Showing posts with label cyhoeddi. Show all posts
Showing posts with label cyhoeddi. Show all posts

24.2.21

Yr un yw’r natur ddynol

Colofn Olygyddol Glyn Lasarus Jones

Pleser yw cael cyflwyno rhifynnau 501 a 502 - nid i’ch dwylo yn anffodus, ond i sgriniau eich cyfrifiadur neu ffonau neu lechi.

Oherwydd yr ansicrwydd o ran pryd y codid y cyfyngiadau teithio a phryd fyddai rhai siopau yn cael ail-agor, gwnaethpwyd y penderfyniad anodd i wneud rhifynnau cyntaf 2021 yn ddigidol. 

Edrych ymlaen at y gwanwyn!

Os ydych chi’n nabod rhywun heb fod y we ganddynt, beth am argraffu copi neu dudalen neu ddwy ar eu cyfer?

Gobeithio y cawsoch chi i gyd fwynhad o ddarllen rhifyn dathlu Llafar Bro – y 500fed rhifyn ym mis Rhagfyr. 

 

Ymlaen at y milfed rŵan. Os yw fy nghyfrifo’n gywir, mi fydd hi’n 2065 arnom yn cyhoeddi’r rhifyn hwnnw, a minnau yn ei brynu o fy mhensiwn, a bwrw y bydd pensiwn ar gael bryd hynny, a’r Gymraeg yn dal i gael ei siarad yn y cornelyn hwn o’r ddaear.

 

Am flwyddyn ryfedd oedd y llynedd. Dechreuodd yn ôl yr arfer fel pob blwyddyn yn ei dro, ac yna daeth y cyfyngiadau symud ar ein gwarthaf. Rhyfedd fel y newidiodd pethau. Dim awyrennau yn yr awyr, pobl yn crwydro’r bryniau efo’u teuluoedd, a llond y lle o Gymraeg. Ond yna daeth yr unigrwydd a’r ansicrwydd a’r rhwystredigaeth, gyda llawer yn gaeth i’w cartrefi ac yn ofni gadael, a llawer yn wir yn dal heb adael eu cartrefi bron o gwbl ers mis Mawrth. Do yn wir, bu’r cyfnod clo yn falm ac yn felltith ar yr un pryd.

Darllenais ambell erthygl ddiddorol iawn yn ddiweddar yn cymharu agweddau o’r Pla Du, neu Haint y Nodau, fel y gelwid hi, gyda chlwy’r corona. Afiechyd hollol ofnadwy oedd y Pla Du a ysgubodd drwy Gymru mewn sawl ton rhwng y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r ail ganrif ar bymtheg.

Bryd hynny, fel heddiw, gwelwyd llywodraethau yn gogor-droi cyn ymateb. Yn wir, gydag un don o’r Pla Du yn 1665, gwelwyd achosion o’r llywodraeth yn celu’r gwirionedd ac yn tanamcangyfrif nifer y meirw. Mae sôn bod rhai gwledydd wedi gwneud hynny y llynedd gyda Cofid. Adeg y Pla Du, gwelwyd y cyfoethogion yn ffoi o Lundain, gan gynnwys meddygon a’r teulu brenhinol eu hunain. Gwelsom ni yng Nghymru yr un ecsodus hwn i’n cefn gwlad yn ystod y cyfnod clo. Ond mi welwyd dewrder adeg y Pla Du yn ogystal, gyda Maer Llundain yn gwrthod gadael y ddinas rhag lledaenu’r haint. Gwelsom ninnau hefyd ddewrder gweithwyr y gwasanaeth iechyd yn rhoi eu lles eu hunain yn y fantol i ymdrin â’r cleifion. 

Hunanynysu am bythefnos oedd yn rhaid i ni ei wneud os oedd symptomau arnom, ond pan oedd y Pla yn Llundain yn yr ail ganrif ar bymtheg, cai cleifion posib eu cloi yn eu cartrefi, peintiwyd croes fawr goch ar eu drws a rhoddwyd gwarchodwyr i sefyll y tu allan rhag ofn iddynt geisio ffoi. A bryd hynny, fel heddiw, roedd yna rai a wrthodai ufuddhau ac a oedd yn mynnu cymdeithasu a hel tafarndai. Yr un yw’r natur ddynol ym mhob oes, debyg.

Boed i 2021 fod yn flwyddyn well na’r un yr ydym ni wedi ffarwelio â hi.

----------------------------

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2021

Mae rhifynnau digidol Ionawr a Chwefror (a mwy) ar gael i'w lawr-lwytho am ddim. 

 

Llun -Paul W

 

23.3.20

Datganiad Feirws Corona

Er mwyn gwarchod ein dosbarthwyr, a'n darllenwyr hefyd, rydym wedi penderfynu
NA FYDDWN YN ARGRAFFU Llafar Bro nes bydd y sefyllfa wedi gwella.

Mae'n siom i bawb, ac yn ddigynsail: ni fu toriad yn y cyhoeddi ers y rhifyn cyntaf yn Hydref 1975, ond o dan yr amgylchiadau, gobeithiwn eich bod yn cytuno mae dyma'r peth cyfrifol a chywir i'w wneud.

Mae criw gwirfoddol y papur yn ystyried sut fedrwn barhau i gynnig newyddion ac erthyglau yn ddigidol ar gyfer y gymuned trwy'r cyfnod anodd hwn.

Daliwch ati i yrru newyddion, cyfarchion, lluniau, ac erthyglau atom. Mi rown ni nhw ar ein cyfryngau cymdeithasol. 

Yn y cyfamser, cofiwch bod dros 770 o erthyglau eisoes ar y wefan hon; 'bodiwch' trwy'r tudalennau tra eich bod yma!

Efallai y gall rhai ohonoch argraffu ambell erthygl i'w rhannu efo aelodau'r teulu sydd ddim ar y we...

Cadwch yn ddiogel gyfeillion. Diolch am gefnogi eich papur bro. Daw eto haul ar fryn.



Stiniog o inclên y Greigddu, gan Helen McAteer


21.11.15

Atgofion Gosodwr

Dafydd Roberts sy'n adrodd ei hanes yn nyddiau cynnar Llafar Bro.

Anodd credu bod 40 mlynedd wedi mynd heibio ers ymddangosiad cyntaf 'Llafar Bro' yn Hydref 1975.  Roedd dalgylch 'Stiniog yn un o'r ardaloedd cyntaf yng Nghymru i fentro cynhoeddi papur bro misol yn y Gymraeg.  Papur yn llawn hanesion lleol, atgofion y darllenwyr a barn am wahanol bynciau llosg y dydd -  ac felly y mae hyd heddiw.

Ychydig flynyddoedd yn ôl bu Iolo Williams a Shân Cothi yn recordio rhaglenni o'r enw Bro.  Wrth wylio'r rhaglen o ardal Caernarfon, a gweld grŵp mawr o wirfoddolwyr wrthi'n 'gosod' eu papur hwy daeth llu o atgofion melys yn ôl am y cyfnod y bûm innau'n 'gosod' Llafar Bro yn fisol rhwng 1979 a 1984.

Dechreuai'r gwaith fel arfer ar nos Wener gydag ymweliad gan y golygydd ar y pryd – y Parch Emlyn Williams neu Bryn Jones – gyda'r deunydd ar gyfer y rhifyn cyfredol.  Roedd gan Emlyn Williams bob amser dair amlen A4.

Cynnwys y gyntaf oedd y dudalen flaen a'r darnau pwysicaf – rhaid oedd sicrhau eu bod hwy yn y papur yn ddi-feth; yn yr ail roedd darnau y colofnau misol a'r lluniau i gyd-fynd oedd yn llenwi crynswth y rhifyn; a'r drydedd yn llawn pytiau wrth gefn pe tae angen rhagor i lenwi'r rhifyn dan sylw. Roedd cyfrifoldeb edrychiad y papur wedyn yn syrthio i ddwylo'r gosodwr.  Byddai'r golygydd yn gweld y rhifyn gorffenedig am y tro cyntaf ar noson y plygu yn Siambr y Cyngor.  Dipyn o gyfrifoldeb felly!

Y dasg gyntaf oedd mesur canol chwe darn o gerdyn gwyn 30 modfedd wrth 21 modfedd.  Yna mesur tair colofn 4 modfedd o led o bopty'r canol.  Marcio wedyn, yn ysgafn â phensil y colofnau i gyd.  Yr ail dasg oedd torri'r tudalennau teip yn golofnau.  Y teipyddesau'r adeg honno oedd Laura Price a Heddus Williams.  Ond cyn eu gludo rhaid oedd gwneud penawdau gyda 'Letraset' - tudalennau plastig maint A4 gyda llythrennau'r wyddor mewn amrywiol faint a theip, yn ogystal â rhifau a phatrymau.

Llun o Gronfa Comin Wikimedia
I greu pennawd rhaid oedd gosod y dudalen letraset ar gerdyn gwyn annibynnol, rhwbio'r llythyren angenrheidiol yn galed â phensil er mwyn ei throsglwyddo ar y cerdyn. Roedd rhai penawdau angen bod yn fwy na'i gilydd, ac felly'n cymryd rhagor o amser.

Penderfynu wedyn ar ba dudalen roedd newyddion y gwahanol ardaloedd yn mynd cyn eu gludo'n ofalus ar dop y colofnau penodedig gyda Cow Gum - glud arbennig ar gyfer gosod penawdau papur newydd.  Yna'n ôl i'r dudalen flaen a gosod pennawd arbennig Llafar Bro gyda'r un glud.  Defnyddid y Pritt Stick  bondigrybwyll i ludio'r holl golofnau a deipiwyd, megis newyddion yr ardaloedd, chwaraeon, Sgotwrs 'Stiniog, erthyglau, ac yn y blaen.  Roedd hysbysebion yn cael dos o'r Cow Gum.

Y lluniau oedd y dasg nesaf – penderfynu faint o le i'w roi iddynt.  I wneud hynny rhaid oedd gweld faint o ofod oedd rhwng y colofnau.  Weithiau gellid chwyddo llun, neu os yn rhy fawr, ei leihau trwy osod papur du o'r maint cywir ar y cerdyn gwyn.  Rhaid oedd rhifo'r darn du a rhoi'r un rhif ar gefn y llun oedd i gyd-fynd ag ef.

Y dasg olaf oedd rhifo'r tudalennau â'r letraset.  Roedd y cyfan i'w gwblhau cyn noswylio ar y Sul. Bore Llun aed a'r cardiau gwyn gorffenedig i'r wasg ym Mhenygroes i'w hargraffu.  Ymhen yr wythnos, ar noson y plygu, dychwelid y cardiau gwyn a'r lluniau gyda rhifyn y mis i Siambr y Cyngor tref. Roedd un dasg fach ar ôl.

Rhaid oedd tynnu'n ofalus y penawdau a ludiwyd â'r Cow Gum oddi ar y tudalennau a'u cadw tan y rhifyn nesaf.  “Arf” da oedd yr hen Cow Gum! A dyna ni.  Ddeugain mlynedd yn ôl dyna'n fras waith misol gosodwr Llafar Bro


---------------------- 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn penblwydd Llafar Bro yn 40 oed, Hydref 2015.
Dafydd oedd yn gyfrifol am ddylunio 'bathodyn' cyntaf Llafar Bro. Gweler y dudalen 'Cefndir' am fwy o'r hanes.