31.7.15

Peldroed- ennill a gwario

Pedwaredd ran y gyfres am 'hanes y bêldroed yn y Blaenau'.

Dan benawd 'Amrywiol' cawn fân wybodaeth yn ymwneud â thîm y Blaenau ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, megis cofnod am 1908 a ddywed 'Agor Cae Newborough Medi 1908', a chanlyniad y gêm a gynhaliwyd ar y dyddiad hwnnw (Cynghrair y N.W.Coast League)- Blaenau 4 Caernarfon 5, a'r wybodaeth mai Walter Jones, Caernarfon sgoriodd y gôl gyntaf.  Tîm Blaenau ar y dyddiad hanesyddol hwnnw oedd Bob Smith, Morris Moores, R.Roberts, Tom Hughes, J.J, WRO, Tom Lloyd, W.Jones (capt) WD, Edward G, W.Meirion Jones.

Mae'n debyg mai o adroddiadau papurau newyddion y cyfnod y daeth cofnodion Ernest am weithgareddau a chanlyniadau tîm y Blaenau yn bennaf. Ym Mawrth 1910 y daeth adroddiad am Blaenau yn curo tîm Bangor, gyda'r ychwanegiad (yn Saesneg) ' Y fuddugoliaeth oddi cartref gyntaf (yn erbyn Bangor) ers nifer o flynyddoedd'.

Ymysg chwaraewyr y tîm hwnnw oedd y gŵr cyfarwydd W.J.Penny, T.Whittaker a Harold Collins. Cafwyd nodyn arall o'r un cyfnod yn dangos bod trafferthion ariannol gyda'r clwb yn amlwg:  'Mae sinema C Hall am roi takings dwy noson i'r tîm pêl-droed.'  Richard Morris oedd ysgrifennydd y clwb yn 1910.

Rhan o Arddangosfa Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, sydd ar agor eto trwy'r haf, diolch i wirfoddolwyr y Gymdeithas

Tra ar bwnc ysgrifennydd dyma enwau rhai eraill a fu'n ymroi â'r swydd honno gyda'r clwb:
1910-11 John Tucker;
'roedd Richard Thomas yn ysgrifennydd/reolwr yn 1934-5;
1940au Andrew Roberts ac Elwyn Pierce; 
1950au Derek Williams ac R.G.Richards;
1958-65 Harry Williams;
1965- William Jones Edwards;
Enwau eraill heb ddyddiadau cysylltiedig - Len Roberts, Thomas W.Owen, Alwyn Jones, Gwilym Thomas, Eric M.Jones.

Yn 1909 gwelwyd hysbyseb Rheilffordd Ffestiniog yn cynnig 'sgyrsion o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog am swllt (tocyn ddwyffordd) ar ddydd Llun y Pasg y flwyddyn honno i wylio Blaenau yn chwarae yn erbyn ail dîm Everton mewn gêm gyfeillgar.

Roedd y cwmni'n benderfynol o weld y cefnogwyr yn mwynhau'r diwrnod yn y Blaenau, wrth weld mai 9.45 yn y nos y cychwynai'r trên yn ôl am y Port!

Diddorol yw sylwi ar fanylion derbyniadau a thaliadau'r clwb ar Fantolen Festiniog Town F.C. yn nhymor 1910-11. Dros y tymor, mewn gemau cynghrair, derbyniwyd £40.14.10 wrth y giât, gyda 4 swllt ychwanegol gan y rhai breintiedig a ddefnyddiodd y 'Grand Stand' yn ystod y tymor.  Cafwyd £13.1.2 o'r giât yn dilyn gemau cyfeillgar, a'r gêm honno yn erbyn Everton yn sicr o fod wedi cyfrannu rhan helaeth o'r arian hwnnw.

Daeth bron i ugain punt ychwanegol o gemau cwpan a chystadlaethau eraill.  Daeth hanner y gate money o gêm a chwaraewyd ym Mae Colwyn- gêm gwpan mae'n debyg â £2.9.6 arall i'r coffrau.

Cafwyd swm anrhydeddus o £13.2.6 o elw o'r Raffl Nadolig a gynhaliwyd i godi arian i'r clwb hefyd, ynghyd â rhent o £1.15.0 gan Mr A.Wildman am rentio'r cae i rhyw bwrpas, a mân dderbynion eraill, oedd yn dod â cyfanswm y derbynion am y tymor i £109.19.9.

Datgelwyd nifer o ystadegau difyr yn rhan taliadau o'r fantolen.  Dengys y swm a dalwyd i'r gynghrair am y fraint o gael bod yn aelodau - 14/6.  Ffioedd y dyfarnwyr am y tymor oedd £6.4.3.

Traul mwyaf y clwb oedd costau teithio i'r gemau oddi cartref, a'r cyfan yn dod i dros £32. Cafwyd yr wybodaeth i'r clwb wneud colled o £1.14.6 ar gêm yn y Cwpan Iau (Junior Cup), ac i'r peli lledr gostio £3.19.4 i'r clwb.  Mân daliadau eraill a wnaethpwyd oedd costau'r ysgrifennydd a'r trysorydd, cyfanswm o £1.15.10; Costau i chwaraewyr nad oeddynt o'r Blaenau £1.0.8.; Blwch Cymorth Cyntaf i D.Jones yn wyth swllt.  Cost rhentu'r cae pêl-droed dros y tymor oedd £10.17.0, swm digon drud am y cyfnod hwnnw dybiwn i. Ond roedd digon ar ôl yn y coffrau i dalu am 'supper to players and committee', a'r gost am y wledd yn dod i £3.15.0.

Wedi balansio'r llyfrau roedd £13.3.7 yn weddill yn y coffrau, yn barod i wynebu her y tymor newydd oedd ar ei ffordd.  John H.Tucker oedd yr ysgrifennydd a T.Goodman Jones yn drysorydd y clwb yn 1910-11, ac archwiliwyd y fantolen gan John Jones a Richard Morris.    

Yn ystod tymor 1912-13 cafwyd prawf bod tîm y Blaenau yn arwyddo chwaraewyr profiadol o'r tu allan, hyd yn oed yn y dyddiau cynnar hynny.  Roedd y tîm wedi chwarae Caergybi gyda dim ond saith dyn, oherwydd i bedwar o chwaraewyr o'r Wrecsam fethu â chyrraedd mewn pryd.  Trechwyd clwb y Blaenau o saith gôl i ddwy.

Serch hynny enillwyd y bencampwriaeth mewn gêm dyngedfennol yng Nghaernarfon, a chwip o gêm oedd hi'n ôl sylwebyddion ar y pryd.  Roedd un chwaraewr allweddol, Ted Wesley heb gyrraedd tre'r cofis erbyn y cic-off, a rhoddwydd G.R.Davies yn ei le.   Aeth y tîm cartre' ar y blaen, ac yna Blaenau'n dod yn gyfartal, ac yna ar y blaen, Caernarfon yn dod yn gyfartal, ac yna sgoriodd Bailiff i'r Blaenau i gipio bencampwriaeth y gynghrair, y gyntaf i dîm y Blaenau.

Bu tymor 1912-13 yn llwyddiannus i dîm y Blaenau trwy ennill pencampwriaeth Glannau Gogledd Cymru.  Chwaraewyd 20 gêm gan ennill 13, colli 3 a 4 yn gyfartal.

Gwnaiff Ernest sylw o'r ffaith nad oedd tîm o'r ardal yn y Gynghrair yn 1921-22, ac i ddirprwyaeth o'r clwb fynd i siarad ag aelodau o'r Cyngor i geisio cael Dolawel fel maes newydd yn 1925-26.  Mae hefyd yn cyfeirio at enwau rhai chwaraewyr adnabyddus y clwb yn 1930au, gan gynnwys y tîm enillodd Cwpan Cookson yn 1936: D.Jones, J.Roberts, Beasley, Peredur Jones, R.G.D. (Bob Davies?), Gwilym Roberts, Gethin Wright, Harry C.Williams, David Griffith, Norman Jenkins a Glyn Jones.

Y tro nesa', byddwn yn symud i gyfnod mwy diweddar, gan gychwyn yn y 1950au.

----------------------
Paratowyd y gyfres yn wreiddiol ar gyfer Llafar Bro gan Vivian Parry Williams. Ymddangosodd yr uchod yn rhifynnau Hydref a Thachwedd 2004.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon