Y Cyngor Tref yn brwydro i amddiffyn gwasanaethau lleol!
Cafwyd newyddion drwg yn ddiweddar, gyda chyhoeddiad Banc y Nat West fod y cwmni yn mynd i gau eu cangen ym Mlaenau Ffestiniog. Roedd y Cyng. Mandy Williams Davies wedi codi’r mater, gan fynnu fod y Cyngor yn gofyn am gyfarfod gyda’r banc i leisio ein siom a’n pryder am y penderfyniad yma. Fe leisiodd hi siom fod adeilad arall ar y stryd fawr yn cau. Ac ar ben hynny, os oedd mwy a mwy o bobl yn gorfod symud tuag at fancio arlein ac ar y ffôn, meddai, roedd yna berygl y byddai’r posiblrwydd o gael gwasanaeth bancio yn Gymraeg yn diflannu.
Ar ôl trafodaeth, cytunwyd mewn egwyddor i symud cyfrif banc y Cyngor Tref o’r Nat West i’r HSBC, yr unig fanc sy’n dal efo cangen yn Ffestiniog. Gobeithio’n fawr y bydd y banc hwnnw’n glynu at bolisi answyddogol y banciau i gyd, sy’n mynnu fod y banc olaf sydd â changen mewn tref yn ei chadw ar agor wedyn doed a ddelo.
Ydych chi’n bancio efo’r Nat West? Os felly, ydych chi wedi ystyried datgan eich barn yn glir i’r banc hwnnw, a hynny trwy symud eich cyfrif i’r unig fanc fydd yn dal efo cangen yn lleol?
Ond nid gwasanaethau bancio yn unig sydd o dan fygythiad. Ymddangosodd hysbyseb ar y we yn ddiweddar sy’n datgelu fod dyfodol Swyddfa Bost Blaenau Ffestiniog yn y fantol, ynghyd â swyddfa ddidoli’r Post Brenhinol. Mae’r swyddfa bost wedi hysbysebu’r cyfle i redeg swyddfa bost yn y dref, gan gynnwys yr opsiwn o wneud hyn mewn siop arall, yn hytrach nag o’r swyddfa bost bresennol. Petai hyn y digwydd, fe fyddai’r swyddfa ddidoli yn ddigartref ac fe fyddai yna berygl go iawn y byddai’n symud i Borthmadog neu i Lanrwst.
Petai’r postmon yn methu dosbarthu parsel i chi
wedyn, fe fyddai'n rhaid teithio’n bell i’w nôl o.Fe gytunodd y Cyngor i ysgrifennu at y Swyddfa Bost i ofyn am gadarnhad y bydd y Swyddfa Bost a’r Swyddfa Ddidoli yn aros lle maen nhw, ac os oes angen, i lansio deiseb cyhoeddus i ofyn iddyn nhw wneud hyn.
Fferm wynt Llechwedd – newyddion diweddaraf..
Roedd Michael Bewick o gwmni Greaves yn bresennol, i roi adroddiad am gynlluniau’r cwmni. Erbyn hyn, mae Greaves yn gweithio efo cwmni lleol, Northern Welsh Slate, i gynhyrchu llechi ar y safle unwaith eto. Gyda’r holl ddatblygiadau diweddar, y zipwire, y llwybrau beics a’r Bounce Below, fe ddylai’r cwmni fod mewn sefyllfa i wneud elw dros ei weithgareddau i gyd cyn bo hir, a hynny am y tro cyntaf ers rhyw ddeg mlynedd.
Dywedodd Michael Bewick y byddai cais cynllunio yn mynd i mewn am fferm wynt ar y safle ym mis Medi neu Hydref eleni. Torrwyd nifer y tyrbeiniau i lawr i ddim ond tri, yn sgil pryderon Cyfoeth Naturiol Cymru y byddai rhagor ohonynt yn dinistrio mawn ar y mynydd.
Os caiff y cynllun ei gymeradwyo, mae cwmni Greaves yn bwriadu cyfrannu arian ar gyfer datblygiad economaidd yn yr ardal, meddai, gan gynnwys sefydlu canolfan ymwelwyr am ynni adnewyddol yn y dref.
Rory Francis
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon