2.10.24

Senedd Stiniog- Enwau Lleoedd

Bu’n gyfnod prysur yn y Siambr wrth i fwy na’r arfer o gyfarfodydd gael eu cynnal.  Yn ogystal â’r cyfarfodydd Arferol a Mwynderau misol, fe gynhaliwyd rhai Anarferol a Blynyddol hefyd.

Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol bu un newidiad ymhlith y swyddogion wrth i’r Cyng. Morwenna Pugh gael ei henwebu i fod yn is-gadeirydd y cyngor.  Derbyniodd, felly golygai hyn fod y Cyng. Eifiona Davies yn camu i lawr o’r is-gadair ac yn ymuno hefo ni o amgylch y bwrdd mawr.  Diolchwn i Eifiona am ei gwaith fel is-gadeirydd ac edrychwn ymlaen i gydweithio gyda hi dros y flwyddyn nesaf.

Un o’r prif bethau o’r Cyfarfod Arferol (10/06), oedd bod y Cyngor wedi cael cyflwyniad gan Ceri Cunnington a Gwenlli Evans am waith Cwmni Bro.  Eglurodd y ddau rhyw ychydig am strwythur y cwmni a’i fod yn gweithio fel ymbarél dros rwydwaith o fentrau cymdeithasol gwahanol.  Dywedwyd fod pob mudiad oddi tano yn annibynol, ac ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n cydweithio â 17 ohonynt. 

Mae sawl cynllun diddorol ar y gweill ganddynt a’r gobaith yw i gefnogi ac hyrwyddo’r diwylliant fywiog Gymraeg sydd yma.  Cytunwyd y byddai’r Cyng. Dafydd Dafis yn cynrychioli’r Cyngor Tref ar rai o’u pwyllgorau, gyda’r gobaith efallai y gallai’r cyngor gefnogi rhannau o'r gwaith hollbwysig hyn yn y dyfodol.

Yr wythnos wedyn (17/06), cafwyd cyflwyniad arall yn y Cyfarfod Mwynderau.  Hywyn Willams oedd yr ymwelydd y tro hwn, Cydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol, Cyngor Gwynedd.  Eglurodd fod potyn o arian i’w wario a bod dyletswydd statudol amgylcheddol gan gynghorau tref / plwyf i weithredu ar ran byd natur.  Amlinellwyd rhannau o dir gwyllt yn yr ardal a’r gobaith ganddo ydi cael cydweithio gyda’r Cyngor Tref, dod a’n pennau at eu gilydd er cael y gorau o’r tiroedd gwyllt hyn.  Os dwi’n deallt yn iawn, bydd yr ardal ar ei hennill gan na fydd ceiniog yn mynd o brecept y Cyngor at y gwaith – win-win i’r ardal fel 'tae.

Cynhaliwyd sawl cyfarfod Anarferol hefyd.  Cymeradwywyd a mabwysiadwyd Rheolau Sefydlog y Cyngor ac fe ystyrwyd a chytunwyd ar nifer o bolisïau. 

Un polisi newydd sbon a gafodd ei fabwysiadu oedd bod y Cyngor bellach, yn swyddogol, am amddiffyn enwau Cymraeg lleol.  Mae tri prif bwynt i’r polisi, sef:

Sicrhau mai fersiynau Cymraeg yr enwau fydd yn cael blaenoriaeth mewn unrhyw ohebiaeth neu drafodaethau gyda chyrff a phartneriaid allanol.  Byddai enwau o’r fath yn cynnwys mynyddoedd a bryniau, caeau a llecynnau, afonydd a nentydd ynghyd ag adeiladau.

Hybu enwau Cymraeg cynhenid ac annog eu defnydd yn gyffredinol, gan bwysleisio pwysigrwydd eu cadw oherwydd yr hanes a’r diwylliant sy’n mynd gyda’r enwau hyn.  Y gobaith yw wedyn y bydd y cyhoedd yn sylweddoli pwysigrwydd yr enwau traddodiadol ac wedyn yn llai tebygol o fod eisiau eu newid i enwau newydd nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad gyda’r ardal a’r traddodiadau lleol.

Os bydd sefyllfa yn codi, cymryd unrhyw gamau posibl i atal newidiadau i’r enwau cynhenid os bydd unrhyw ymgynghori gyda’r Cyngor Tref ar fater o’r fath.

Yn olaf, cynhaliwyd cyfarfod yr is-bwyllgor Teledu Cylch Cyfyng (TCC).  Heb os nac oni bai, ac yn dilyn y dymuniad yn lleol, fe fydd rhaid cael system yn y dref ond gan fod y rheolau diogelu data a ballu mor gymhleth; fe benderfynwyd llythyru Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru er trafod os tybed fyddai’r Heddlu yn fodlon cymeryd cyfrifoldeb drosto.  Mae’r Clercod hefyd am lythyru cynghorau tref eraill i geisio darganfod sut maent yn rheoli eu sustemau hwythau.
Diolch am ddarllen.  -DMJ. (Safbwynt fy hun yn unig).
- - - - - - - - - - 

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2024


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon