21.7.15

Llyfr Taith Nem- "i'r alltud, dyma baradwys"

Dyma erthygl a ymddangosodd fel rhan o'r golofn 'Ar Wasgar' gan alltudion Bro Ffestiniog, yn rhifyn Rhagfyr 1997. Datblygodd yn gyfres ei hun, a cawn eu mwynhau eto dros y misoedd nesaf. Dyma'r cyntaf, efo'r cyflwyniad gwreiddiol. 

Dyma’r bennod cyntaf allan o LYFR TAITH NEM.  Roedd Nem Roberts, (neu Nem Rhydsarn) yn gymeriad rhyfeddol, a bu'n alltud am ddegawdau cyn dychwelyd i’w filltir sgwâr.  Ar ôl gadael yr ysgol a chael mân swyddi yn y Blaenau, teithiodd i’r Unol Daleithiau ym 1907 a buan sylweddolodd mai ‘gŵr tlawd ydyw’r gŵr sydd heb ddim crefft’.  Aeth o swydd i swydd yno hefyd gan deithio miloedd o filltiroedd, a bu'n ddi-waith am gyfnodau hir yno.  Dywed mai croniclo profiadau gonest yw hanfod llenyddiaeth, ac yn achlysurol dros y misoedd nesaf cawn ddarllen am ei anturiaethau a’i sylwadau ffraeth.  Diolch i Pegi Lloyd Williams am gael benthyg ei ddogfennau.


A mi erbyn hyn yn hen ŵr, mae atgofion yn llawer melysach na gobeithion, ac wrth edrych yn ôl ar fy mywyd, teimlaf nad taith fu bywyd i mi, ond amryw deithiau.  Teithiau o’r naill le i’r llall, o’r naill waith i’r llall ac o’r naill gymdeithas i’r llall.

Fel pob teithiwr, gwelais amryw o ryfeddodau, rhai mwyn a rhai trychinebus,  a gwelais lawer olygfa hardd mewn natur ac mewn cymdeithas.  Ond fel pob alltud o Flaenau Ffestiniog, yr olygfa a erys yn fy meddwl ydyw’r olygfa a geir yn y trên wrth deithio gartref o Gyffordd Llandudno i’r Blaenau.  I’r alltud, dyma baradwys.  Gweld yr hen wlad ym mherffeithrwydd ei thlysni, y ceunentydd a’r ffriddoedd, y mynyddoedd o bob tu fel yn pe’n ceisio taflu trem yn uwch na’i gilydd.

Amryliw y coed ger afon Ledr a mawrhydi Moel Siabod fel pebai’n edrych yn oddefgar ar feibion dynion wrth ei draed, a chastell Dolwyddelan yn sefyll fel gwyliedydd ac fel pe yn cadw trefn ar fywyd.

Fel yr aiff y trên yn nes at y Blaenau mae pob peth fel petai’n mynd yn brydferthach, ond mae’n debyg mai y rheswm an hynny ydyw fod y galon yn curo’n gyflymach wrth nesu tuag adref, oherwydd wedi’r cyfan ‘Does unman yn debyg i gartref’.

Wedi rhyw dri chwarter awr o deithio dyna’r trên yn mentro i mewn i grombil y mynydd, ac yna daw golau dydd drachefn, a beth wel y teithiwr cyffredin tybed?  Tomennydd o rwbel llechi ar bob ochr.  Ond nid dyna welaf i, nage yn wir, tomennydd o aur pur, sef yr aur hwnnw a ddwed wrthyf fy mod yn nhre fy mabandod.

Dyna nhw yn hen chwareli, mangre’r hwyl, mangre diwylliant a mangre aberth.  Daw wynebau llawer o’r hen gymeriadau o flaen fy meddwl fel rhyw banorama, a’r naill adgof ar ôl y llall fel pe yn ceisio cael y blaen ar eu gilydd.

Dyna’r Moelwyn fel rhyw gawr anferth ar un ochor a’r Manod yr ochor arall, a rhwng y ddau Clogwyn Bwlch y Gwynt yn edrych i lawr ar hen eglwys Dewi Sant.

Mae Blaenau Ffestiniog fel pe mewn nyth yng nghanol y mynyddoedd, a’r mynyddoedd hynny yn taflu rhyw adain amddiffynnol dros y dre, a chredaf fod cadernid y mynyddoedd yng nghymeriadau’r ardalwyr.  Dyna aiff drwy fy meddwl wrth gerdded y brif heol tua’r Manod at y tŷ bychan yn Glasfryn, lle gwelais gyntaf olau dydd ar yr ail o Ebrill 1884.

Saer coed oedd fy nhad, ac fe adnabyddid ef fel John Roberts yr Hen Saer, yn Chwarel Lord, lle y gweithiodd am 50 mlynedd.  Efe oedd yn gofalu am yr olwynion dŵr a’r cafnau oedd yn symud y peiriannau yn y melinau hollti cerrig.  Yr oedd yn ddyn medrus gyda pheiriannau o bob math, ac felly yn weithiwr mawr ei barch.  Treuliodd beth amser yn yr Unol Daliaethau cyn priodi.  Un o ardal Abererch, ger Pwllheli, oedd fy nhaid, a geneth o Harlech oedd fy nain.  Ganed fy mam yn Rhydsarn heb fod yn bell o gartref Tanymarian.

Dechreuodd fy nhad a mam eu bywyd priodasol mewn tŷ yn dwyn yr enw hyd heddiw ‘Tŷ Pwdin’, ar dir Chwarel Lord, ac yna symudasant i Glasfryn.  Cawsanat chwech o blant ac ai’r teulu i Capel Bethesda M.C. i grefydda.  Rhyddfrydwr brwd oedd fy nhad, ond am rhyw reswm yn etholiad derfysglyd Morgan Lloyd, trodd at y Ceidwadwyr.  Yn ystod y cyfnod hwnnw, ymddengys bod yn arferiad i’r Ceidwadwyr grefydda yn yr Egwlys, a chefnodd fy nhad ar y capel a myned i grefydda i Eglwys Blwyfol St. Michael yn Llan Ffestiniog.

Pan oeddwn yn dair oed symudodd y teulu i fyw i Rhydsarn, er mwyn gofalu am fy Nain.  Ar y Sul byddem yn cerdded i fyny i’r Llan i’r Eglwys, ond rhaid i mi fod yn onest a dweud mai ychydig iawn oeddwn yn wrando ar y gwasanaeth, a fy hoff beth oedd tynnu darluniau o’r ficer yn y pwlpud.

Mae’n debyg i mi ddifetha llawer i lyfr canu a llyfr gweddi pan nad oedd papur ar gael.  Yn anffodus ychydig o ddiddordeb gymerais mewn dysgeidiaeth Feiblaidd, ond yn rhyfedd cofiaf un testun hyd y dydd heddiw, sef ‘Pa beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe’.  Bwrdwn y bregeth oedd mai beth bynnag a rydd dyn i gymdeithas, hynny hefyd a gaiff o gymdeithas.  Rhyfedd bod rhyw un bregeth fel yna wedi aros yn fy meddwl.

Gan mai i’r Eglwys oeddwn yn mynd, rhaid oedd derbyn fy addysg yn ‘Ysgol Genedlaethol yr Allt Goch’.  Fel rheol myfyrwyr at y weinidogaeth oedd yr athrawon, ond credaf mai fi oedd yn ysgolhaig mwyaf annobeithiol droediodd yr ysgol honno erioed.  Nid wyf yn meddwl i mi basio unrhyw arholiad, ac yr oedd Algebra a Hen Nodiant yn ddim byd i mi ond ôl ieir yn cerdded ar y papur.

Rhywsut neu gilydd cyrhaeddais ysgol uwchraddol yn y Blaenau gan gyrraedd Dosbarth 7.   Yr oeddwn yn un mor annobeithiol yno hefyd, a llawer gwaith fe’m disgrifiwyd fel y ‘Dunce de luxe.’

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon