21.7.13

Ugain mlynedd ers 'cau' yr atomfa

Ugain mlynedd yn ôl yng Nghorffennaf 1993 cyhoeddwyd yn swyddogol na fyddai atomfa Trawsfynydd fyth yn cynhyrchu trydan eto. Hynny ydi, roedd y lle i 'gau'.

Oedd, roedd y ddau adweithydd wedi bod yn segur ers 1991 tra cynhaliwyd profion a gwaith cynnal a chadw ar yr offer; ac roedd nifer o'r gweithlu wedi amau'r gwaethaf. Ond i'r 600 oedd yn gweithio yno bryd hynny, roedd dal yn ergyd i gael y cadarnhad hwnnw fod y gwaith yn 'darfod'.

Waeth be fo'ch barn chi ar ynni niwclear, does dim gwadu pwysigrwydd yr atomfa fel cyflogwr, a gwerth y cyflogau hynny i deuluoedd a chymunedau'r fro hon.

llun o gasgliad Comin Wikimedia
Mi fu Llafar Bro yn holi ambell un o gyn-weithwyr y safle am eu hynt a'u teimladau erbyn hyn. Fel mae'n digwydd bod, roeddwn i'n beiriannydd yno bryd hynny; wedi prynu fy nhŷ cyntaf a newydd briodi (daeth y newyddion swyddogol pan oeddwn ar fy mis mêl -dyna groeso adra!).


Y prif gof sydd gennyf i -a dwi wedi bod yn eithaf blin a thrist am hyn o dro-i-dro dros y ddau ddegawd ers hynny- ydi rheolwyr y cwmni yn creu ofn ymysg y gweithwyr am eu dyfodol. Awgrymwyd bryd hynny mae dim ond sgerbwd o weithlu fyddai yno yn fuan iawn, ac y dylai pawb godi pac am atomfeydd breision Lloegr ar unwaith.
Fel y gwyddom i gyd, gadawodd llu o deuluoedd ifanc ac unigolion yn y cyfnod wedi’r cau, a gwelsom newidiadau mawr yn ein cymunedau ers hynny. Roedd tua 600 yn gweithio yno ym 1993. 

Yn ôl gwefan Magnox mae rhywbeth rhwng 633 a 797 yn gweithio yno heddiw (haf 2013, yn staff; staff asiantaeth; a chontractwyr).

Mewn cyfweliad efo disgyblion Ysgol Bro Hedd Wyn yn 2011, sydd ar gael ar ffurf cryno-ddisg 'Stori Traws' yn llyfrgelloedd Gwynedd, ac ar wefan Casgliad y Werin, mae'r peiriannydd Madog Jones yn dweud:
"Dyna un newid dwi wedi'i weld -pan wnes i ddechrau roedd 90-95% oedd yn gweithio yn Traws yn byw yn gymharol leol".
Rwan, meddai, mae llawer yn dod yma o bell iawn... yn aros am yr wythnos, ac yn mynd adra i Newcastle, Southampton ac yn y blaen am y penwythnos...

"Mae'r gweithlu'n llawer mwy symudol ers i'r atomfa gau".


Tybed oedd wir angen i Fro Ffestiniog golli cymaint o deuluoedd a’u sgiliau a’u cyflogau? 
Oni ellid fod wedi cadw llawer o'r staff lleol a datblygu canolfan ragoriaeth yno ar gyfer dadgomisiynu'r atomfa, a gorsafoedd trydan eraill?

Wrth gwrs, mae rhai yn gweithio rwan yn yr Wylfa, ac eraill wedi mwynhau ac elwa o ehangu gorwelion. Fel dywed rhai, pan mae un drws yn cau, mae rhai eraill yn agor...

Un a gafodd swydd oddi cartra' oedd Gareth Jones, oedd yn arolygwr iechyd ffiseg -health physics monitor:

Roedd o’n un o’r dewisiadau anodda i fi orfod gwneud. ‘Rioed di bod yn bell o’n milltir sgwâr. Yn 23 oed efo dau o blant bach a dim garantî am fwy na 3/5 mlynadd o waith. Symudais i Suffolk i ddechra'. Roedd mynd i fanno fel culture shock ar ôl Traws lle oedd pawb fel teulu agos ac yn nabod eu gilydd. Roedd pawb yn chwilio am promotion yn Sizewell a ddim yn poeni am roi cyllall yn dy gefn er mwyn ei gael! Mi ddois i Hinkley wedyn ym 1998, oedd yn fwy fel Traws fel lle i weithio -ond fydd nunlla 'run fath. Bob cyfla' fyddai'n gael, fyddai'n siarad Cymraeg efo'r criw Traws sydd yma".
Mae Gareth yn Beiriannydd Diogelwch Amgylcheddol erbyn heddiw. "Dwi wedi hiraethu ers y diwrnod cyntaf" meddai, "Dwi'n ffonio adra bob dydd er mwyn cael siarad efo fy rhieni a'm chwiorydd, a hen ffrindia bob hyn a hyn, er mwyn cael siarad Cymraeg".

Aros wnaeth Heather Evans-Rice:
"Roeddwn yn glerc yn yr adran beirianneg, a bu'm yn ffodus i gael fy newis i fod ar y tîm craidd. Roeddwn yn ifanc iawn bryd hynny a doedd symud o’r ardal ddim yn opsiwn i mi gysidro a dweud gwir.  Pe bawn wedi gorfod gadael mae'n debyg mae chwilio am waith yn lleol y byswn wedi'i wneud. Os dwi’n cofio’n iawn doedd dim sicrwydd pendant faint o flynyddoedd o waith oedd gennym ond dwi yn cofio iddynt ddweud y byddai adolygiad arall ('toriadau') wedi i'r tanwydd adael y safle (oddeutu dwy flynedd felly). Cymryd pethau fel y daethant a wnes i felly, a bod yn lwcus iawn o gael fy nghadw ymlaen bob tro roedd adolygiad yn cael ei wneud".
Erbyn heddiw, mae Heather yn gweithio fel Cymhorthydd Gweinyddol i Antur Stiniog, ond efo atgofion melys am weithio yn yr atomfa. "Bu imi wneud llawer iawn o ffrindiau ac mae ambell i gyfeillgarwch wedi parhau hyd heddiw".

Mae Dewi Euron Griffiths yn disgrifio'i hun fel 'cyw-beiriannydd' ym 1993, ac erbyn hyn yn Beiriannydd Trydanol efo First Hydro, yn gyfrifol am y generaduron ym mhwerdai Dinorwig a Thanygrisiau.

"Gadewais yr atomfa i fynd i wneud gradd ym Mhrifysgol Bangor. cefais swydd unwaith eto gyda Magnox yn eu canolfan yn Berkeley rhwng Caerloyw a Bryste. Fy mwriad o'r cychwyn oedd dychwelyd, a thrwy'r cyfnod cadwais gysylltiad cyson â'r ardal. Ro'n i'n dod adra bob penwythnos ac yn chwarae criced i dîm Bro Ffestiniog bryd hynny. Yna cefais gyfnod yn yr Wylfa cyn cael y swydd dwi ynddi heddiw. Erbyn hyn dwi'n falch o'r dewisiadau wnes i ac yn mwynhau fy swydd bresennol, ond doedd ambell i benderfyniad ddim yn hawdd ar y pryd. Er fy mod yn byw yng Nghaernarfon sydd ond tua 30 milltir o’r Blaenau dwi'n dal i hiraethu am yr ardal, yn enwedig y llynnoedd dwi mor hoff o'u pysgota".
Arhosodd Marc Williams yn ei swydd yn yr adran health physics, cyn gadael ym 1994 er mwyn astudio am radd Radiograffeg ym Mangor.
“Mae’n rhyfedd o fyd i feddwl bod mwy o weithwyr yn yr Atomfa rŵan na phan oedd y lle yn cynhyrchu trydan! Ond roedd rhywun reit bryderus ar y pryd os oedd gwaith yn mynd i fod yno yn yr hir dymor.” 
Erbyn hyn mae Marc yn Uwch Radiograffydd yn adran pelydr-x Ysbyty Glan Clwyd, ac yn gyfrifol am yr adran feddygaeth niwclear yno.
"Dwi'n dal i fyw yng ngogledd Cymru: roedd hynny'n bwysig iawn i mi. Mae teuluoedd Eirian a finna dal i fyw yn Blaenau a Llan, felly mae cyfle yn codi i ymweld yn aml iawn. Mae'n rhyfedd fel mae rhywun yn mynd yn hŷn, mae 'tynfa' yr ardal yn cryfhau. Pwy a wyr, falle bydd cyfle i ail ymgartrefu yn 'Stiniog un diwrnod".
Dyna grisialu'r hyn sy'n amlwg am bobl Bro Ffestiniog, sef bod y gwreiddiau'n rhai dyfnion, a theimlad o berthyn yn gryf o hyd.

Mi fues innau'n lwcus i fedru cofrestru ar gwrs ym Mangor, er mwyn cyfuno fy niddordeb ym myd natur efo gyrfa newydd yn y maes cadwraeth. Roedd yn gyfnod anodd o ran jyglo'r astudio a thalu morgais ac ati, ond mae wedi caniatáu imi aros yn fy nghynefin. Dwi'n falch o lle ydw i rwan, ond hefyd yn hynod falch o fod wedi cydweithio a mwynhau dyddiau difyr iawn efo pob un o'r cymeriadau uchod.
Paul Williams


[Diweddarwyd 2018 er mwyn cynnwys yr erthygl gyfa']


1 comment:

  1. Vivian Parry Williams24/7/13 13:32

    Llawer o gamarwain y cyhoedd, a'r gweithwyr oedd yno am ddyfodol a thranc yr Atomfa, yn anffodus. Yn ôl rhai adroddiadau ar y pryd, byddai'r adeilad dan domen o bridd mewn llai na 20 mlynedd. Nid oedd raid i'r holl deuluoedd symud o'r ardal, yng ngolau'r ffaith fod cymaint yn dal i geisio dad-gomisiynu'r Atomfa, ac yno am rai blynyddoedd eto, 'n'ôl pob golwg.

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon