Showing posts with label rhifyn digidol. Show all posts
Showing posts with label rhifyn digidol. Show all posts

27.2.21

Rhifynnau Digidol

Cofiwch fod rhifyn Chwefror ar gael i'w lawr-lwytho am ddim o wefan Bro 360.

Yno hefyd mae pob rhifyn sydd wedi'i gyhoeddi'n ddigidol, yn ogystal â'n rhifyn arbennig, sef rhifyn 500. o fis Rhagfyr 2020.

Dyma chwip o lun gan y ffotograffydd a'r mynyddwr lleol Gerwyn Roberts sydd ar glawr rhifyn Chwefror 2021, ynghyd â phenillion i'r Moelwynion gan William Jones.



24.2.21

Yr un yw’r natur ddynol

Colofn Olygyddol Glyn Lasarus Jones

Pleser yw cael cyflwyno rhifynnau 501 a 502 - nid i’ch dwylo yn anffodus, ond i sgriniau eich cyfrifiadur neu ffonau neu lechi.

Oherwydd yr ansicrwydd o ran pryd y codid y cyfyngiadau teithio a phryd fyddai rhai siopau yn cael ail-agor, gwnaethpwyd y penderfyniad anodd i wneud rhifynnau cyntaf 2021 yn ddigidol. 

Edrych ymlaen at y gwanwyn!

Os ydych chi’n nabod rhywun heb fod y we ganddynt, beth am argraffu copi neu dudalen neu ddwy ar eu cyfer?

Gobeithio y cawsoch chi i gyd fwynhad o ddarllen rhifyn dathlu Llafar Bro – y 500fed rhifyn ym mis Rhagfyr. 

 

Ymlaen at y milfed rŵan. Os yw fy nghyfrifo’n gywir, mi fydd hi’n 2065 arnom yn cyhoeddi’r rhifyn hwnnw, a minnau yn ei brynu o fy mhensiwn, a bwrw y bydd pensiwn ar gael bryd hynny, a’r Gymraeg yn dal i gael ei siarad yn y cornelyn hwn o’r ddaear.

 

Am flwyddyn ryfedd oedd y llynedd. Dechreuodd yn ôl yr arfer fel pob blwyddyn yn ei dro, ac yna daeth y cyfyngiadau symud ar ein gwarthaf. Rhyfedd fel y newidiodd pethau. Dim awyrennau yn yr awyr, pobl yn crwydro’r bryniau efo’u teuluoedd, a llond y lle o Gymraeg. Ond yna daeth yr unigrwydd a’r ansicrwydd a’r rhwystredigaeth, gyda llawer yn gaeth i’w cartrefi ac yn ofni gadael, a llawer yn wir yn dal heb adael eu cartrefi bron o gwbl ers mis Mawrth. Do yn wir, bu’r cyfnod clo yn falm ac yn felltith ar yr un pryd.

Darllenais ambell erthygl ddiddorol iawn yn ddiweddar yn cymharu agweddau o’r Pla Du, neu Haint y Nodau, fel y gelwid hi, gyda chlwy’r corona. Afiechyd hollol ofnadwy oedd y Pla Du a ysgubodd drwy Gymru mewn sawl ton rhwng y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r ail ganrif ar bymtheg.

Bryd hynny, fel heddiw, gwelwyd llywodraethau yn gogor-droi cyn ymateb. Yn wir, gydag un don o’r Pla Du yn 1665, gwelwyd achosion o’r llywodraeth yn celu’r gwirionedd ac yn tanamcangyfrif nifer y meirw. Mae sôn bod rhai gwledydd wedi gwneud hynny y llynedd gyda Cofid. Adeg y Pla Du, gwelwyd y cyfoethogion yn ffoi o Lundain, gan gynnwys meddygon a’r teulu brenhinol eu hunain. Gwelsom ni yng Nghymru yr un ecsodus hwn i’n cefn gwlad yn ystod y cyfnod clo. Ond mi welwyd dewrder adeg y Pla Du yn ogystal, gyda Maer Llundain yn gwrthod gadael y ddinas rhag lledaenu’r haint. Gwelsom ninnau hefyd ddewrder gweithwyr y gwasanaeth iechyd yn rhoi eu lles eu hunain yn y fantol i ymdrin â’r cleifion. 

Hunanynysu am bythefnos oedd yn rhaid i ni ei wneud os oedd symptomau arnom, ond pan oedd y Pla yn Llundain yn yr ail ganrif ar bymtheg, cai cleifion posib eu cloi yn eu cartrefi, peintiwyd croes fawr goch ar eu drws a rhoddwyd gwarchodwyr i sefyll y tu allan rhag ofn iddynt geisio ffoi. A bryd hynny, fel heddiw, roedd yna rai a wrthodai ufuddhau ac a oedd yn mynnu cymdeithasu a hel tafarndai. Yr un yw’r natur ddynol ym mhob oes, debyg.

Boed i 2021 fod yn flwyddyn well na’r un yr ydym ni wedi ffarwelio â hi.

----------------------------

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2021

Mae rhifynnau digidol Ionawr a Chwefror (a mwy) ar gael i'w lawr-lwytho am ddim. 

 

Llun -Paul W

 

20.7.20

Smit Newyddion

Rhan o golofn olygyddol rhifyn Gorffennaf-Awst sydd ar gael i'w lawr-lwytho'n llawn -am ddim- rwan*.

Mae'n draddodiad yn y byd newyddiaduraeth bod yr haf yn gyfnod distaw, pan mae'r gwleidyddion ar eu gwyliau aballu. Dyma'r silly season bondigrybwyll; tymor y straeon gwirion er mwyn llenwi tudalennau a thynnu sylw'r darllenwyr pan mae llai o newyddion go iawn i'w adrodd. Tydw i ddim o reidrwydd yn awgrymu bod llawer o newyddiaduraeth yn y papurau bro cofiwch. Gan fod pawb sy'n gwneud stem o waith ar ran Llafar Bro yn wirfoddolwyr, does gennym ni mo'r gallu i dreulio dyddiau yn mynd ar ôl 'stori' a datgelu anghyfiawnder a sgandals aballu.

Yn nyddiau gofid covid, mae’r newyddion am unrhyw beth ond y feirws mor brin a chwys fforddoliwr, chadal yr hen chwarelwyr. Mae’n smit ar bawb! Tydi’r cymdeithasau ddim yn cyfarfod, does yna ddim chwaraeon, ac mae ein rhwydweithiau arferol o ddanfon cyfarchion ar bapur i’r gohebwyr lleol ac yna i’r teipyddesau ar stop dros dro hefyd.

(Llun Gwilym Arthur. Lawr-lwythwch y rhifyn am fwy o fanylion)
Un maes oedd y papurau bro yn rhagori ynddo ers talwm oedd newyddion cymunedol a chyfarchion teuluol. Ond beryg fod facebook wedi rhoi'r farwol i hynny! Ugain mlynedd yn ôl, roedd pobl wrth eu bodd yn gweld enwau eu hanwyliaid yn Llafar Bro, ac yn torri darn allan o'r papur i'w gadw.

Heddiw, does dim raid i neb aros mis nes daw'r rhifyn nesa’ allan –gall bawb roi cyfarchiad ar facebook mewn eiliadau, a derbyn ymateb gan ddwsinau o bobl o fewn munud neu ddau! Mae'r un peth yn wir am hen luniau. Ddegawd yn ôl, os oedd rhywun yn canfod hen lun, roedden nhw'n ei yrru at Llafar Bro i holi am enwau a hanesion. Heddiw, ar y cyfan, grwpiau facebook ydi’r lle i rannu a thrafod hen luniau. Iawn de; pawb at y peth y bo. Dwi ddim am feirniadu. Mae lle i bob math o gyfryngau yn ein bywydau ni bellach.

Daeth dipyn llai na’r arfer o ddeunydd i mewn ar gyfer y rhifyn yma yn sicr, ond gan fod y cynnwys mor ddiddorol dwi’n mawr obeithio y byddwch i gyd yn mwynhau’r rhifyn digidol yma eto.

Diolch o galon i’r cymwynaswyr sydd wedi cyfrannu’n hael at gostau cyhoeddi’r rhifyn yma, trwy noddi tudalennau. Mae haelioni pobol ‘Stiniog bob tro yn wirioneddol wych ac yn codi calon. Mae’n golygu ein bod yn medru parhau i gyhoeddi bob mis, ar gyfnod pan nad oes arian gwerthiant na hysbysebu yn dod i mewn.

Mi ddaw pethau’n haws dwi’n siwr;  bob yn ail mae dail yn tyfu, yn‘de, ond mae’n anodd gwybod i sicrwydd os byddwn yn medru dychwelyd -o’r diwedd- at argraffiad papur erbyn y rhifyn nesa’ ym mis Medi. Does ond heddiw tan yfory, a ‘fory tan y ffair...

Gadewch i ni wybod beth hoffech chi weld yn y rhifynnau nesa’; rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth. Beth am ymateb i gais ein colofnwyr am wybodaeth pellach? Dewch a’r drol yn nes at y doman, trwy yrru eich newyddion a’ch cyfarchion atom hefyd, fel nad ydym yn methu dim byd!  Yn y cyfamser gyfeillion, daliwch i gredu!
Paul Williams
----------------------------------------

* Rhifyn Gorffennaf-Awst 2020


13.5.20

“A fo ben, bid bont”: Cymru, Annibyniaeth a COVID-19

Erthygl gan Elin Roberts.
Addasiad o'r darn a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn digidol Ebrill 2020.

Diddorol yw edrych ar y dyfyniad hwn o’r Mabinogi wrth ystyried ei fod yn berthnasol iawn i ni

heddiw. Mae’n gofyn i’r arweinydd, neu’r darpar arweinydd, i ymddwyn fel pont ac i gadw pethau at ei gilydd drwy warchod eraill. Gallwn ddadlau heddiw bod y rôl o fod yn arweinydd wedi cael ei rannu i bob un ohonom gan fod yn rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i lunio’r dyfodol. Boed hynny drwy aros adref ac ymhellau cymdeithasol i daclo covid-19 neu boed hynny drwy weithio gyda’n gilydd er annibyniaeth Cymru. Wrth i’r dyddiau fynd yn eu blaenau, mae’n bwysicach ac yn bwysicach ein bod ni’n cyd-weithio gyda’n gilydd er lles y mwyafrif, er lles y Fro ac er lles Cymru.
Wrth edrych ar argyfwng covid-19, gwelwn bod Cymru wedi cael ei neilltuo i’r ochr gan Lywodraeth Cymru a gan San Steffan. Mae’r diffyg gwybodaeth a’r data yn frawychus. Caiff yr Alban ddiweddariadau swyddogol am sefylla’r feirws gan Lywodraeth yr Alban tra bod Cymru, hyd yn ddiweddar- yn cael diweddariadau gan fachgen ifanc, Lloyd Warburton, ar y cyfryngau cymdeithasol. Fel cenedl dylem fod yn eithriadol o ddiolchgar i Lloyd am wneud hyn. Ond, mae’n rhaid gofyn paham nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn? Dylai fod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gyfathrebu’n glir gyda’i phoblogaeth. Penderfynodd y BBC beidio cynnwys bwletin newyddion brecwast gan BBC Wales ar BBC1. Gwelwn bod llai a llai o sylw yn cael ei roi i Gymru ar y cyfryngau. O ganlyniad, roedd diffyg gwybodaeth am y sefyllfa yng Nghymru.

Nid yn unig yr ydym yn gweld diffyg darlledu ar y cyfryngau, rydym hefyd yn gweld cam-wybodaeth. Mae’n rhaid deall mai Chris Whitty yw Prif Swyddog Meddygol Lloegr ac NID Prif Swyddog Meddygol Cymru a’r Alban. Yn ogystal â bod yn Brif Swyddog Meddygol Lloegr mae ef hefyd yn Brif Gynghorydd Meddygol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Dylai bod hyn yn cael ei bwysleisio yn y cyfryngau. Prif Swyddog Meddygol Cymru yw Frank Atherton. Tydy datganiadau sy’n cael eu gwneud yn Lloegr ddim o reidrwydd yn golygu y bydd yr un peth yn digwydd yng Nghymru gan bod Iechyd wedi cael ei ddatganoli. Felly, mae’n raid i’r cyfryngau egluro hyn.

Rhaid cofio bod pedair cenedl o fewn y Deyrnas Gyfunol.

Mae argyfwng fel covid-19 wedi amlygu’r angen i nid yn unig datganoli darlledu, ond hefyd i frwydro am annibyniaeth yn fy marn i. Byddai annibyniaeth yn caniatáu i ni gasglu gwybodaeth mwy manwl am ein gwlad ac felly’n ein caniatáu i fod yn fwy gwybodus am yr hyn sy’n digwydd. O ganlyniad, byddai modd cynnal ymchiliadau sy’n canolbwyntio ar Gymru yn unig. Byddai’n orfodol i’n llywodraeth i rannu gwybodaeth gyda ni, dinasyddion Cymru. Hefyd wrth gael annibyniaeth, byddai modd cynnyddu’r cyllid ar gyfer sianeli Cymraeg a fyddai yn gosod safon parhaus a chreu mwy o raglenni. O ganlyniad, ffynhonnel cadarn i rannu gwybodaeth angenrheidiol i’r dinasyddion. Mae’n bwysig ein bod yn cael mynediad agored i wybodaeth yn ystod cyfnod fel hyn.

Rali annibyniaeth Caerdydd, Mai 2020. Llun- Paul W
Y dyddiau hyn, mae’n raid i ni gyd fod yn arweinwyr mewn ryw ffordd gan fod yn rhaid i ni gyd gymryd cyfrifoldeb. Gyda’n gilydd, gallwn lwyddo. Gyda’n gilydd, gallwn daclo unrhyw beth. Boed hynny yn ennill annibyniaeth dros Gymru neu’n taclo’r covid-19. Gyda’n gilydd mi wnawn ni lwyddo.

Gyda’n gilydd, mi ddaw haul ar fryn.
Elin Roberts


6.4.20

Rhifyn Digidol Ebrill 2020

MAE NEWID YN CHANGE MEDDAN NHW...

Ac mae pob un ohonom yn sicr yn gweld newid byd go iawn ar hyn o bryd.
Er i ni fedru darparu rhifynnau ar ffurf pdf i danysgrifwyr cyn hyn, dyma’r rhifyn cyntaf sy’n cael ei gyhoeddi’n ddigidol yn unig.

Lawr-lwythwch rifyn EBRILL o wefan Bro360.

Roedd rhywun yn darogan heddiw y cymer hi 6 mis cyfa’ crwn i fywydau pawb ddychwelyd i’r drefn arferol ar ôl gofid covid 19.

Ond tybed ydi hi’n ddoeth dychwelyd yn llwyr i’r hen drefn sy’n cael ei disgrifio gan rai fel bywyd materol, hunanol, a chyfalafol? Ai gwirion fyddai anwybyddu’r rhybudd clir yma mae’r ddaear wedi’i roi i ni, a dilyn yr un trywydd yn y dyfodol?


Dim ond un daear sydd gennym; ‘Nid oes Planed B’ fel dywed y slogan! Ond rydym wedi bod yn byw a gor-ddefnyddio adnoddau ein byd fel tae gennym ni ddau ddaear a hanner i’w sbario!
Calla dawo’r bregeth mae’n siwr gen i. Mae yna bobl yn galaru, ac eraill yn pryderu’n arw; mae hynny’n anochel.

Feiddiwn ni, trwy hyn i gyd, holi os oes yna ymylon arian i’r cymylau duon o gwbl? Oes yna fanteision i’r hunan-ynysu? Wel, oes. Yn fy achos i, mae’n gyfle i dreulio amser efo’r teulu; chwarae gêm a sgwrsio wrth y tân; darllen ambell lyfr sydd wedi aros yn hir am sylw; ail-edrych yn gyffredinol ar be’ sy’n bwysig mewn bywyd. Bu’r haul yn help garw wrth gwrs. Medru mynd i’r ardd a mwynhau gwylio rhyfeddod y gwanwyn yn deffro. Gwenyn a glöynod byw ymysg y blodau cynnar; telor yr helyg a’r siff-saff yn ôl o’r Affrig; a pharatoi at hau ychydig o hadau eto.

Mae’r gymuned arbennig hon wedi tynnu at ei gilydd fel bob tro, i drefnu gwirfoddolwyr i nôl neges ar ran y rhai sydd ddim yn medru piciad allan, ac i ofalu bod y banc bwyd yn parhau i roi cefnogaeth i’r rhai sydd fwya’i angen o.

Daeth grŵp Gweplyfr/Facebook Côr-ona yn llwyddiant ysgubol dros nos bron, a channoedd o ganeuon wedi eu gosod i godi calonnau 38 mil o wylwyr a dilynwyr! Mae nifer o’r cantorion yn rai lleol –ewch am sbec, ac mi fedrwch ymgolli am oriau o fwynhad a chwerthin bob yn ail. Mae ‘Cerddi Corona’ yn grŵp difyr arall os ydi’n well gennych farddoniaeth.


Difyr oedd gweld y lluniau o Fenis yn dangos y dŵr yn loyw glir yn y camlesi yn’de. Ar ôl dim ond ychydig ddyddiau o gyfyngu symudiadau pobl a busnesau yng Nghymru, roedd Afon Bowydd i’w gweld yn glir fel grisial o waelod yr ardd acw. Welis i mohoni mor lân â hyn yn yr ugain mlynedd ers inni brynu’r tŷ. Ac efo’r hedfan masnachol bron a dod i ben yn llwyr, a llawer llai o geir ar ein ffyrdd, gallwch fentro bod yr aer yn lanach nag y bu, a llawer llai o garbon yn cael ei ryddhau i ddylanwadu ar ein hinsawdd. Hefyd, mae llawer yn gweld -o’r diwedd- be mae ‘austerity’ ac ideoleg gyfalafol gwleidyddion Prydain wedi’i wneud i’r gwasanaeth iechyd a’n gwasanaethau cyhoeddus eraill ni.
Rhesymau da dros beidio ‘mynd nôl i normal’ ar ôl i’r feirws ceroma fynd o’ma! Gawn ni weld os gymrwn ni’r cyfle...

Rhifyn yn llawn erthyglau sydd gennym y tro hwn. Mae nifer o’r colofnwyr rheolaidd wedi cyfrannu erthyglau fel bob tro, ac mae llawer o awduron gwadd wedi cyfrannu darnau difyr iawn hefyd. Diolch i bawb am eu cefnogaeth. Gobeithio y cewch chi ryw gysur a mwynhad yn y darllen.

Yn y cyfamser gyfeillion, daliwch i gredu.

Geiriau a lluniau: Paul W