2.8.15

Sgotwrs Stiniog- egarych a chogyn

Erthygl o gyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans, o 1998. Nid rhywbeth diweddar yn unig ydi hafau gwael!

Unwaith eto dyma ni ymhell i mewn i dymor y brithyll. Tydw'i ddim wedi clywed neb yn rhoi gair o ganmoliaeth i'r tymor yma mwy nag i'r un gawsom ni y flwyddyn ddiwethaf.

Mae hi wedi gwneud un o'r hafau gwlypaf, os nad y gwlypaf, o fewn cof, ac mae'r llynnoedd wedi bod yn llawnion at eu glannau ar hyd yr haf. Fel arfer mae' r llynnoedd yn mynd i lawr yn ystod y tymor, ond mae’r llynnoedd yr ydw i wedi eu gweld yn fwy na llawn, a hynny gydol y misoedd. Maent mor llawn, os nad yn llawnach, ddiwedd y tymor nac ar ei ddechrau.

Er enghraifft roeddwn i wrth Lyn Cwmorthin yn niwedd Awst ac roedd y llyn mor llawn ag y medr o fod a'r ffos o Lyn Conglog a'r un sy’n dod i lawr at Gwmorthin Uchaf yn drochion gwyn.
Felly, ai un o dymhorau coll yw un 1998: a dim da i’w ddweud amdano?  Fe 'achubwyd' (os mai dyna yw’r gair iawn) y tymor diwethaf drwy inni gael diwedd go dda iddo. Yn ystod misoedd Awst a Medi bu y Bongoch yn amlwg ac yn niferus ar rai o'r llynnoedd, beth bynnag, a chafwyd symud ar y pysgod yn dilyn hynny. Tydi'r tywydd ddim wedi bod yn ffafriol i'r Bongoch eleni, ddim hyd ddiwedd yma beth bynnag, ac ychydig iawn ohono yr ydw i wedi’i weld.

Egarych Corff Clust Ysgyfarnog
Un o’r plu yr ydw i wedi gwneud orau hefo hi ym mis Awst yw Egarych Corff Clust Ysgyfarnog, a'i chawio hi yn bluen sych. Mae ei phatrwm fel a ganlyn:
Bach- Maint 12.
Corff- Blewyn ocldi ar glust ysgyfarnog, a rhoi cylchau o weiar aur amdano.
Traed- Gwar coch ceiliog, drwy'r corff
Adain- Pluen frown oddi ar iar goch. Yna rhoi rhagor o draed fel uchod wrth lygad y bach. 

Llun Gareth T. Jones, o lyfr Emrys Evans 'Plu Stiniog' 2009.

Rwy'n credu y dylai hi weithio hefyd yn ystod mis Medi, os ceir rhywfaint o symud ar y pysgod.

Mae y 'cogyn’, y pry' yr ydym yn falch o’i weld yn dod i'r golwg ar ein llynnoedd ym misoedd Mai a Mehefin, yn un pur bwysig ym mhatrwm ein tymor pysgota. Mae y bobl sydd wedi astudio y pryfaid yma yn dweud fod yna 49 o wahanol fathau o’r cogyn yn Ynysoedd Prydain. Y rhai mwyaf cyffredin yn ein llynnoedd ni yn ardal Ffestiniog yw y cogyn coch a’r cogyn brown.

Y mwyaf un o deulu’r cogyn yw y 'cogyn Mai', ond tyda ni ddim yn gweld hwnnw ar ein dyfroedd asidig ni. Mae yn un hynod hardd, ac mae yna lawer ohono i'w weld ar lynnoedd mawrion Iwerddon ac i lawr ar yr afonydd calch yn Ne Lloegr. Clywais ddweud fod yna ryw ychydig o'r 'cogyn Mai' i'w gael yn Llyn Tegid, y Bala, ond doeddwn i ddim wedi cael unrhyw gadarnhad o hynny, tan yn ddiweddar iawn.

Yn niwedd mis Gorffennaf diwethaf daeth cyfaill i'r ty ataf. Roedd o wedi bod yn gweithio yn Llangywer, yr ochr arall i Lyn Tegid i'r Bala, ac wedi taro ar y 'cogyn Mai', a dal un ohonynt.
Buom yn edrych llyfr John Goddard ac yn ei gymharu a'r llun sydd ynddo, a doedd dim amheuaeth mai’r cogyn Mai ydoedd. Roeddwn i'n falch iawn o gael cadarnhad fod y cogyn yma i’w gael mor agos atom, ac o gael gweld enghraifft ohono drosof fy hun.
----------

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Medi 1998 yw'r uchod, efo mân-newidiadau am ei bod yn ymddangos ar y we yn gynharach yn y tymor. Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Sgotwrs Stiniog' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon