17.7.15

Y Pigwr- parcio

Ein colofnydd pigog yn gollwng rhywfaint o stêm am bwnc lleol arall.

Wrth groesawu ysbryd nadoligaidd Cyngor Gwynedd yn caniatáu parcio am ddim ym meysydd parcio'r dref dros yr ŵyl ddiwedd llynedd, digon dilewyrch oedd masnach y siopau yma, wedi'r cyfan. Natur ddynol ryw ydi ceisio cael y fargen orau am bob ceiniog, ac yn anffodus, nid oes gan fasnachwyr lleol obaith o gystadlu yn erbyn grym archfarchnadoedd mawrion 'lawr y côst' a Phorthmadog.

Felly, yn y trefi hynny y gwariwyd y mwyafrif o bunnoedd pobl 'Stiniog, gwaetha'r modd. Ond i fynd yn ôl i'r mater o godi ffî am barcio, onid yw'n hen bryd i'r Cyngor benderfynu dileu'r tâl ym meysydd parcio Blaenau Ffestiniog am byth?

Efallai na wnaiff lawer o wahaniaeth yn ystod y gaeaf, beth bynnag, ond yn yr haf, byddai'n sicr o fod yn fanteisiol i gael ymwelwyr i aros yn y dref, a gwario'u harian yma. Beth am awgrymu hyn i uchel swyddogion y cyngor sir, chwi feidrolion o wasanaethwyr lleol?  Mi fyddai'n werth rhoi cynnig ar arbrawf o'r fath, o leia'.

I'r perwyl hwnnw, rhyfeddod yn wir oedd teithio heibio Llyn Ogwen, ganol wythnos yn ddiweddar, a gweld cannoedd o foduron wedi hawlio pob troedfedd sgwâr o leoedd parcio. Roedd pob pafin wedi eu hawlio gan geir estroniaid hefyd, a hynny'n anghyfreithlon, (i fod). Cannoedd o geir o ochr arall i Glawdd Offa, yn cael parcio, yn rhad ac am ddim, drwy garedigrwydd, neu'n hytrach ffolineb Cyngor Conwy, am hynny o amser y dymunent. A faint o arian sydd yn cylchdroi yn ardal Ogwen/Nant Ffrancon oherwydd ymweliadau'r gwenoliaid hyn?

Mae'r dringwyr/cerddwyr hynny sy'n ymweld â'r fro honno yn dod â'u pecyn bwyd a'u diod gyda hwy, ac yn prynu hynny o danwydd sydd ei angen cyn cychwyn ar y daith i'n plith, ac yn cyfrannu'r un hatling at economi Dyffryn Ogwen, na Chymru.

Ond gyda'r datblygiadau sy'n digwydd ym myd twristiaeth yn ardal 'Stiniog yn ddiweddar, mae'r potensial yn enfawr. Ac yn sgil datblygiadau'r blynyddoedd diweddar, mae gwir angen codi proffil yr hen dref hon.

Os gellir denu cyfran fechan o'r miloedd sy'n arfer ymweld â Phorthmadog a'r Betws - a Dyffryn Ogwen, dros yr haf i Flaenau Ffestiniog, yna fe ddaw'r llewyrch yn ôl i dre'r llechi. Ond yn gyntaf, rhaid sicrhau atyniadau i'w cadw yma, ac yn ychwanegol, trefnu parcio am ddim yn y meysydd parcio yma.


[Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2015. Gwnaed mân newidiadau yma i adlewyrchu'r tymor.]
-------------------------

Darllenwch erthyglau eraill Y Pigwr gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon