19.7.15

Gwynfyd -cywion a gwyfynnod



Erthygl arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a chrwydro'r fro; y tro hwn o rifyn Gorffennaf 1997.

Mae’n anodd credu weithiau bod rhai o’n adar prydferthaf ni wedi dechrau eu bywyd fel cywion di-sylw a hyll.  Mae nifer o gywion bellach yn amlwg o’n cwmpas ar ôl gadael y nyth, ond llawer ohonynt yn dibynnu ar eu rhieni o hyd am fwyd ac arweiniad.

Yn Fron Fawr, a phob stryd arall, roedd cywion adar to yn ymddangos ar wifrau ger eu tyllau drwy fis Mehefin, ac yno eisteddent fe peli brown, swnllyd o blu mân, yn aros pryd.

Ar un o byllau’r Ddwyryd, ger Maentwrog mae gwennoliaid a gwennoliaid-y-glennydd yn plethu ymysg eu gilydd ac yn methu’n glir ag efelychu dull cain yr oedolion o yfed o’r afon tra’n hedfan.  Mae ambell un yn methu’n llwyr ac yn glanio ar y dŵr, cyn codi ar frys; ac eraill yn ymddangos yn chwithig eu hymdrechion.  Buan iawn wrth gwrs y byddant yn gwisgo plu hyfryd yr oedolion ac yn llwyddo i yfed yn osgeiddig.

Cywion titw mawr. Llun- PW
Gerllaw, ger un o ffermydd y dyffryn, gwelais resiad o gywion gwennol y bondo yn eistedd yn drefnus ar weiran lefn ffens derfyn.  ‘Roedd pob un yn ddistaw iawn nes cyrrhaeddodd un o’r rhieni gyda llond pig o bryfetach, a dyma ddechrau côr o gardota aflafar.

Cywion eraill a fu’n amlwg yn ystod y mis fu’r titws amrywiol ddaeth i’r ardd i fysnesu, efallai yn dilyn hen adar sy’n gwybod bod cnau a hadau yno dros y gaeaf.

Gwyfynnod bwrned. Llun- PW
Golygfa y mis i mi heb os, oedd cerdded trwy dwyni tywod Harlech ymysg cannoedd o
wyfynod bwrned oedd newydd ddod o’u piwpa.

‘Roedd y pryfaid rhyfeddol du a coch yma yn bwydo a chlwydo ar amrywiaeth eang o blanhigion.
Gwelais chwech ohonynt ar un tegeirian bera, a phump ar un clefryn, ynghŷd â degau yn codi gyda phob cam gennyf drwy’r tyfiant.

Efo blodau unigryw yr ardal, cyfranodd hyn at fore gwerth chweil o waith yn ein cynefin rhyfeddol yma yng Ngwynedd.

-------------------------------

Awdur cyfres Gwynfyd oedd Paul Williams. Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon