Gwelwyd nifer o bobl 'Stiniog yn ymfudo i'r Wladfa ym Mhatagonia yn ystod yr 1870'au; hefyd, credaf mai gyda'r ail fintai yn 1871 yr ymfudodd 'Gwaenydd', sef William R. Jones Penllwyn, Tanygrisiau i'r Wladfa. Mab i'r hen gymeriad Robin Sion oedd Gwaenydd, ond adnabyddid ef fel cerddor, bardd, yn ogystal ag arweinydd 'Seindorf Gwaenydd', band cyntaf y Blaenau, gan bobl yr ardal hon.
Ar ôl iddo ymsefydlu yn y Wladfa bu'n amlwg iawn gyda datblygiad rhan o’r Dyffryn Uchaf a elwir Dolafon a chymerai ran flaenllaw mewn llywodraeth leol. Adeiladodd gartref iddo'i hun yn y dyffryn, sef tyddyn a elwid 'Camlyn' ac yno bu'n ffermio tan ddydd ei farwolaeth gyn-amserol ym mis Awst 1906. Bu farw yn dilyn damwain gyda'i wn tra allan yn hela .... ac fel y canodd ef ei hun un tro;
'Angau a'i winedd engyrth
A dynn bawb trwy'r duon byrth'.
Dywedir mai carreg las o 'Stiniog sydd ar ei fedd ac arni hi y mae llun cornet ac englyn o waith Bryfdir.
Llun o 2018 gan Paul W. Llechen o Stiniog yn sicr, fel sawl un arall ym mynwent Y Gaiman. Mae englyn gan Bryfdir arni, ond dim cornet. |
***
Bardd arall a adawodd ei fro enedigol am y Wladfa oedd Lewis Evans 'Meudwy' a breswyliai yn Nhŷ Llyn y Morwynion. Mab i Cadwaladr Thomas Evans ac Ellen Thomas oedd Meudwy. Ymbriododd â'i wraig yn y flwyddyn 1869 a gadawodd Ffestiniog yn yr 1870'au gan hwylio drosodd i'r Wladfa Gymreig.
Dywedir ei fod yn fardd rhagorol ac yn fardd teimlad yn anad dim. Nid oedd ei hafal yn y Wladfa am farwnad ac roedd yn un pur dda yn y cerddi dychan. Ychydig ar ôl ei farw yn drigain mlwydd oed, yn 1908 cyhoeddwyd cyfrol o'i waith, sef 'Adlais y Gamwy'. Dyfynnaf un pennill o'i gerdd 'Amlen Ddu ar ôl fy Mam':
Rwy'n gweld y bryniau megis cynt
A'r gloyw-lyn o flaen y tŷ.
Rwy'n clywed eto swn y gwynt,
A su yr afon fach mor gu;
A hithau'r ffynnon yn y cae,
Ar fin yr hon eisteddais i,
Ond O! mae 'mron fel mor o wae,
Fy Mam! Fy Mam! pa le mae hi?'
***
Er nad yn enedigol o 'Stiniog, bu'r Parchedig D. Lloyd Jones yn weinidog yng nghapel Bethania (A) am nifer o flynyddoedd. Bu hefyd yn amlwg a gweithgar iawn gyda'r mudiad gwladfaol o'r cychwyn cyntaf. Dywedir mai ef fu'n bennaf yn apostol yr egwyddor gwmniol yn y Wladfa ar ôl iddo ymfudo yno yn 1872.
Perswadiodd nifer dda o bobl 'Stiniog i ymfudo yno, fel erbyn y flwyddyn 1876 roedd cynifer a 700 o Gymry yn y Wladfa.
Ceir llawer o hanesion amdano. Dyma un ohonynt. Adeiladodd dy helaeth ac ystafell eang ynddo i ddysgu'r Indiaid am Gristnogaeth. Un tro, cymerodd Indiad o'r enw Sam Slic o dan ei gronglwyd. Roedd yn fab i'r pennaeth Casimiro, er nad oedd yn ymddwyn felly. Mewn gwirionedd roedd Sam yn 'un meddw ac aflan ac yn ddychryn i wragedd a phlant.' Pa fodd bynnag, ceisiodd D.LI. Jones ei droi yn Gristion a cheisiodd yntau ddysgu iaith y Tewelchiaid. Ond un noson daeth dau Indiad arall
heibio, a meddwodd y tri yn chwil ulw, ac aeth yn ffrae fawr rhyngddynt. Bore drannoeth cafwyd hyd i gorff Sam Slic yn llawn archollion a dihangodd y ddau lofrudd gyda cheffylau'r Cymry.
I'w barhau..
--------------
Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen 'Patagonia' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon