Yn rhifyn Ebrill Llafar Bro, mi rois gais am ddarn coll y darlun mynyddoedd sy'n atodiad i lyfr 'Hanes Plwyf Ffestiniog'. Diolch i Philip Lloyd, Yr Wyddgrug -a nifer o garedigion eraill y papur- mae fy nghopi yn gyflawn eto. Roeddwn yn falch o fedru talu'r gymwynas yn ôl trwy sganio a gyrru rhan o'r map oedd ar goll ganddo fo, felly’n cwblhau dau gasgliad o’r dogfennau!
Yr hyn sy'n syndod –ac yn dipyn o siom i mi- ydi sylwi nad yw'r darn oedd ar goll yn enwi Craig Nyth y Gigfran, a hitha mor amlwg i drigolion y Blaenau.
Parhewch i ddarllen
-------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2020.
Mis Mai ar Odrau'r Mynydd
Showing posts with label haul. Show all posts
Showing posts with label haul. Show all posts
20.6.20
12.10.18
DŴR: Blwyddyn o Eithafion Tywydd
“Wir i chi mae hi’n braf o hyd ym Mlaenau Ffestiniog..” -medd anthem y grŵp lleol, Anweledig, ond be ydi’r gwir am ein tywydd enwog? Mae Dorothy a Gareth Williams wedi bod yn cofnodi manylion tywydd 'Stiniog ers 1986.
Bu 2018 hyd yma yn flwyddyn eithriadol i’r rhai ohonom sydd yn cael pwnc y tywydd yn un diddorol. Os oes gennych ddiddordeb neu beidio, mae’r tywydd bob amser yn bwnc trafod yn y Blaenau ac yn cael effaith ar fywydau pob un ohonom.
Bydd y mwyafrif yn cofio’r flwyddyn am y gwres a’r sychder mawr a gafwyd o ganol Mai hyd at ganol Gorffennaf. Cawsom 21 o ddyddiau heb ddiferyn o law rhwng Mehefin 21ain a Gorffennaf 11eg. Dyma’r cyfnod pan gawsom wres eithriadol hefyd, gyda’r gwres yn codi ar ei uchaf i 28.7°C yn ôl fy nghofnodion yng Nghae Clyd. Cawsom haf cynnar gwerth chweil eleni gan gychwyn ym mis Mai pan fu 16 o ddyddiau yn ystod y mis heb law o gwbl a’r tymheredd yn codi i 24.2 gradd ar Fai 28ain.
Er y byddwn yn cofio’r haf yma am y gwres a’r sychder, ni chafwyd tywydd mor dda ers i wyliau’r plant gychwyn a bu mis Awst yn fis siomedig a gwlyb a llawer o ddyddiau pan na gododd y niwl drwy’r dydd. Efallai bydd darllenwyr yn synnu clywed mai ym mis Awst y cawsom y diwrnod gwlypaf o’r flwyddyn gyfan hyd yn hyn! Ar Awst 15fed, cofnodwyd dros ddwy fodfedd o law (53.5mm) a’r Blaenau, ynghyd â Chapel Curig, oedd y ddau le gwlypaf ym Mhrydain ar y diwrnod hwnnw. Yn wir, dim ond pedwar diwrnod heb law a gofnodwyd drwy gydol y mis.
Yng nghanol gwres a sychder Mehefin/Gorffennaf, pylodd y cof am yr oerfel eithriadol a gafwyd ddiwedd Chwefror ac i fewn i ddechrau Mawrth. Plymiodd y tymheredd o 11.9°C ar Chwefror 19eg i -6.8 gradd ar Fawrth 1af. Yn wir, bu’r tymheredd o dan bwynt rhewi am 9 noson yn olynol ac ni chododd y tymheredd uwch pwynt rhewi am dridiau. Wedyn, pan gododd y tymheredd yn sydyn, cafwyd y pibau yn gollwng a nifer fawr ohonom heb ddŵr gyda photeli yn cael eu dosbarthu ar Sgwâr Diffwys â’r plymars i gyd yn brysur.
Un o fendithion tywydd oer mis Chwefror oedd yr heulwen a gafwyd a glesni eithriadol yr awyr ar ambell ddiwrnod, ynghyd â chochni’r machlud dros y Moelwyn.
 ninnau’n meddwl ein bod wedi cael gaeaf heb eira, cawsom flas ohono yn Chwefror ac i mewn i Fawrth. Ar Chwefror 27ain, cofnodais yn fy Llyfr Tywydd:
"Rhewllyd drwy’r dydd, cawodydd cyson o eira, heulwen ar adegau. Ysgolion lleol ynghau.”Dyma’r cyfnod y cyhoeddwyd fod y ‘Bwystfil o’r Dwyrain’ wedi cyrraedd gogledd orllewin Cymru. Ac yna ar ddydd Gŵyl Ddewi, â’r tymheredd rhwng -6.8°C dros nos a -2.6°C ar ei uchaf yn y dydd â’r gwynt o’r gogledd ddwyrain, cofnodais:
“Rhewllyd, bwrw eira, gwynt yn chwyrlio ac yn achosi lluwchio.”Dan bwysau aeron cochion, mae’r griafolen yn adlewyrchu’r math o haf a gawsom. Erbyn hyn, gwelwn fod y lawntydd melyn, sychder yr haf wedi gwyrddio a’r nant oedd wedi sychu’n grimp ger ein tŷ yn byrlymu unwaith eto. Yn wir, cofnodwyd bron i 10 modfedd o law fis Awst, un o’r misoedd Awst gwlypaf imi gofnodi.
Tybed oes yna fwy o eithafion tywydd i ddod cyn i 2018 ddod i’w therfyn?
----------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhan o gyfres arbennig o erthyglau yn rhifyn Medi 2018, ar y thema dŵr.
(Deallwn y bydd erthygl am dywydd ‘Stiniog ar hyd y blynyddoedd yn ymddangos yn Rhamant Bro, cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog ym mis Tachwedd. Bydd ar werth yng nghyfarfod y Gymdeithas ac yn Siop Lyfrau’r Hen Bost wedi hynny –Gol.)
Celf: Lleucu Gwenllian
21.7.18
'Stiniog ydi Canol y Bydysawd!
CYSAWD ERYRI
Erthygl gan Eleth Peate.
Bydd yr haul yn sicr o wenu yn y Blaenau o hyn allan diolch i brosiect newydd Cysawd Eryri. Dros y misoedd nesaf bydd Arloesi Gwynedd Wledig a Pharc Cenedlaethol Eryri yn cydweithio gyda’r artistiaid Rachel Rosen ac Andy Birch er mwyn dod â’r haul a gweddill planedau Cysawd yr Haul i Wynedd. Y nod ydi amlygu dynodiad Eryri fel Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol a meithrin diddordeb mewn seryddiaeth.
Mae plant Blaenau Ffestiniog wedi bod yn gweithio’n ddiwyd iawn gyda’r artist Rachel Rosen er mwyn creu’r planedau fydd yn cael eu gosod mewn busnesau gwahanol ar draws y sir. Bu plant Ysgol Tanygrisiau yn creu'r blaned Mawrth. Er mwyn ail greu edrychiad coch y blaned, aeth y plant allan i chwilio am hen sgrap rhydlyd i’w ychwanegu i’r wyneb. Bydd Mawrth yn cael ei osod yng Nghaffi Llyn, Tanygrisiau.
Drwy osod planedau o amgylch y Parc, bydd llwybr rhyngblanedol yn cael ei greu i bobl ei ddilyn. Ym mhob stop bydd cyfle i ddysgu mwy am y blaned arbennig honno a dod i werthfawrogi maint cymhareb Cysawd yr Haul. Bydd hefyd yn annog pobl i ymweld ag ardaloedd newydd o fewn y Parc a hynny gan ddefnyddio trafnidiaeth wyrdd.
Bydd yr Haul i’w weld yn Siop Antur Stiniog, a bydd yn cael ei greu gan yr artist graffiti Andy Birch gyda help gan bobl ifanc Gisda. Dywedodd Ceri Cunnington o Antur Stiniog:
I geisio deall maint cymhareb cysawd yr haul, bydd y planedau sy’n bellach i ffwrdd o’r haul sef Iau, Sadwrn, Wranws, Neifion a Phlwton yn cael eu gosod yng Ngwesty’r Oakley Arms Maentwrog, Y Ring Llanfrothen, Caffi Pen y Pass Llanberis, Canolfan Arddio Camlan Dinas Mawddwy, a Rheilffordd Tal y Llyn. Ar y raddfa yma mae Cysawd yr Haul wedi ei grebachu o ffactor cant pedwar deg miliwn (140,000,000) i un.
Bydd y planedau yn cael eu gosod dros y misoedd nesaf, gyda phamffled ar gael i roi mwy o wybodaeth am y prosiect. Gobeithio’n fawr y bydd ddarllenwyr Llafar Bro yn cael y cyfle i fwynhau Cysawd Eryri a dysgu mwy am Gysawd yr Haul!
Mae prosiect Cysawd Eryri yn brosiect cydweithredol rhwng Arloesi Gwynedd Wledig a Pharc Cenedlaethol Eryri. Cefnogir y cynllun gan Gronfa Eryri sydd yn rhan o grantiau Parc Cenedlaethol Eryri, a drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), a Chyngor Gwynedd.
-------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2018.
Erthygl gan Eleth Peate.
Bydd yr haul yn sicr o wenu yn y Blaenau o hyn allan diolch i brosiect newydd Cysawd Eryri. Dros y misoedd nesaf bydd Arloesi Gwynedd Wledig a Pharc Cenedlaethol Eryri yn cydweithio gyda’r artistiaid Rachel Rosen ac Andy Birch er mwyn dod â’r haul a gweddill planedau Cysawd yr Haul i Wynedd. Y nod ydi amlygu dynodiad Eryri fel Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol a meithrin diddordeb mewn seryddiaeth.
Mae plant Blaenau Ffestiniog wedi bod yn gweithio’n ddiwyd iawn gyda’r artist Rachel Rosen er mwyn creu’r planedau fydd yn cael eu gosod mewn busnesau gwahanol ar draws y sir. Bu plant Ysgol Tanygrisiau yn creu'r blaned Mawrth. Er mwyn ail greu edrychiad coch y blaned, aeth y plant allan i chwilio am hen sgrap rhydlyd i’w ychwanegu i’r wyneb. Bydd Mawrth yn cael ei osod yng Nghaffi Llyn, Tanygrisiau.Drwy osod planedau o amgylch y Parc, bydd llwybr rhyngblanedol yn cael ei greu i bobl ei ddilyn. Ym mhob stop bydd cyfle i ddysgu mwy am y blaned arbennig honno a dod i werthfawrogi maint cymhareb Cysawd yr Haul. Bydd hefyd yn annog pobl i ymweld ag ardaloedd newydd o fewn y Parc a hynny gan ddefnyddio trafnidiaeth wyrdd.
Bydd yr Haul i’w weld yn Siop Antur Stiniog, a bydd yn cael ei greu gan yr artist graffiti Andy Birch gyda help gan bobl ifanc Gisda. Dywedodd Ceri Cunnington o Antur Stiniog:
“Rydym yn falch iawn o gael yr Haul yma’n barhaol. Mae pawb yn deud ‘bod hi’n bwrw glaw ym Mlaenau Ffestiniog’, ond wir i chi, mae hi’n braf o hyd yma! Bydd yn ffordd wych o ddenu mwy o bobl i’r dref ac i mewn i’r siop.”Mae disgyblion Ysgol y Moelwyn, Ysgol Maenofferen ac Ysgol Manod hefyd ar ganol gweithio’n galed i greu Y Ddaear, Mercher a Gwener. Mi fydd y planedau yma yn cael eu gosod yn Llechwedd, Caffi Parc ac yng ngweithdy llechi 'Snowdonia'.
I geisio deall maint cymhareb cysawd yr haul, bydd y planedau sy’n bellach i ffwrdd o’r haul sef Iau, Sadwrn, Wranws, Neifion a Phlwton yn cael eu gosod yng Ngwesty’r Oakley Arms Maentwrog, Y Ring Llanfrothen, Caffi Pen y Pass Llanberis, Canolfan Arddio Camlan Dinas Mawddwy, a Rheilffordd Tal y Llyn. Ar y raddfa yma mae Cysawd yr Haul wedi ei grebachu o ffactor cant pedwar deg miliwn (140,000,000) i un.
Bydd y planedau yn cael eu gosod dros y misoedd nesaf, gyda phamffled ar gael i roi mwy o wybodaeth am y prosiect. Gobeithio’n fawr y bydd ddarllenwyr Llafar Bro yn cael y cyfle i fwynhau Cysawd Eryri a dysgu mwy am Gysawd yr Haul!
Mae prosiect Cysawd Eryri yn brosiect cydweithredol rhwng Arloesi Gwynedd Wledig a Pharc Cenedlaethol Eryri. Cefnogir y cynllun gan Gronfa Eryri sydd yn rhan o grantiau Parc Cenedlaethol Eryri, a drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), a Chyngor Gwynedd.
-------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2018.
13.6.16
Colofn y Merched -gofal yn yr haul
Pennod arall o gyfres Annwen Jones, a chyngor amserol -o ystyried tywydd rhagorol dechrau Mehefin- am warchod eich hun rhag gormod o haul. Gobeithio y daw'r tywydd braf yn ôl, ond pwyll pia hi..• Cofiwch fod angen amddiffyn y croen rhag y pelydrau UVA ac UVB. Mae UVA yn heneiddio'r croen ag UVB yn ei losgi. Felly astudiwch y poteli hylif haul yn ofalus.
• Os ydych yn olau o ran pryd a gwedd yna defnyddiweh ffactor hylif haul uchel a defnyddio digon ohono a hynny'n aml. Mae angen tua owns i orchuddio'r corff i gyd a pheidier a'i rwbio i mewn yn rhy galed.
• Ceisiwch osgoi'r haul ar adegau poethafyn y dydd hynny yw rhwng 11 y bore a 2 y 'pnawn.
• Cofiwch wisgo het o wead tynn, nid het wellt o wead llac.
• Fe ddylid gwisgo hylif haul o fis Ebrill ymlaen tan yr hydref yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o hufen croen (moisturisers) yn cynnwys SPF 15 erbyn hyn. Astudiwch y jariau.
• Cofiwch amddiffyn y gwefusau'n y tywydd poeth.
• Gwisgwch eich sbectol haul.
• Cofiwch wisgo dillad addas yn yr haul. Nid yw blows tenau 'chiffon' yn addas o gwbl; mae crys T neu flows cotwm o wead tynn yn well. Felly ar ôl peth amser yn torheulo ar lan y môr gwisgwch eich crys T.
• Rhowch ofal arbennig i blant gan sicrhau nad ydynt yn llosgi o gwbl yn yr haul.
• I gloi, mae'n bosib mwynhau'r haul ond i chi wneud hynny gyda gofal. Ac os ydych am fod yn hollol ddiogel yna beth am ddefnyddio un o'r poteli lliw haul ffug yna sydd ar gael yn awr gan gadw allan o'r haul yn gyfan gwbl?
----------------------------------------------
Cyhoeddwyd yn rhifyn Mehefin 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
Llun- Lleucu Gwenllian
Labels:
Colofn y Merched,
croen,
haul,
lliw haul,
torheulo
Subscribe to:
Posts (Atom)


