15.7.15

Rhod y Rhigymwr -Now'r Allt

Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Mehefin 2015.

Yn y gyfrol ‘Cymeriadau Stiniog’ (Golygydd: Geraint V. Jones – Cyfres Cymêrs Cymru 5: Gwasg Gwynedd - 2008), mae’r diweddar Emrys Evans, yn ei ddull dihafal ei hun, yn adrodd hanes ‘Now’r Allt’ – y potsiar o drempyn oedd yn troedio’r parthau hyn yn ystod hanner cynta’r ugeinfed ganrif. Ar ddiwedd y bennod, tynnir sylw’r darllenydd at englynion a gyfansoddwyd i goffáu’r hen frawd. Dyfynnir dau o rai Gwilym Deudraeth, ynghyd ag un Iestyn, y postmon o Faentwrog. Mae’n debyg i Now gyfarfod â’i ddiwedd yn ddisymwth mewn beudy a aeth ar dân.

Wrth glirio hen focsus yn un o’r cypyrddau acw’r diwrnod o’r blaen, deuthum ar draws y canlynol, a dderbyniais nifer o flynyddoedd yn ôl gan fy hen gyfaill, John Morris Edwards, Llys Awen, Heol yr Orsaf, Llan (1927-2012):

Now’r Allt
“Roedd Ellis Hughes, tenant Cymerau Isaf, a’i fab wedi pasio’r beudy tua 10.30 p.m., nos Lun, Mawrth 10fed,* 1924, a chael fod popeth yn iawn. Codi tua 6 o’r gloch fore Mawrth a chael y lle wedi llosgi, gyda chwech anifail a phedair tunnell o wair. Ofnid bod Owen Jones, ‘Now’r Allt’, yn cysgu yno. Super J. F. Evans gafodd hyd i’r corff, ond ni ellid ei adnabod. Tybid mai Owen Jones ydoedd, labrwr 51 oed, oedd heb gartref sefydlog.”
{* Mawrth 14eg yn ôl Emrys Evans}

Dyma englynion Gwilym Deudraeth ar ei ôl:

‘Roedd Now’r Allt yn dallt y dŵr, - iddo swyn
Oedd ei su a’i ddwndwr;
Rhed y Ddwyryd ddiarwr
Yn afon syn, ‘rwyf yn siŵr.

Noddfa ydoedd ei feudy – iddo ef,
Diofal ei lety;
Ar fin dŵr i’r heliwr hy
Pa hwylustod f’ai plasdy?

Pwysig wron pysg gariwyd – o’i dŷ sych,
A Rhydsarn frawychwyd;
O wastraff! A dinistriwyd
Ei enwair hir a’i hen rwyd.

Ei foddion fu iddo’n fael – am ei oes,
Pa le maent i’w caffael?
Ac wedi iddo’n gadael
A oes gwn a ‘shots’ i’w gael?

A oes gŵn hyddysg yno – oriau’r hwyr
O hiraeth yn udo?
A wnaeth y drud annoeth dro
Y gwartheg yn ddig wrtho?

Heibio’r âi, ebe rhywun, - trwy ei oes
Heb ddim trefn na chynllun;
O’i erlid troai’n ddarlun
‘Robin Hood’ ar ben ei hun!

Hyd ing fu rhawd ei ang’oedd – fywyd ef,
Drwy feu-dai a dyfroedd;
Rhyw ffoadur ryff ydoedd
A gwell dyn na gwylliad oedd.

Pan ar fai, pwy’n rhy fuan – iddo ef
Ydoedd ail i drydan?
A hen dro i Now druan,
Fu’n neidiwr dŵr, fynd ar dân.

Ni bu diwedd rhyfeddach, - damwain oedd,
‘Does dim i’w wneud bellach;
Bywiog wylied pob gelach
Y tân o ben cetyn bach.

Hyfryd wawr ei fro dirion – ni ddenodd
Unwaith ei olygon;
Cudd fu ei rawd, ca’dd i’w fron
Ryw fudd rhyfedd o’r afon.

Gorwedd, Now, o gyrraedd niwed, - ar d’ôl
Mae’r dalent yn cerdded;
Torrir hir gyfraith tra rhed
Y dŵr o hyd i waered.

A dyma ychwanegu esgyll at baladr englyn Iestyn y Postmon, fel y ceir ef gan Emrys Evans (tudalen 69 – ‘Cymeriadau Stiniog):

Gŵr unig, garw ei anian, - yn Ismael
Anesmwyth ei drigfan,
A bywiog wylliad buan –
Anrheithiwr dŵr aeth ar dân.

Yn ôl y cofnod ar waelod y papur a roddodd John Morris i mi, cofnodir ‘Y Rhedegydd’ – Mai 14eg, 1924 – ‘Chydig ar Gof a Chadw’.

-------------------------------------------

Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon