Erthygl gan Philip Lloyd
Heblaw’r teuluoedd Greaves, Oakeley, Casson a Holland bu gan y chwareli lleol lu o berchnogion yn eu hanterth. Ond beth am fuddsoddwyr? Cefais gyfle i daflu peth goleuni ar y mater yn ddiweddar, a hynny o gyfeiriad annisgwyl.
Mae hen gyfaill coleg i mi yn gwirfoddoli yn amgueddfa leol Wellington, Gwlad yr Haf. Cafodd hen lyfr cownt i’w astudio gan y curadur. Mae’n cofnodi cyllid Mrs S.M. Fox, gwraig i aelod o deulu lleol a fu’n cynhyrchu brethyn gwlân yn y dref ers canol y deunawfed ganrif. Prif berchennog cwmni Fox Bros & Co ers 2009 yw Deborah Meaden, a fagwyd yn lleol ac a ddaeth i amlygrwydd ar y rhaglen deledu Dragon’s Den.
Roedd sôn yn y llyfr cownt am etifeddu ar ôl marwolaethau ac eitemau teuluol eraill. Ond roedd un gair a ymddangosodd sawl gwaith yn y 1890au yn ymdebygu i ‘Carmarthen’ (‘Carmarthen shares’ un tro) a swm o £1,300 yn ei ymyl bob tro. Ond yn 1895 priodolwyd y swm i’r New Welsh Slate Co. Debentures, sef math arbennig o fuddsoddiad sy’n cael blaenoriaeth os telir difidend blynyddol.
Llwyddais i argyhoeddi fy nghyfaill nad oedd cysylltiad amlwg rhwng Caerfyrddin a’r diwydiant llechi. Parodd hyn ddryswch iddo ac i’r curadur. Ond aeth y curadur ati ar drywydd arall: a oedd ‘Carmarthen’ yn air Cymraeg arall yn dechrau gyda’r elfen ‘Cwm’ ac yn berthnasol i’r diwydiant llechi? Daeth i’r casgliad mai Cwmorthin ydoedd.
Gofynnais i gyfaill arall, Gareth Haulfryn Williams, cyn-archifydd sirol, a oedd cysylltiad rhwng chwarel Cwmorthin a’r New Welsh Slate Co. Daeth yr ateb gyda’r troad: ffurfiwyd y New Welsh yn 1889 i brynu cwmni’r chwarel ar ôl i hwnnw fynd i’r wal. Yna, meddai, prynwyd y New Welsh yn ei dro gan Gwmni Oakeley yn 1900.
Rydw i’n ddiolchgar hefyd i Cadi Iolen o Amgueddfa Lechi Cymru. Cefais fy nghyflwyno ganddi i gyfeiriadau’r wasg at ddechrau a diwedd y New Welsh Slate Co. yn ogystal â gwybodaeth am ei drefniadaeth. Yn rhifyn 31 Mai 1889 o’r Caernarfon & Denbigh Herald, estynnwyd gwahoddiad o swyddfa’r cwmni yn Llundain i ymgeisio am gyfranddaliadau. Yn y ddinas honno hefyd y trigai pedwar o’r chwe chyfarwyddwr (ac Aelod Seneddol Torïaidd Tottenham yn eu plith).
Ond roedd rhifyn 24 Mawrth 1899 o’r North Wales Express yn cynnwys adroddiad ar ‘a special meeting’ o’r cwmni mewn gwesty yn Llundain i ystyried ‘the present financial condition of the company’, a oedd yn ‘extremely deplorable’. Doedd dim difidend yn cael ei dalu ar y cyfranddaliadau, ac adroddodd Mr Roberts, y rheolwr, nad oedd y gweithwyr wedi cael cyflog llawn ers wythnosau. Pe baen nhw’n ymadael, meddai, byddai’r gwaith yn cael ei foddi gan ddŵr. Roedd pennawd yr adroddiad yn cynnwys y geiriau drwg argoelus: ‘proposed voluntary winding-up’. A dyna’r argymhelliad a gyflwynwyd i gyfarfod buan o’r cyfranddalwyr.
Hanes Plwyf Ffestiniog
Atgynhyrchaf uchod fanylyn o’r map a atodwyd i’r llyfr Hanes Plwyf Ffestiniog o’r Cyfnod Boreuaf gan G.J. Williams (1882). Gwelir Llyn a Chwarel Cwmorthin ar yr ochr chwith. Sylwer hefyd ar y tramffyrdd sy’n cysylltu’r chwareli â Rheilffordd Ffestiniog er mwyn cludo eu cynnyrch i borthladd Porthmadog i’w allforio, ac ar reilffyrdd mesur-safonol y London & North Western a’r Great Western (y naill yn mynd drwy dwnnel ac ymlaen i’r gogledd am Ddyffryn Conwy a phrif lein Caer/Caergybi, a’r llall i’r de am Y Bala).
Yn ei ragymadrodd i’r llyfr dywedodd G.J. Williams iddo gael ei seilio ar draethawd a gyflwynwyd i
"Ail Eisteddfod Chwarelau Mr. Oakeley, Hydref, 1880, yn yr hon y dyfarnwyd ef yn fuddugol, ac yn deilwng o’r wobr – deg gini – cyflwynedig gan W. E. Oakeley, Ysw., Tanybwlch, a R. Rowland, Ysw., North & South Wales Bank".
Yn y bennod ar ‘Y Llech-Chwarelau’ mae’n nodi mai Samuel Holland (ieu.) oedd ‘ein Haelod Seneddol Anrhydeddus’ yn ogystal â bod yn perthyn i deulu o berchnogion. Ac mae lle anrhydeddus yn ‘Enwogion a Hynodion y Plwyf’ i William Gryffydd Oakeley (m. 1835), a fu’n ‘hynod am ei haelioni a’i garedigrwydd i’r tlodion’.
- - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2022
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon