14.10.24

Senedd Stiniog- Tan y Bwlch a Rhaeadr y Cwm

Cyfarfod diwethaf Cyngor Tref Ffestiniog cyn y toriad oedd yr un ‘Mwynderau’ a gynhaliwyd ar y 15fed o Orffennaf.  Derbyniwyd adroddiad ROSPA am gyflwr diweddaraf y caeau chwarae a’r argymhellion i’w gwella.  Cytunwyd fod yr argymhellion yn rhai dilys ac mae’r gwaith trwsio eisoes wedi dechrau.  

Hefyd, croesawyd y Swyddog Llwybrau Cerdded newydd, sef Marc A o Lan Ffestiniog.  Cyflwynodd ei adroddiad cyntaf i’r Cyngor a derbyniodd fap o’r holl lwybrau yn yr ardal y bydd angen eu hasesu.  Dymunwn bob llwyddiant iddo yn y gwaith.  Aeth y cyfarfod ymlaen i drafod rhai gobeithion ar gyfer Parc Sglefrio newydd.

Cynhaliwyd Hwyl yn y Parc ar y penwythnos cyn Gŵyl Banc Awst ac rwyf yn falch i ddweud, bu’n llwyddiant ysgubol.  Diolch bod y tywydd wedi cadw’n sych inni wrth gwrs, hynny o hyd yn helpu.  Cafodd y plantos a’r oedolion eu diddori gan sawl stondin a gwesteion arbennig, gyda’r wal ddringo’n brysur tu hwnt.  Rhaid rhoi diolch mawr i gynghorwyr yr is-bwyllgor am y gwaith caled a’r holl amser a aberthwyd ganddynt at yr achos.  Mewn cyfarfod anarferol fe benderfynwyd mai symud yr ŵyl o amgylch yr ardal fyddai orau yn y dyfodol, hyn fel ei bod yn cael ei hystyried yn wir ŵyl i’r fro gyfan, a Thanygrisiau mae hi am fod blwyddyn nesaf.

Oherwydd prinder amser rhaid oedd cynnal cyfarfodydd Anarferol yn ystod Awst ble trafodwyd, ynghyd â phethau eraill:

Dyfodol Plas Tan y Bwlch

Roedd holl aelodau’r Siambr yn ystyried y gwerthiant yn warth ac am fynegi hynny drwy lythyru’r Parc Cenedlaethol ac ein holl gynrychiolwyr gwleidyddol yn eu herfyn i geisio’i rwystro rhag mynd ar y farchnad agored. 

Y datblygiad hydro-electrig ger Pont yr Afon Gam

I’r darllenwyr sydd heb glywed, mae Cynllun Cynhyrchu Trydan darpariedig uwchben Cwm Cynfal.  Tri brawd, ffermwyr, yw perchnogion y tir ac maent yn gobeithio datblygu cynllun hydro-electrig fydd yn darparu cyflenwad trydan i oddeutu 300 o dai.  Bydd y trydan yn bwydo i mewn i’r grid a’r cyflenwad yn cael ei ddarparu o’r is-orsaf yng Ngheunant Sych.  Y tai sy’n derbyn eu trydan o’r is-orsaf hon yn unig sy’n debygol o gael eu heffeithio, os o gwbl, gan y cynllun.  Pan fuom yn trafod y prosiect gyda’r brodyr yn Neuadd y Pentref, Llan Ffestiniog yn ddiweddar roeddynt mewn trafodaeth â chwmni o’r gogledd ‘ma sy’n arbenigo mewn cynlluniau o’r fath, am sut byddai tai lleol yn derbyn cyflenwad rhatach.  Gwn i ddim beth yw’r diweddaraf ynglŷn â’r trafodaethau hyn ond doedd fawr o ffydd ymysg y Cynghorwyr y byddai unrhyw gwtogiad mewn biliau yn debygol o ddilyn ond, amser a ddengys.  Aeth y drafodaeth at bleidlais ac aeth o blaid cefnogi’r cynllun.  Pleidlais agos iawn a holltodd y Siambr, fel bydd yn sicr yn creu hollt ymysg trigolion yr ardal dwi’n siŵr.

Colofn ddiduedd dylai Senedd Stiniog fod, felly er tegwch, ac i’r darllenwyr gael gwell dealltwriaeth gytbwys o’r dadleuon, mi fydd y Cynghorydd Rory Francis, oedd yn erbyn y cais yn egluro ei resymau dros wrthwynebu yn Llafar Bro hefyd.

Er y pryderon am fywyd gwyllt ac am yr olion archeolegol sy’n bodoli ger y safle arfaethedig, a gan nad NIMBY ydwyf, penderfynais mae pleidleisio o blaid y cynllun oedd y peth iawn i’w wneud.  

Hoffaf weld Cymru yn dilyn Norwy ac yn arbenigo mewn cynlluniau hydro-electrig.  Mae’r dirwedd gennym a digon o law yn disgyn arnom yma, ac mae’r potensial i greu trydan gwyrdd, cynaliadwy yn anferth. Rhedeg mae pob diferyn o’r copaon i’r môr yn y diwedd, a gwell inni, a’r fam ddaear, os gallem ddefnyddio grym disgyrchiant a’i drawsnewid yn ynni. Teimlaf fod yr ymgeiswyr wedi gwneud eu gwaith cartref yn drylwyr, Byddai neb yn cytuno i gael peiriannau’n rhwygo ochr mynydd ac yn gadael creithiau hyll ar y dirwedd, heb reolau priodol mewn bod i’w warchod ar gyfer y dyfodol.  Tyda ni ddim isio Llan fod fel Blaenau nac oes!  Mae llawer yn gwrthwynebu adeiladu coredau, (‘weirs’), oherwydd eu bod yn rhwystro symudiad pysgod tymhorol.  Bydd rhaid adeiladu pwll uwchben rhaeadr Cwm Cynfal ond go brin y byddai’n effeithio ar unrhyw bysgod tymhorol yn y safle hwnnw.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar mae’r diwydiant amaeth oedd â’r canran fwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ychydig dros 42% os dwi’n cofio’n iawn.  Y gŵyn gyson yn ddiweddar yw bod y ffermydd bach teuluol yn ei chael hi’n anodd cadw pen uwchlaw’r dŵr, yn poeni am eu dyfodol, efallai’n gorfod gwerthu tir bu yn y teulu ers cenedlaethau.  Arallgyfeirio ydi’r unig ateb i rai ac efallai y gall cynlluniau bach fel hyn fod y gwahaniaeth rhwng parhau i ffermio neu roi’r gorau iddi.  Oes, cytuno, mae’n rhaid inni gymryd gofal o fyd natur a sicrhau nad ydym yn ei andwyo, yn edrych ar ôl y mwsogl a’r pryfetach ond, os nad ydym yn ofalus, y fferm deuluol Gymraeg fydd yr ‘endangered species’ nesaf.
DMJ. (Safbwynt fy hun yn unig)
- - - - - - - - - - 

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2024


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon