16.8.15

Pobl y Cwm- Y Babell

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.   Rhan 4 o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.


Fel yr oedd y flwyddyn 1903 yn cyflymu yn mlaen, roedd y capel newydd [Babell] hefyd yn tyfu ar i fyny. Roedd fy nhad a fy mrawd yn cael y fraint o gario defnyddiau at yr adeilad, ac roedd rhai o'r gweithwyr yn lletya ar aelwyd Bron Goronwy am yr wythnos, felly roeddem ni fel plant yn cael bod yn hyf i fynd o cwmpas y lle i fusnesu. 


Daeth dechrau 1904, ac roedd y capel ar gael ei gwblhau. Trefnwyd fod Cyfarfod Pregethu i fod i'w agor yn gyhoeddus yn mis Mehefin 1904. Mawr fu y son a'r disgwyl a threfnu a pharatoi at amgylchiad pwysig. 

Gwawriodd y dydd penodedig yn hafaidd a chlir ac roedd pobl yn dylifo i Gwm Cynfal y dydd hwnw. Pregethwyd y bregeth cynta gan y Parch Thomas Lloyd, gweinidog Engedi, a'r Emyn cynta a ganwyd yno oedd 'Dyma Babell y Cyfarfod'. Nid wyf yn cofio pwy oedd y pregethwr arall. 


Dyna gau drws yr hen Babell, ac agor drws y Babell newydd. Roeddwn i y pryd hyny wedi mynd trwy chwe o safonau, ac wedi cael tystysgrif am ddweyd y Rhodd Mam. Roedd eisiau rhywun i ofalu an lanhau y Capel, a mam gymerodd y cyfrifoldeb hwnw. Cof da genyf fel y byddwn yn falch o cael mynd gyda hi iw helpu i lanhau y Capel. 

Yn mis Hydref a Tachwedd y flwyddyn hono y torodd y Diwygiad allan yn y De a’r Gogledd. Fe ledaenodd yn gyflym dros Gymru gyfan. Roedd gwr or De a'i enw Evan Roberts a Mrs Jones, gwraig o Egryn yn mynd o cwmpas y wlad dan cyfarwyddiadau yr Ysbryd Glan. Roeddent yn cael arwyddion mewn goleu a thân yn ymddangos iddynt, ac yr oeddynt yn cael rhyw ddylanwad rhyfeddol neillduol ar y Cynulleidfaoedd. Roedd ugeiniau yn rhoddi eu hunain o'r newydd i Iesu Grist bob nos.  


Roedd cyfarfodydd gweddiau bob nos, yn rhyw Capel neu gilydd, a rhai hyny yn llawn. Byddai dau neu dri neu bedwar yn mynd yn mlaen i weddio gyda'i gilydd, a rhai eraill yn canu Emynau mewn cornel arall o'r Capel, a hyn yn mynd ym mlaen am rhai oriau. Byddai llanciau a merched ifanc yn cadw cwrdd gweddi ar ochrau y ffyrdd. Roedd mam yn mynychu y cyfarfodydd yn rheolaidd, ac yn cymeryd rhan ynddynt yn aml.

Nid oedd fy nhad yn berthyn ir capel, a byddai mam yn poeni am hyny, ac yn gweddio am iddo fo cael ei achub. Un bore Sul daeth fy chwaer fach adre or Ysgol Sul, dywedodd wrth fy nhad fod Lewis Richards ei hathraw wedi dysgu iddi yr Emyn 'O fy enaid cod fy ngolwg', a'i hadrodd hi iddo fo i gid. Clywais fy nhad yn dweyd droion ar ol hyny wrth rhai o'i gyfeillion ei brofiad. Fel yr oedd yr Emyn yna wedi ei ddwys-bigo yn ei galon. Aeth fy nhad ir gwaith dranoeth. Roedd o yn methu gweld y dydd yn darfod digon buan, iddo gael dod adre i fynd ir Seiat ir Capel bach i roi ei hun i fyny i Iesu Grist. Derbyniwyd o yn gyflawn aelod a rhai eraill gydag o. Dyna ddiolchgar a llawen oedd fy mam. 

Rwyf yn cofio yn dda am un Cyfarfod Plant yn Peniel, a geneth fach rhyw ddeuddeg oed yn y pulpud yn arwain y canu ac yn gweddio yn neillduol o eneth mor ifanc, heb ddim papur ond o'r frest nes oedd pawb wedi cael eu sobri. Annie Groom oedd ei henw, wedi cael ei magu hefo ei thaid ai nain yn Siop Pen y Bryn. Daeth ei thaid i berthyn i'r Capel yr adeg hono. Roedd ganddo drol a merlen ac yn hel rags ac yn gwerthu potiau a dysglau pridd a phob math o lestri. Byddai Evan Evans yn ddrwg ei hwyl yn aml, ac yn chwipio’r ferlen nes byddai hi yn neidio, a'r llestri yn stymio allan o'r drol yn ddarnau mân ar y llawr. Bu Annie Groom farw cyn cyrhaedd ei phedair-ar-ddeg mlwydd oed, er mawr loes ir hen greaduriaid.

Rwyn cofio Cyfarfod Gweddi rhyfedd iawn yn y Babell un tro, hen greadur yn mynd yn mlaen i cymeryd rhan ir sêt fawr, ac wrth fynd hyd llwybr y capel yn adrodd yr emyn yma a dagrau yn llifo i lawr ei wyneb:

"Blinais, blinais ar y wlad
Lle mae pechu;
Am ddod adre i dy fy Nhad
Rwyn hiraethu."

Ac un arall ar ei liniau yn y Sêt Fawr yn gweddio 
"... I mi goleuni o'r Nef yw Diwygiad, a hwnw yn llewyrchu ar ddynion, nes eu bod yn gweld eu hunain yn y goleu yn bechaduriaid aflan a budr. Truan o ddyn ydwyf fi. Pwy am gwared oddiwrth gorff y farwolaeth hon"

--------------------------



Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon