23.7.15

Trem yn ôl- Atgofion Hanner Canrif

Erthygl gan Pegi Lloyd Williams a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 1990 Llafar Bro.

Atgofion Hanner Canrif. Profiadau geneth fach yn tyfu i fyny’n y Blaenau yn nhridegau’r ganrif ddiwetha’.

Lle braf i blentyn mewn tref oedd byw yn Stryd Maenofferen. Roedd y dyffryn wrth ymyl, a Pen Banc, y parc, siopau, y capel a’r ysgol wrth y drws cefn.

Unwaith, bum i’n sâl a methu â mynd i’r ysgol. Cefais y clefyd melyn. ‘Sglyfaeth o beth!  Dim eisiau bwyd, methu edrych ar facwn, wyau na menyn. Pan oeddwn yn fy ngwely yn rhy sâl i godi fy mhen, roeddwn yn clywed y plant yn gweiddi yn y gwahanol ddosbarthiadau,

‘Twice one are two, twice two are four’, neu ‘dee o gee DOG, dee o gee DOG, see e tee CAT, see e tee CAT’; y lleill yn bloeddio, ‘London, Chester, Swansea, Cardiff’ a phethau tebyg.

Standard three’oedd y rhain, yn rhoi enwau Saesneg ar drefi, mewn ateb i Miss Pritchard. Rhaid oedd cael popeth yn Saesneg. Nid oedd hyn yn broblem i mi. Eu dysgu yn Gymraeg oedd fy mhroblem. Mi fydda i’n meddwl weithia’ mai dyna oedd achos y ddwy ffeit. Wedi camddeall y plant roeddwn i, neu y nhw ddim yn fy neall i’n parablu o gwbwl.

Pan fydden ni’n mynd i chwarae i’r dyffryn, mynd i ‘chwarae i’r coed’ fydden ni’n ddeud. Dyna le! Llithro i lawr Cae Ochor ar gardbord, a chael y drefn iawn am rwygo ein nicers. Chwarae pêl a rownders, tŷ bach, doctor a nyrs yn Cae Fflat. Hel mwyar duon yn Cae ‘No. 7.’, trochi ein traed yn yr afon a hel penbyliaid, siglo yn braf ar ganllaw’r bont, a gwylio cariadon. Symud ar ein boliau’n wyliadwrus rhag iddynt ein clywed, a’i gluo hi os byddai’r boi yn bygwth dod ar ein holau. Roedd symud yn wyliadwrus ar ein boliau yn rhywbeth yr oeddem yn arbenigo ynddo.

Byddem yn mynd i’r pictiwrs ar b’nawn Sadwrn i weld helyntion ‘Pearl White’. Byddai ‘Pearl’ mewn helynt byth a beunydd a byddai’n rhaid mynd i’r Empire, neu ‘Remp’ fel y byddai pawb yn ei alw, un Sadwrn ar ôl y llall, i edrych a fyddai hi’n llwyddo i ddod allan ohonynt.

Ac yma caem weld ‘Tom Mix’, ein harwr, ar gefn ei geffyl gwyn, ac fe fyddai yna ddigon o gowbois da a drwg, ynghŷd ag Indiaid Cochion. Byddem yn dod allan o’r pictiwrs, a phawb yn clic-clician efo’i dafod a rhoi slap ar ei dîn, ac i ffwrdd â ni bawb ar gefn ei geffyl.

Adre am de, ac yna yn syth i’r coed i chwarae ‘Cowbois ac Indians’. Fi oedd yr ‘Indian girl’ am fod fy ngwallt yn ddu. Byddai’n rhaid i’r cowbois fy nal a’m clymu wrth goeden, ac yna byddai’r brêfs yn gwylio eu cyfle i ddod i’m hachub. Symud yn ofalus a thawel ar eu boliau, ac yna’r ‘Indians’ i gyd yn gweddi’n groch trwy gegau agored a tharo’r dwylo yn gyflym ar y gwefusai i greu sŵn y ‘war dance’.

Roedd gennym ddau geffyl go iawn gartref - ‘Prince’ a ‘Bess’. Ceffylau mawrion, cryfion i dynnu’r troliau a lorïau cario glo. Byddwn yn eistedd fel brenhines ar flaen y drol hefo nhad, ac yn edrych ar y plant ar y llawr fel mân us. Mae’n debyg fy mod cyn ddued â’r sachau glo tu ôl i mi, ond roedd gen i ddwy olwyn oddi tanaf, ac ychydig o blant yr adeg honno oedd â siawns byth am reid mewn dim ond trên neu fws ar ddiwnrod trip capel unwaith y flwyddyn.


Manylion hawlfraint isod
Diwrnod mawr oedd pan ddeuai yr injian malu metlin heibio. Fe fyddai dynion yn dod heibio i baratoi wyneb y ffordd ac yna taflu metlin i lawr. Caent bob llonydd gennym ni’r plant. Ein prif nod ni oedd edrych allan am Owen Robas. Byddai yn dod ar ôl i’r dynion orffen, gyda pheiriant du - tân tu mewn iddo a mwg budr yn dod allan trwy’r simnai. Yr oedd yn ddiwrnod braf bob amser y byddai’r injian malu metlin, yr injian col-tar a’r steam roller yn dod o gwmpas. Gwyddem nad oedd ymhell, gan y byddai oglau’r col-tar yn llenwi ein ffroenau. Fe’n rhybuddiwyd ni dro ar ôl tro nad oeddem i fynd yn agos at yr hen injian col-tar yna! Ond er y bygwth i gyd, byddai’n ein denu fel pry’ cop i’w we. Rhaid oedd cael gweld y tar poeth yn cael ei chwistrellu fel cawod ddu ar y ffordd. Byddai ein coesau, ein breichiau a’n dillad yn smotiau bach duon i gyd, ond pa ots?
Sôn am row ar ôl mynd adre’!”

-----------------------



Manylion hawlfraint y llun:
Trwyddedwyd dan Gomin Wikimedia, CC BY-SA 3.0 "Aveling and Porter Roller Britannia" gan BulldozerD11. Dolen i dudalen 'Steamroller' Wikipedia. Dim cysylltiad â Llafar Bro.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon