Mae’r cerflun hwn gan David Nash yn addurno’r ffordd i mewn
i Flaenau Ffestiniog o gyfeiriad Rhiw ac ar ochr y ffordd mae’n destun cryn
ddadlau.
Fe wnaeth David Nash y cerflun gwreiddiol allan o bren … ac ef bellach
yw prif gerflunydd sy'n gweithio gyda phren ym Mhrydain os nad y byd. Ond mae’r
cerflun hwn o fellten yn taro wedi ei wneud o ddur a dros amser bydd yn ymddangos
fel ei fod yn rhydu ac yn troi’n goch.
Mae rhai hefyd yn gweld siâp y
llwybr igam ogam sy'n esgyn i ben tomen yr Oakeley yn y cerflun ac mae’n hawdd
cymharu gan fod y llwybr yn union du ôl i’r cerflun.
Dyma’r unig gerflun o
eiddo Nash sydd yn cael ei arddangos yng Nghymru ar hyn o bryd a theilwng iawn
ei fod wedi cytuno i roi y cerflun hwn i sefyll yn y dref sydd wedi bod yn
gartref iddo ers bron i hanner can mlynedd. Mae’r cerflun yn un trawiadol ac
mae amryw wedi teithio i Stiniog yn un swydd i gael ei weld … byddai’n wych
petai mwy o’i gerfluniau yn cael lle anrhydeddus yn nhirlun Stiniog.
Mae cymaint yn y dref hon sy’n tynnu
sylw … yn wir mae llawer o olygfeydd unigryw yma. Dywedodd Falcon Hildred yn ei
lyfr diweddaraf: ‘Rwy’n credu mai tref Blaenau Ffestiniog a’r dirwedd leol yw’r
enghraifft gorau a mwyaf cyflawn o dirwedd ddiwydiannol ym Mhrydain. Nid yw hwn wedi ei stwffio i ryw
amgueddfa ond mae o’n cwmpas i’w weld bob dydd ‘… rhaid felly i’r ymwelydd
brofi Stiniog yn hytrach na jyst gweld y dref.
Lluniau gan TVJ.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon