Yn rhifynnau Medi a Hydref 2023 roedden ni’n adrodd am obaith newydd yn lleol i gael rhyw fath o ddylanwad ar ddyfodol y lein yma, ond mae’r rhwystredigaeth yn parhau!
Bu Llafar Bro yn holi a chwilio am unrhyw newyddion neu ddiweddariad i’n darllenwyr. Yn y cyfamser mae llawer o ddisgyblion Ysgol y Moelwyn wedi colli’r gwasanaeth bws oherwydd eu bod yn byw’n ‘rhy agos’ i’r ysgol. Mae Congl-y-wal yn bell i gerdded adra yn y glaw tydi! Ond mewn difrif onid ydi hyn yn reswm dilys ARALL dros greu llwybr cerdded a beicio diogel a gwastad ar hyd yr hen lein?!
Pont Fawr Pengelli. Llun Paul W |
Medd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn am y rheilffordd:
“Mae na gais wedi mynd mewn ers dipyn o fisoedd bellach er mwyn cael trwydded gymunedol i berchnogi rhan o'r lein - darn bach o groesfan Cwmbowydd draw at y bont gynta. Rhybuddiodd y bobl o Network Rail basa'r cais yn cymryd hir, oherwydd be ddigwyddodd o'r blaen hefo'r grŵp dwytha [criw oedd eisiau rhedeg trên bach i ymwelwyr]. Felly aros am y golau gwyrdd ydan ni rwan - a bydd fanna'n gam mlaen wedyn i adeiladu perthynas a pherchnogi mwy o'r lein.
Yn ogystal a hynny, mae tîm arall o Network Rail wedi bod yn glanhau'r darn dan sylw, ond oherwydd yr adar yn nythu mae pethau ar stop tan yr hydref, a gobeithio'n ailddechra’n fuan. Dyna lle ma petha arni ar hyn o bryd, poenus o araf ond dwi'n obeithiol daw atab yn fuan”.
Un arall fu’n ymgyrchu ar ran y gymuned ydi Ceri Cunnington, Cwmni Bro Ffestiniog, ac meddai o:
“Mae gwirioneddol angen rhoi pwysau ar yr awdurdodau a Llywodraeth Cymru am y lein yma erbyn hyn. Petai o wedi ei leoli mewn unrhyw rhan arall o'r wlad bydda' fo'n lwybr cerdded, becio a hamddena erbyn rwan!
Dwi wedi cysylltu efo adran 'Active Travel' y llywodraeth sawl gwaith ac heb ddim lwc. Dyfal donc..! Daeth Ken Skates, y Gwenidog Economi, Trafnidiaeth, a Gogledd Cymru fyny i’r Blaenau rhai misoedd yn ôl a codwyd mater y lein. Dim ymateb o'i swyddfa wedi hynny!
Roedd erthygl ddifyr ar wefan Cymru Fyw y BBC ar y 30ain o Awst, ‘Cynnydd mewn cerdded a seiclo yn boenus o araf’ gan Steffan Messenger. Hollol wir! Llywodraeth Cymru yn llawn stratagaethau ac addewidion da ond byth yn cyflawni. Dorwch y rhyddid ac adnoddau i’r cymunedau ac mi awn ni ati i gyflawn ar eich rhan chi!"
Diolch gyfeillion; rydym yn edrych ymlaen yn arw am fyw o newyddion maes o law.
- - - - - - - - -
Ymddangosodd yn rhifyn Medi 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon