Y Rhwyfwr
Y mis y cysylltir y ‘Rhwyfwr’ yn bennaf ag ef yw Gorffennaf. Yn ystod y mis yma mae pysgota nos ar ei orau, neu felly yr yda' ni yn ei obeithio, ac o bob pluen a gynigir i’r brithyll y mae rhyw rwyfwr neu’i gilydd yn cael y lle blaenaf y rhan amlaf ar y blaen-llinyn nos. Ac yn ffodus i ni, sgotwrs ardal Stiniog, mae gennym ni oddeutu dau ddwsin i ddewis ohonynt – diolch i Sgotwrs Stiniog ddoe ac echdoe a fu’n gyfrifol am lunio yr amrywiaeth sydd ohonynt.
Rhwyfwr pen gwyrdd r'hen hafod. Llun Gareth T. Jones, o lyfr Emrys Evans 'Plu Stiniog' 2009. |
Hyd y gwn i, ac rydw’i wedi bod yn holi o dro i dro rai o ardaloedd eraill, does yr un ardal yng Nghymru yn defnyddio yr enw ‘Rhwyfwr’ am y pryf sydd hefyd yn cael ei alw’n gas-bryf, pry pric neu bryf gwellt. Fel yr enw ‘cogyn’, a’r enw ‘egarych’, perthyn i ardal Stiniog yn unig y mae y ‘Rhwyfwr’, yn enw am y pryf ac am y bluen bysgota.
Mae Moc Morgan wedi cynnwys patrymau pum rhwyfwr yn ei gasgliad o blu pysgota ar gyfer afonydd a llynnoedd Cymru. Ond patrymau plu o’r ardal yma yw’r pump. Does dim un ganddo o’r un ardal arall.
Hyd y medraf ddeall a chasglu o’r darllen rydw’i wedi’i wneud ar y llyfrau sydd gennyf, ychydig iawn o sylw mae yr Albanwyr a’r Saeson wedi’i roi i’r ‘Rhwyfwr’, yn bryf ac yn bluen. Mae’r Gwyddelod wedi gwneud llawer mwy, fel mae E.J. Malone yn ei lyfr ‘Irish Trout and Salmon Flies’ yn ei brofi. Eu henw hwy am y rhwyfwr yr ‘murragh’. A diddorol iawn yw cymharu patrwm a chawiad Rhwyfwyr Iwerddon â Rhwyfwyr Stiniog. Mae bron pob un o Rwyfwyr Stiniog a’i adain wedi ei wneud o blu y dylluan frech; dyna’n deunydd traddodiadol ni o adain rhwyfwr. Ond ni wneir unrhyw ddefnydd o’r dylluan frech gan y Gwyddelod. Mae adain eu rhwyfwyr hwy o bluen frech oddi ar dwrci neu bluen frech oddi ar iar.
Mae gan y pryf naturiol ddau o deimlyddion yn dod o’i ben, a’r rheini’n aml cyn hired (ac weithiau yn hirach) na’r pryf. Ond welais i’r un o rwyfwyr Stiniog a dau gorn yn rhan o’i gawiad. Yn ei lyfr mae E.J. Malone yn sôn am gawiwr o Wyddel o’r enw Sam Anderson, y mae ganddo’n amlwg feddwl mawr ohono ac o’i farn. Ac mae Sam Anderson o’r farn, a hynny’n bendant iawn, fod angen rhoi dau gorn o ben pob rhwyfwr, fel y maent yn y pryf naturiol. A ddylen ni ddynwared y Gwyddelod yn hyn, wrth gawio’n rhwyfwyr? A fyddai ein rhwyfwyr yn gweithio’n well, tybed? Rhywbeth bach i feddwl amdano!
Soniais rywdro am ‘Egarych Gochddu Pen Gwyrdd’, roedd yn beth eithaf anghyffredin rhoi pen gwyrdd i bluen, ond yr oedd yna un bluen arall ymhlith ‘Plu Stiniog’ ag iddi ben gwyrdd. Ac ymhlith y rhwyfwyr yr oedd honno. Fe’i gelwid yn ‘Rhwyfwr Pen Gwyrdd R’hen Hafod’, a hynny ar ôl y sawl a’i cawiodd hi gyntaf. Ganed a maged John Owen yn un o ffermdai hynaf yr ardal, sef Hafod Ysbyty yng Nghwm Teigl. Am hynny fe’i galwyd ar hyd ei oes yn John Owen R’hen Hafod, neu yn aml yn ddim ond R’hen Hafod.
Roedd yn gawiwr medrus ar blu pysgota er gwaetha’r ffaith mai yn y chwarel y gweithiai fel creigiwr, ac yn ddyddiol yn trin a thrafod trosol, a jympar, ebill a morthwyl, a’r rheini’n caledu croen ei ddwylo. Fel bob cawiwr o’r iawn ryw, bob yn hyn a hyn byddai’n dyfeisio ac yn llunio pluen newydd, yn wahanol ei phatrwm i’r un bluen arall.
Cael patrwm a hanes y rhwyfwr arbennig yma wnes i gan Gruffydd Morris Williams, Cae Clyd (a oedd yn fwy adnabyddus fel Guto Glan), a hynny yn Nhŷ y Gamallt un nos Sadwrn, pan yn cael swper a chyn mynd allan i bysgota’r naid nos.
Yn gynnar yn nau-ddegau’r ganrif daeth yr Hen Hafod a rhwyfwr newydd yr oedd wedi’i gawio ar gyfer Llynnoedd y Gamallt i sylw ‘Hen Griw y Gamallt’ pan ar eu hymweliad Sadyrnol â’r ddau lyn.
Roedd corff y rhwyfwr wedi’i wneud o sidan llwyd, llwyd lliw llechen, a chylchau o weiar aur amdano. Traed petris oedd arno, fel sy’n arfer ar rwyfwr. Ac yn lle tylluan frech yn adain, defnyddio pluen o gynffon iar ffesant. Yna, yn wahanol i bob rhwyfwr arall ymhlith y dwsin i bymtheg oedd ohonynt yr adeg honno, rhoddodd John Owen R’hen Hafod ben gwyrdd ar hwn.
Yn ôl arfer Hen Griw y Gamallt rhoddwyd prawf ar y rhwyfwr newydd yn y ddau lyn o dan wahanol amodau o dywydd ac o adegau o’r tymor. Y canlyniad dipyn yn siomedig; fawr o bysgod yn mynd amdano. Yna, rywfodd neu’i gilydd, fe ddaethpwyd i ddeall fod y rhwyfwr yn gweithio’n well wedi i liw llwyd sidan y corf wanio a gwywo rywfaint. Wedi i hynny ddigwydd yr oedd y pysgod yn fwy bodlon mynd amdano!!
Y dull a fabwysiadwyd i wneud hyn oedd, wedi i’r Hen Hafod gawio nifer o’i rwyfwr newydd, eu rhoi i Guto Glan a hwnnw wedyn yn eu bachu yn yr het a ddefnyddiai i fynd i’w waith. Dywedodd Guto Glan ei fod wedi cario nifer go dda o’r rhwyfwr i’w waith yn rhan uchaf Chwarel y Graig Ddu, a hynny drwy bob tywydd, er mwyn i sidan llwyd y corff wywyo i’r lliw iawn.
Wedi i’r driniaeth yma daeth y rhwyfwr i ddal yn fwy cyson, a dod i gael ei alw yn ‘Rhwyfwr Pen Gwyrdd R’hen Hafod’, ac ennill ei le yng ‘Nghyfres Rhwyfwyr y Gamallt’.
Beth a wnaeth i’r Hen Hafod ddefnyddio y sidan llwyd yn gorff i’w rwyfwr, tybed? A oedd o wedi dal un o’r rhwyfwyr mwyaf, y pryf, felly, a sylwi ar y llwydni a oedd ar gorff hwnnw? Yn ei lyfr safonol ar y gwahanol bryfaid sydd i’w gweld ar lynnoedd, ‘Trout Flies of Still Waters’, mae John Goddard yn nodi mai llwydaidd yw corff rhai o’r rhwyfwyr mwyaf. Rhoi y pen gwyrdd i’r rhwyfwr wedyn. Mae John Goddard yn crybwyll yn ei lyfr fod yna amrywiadau y tu fewn i’r gwahanol fathau o rwyfwyr.
Nodais yn fy nyddiadur pysgota ar y 7fed o Orffennaf 1945 imi weld rhwyfwr (sef y pryf) ac arno ben gwyrdd yn y Gamallt. Y tebyg ydi fod John Owen R’hen Hafod wedi taro ar un yr un fath, ac fel pob cawiwr gwerth yr enw wedi mynd ati i lunio pluen a’r nodweddion yma’n rhan o’i phatrwm a’i chawiad.
Does dim sy’n anodd nac yn astrus mewn cawio Rhwyfwr Pen Gwyrdd R’hen Hafod, ar wahan i gael gafael ar y sidan lliw llechen i wneud ei gorff! Dyma’i batrwm:
Bach Maint 9
Corff Sidan lliw llechen, a rhoi cylchau o weiar aur amdano.
Traed Petris brown.
Adain Cynffon iar ffesant, gweddol olau. Gorffen y bluen drwy roi pen gwyrdd iddi o gynffon paun.
---------------------------------------
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Sgotwrs Stiniog' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon