stiniog]. Yn y cyfamser, fodd bynnag, mae’n ymddangos bod pethau’n cael eu gwthio ymlaen yn frysiog, doed â ddêl. Mae Adran Gynllunio’r Cyngor Sir eisoes wedi derbyn cais i gael dymchwel yr Adran Pelydr-X, drws nesaf i’r Ganolfan Iechyd ar Heol Wynne, er mwyn gneud lle i faes parcio ychwanegol, ac mae’r Cyngor Tref wedi cymeradwyo’r bwriad, heb geisio barn y trethdalwyr sy’n byw yn y rhan honno o’r dref.

Pryder mwy difrifol fyth!
Daeth inni’r newyddion cythryblus (ond anochel o dan yr amgylchiadau, mae’n debyg) am fwriad un o’n meddygon i ymddeol a’r llall i ymddiswyddo o fewn y chwe mis nesaf. Does dim rhaid gofyn pam, wrth gwrs! Ond be, meddech chi, fydd yn digwydd wedyn? Roedd y Pwyllgor Amddiffyn yn gofyn yr union gwestiwn yma saith mis yn ôl, yn rhifyn Chwefror o ‘Llafar Bro’ – ‘Beth pe bai un ohonynt– neu’r ddau hyd yn oed! (h.y. y meddygon)  – yn penderfynu codi pac ac ymuno â phractis arall er mwyn cael ysgafnach byd? ... Be wedyn i ni yma? Ydi aelodau’r Bwrdd Prosiect wedi ystyried y posibilrwydd hwnnw, os gwn i? Y posibilrwydd o gael ysbyty nid yn unig heb wlâu ond heb feddygon yn ogystal?

Erbyn hyn, mae’r Bwrdd Prosiect wedi cwblhau ei waith a’r aelodau i gyd (ac eithrio dau neu dri) yn fodlon eu byd, mae’n debyg, o fod wedi arbed £¾m yn flynyddol i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.


IECHYD I'R ENAID O LEIA'
gan VPW
Iechyd i'r enaid, a defnyddio ymadrodd perthnasol, oedd gweld ymateb trigolion yr ardal hon i'r alwad iddynt fod yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Sefydliad y Merched, bnawn Iau, 31ain o Orffennaf. Ymhell cyn amser cychwyn y cyfarfod, roedd y neuadd yn orlawn, gyda nifer yn gorfod sefyll gydol yr awr a hanner o draddodi. Ac nid brodorion y Blaenau'n unig, 'chwaith; daeth nifer dda o ddalgylch y dre' - Dolwyddelan, Trawsfynydd, Gellilydan, Maentwrog, Gellilydan a mannau eraill i ddangos eu cefnogaeth, diolch iddynt.

Cyfarfod wedi ei drefnu gan Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Coffa oedd hwn, gyda'r Athro Marcus Longley wedi ei wahodd atom i glywed am brofiadau pobl yr ardal ynglŷn â'r Ysbyty, a'r gwasanaeth iechyd yn gyffredinol yma.  Ymhell cyn hyn, roedd yr Athro wedi derbyn dogfen drwchus eisoes o fanylion am yr angen i gadw'r ysbyty, ac am bryderon y trigolion lleol. Yn naturiol, roedd aelodau'r Pwyllgor Amddiffyn yn awyddus i'w gael i ddod i'r Blaenau, ac wedi peth gohebu, penderfynwyd ar ddyddiad fyddai'n gyfleus i'r ddwy ochr. Yn y cyfarfod, cafwyd areithiau grymus gan Geraint Vaughan Jones, cadeirydd y Pwyllgor Amddiffyn, Dr. Walter Evans, y Cynghorydd Linda Jones a Gwyn Roberts, clerc Cyngor Plwyf Dolwyddelan. Amlinellodd Geraint hanes yr ymgyrch i geisio diogelu'r ysbyty a'r gwasanaeth iechyd, ac i geisio perswadio'r awdurdodau iechyd o'r angen i gael y gw'lau, yr uned Pelydr X a'r uned mân anafiadau'n ôl.

Cafwyd hanes y trafferthion ynglŷn â gweddill y practis meddygol gan Dr Evans, a fu tan yn ddiweddar yn cynnwys pedwar meddyg. Rhoddodd Gwyn Roberts ddarlun o'r sefyllfa yn Nolwyddelan y dyddiau hyn, wrth i'r ddau feddyg geisio gwasanaethu’r plwy gwasgaredig hwnnw, yn ychwanegol i'w gwaith yn ardal 'Stiniog a gweddill y dalgylch. Yr oedd Linda, fel cynghorydd sir, yn ddi-flewyn-ar-dafod am y sefyllfa druenus y mae cleifion y fro hon ynddi, gan gyfeirio at y modd yr ydym wedi ein camarwain gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Derbyniodd pob un o'r siaradwyr gymeradwyaeth haeddiannol y gynulleidfa.

Mewn ymateb i gais y llywydd am sylwadau 'o'r llawr', cafwyd nifer yn datgan eu cwynion am wendidau amlwg yn y ddarpariaeth ar gyfer cleifion yr ardal, gyda'r Athro Longley yn rhoi gwrandawiad astud i bob un ohonynt. Yn amlwg, yr oedd yr Athro Longley wedi profi drosto'i hun y teimladau cryfion sy'n bodoli yn y cylch tuag at y mater llosg hwn. 'Does ond gobeithio y bydd yn cario'r neges yn glir i'r Gweinidog Iechyd yn y Cynulliad, Mark Drakeford, ac y bydd hwnnw, yn ei dro, yn sylweddoli'r cam mawr y mae cleifion 'Stiniog 'ar fro yn ei gael gan awdurdodau'r gwasanaeth iechyd. Beth bynnag yw'r gwahaniaeth barn rhwng y gwahanol garfannau ynglŷn â'r pwnc llosg hwn, mae'n ddyletswydd ar BAWB i ddangos yn gyhoeddus ym mha le y maent yn sefyll, fel y caiff yr etholwyr i gyd benderfynu drostynt eu hunain i bwy i ymddiried ynddynt ar ddiwrnod etholiad.









 [Darn am y ddeiseb yn fan hyn]









Darn o lythyr gan DT:
Mae llawer o betruso ymysg trigolion yr ardal pam nad oedd ein cynghorwyr lleol yn bresennol yn y cyfarfod cyhoeddus ar ddydd Iau, 31/7/2014.  Fel y gwyddoch, pwrpas y cyfarfod oedd rhoddi cyfle i drigolion yr ardal ddatgan eu barn a’u pryderon am yr holl wasanaethau iechyd a gollwyd yn ein hardal a cheisio gwrthdroi cynlluniau Betsi Cadwaladr ac adenill gwelyau yn yr Ysbyty Goffa, ac ail sefydlu gwasanaethau eraill a gollwyd.
Erbyn hyn, deallir fod y Cyngor Tref wedi cyfarfod â’r Athro Marcus Longley awr o flaen y cyfarfod cyhoeddus...
Pam na fuasai ein cynghorwyr wedi dod i’r cyfarfod cyhoeddus er dangos cefnogaeth i drigolion yr ardal, a hefyd rhoddi eu sylwadau i Marcus Longley yn gyhoeddus fel bod pobol yr ardal yn cael clywed beth yn union yw safiad y Cyngor Tref ar ddyfodol yr ysbyty?
Hoffwn wneud cais i gadeirydd y Cyngor Tref sicrhau fod adroddiad llawn o’r cyfarfod yn cael ei gyhoeddi yn y papur bro.


Datganiad i'r wasg gan GYNGOR TREF FFESTINIOG 16 Medi 2014
Yn dilyn adroddiadau yn y wasg bod y ddau feddyg teulu lleol sy'n gweithio yn y dref wedi cynnig eu hymddiswyddiad a’u bod yn cynllunio gadael eu swyddi yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd, mae Cyngor Tref Ffestiniog wedi ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ofyn am gyfarfod brys i drafod yr argyfwng mewn darpariaeth gofal iechyd yn yr ardal.

Yn y llythyr dywed y Cyngor: "Fe fyddai colli’r ddau feddyg teulu sydd ar ôl yn drychinebus ac mae angen i ni drafod hyn gyda'r brys mwyaf. Yr ydym ni, y Cyngor Tref, yn gofyn am gyfarfod cyn gynted â phosibl. Rydym yn barod i gyfarfod mewn man ac amser o'ch dewis. Yn ogystal, byddem yn hoffi i ddatgan ein bod ni’n cefnogi cynnwys gwlâu yn y ganolfan iechyd integredig arfaethedig. "

Rory Francis, Cadeirydd y Cyngor Tref yn ychwanegu: "Dim ond blwyddyn yn ôl gollodd y dref yr Ysbyty Coffa, gwasanaeth cyhoeddus gwerthfawr a hanfodol bwysig. Ond byddai colli ddarpariaeth gofal iechyd sylfaenol yn fwy o fygythiad byth. Felly, rydym yn galw ar y Bwrdd Iechyd i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod meddygon teulu newydd yn cael eu penodi ac i roi terfyn ar yr ansicrwydd ynghylch y ddarpariaeth gofal iechyd sylfaenol yn yr ardal. "






2.2.14

Y Fainc Sglodion -ysgol Sul

Cafwyd adroddiad yn rhifyn Ionawr gan DBJ, am gyfarfodydd diweddar Cymdeithas Ddiwylliannol y Fainc Sglodion. Dyma bytiau o'r adroddiad, a manylion y cyfarfodydd nesaf:



llun PW



‘Hanes a Llenyddiaeth Gynnar yr Ysgol Sul’ oedd testun sgwrs y Parchedig Ddr. Hugh John Hughes, yng nghyfarfod Tachwedd.

Yn y drafodaeth fywiog ar ddiwedd y ddarlith, soniodd Mrs. Pegi Lloyd-Williams am Ysgol Sul Jerwsalem, lle cafodd ei phenodi’n ysgrifennydd yr Ysgol yn y Festri, a chofnodi nifer y plant a’r casgliad a’r adnodau, cyn cael dyrchafiad, tua diwedd y 1940’au i fod yn ysgrifennydd yr ysgol i oedolion, i fyny’r grisiau yn y capel. A bod tua 400, yn y dyddiau hynny, rhwng y ddwy ysgol yn Jerwsalem. Erbyn heddiw, mae’n debyg mai yng nghapel y Bowydd yn unig y cynhelir Ysgol Sul ym mysg yr enwadau anghydffurfiol yn y dref.

Daeth Twm Elias o Blas Tan-y-bwlch atom ar fyr rybudd (oherwydd salwch y siaradwr oedd wedi ei drefnu ar y rhaglen) – ym mis Rhagfyr. Gan fod Canolfan Astudiaethau Parc Cendedlaethol Eryri yn noddi’r Fainc Sglodion ynghŷd â Llenyddiaeth Cymru, yr ydym yn ddwbl ddiolchgar i Twm Elias am sefyll yn y bwlch fel hyn, ac y mae ei arddull unigryw yn diogelu cyflwyniad bywiog bob tro. Chawsom ni mo’n siomi.

Yn dymhorol iawn, cafwyd sgwrs am Arferion y Nadolig, a’r is-benawd ‘O Saturnalia i Sion Corn’. Mewn oesoedd cyntefig, ofnai cymdeithasau o bobl syml fod yr haul yn crebachu wrth i’r dydd fyrhau, a’r tywydd yn oeri, gan deffro pryderon am gnydau’r flwyddyn oedd i ddod. Rhaid aberthu i’r duwiau tuag Alban Arthan ein cyndeidiau, er diogelu na fyddai Lleu, duw’r goleuni yn cilio am byth. Cyfeddach baganaidd y Celtiaid yn ddigon tebyg i ddefodau’r hen Roegiaid a’r hen Rufeiniaid ac eraill a geisiai foddio eu duwiau hwythau.

Erbyn oes y Seintiau, tua’r bumed ganrif o Oed Crist, heb fawr o groeso i’r grefydd newydd, gwelodd yr eglwys na thyciai dim oni fyddent yn impio’r credoau Cristnogol wrth yr hen goelion a chydio eu syniadaeth wrth hen arferion paganaidd. Os oedd dynion i’w hennill i addoli’r Duw Cristnogol oedd wedi creu’r haul, rhaid cydio geni Crist wrth yr hen Saturnalia a arferai addoli duw’r haul.

Yn ei ddull dihafal ei hun, pentyrrodd Twm Elias wybodaeth am darddiad arferion megis y wledd Nadoligaidd, y pwdin a’r darn arian wedi ei guddio ynddo, y celyn a’r canu carolau.

Daeth y Canu Plygain yn boblogaidd yng Nghymru, a’r canhwyllau’n dwyn goleuni i gaddug y bore bach yn Eglwysi’r plwyfi, y goleuni’n troi’r tywyllwch yn ei ôl, yn union fel y gwnelsai aberthau’r hen Saturnalia. Tyfodd Eisteddfod ddydd Nadolig yn arfer yn llawer o bentrefi a threfi bychain Cymru rhwng y ddau Ryfel Byd - efallai am fod blaenoriaid capeli’n dymuno i’r bechgyn wneud rhywbeth amgen na chwarae pêl-droed.

Tybed, erbyn heddiw, fod Gŵyl y Geni wedi troi’n Ŵyl y gwario, fel yr awgrymodd Twm Elias? Ynteu, a oes gobaith ein bod wedi cyrraedd oes lle’r ydym yn dechrau alaru ar y tinsel ac yn cofio am anghenion rhai nad yw eu byd mor gysurus a’n bywydau ni dros gyfnod y gwyliau?

Rhagrybudd ... Cyfarfod Chwefror:

Daw’r Dr. Jerry Hunter, Athro yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, i’r Fainc Sglodion nos Iau 6ed o Chwefror am 7.30 yn y Ganolfan Gymdeithasol (ar y llawr isaf yno) i ddarlithio ar ‘Y Cymry a Brodorion America’. Croeso, nid yn unig i aelodau’r Fainc Sglodion; ond i unrhyw un arall hefyd, o dalu £1 wrth y drws.
-dbj.