Cefnogwyd y gystadleuaeth arddio flynyddol yn frwd unwaith eto gan drigolion lleol a busnesau fel ei gilydd. Eleni croesawyd beirniad newydd, Mr Richard Vero, MCIHort, a hoffem ddiolch iddo am ei gyfraniad a’i ymdrechion wrth feirniadu’r holl erddi.
Dywedodd Richard
“Mae beirniadu Blaenau yn ei Blodau eleni wedi bod yn gymaint o fraint. Rwyf wedi cyfarfod â thrigolion a gwirfoddolwyr anhygoel, gan roi cipolwg anhygoel i mi ar y nifer o arddwyr brwdfrydig, a ddangosodd eu hangerdd am eu mannau awyr agored gyda gerddi mor brydferth, gerddi rhandir yn llawn llysiau ffyniannus, basgedi crog a photiau o bob lliw a meintiau, llawn lliw. Mannau agored cymunedol sydd wedi elwa o oriau di-ri o waith caled gan wirfoddolwyr er budd iechyd a lles pawb. Wedi cael y fraint o feirniadu cystadlaethau Yn ei Blodau yn Llundain a’r De Ddwyrain a Chymru gallaf gadarnhau fod yna rai garddwyr a gwirfoddolwyr hynod frwdfrydig ym Mlaenau Ffestiniog. Llongyfarchiadau i bawb a gymrodd ran eleni, edrychaf ymlaen at gystadleuaeth y flwyddyn nesaf.”Diolch i bawb a gymrodd ran, a llongyfarchiadau i'r enillwyr:
Gardd Fach:
1af Douglas Hughes, Dolrhedyn
2ail Brian Scholes, Gardd Gymunedol Hafan Deg
3ydd Dafydd Roberts, Cae Clyd
Gardd Fawr:
1af Glenys a Gwyn Lewis, Manod
2ail Cyngor Tref Ffestiniog, Y Parc
3ydd Cyngor Tref Ffestiniog, Perllan Pant yr Ynn
Potiau a Basgedi Crog:
1af Douglas Hughes, Dolrhedyn
2ail Peggy Preston & Josie Keogh, Offeren
3ydd Glenys & Gwyn Lewis, Manod
Llysiau:
1af Mark Thomas, Rhandir y Parc
2ail Dafydd Roberts, Cae Clyd
3ydd Glenys & Gwyn Lewis, Manod
Bywyd Gwyllt:
1af Glenys & Gwyn Lewis, Manod
2ail Cyngor Tref Ffestiniog, Perllan Pant yr Ynn
3ydd Brian Scholes, Gardd Gymunedol Hafan Deg
Masnachol:
1af Scott Evans, Pafiliwn y Parc
2ail Nina Bentley, Wal Werdd Antur Stiniog
3ydd Caffi’r Bont, Stryd Fawr
Enillydd Cyffredinol: Glenys a Gwyn Lewis
Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda’r Richard a’r gymuned i dyfu'r gystadleuaeth yn y dyfodol a denu mwy o arddwyr, ac yn ei dro, creu mwy o gynefinoedd i fywyd gwyllt, annog tyfu bwyd ein hunain, a mwynhau bod allan ym myd natur!Diolch hefyd i Dŷ Coffi Antur Stiniog am cael cynnal y seremoni gwobrwyo unwaith eto yn y caffi.
- - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon