Yn dilyn cyhoeddi f’erthygl gyntaf yn y gyfres, cefais alwad ffôn gan Mrs Gwyneth Wynne, Penlan, Llan. Roedd wedi mwynhau darllen yr ysgrif, meddai, gan ychwanegu fod ganddi grair difyr iawn yn ei chartref, gyda chysylltiadau â'r cyfnod hwnnw.
Tysteb liwgar, hardd oedd hon, mewn ffrâm, a oedd wedi ei chyflwyno ar yr ail o Chwefror, 1919, i Mr a Mrs Pierce Jones, oedd yn nain a thaid i'w diweddar ŵr, Ted Lloyd Wynne. Tysteb gan drigolion yr ardal i'r ddau oedd hon, a hynny am eu gwasanaeth i'r gymuned yn ystod cyfnod y rhyfel. Gosodwyd llun o'r ddau, naill ochr i'w gilydd, ar ben y dysteb, a geiriau canmoliaethus odditanynt.
Dyma flas o ran gyntaf y geiriau hynny, sydd wedi eu cofnodi mewn ysgrifen gain iawn:
“Cyflwynir i chwi yr anerchiad hwn ynghŷd â rhodd ariannol oddiwrth eich caredigion yn yr ardal ac eraill fel amlygiad o'n gwerthfawrogiad o'ch gwasanaeth parod i deuluoedd y lle, yn arbennig i'w meibion ymunodd â'r fyddin yn ystod y Rhyfel Mawr. Bu i chwi ar y cychwyn, osod eich bryd ar fod yn ffyddlon a charedig wrthynt, ac er cyrraedd y nod, da gennym ddwyn tystiolaeth nad arbedasoch na thraul na thrafferth i chwi eich hunain...”Aeth y geiriau, llawn clod i Pierce a Margaret Jones ymlaen i ganmol gwasanaeth y ddau i'w cymuned a'i phobl. Arwyddwyd y dysteb gan Griffith Jones, cadeirydd y pwyllgor anrhegu, ac Aneurin Jones, trysorydd, ac Edward Davies, yr ysgrifennydd.
Y peth sy'n anghyffredin am hyn oll yw'r ffaith i'r dysteb gael ei chyflwyno i Pierce Jones o gwbl. Oedd, roedd Pierce yn ddyn adnabyddus iawn yn ei fro, yn gynghorydd gweithgar, yn ustus heddwch, ac yn bwyllgorddyn blaenllaw. Ac fel y gwelid ar y dysteb, roedd yn ŵr poblogaidd iawn ymysg ei gyd-ddinasyddion yn 'Stiniog, a'i wasanaeth i'r plwyf yn cael ei werthfawrogi. Fel y tystia'r geiriau ar y dysteb, roedd gwerthfawrogiad teuluoedd y meibion a ymunodd â'r fyddin yn uchel iawn hefyd.
Y syndod yw mai cynrychiolydd milwrol a wasanaethai ar dribiwnlysoedd yn sir Feirionnydd, gan gynnwys tribiwnlys Blaenau Ffestiniog oedd Pierce. Dynion a benodwyd gan y Swyddfa Rhyfel oedd y cynrychiolwyr milwrol rhain, a'u prif swydd oedd penderfynu a oedd y sawl a fynnent esgusodiad rhag ymrestru yn deilwng o gael rhyddhad. Rhan arall, bwysig o'i swydd, wrth reswm, oedd bodloni eu meistri yn y Swyddfa Rhyfel, a cheisio sicrhau y byddai digon o eneidiau'n cael eu hanfon o bob cymuned i ateb yr alwad ar y ffrynt.
Wrth ddarllen y geiriau canmoliaethus amdano, mae'n debyg i Pierce ganiatáu esgusodiad i nifer o fechgyn y fro rhag gorfod ymrestru. Ond wrth ddarllen y geiriau 'yn arbennig i'w meibion ymunodd â'r fyddin' uchod, roedd wedi bod yn gyfrifol o anfon rhai i'r ffrynt hefyd. Rwyf wedi darllen cofnodion o nifer fawr o'r tribiwnlysoedd a gynhaliwyd yn y sir hon, ac yn Nyffryn Conwy, ac wrth gymharu'r driniaeth a gafodd bechgyn ifainc yr ardaloedd hynny, roedd tipyn mwy o drugaredd yn perthyn i Pierce Jones na rhai Dyffryn Conwy, yn amlwg.
Bu farw Pierce Jones ar y 3ydd o Ionawr 1930, yn 70 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Llan. Ymunodd Margaret, ei wraig ag ef yn y bedd 29 Mai 1943. Heddwch, yng ngwir ystyr y gair, i'w llwch.
Llawer o ddiolch i Gwyneth am ei hymateb, ac am y croeso i'w chartref i weld y dysteb hardd, ac am gael tynnu llun.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon