llun -Y Lolfa |
Cwpled
trist o’i gerdd at Eben Fardd ar golli dwy ferch
Cledd a min oedd claddu merch
Cledd deufin, claddu dwyferch.
Ac
englyn yn cydnabod iddo yntau hefyd gael colled tebyg.
E welais innau las wyneb – merch im
Ym mraich oer marwoldeb,
A’r rudd lwyd, oeraidd wleb – wedi gwywo,
Lle gwelais yno yr holl glysineb.
Dywedir
iddo lunio hon ger fynwent Llanymstwmdwy
Yn Eifion y bu f’hynafiaid, - yno
Hunant, hen anwyliaid;
Wylo’r wyf, dy adael raid – fro lonydd,
Ond tir Eifionydd yw cartre f’enaid.
Ac
fe ganodd hon er cof am ei gyfaill Robert ap Gwilym Ddu o’r un plwyf.
O, fy nhad annwyl fu’n denu – a’i gan
Ei genedl i’w garu,
Rhyw fodd gwnai pawb ryfeddu
At beraidd dant y Bardd Ddu.
Ac fel
hyn canodd o dan adfeilion Castell Dinas Bran.
Englyn a thelyn a thant’ – a’r gwleddoedd
Arglwyddawl ddarfuant;
Lle bu bonedd Gwynedd gynt
Adar nos a deyrnasant.
Englyn
yn cyfleu pwysau pechod sydd yma
Trwy’m buchedd y trwm bechais - gwaed yr Oen
Gyda’i rinwedd geblais;
Uchlaw oll, ag uchel lais,
Iesu eilwaith groeshoeliais.
Arwydd
tu allan i siop esgidiau:
Ha! Y troed noeth, tyrd yn nes –hwde
Esgidiau rhad cynnes!
Rhag oer hin, eira a gwres
Nychlyd cei dirion achles.
A
dyma gwpled i’r alarch:
Hwyliwr hardd, eiliw yr od,
A gwsg ar fron ei gysgod.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon