Ar 29 Mai 1915, cyhoeddodd Y Rhedegydd restr o wybodaeth ddiddorol parthed budd-daliadau a dalwyd gan y llywodraeth i weddwon a phlant milwyr a laddwyd yn y rhyfel. Yn ychwanegol, cafwyd gwybodaeth am daliadau i glwyfedigion y rhyfel hefyd.
“I'r weddw - 10s. yr wythnos os o dan 35 mlwydd oed I'r weddw - 12/6 yr wythnos os dros 35 oedI'r weddw - 15s. yr wythnos os dros 45 oedOddi tan yr uchod cynhwysid y canlynol:
I'r plant: Tâl wythnosol hyd y byddent yn 16 oed, 5s. yr wythnos i'r plentyn cyntaf; 3/6 i'r ail a 2s i'r plant eraill. Ca gweddw 30 oed a 3 o blant felly 20s yr wythnos.”
“Blwydd-daliadau i deulu milwyr cyffredin yw yr uchod. Rhoddir ychydig yn fwy i weddwon milwyr fo hefyd yn swyddogion - ond yr un fydd y swm i'r plant ag a nodir uchod.
I Filwr a fo wedi ei lwyr analluogi yn y Rhyfel:
I'r Milwr ei hun: 25s. (£1.25c) yr wythnos.
I'w Blant: 2s 6c. yr wythnos am bob plentyn.
I Filwr a fo wedi ei analluogi mewn rhan:
Cymeradwyir tal wythnosol is na'r uchod, ac yn amrywio yn ol yr amgylchiadau.”
Roedd effeithiau colli cymaint o ddynion lleol i'r fyddin i'w weld wrth ddarllen colofn newyddion Blaenau Ffestiniog yn Y Rhedegydd ar 29 Mai 1915.
“Peth newydd iawn yn Ngorsaf y L.N.Western yw gweled merch ieuanc yn gwasanaethu fel Clerc, ac yn rhoddi tocynau allan. Tebyg yw y byddant yn amlach lawer eto, gan y galw sydd am bob dyn ieuanc i ymrestru.”Adlewyrchwyd hynny mewn adroddiad arall yn yr un golofn, a ddywedai fod 1,200 yn llai yn gweithio yn chwareli Ffestiniog i'w gymharu â'r rhif yn Awst 1914, a dechrau'r rhyfel. Tacteg newydd gan y swyddogion recriwtio oedd ceisio creu cystadleuaeth rhwng gwahanol strydoedd yn y Blaenau. Dyma ddywed gohebydd Y Rhedegydd ar 5 Mehefin 1915:
“Dywedir fod trigolion sydd yn byw yn Lord Street, lle mae 14 o dai yn ymffrostio yn y ffaith fod 19 o filwyr oddiyno. Pa un yw yr agosaf tybed? Neu, a oes un arall wedi eu rhagori?”Ddechrau Mehefin 1915, daeth y Parchedig John Williams, yn iwnifform y fyddin, a'i goler gron, i bregethu yng nghapeli Bowydd, Rhiw a Maenofferen, yn y Blaenau. Roedd yno yn ei wisg swyddogol fel Caplan y Fyddin Gymreig. I ychwanegu at yr awyrgylch filitaraidd, fe drefnwyd gorymdaith drwy'r dref tua'r capeli, gyda Seindorf Arian Llan Ffestiniog ar y blaen, a thynnodd John Williams dyrfaoedd mawr ar ei ôl. Pregeth danbaid, rethregol oedd ganddo, fel arfer. Ymysg yr addolwyr yn y capeli gorlawn ar y Sul hwnnw oedd y garfan leol o filwyr. Manteisiodd Williams ar y cyfle i atgoffa'r gynulleidfa o'r angen am fwy o wirfoddolwyr i'r fyddin. "Nid yw Môn wedi hanner deffro, na'r un sir arall, na Chymru ychwaith wedi deffro. Mae popeth gwerthfawr gan Gymro iawn yn y fantol heddiw" meddai'n argyhoeddedig. Ar ddiwedd ei bregeth yng Nghapel Bowydd, cododd y dorf fawr ar ei thraed, a Mr Lewis Jones ar yr organ, i ganu 'Duw gadwo'r Brenin'.
----------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2015.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Stiniog a'r Rhyfel Mawr' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
[Pabi gan Lleucu Gwenllian]
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon