Ydi
ffordd enwocaf Cymru- yr A470- ar fin cael ei ‘symud’? Dyma’r hyn ddywed y cyngor tref:
Mae’n
bosib y caiff y prif ffyrdd ym Mlaenau Ffestiniog a Llan eu hail-ddynodi i
wella diogelwch, dibynadwyedd teithiau, a'r amgylchedd yng nghanol y dref a
chymunedau cyfagos.”
Mae
cynghorwyr Tref Ffestiniog wedi croesawu llythyr gan Edwina Hart, Gweinidog Llywodraeth
Cymru dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, lle mae hi'n dweud bod ei
swyddogion ar hyn o bryd yn adolygu statws y ffyrdd ac mae’n bosibl y caiff yr
A470 a'r A496 eu hail-ddynodi.
"Mae
Llywodraeth Cymru newydd wneud buddsoddiad sylweddol i wella canol tref y Blaenau,
i greu amgylchedd cyhoeddus bywiog ac annog pobl leol ac ymwelwyr i dreulio
amser ac arian yma.
Mae'r traffig trwm trwy ganol y dref yn tanseilio’r nod o
adfywio’r dref. " Y Cyng. Mandy Williams Davies.
neith newid y ffordd ddrwg i Bleanau, llai o passing trade
ReplyDeleteWel, ia mae hynny'n bwynt dilys. Be ydi barn pawb arall?
Delete