Darn o lythyr gan Myrddin ap Dafydd yn rhifyn Mehefin 2012:
Wrth
ymweld â mynwent Pen-yr-Heol ger Senghennydd yn ddiweddar, deuthum ar draws
carreg fedd ac enwau tri brawd o Flaenau Ffestiniog arni. Dyma’r arysgrif ar y
llechfaen:
Mewn
cof anwyl am
William
Griffith Hughes
Hugh
Hughes
22
mlwydd oed
Humphrey
Hughes
19
mlwydd oed
Tri
o feibion Francis a Winifred Hughes
“Cemlyn”
Blaenau Ffestiniog
fuont
feirw yn Nhanchwa alaethus
Senghennydd,
Hydref 14, 1913.
“Dygi
hwynt ymaith megis â llifeiriant,
y
maent fel hun y bore, y maent
fel llysieuyn a
newidir.”
Wrth chwilio am hanes
y danchwa yng nghyfnodolion Cymraeg Hydref 1913, daethom ar draws y dyfyniad
hwn:
Yn hanu o Ffestiniog - John Owen Jones a’i fab Evan
Jones. Dywedodd Evan wrth ohebydd Banerau
ac Amserau Cymru:
“Ni [bum] yn gweithio ond pedwar mis ar ddeg dan y
ddaear. Pan ddigwyddodd y ffrwydrad, clyw[som] drwst ofnadwy, ac yna swn cwympiad.
Yr oedd yna awyr yn ysgubo drwy y pwll, ond yr oedd yn llawn o lwch a mwg. Yr oedd[em] yn awr ac
eilwaith yn gwlychu gwefusau [ein] gilydd â dwfr oedd [gennym] mewn potel, a
diau i hyny [ein] cadw yn fyw nes i’r parti o waredwyr gyrhaedd.”
Rydym yn ceisio casglu mwy o wybodaeth am y teuluoedd hyn
a byddem yn ddiolchgar iawn o glywed gair gan unrhyw un yn yr ardal fedr fod o
gymorth inni wrth gofio am drychineb a ysgydwodd Cymru gyfan yn Hydref 1913.
Yn gywir,
Myrddin ap Dafydd
Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst LL26 0EH [01492] 642031 (myrddin[at]carreg-gwalch.com)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon