Fair Haven,
Vermont,
Hydref 31ain, 1854
Fy annwyl Gyfaill,
Wedi hir oedi yr wyf yn cyflawni yr addewid a wnaethum â thi cyn fy ymadawiad o’r hen wlad, sef rhoddi fy hanes o dir y gorllewin pell, os cawn fyw i fyned yno.
Wel, llawer o donau a phrofedigaethau sydd wedi fy nghyfarfod er pan welsom wynebau ein gilydd; byd y cyfnewidiadau ydyw y byd hwn, hen olwyn fawr Rhagluniaeth sydd yn rhoddi aml dro yn dywyll iawn i bawb yn y fro; felly i minnau.
Gobeithio y bydd i’r llinellau hyn dy gael di a’th deulu i gyd yn fyw ac yn iach, pryd yr ydwyf fi yn weddw, a’m bachgen bach yn amddifad mewn gwlad bellenig.
Mae yn debyg mai rhoddi ychydig o fy hanes yn fras ydyw y goreu i mi, er pan diriais i Efrog Newydd. Yr oedd fy mrawd Morris yn ein cyfarfod yn y dref. Aethum i fyny i Utica ymhen tri diwrnod. Yr oedd 1,600 o Ellmyniaid (Dutch) gyda ni yn y ‘Cars Train’. Cafodd Morris waith i mi yn nhref Utica; dolar yn y dydd o gyflog – 4 swllt a 2 geiniog o’ch harian chwi; ond dywedodd Dr. Williams (Cymro) mai gwell oedd i ni fyned i’r wlad y flwyddyn gyntaf, o ran ei bod mor boeth yn y dref; felly aethom wyth milltir i’r wlad. Aethum i weithio i’r ffermwyr o gwmpas. Yr oedd iechyd fy nheulu yn lled dda, a minnau yn cael dolar yn y dydd gyda y gwair. Bum yn saethu ceryg calch ar ol y cynauaf. Yr oedd yn rhyfeddod gan yr Yankees weled saethu yn y rhan hwnnw. Yn y fan honno clywais am ffarm bach yn Waterville, yn ymyl Evan Roberts, saer maen, ac fe ddarfu fy mrawd Morris roi gorchymyn y mi fyned at Edward Jones, a John y mab, i ofyn a ddeuant hwy gyda mi i‘w hedrych, ac os byddent hwy yn barnu ei bod yn werth y pris oedd arni, y gwnai yntau fy helpu i’w chael yn uniongyrchol.
I ffwrdd a mi i’r Sgeular, a dyma E. Jones a John yn ‘pacio’ y ‘garriage’ i ddyfod gyda mi, ac aethom cyn belled a thref Utica. Ond dyma lythyr i mi yn y dref o Vermont, oddiwrth ddyn oedd wedi bod yn yr un fan a mi gyda y gwair, yn dywedyd fod gwaith i mi i’w gael i weithio yn y chwarel, a dolar a hanner yn y dydd o gyflog. Tybiais i yn fy meddwl fod 6 swllt a 3 ceiniog yn well na ffarm, a dywedais wrth Morris, ac E. Jones, a John, hyd yma y deuaf fi, a dim ymhellach; y ffarm i chwi, a dolar a hanner yn y dydd i minnau. Mi aethum i’r ‘Cars Train’ yn y fan, ac yr oeddwn yn Rutlant County, Vermont, yn agos i 200 o filltiroedd, cyn 4 o’r gloch prydnawn. Dechreuais weithio dranoeth, a dyma lle yr ydwyf hyd yr awrhon yn yr un fan.
Cymro o Sir Fon yw perchenog y ffarm, a’r chwarel sydd arni. Aethum i geisio fy nheulu wedi i mi gael tŷ yn Fair Haven. Yr oeddwn yn byw yn y pentref. Ond tua mis Rhagfyr, dechreuodd Gwen fyned yn sâl pan ddaeth y barug oer, a William bach yn lled wael o hyd, ac yn waelach yr aethant; ond y 12fed dydd o Mawrth, dyma angeu wedi dyfod i’r tŷ. O don fawr, na theimlais yr un gymaint erioed! Fe ddywedod yr hen William Ellis dduwiol wrthyf yna fy mod i gael myned i ffwrneisiau poethion cyn myned i angeu. Ai tybed, fy nhgyfaill annwyl, fod yn rhaid i’r Arglwydd fyned a’m gwraig o fy mynwes, a’m bachgen o fy mreichiau, i dynu fy meddwl o’r byd?
... Ond y 12fed dydd o Ebrill, dyma don fawr eto. Ni fedraf adrodd fy nheimladau, pryd y daeth galwad am William bach ar ôl ei fam. O ddiwrnod trwm i mi! Er fod yn y tŷ lawer o bobl, a llawer o ieithoedd, eto nid oedd yno yr un fam i gydymdeimlo â mi yn y tywydd mawr.
Wel, wel, llawer diwrnod du o hiraeth sydd yn myned troswyf yn aml wrth feddwl am Gwen a William. Yr oedd William yn galw ar John bach at ei wely y Sul olaf y bu fyw, ac yn dweyd wrtho am fod yn fachgen da.
Y mae yn rhaid i mi derfynu, cyn dywedyd hanner fy newydd. Yr ydwyf fi a John bach yn lletya gyda’r gŵr a bia y chwarel. Nid oes ganddynt ddim plant. Y mae John yn fawr yn eu golwg. Fy nghyflog ydyw £1.17.6 yn yr wythnos.
Ysgrifena ataf, a dyro hanes Eglwys Bethesda ...
Hyn oddiwrth dy hen gyfaill,
William Job
Chwarel yn Fair Haven, Vermont yn ail hanner y 19eg Ganrif. Llun o gasgliad yr awdur. |
--------------------------
Y oedd talaith Vermont yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn debyg iawn i Gymru, gyda’i mynyddoedd uchel, dyffrynnoedd prydferth, doldiroedd ffrwythlon, afonydd rhedegog a’i llynnoedd gloywon. Daeth y Cymry cyntaf yno tua 1851 ac ymsefydlont yn Fair Haven, Sir Rutland. O Ogledd Cymru y deuai’r mwyafrif, gan mai’r diwydiant llechi ac ithfaen a’u tynnodd hwy yno’n bennaf. Pentref bywiog fu Fair Haven, sef prif gyrchfan y rhan fwyaf o’r ymfudwyr Cymreig yn Vermont, gyda’i siopau, banciau, llythyrdy, gwesty a gweithfeydd llaw, chwareli llechi a melinau llifio, ynghyd â thorri llechi a marmor. Yr oedd tua 500 o Gymry’n byw yno yn 1871 a mwy o lawer o Wyddelod a Ffrancwyr.
Ni allaf yn fy myw gael unrhyw wybodaeth am William Job, awdur y llythyr. Oes yna gofnodiad amdano yn hanes yr achos ym Methesda, Manod tybed?
Efallai i ddarllenwyr ‘Llafar Bro’ fod wedi clywed am Rowland Walter (‘Ionoron Glan Dwyryd’, 1817-1884) yng ngholofn fisol ‘Rhod y Rhigymwr’ yn ddiweddar [nifer o gyfeiriadau ato trwy glicio'r ddolen isod hefyd -Gol.]. Ganwyd ef ym Mlaenau Ffestiniog. Yn ŵr ifanc, bu’n gweithio yn chwareli Cwmorthin a Holland. Ymfudodd yntau fel William Job i’r America tua’r un amser, ‘Ionoron’ ym 1852. Pan oedd ef yn cerdded dros y Migneint i’r Bala un tro, daeth y nos yn ddisymwth ac yntau yng nghyffiniau Pen Llechwedd Deiliog, ger Tai Hirion, pan ymosodwyd arno gan ladron. Collodd bob ceiniog goch oedd ganddo. Nodwyd iddo gyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth: ‘Lloffion y Gweithiwr’ (1852) a ‘Caniadau Ionoron’ (1872). Wedi iddo ymsefydlu y yr America bu yntau, fel William Job, yn gweithio yn chwareli Fair Haven. Efallai iddynt gyfarfod â’i gilydd yno!
---------------------------------------------------
Nodyn gan Iwan, golygydd Mehefin:
Yn CPM Gogledd Cymru, deuthum ar draws cofnod o briodas WIILIAM JOB a GWEN OWEN yn Eglwys Twrog Sant, Maentwrog ym 1839. Mae lle i gredu mai dyma’r William Job a ysgrifennodd y llythyr. Mae cofnod o enedigaeth ‘William Job’ yn Ffestiniog (1844) a ‘John Job’ (1848). Nodir ‘William Job’ fel tad y ddau. Yng nghyfrifiad 1841, roedd William (chwarelwr 30 oed) a’i wraig, Gwen (27 oed) ynghyd â’u merch fach 8 mis oed, Gwen, yn byw yn ‘Glanydŵr’, Ffestiniog.
---------------------------------------------------
Nodyn pellach ar Ionoron Glan Dwyryd, o golofn Stolpia, gan Steffan ab Owain yn rhifyn Gorffennaf:
Y mae cryn sylw wedi bod i Rowland Walter, neu Ionoron Glan Dwyryd, yn ȏl ei enw barddol, yn ddiweddar. Y mae un peth yn cael ei adrodd dro ar ȏl tro amdano yn ei fywgraffiad, sef ef ei fod yn enedigol o Cefnfaes yn y Manod. Nid yw hyn yn gywir, un o Danygrisiau oedd Ionoron yn wreiddiol fel y cofnodir man ei gartref yng nghofrestr bedyddiadau plwyf Ffestiniog.
Yn ȏl J.W.Jones, Y Fainc Sglodion, ganwyd ef ym Mhencefn Pellaf, ac os cofiaf yn iawn, bu chwaer Ionoron yn byw yno mewn cyfnod ddiweddarach. Rwyf yn tybio mai Bob Owen, Croesor sydd wedi nodi yn y Bywgraffiadur Cymreig mai yn y Cefnfaes y ganwyd ef, ond y gwirionedd yw, symud i fyw yno gyda’i rieni pan oedd yn blentyn bach a wnaeth.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon