Erthygl gan Eleth Peate.
Bydd yr haul yn sicr o wenu yn y Blaenau o hyn allan diolch i brosiect newydd Cysawd Eryri. Dros y misoedd nesaf bydd Arloesi Gwynedd Wledig a Pharc Cenedlaethol Eryri yn cydweithio gyda’r artistiaid Rachel Rosen ac Andy Birch er mwyn dod â’r haul a gweddill planedau Cysawd yr Haul i Wynedd. Y nod ydi amlygu dynodiad Eryri fel Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol a meithrin diddordeb mewn seryddiaeth.

Drwy osod planedau o amgylch y Parc, bydd llwybr rhyngblanedol yn cael ei greu i bobl ei ddilyn. Ym mhob stop bydd cyfle i ddysgu mwy am y blaned arbennig honno a dod i werthfawrogi maint cymhareb Cysawd yr Haul. Bydd hefyd yn annog pobl i ymweld ag ardaloedd newydd o fewn y Parc a hynny gan ddefnyddio trafnidiaeth wyrdd.
Bydd yr Haul i’w weld yn Siop Antur Stiniog, a bydd yn cael ei greu gan yr artist graffiti Andy Birch gyda help gan bobl ifanc Gisda. Dywedodd Ceri Cunnington o Antur Stiniog:
“Rydym yn falch iawn o gael yr Haul yma’n barhaol. Mae pawb yn deud ‘bod hi’n bwrw glaw ym Mlaenau Ffestiniog’, ond wir i chi, mae hi’n braf o hyd yma! Bydd yn ffordd wych o ddenu mwy o bobl i’r dref ac i mewn i’r siop.”Mae disgyblion Ysgol y Moelwyn, Ysgol Maenofferen ac Ysgol Manod hefyd ar ganol gweithio’n galed i greu Y Ddaear, Mercher a Gwener. Mi fydd y planedau yma yn cael eu gosod yn Llechwedd, Caffi Parc ac yng ngweithdy llechi 'Snowdonia'.
I geisio deall maint cymhareb cysawd yr haul, bydd y planedau sy’n bellach i ffwrdd o’r haul sef Iau, Sadwrn, Wranws, Neifion a Phlwton yn cael eu gosod yng Ngwesty’r Oakley Arms Maentwrog, Y Ring Llanfrothen, Caffi Pen y Pass Llanberis, Canolfan Arddio Camlan Dinas Mawddwy, a Rheilffordd Tal y Llyn. Ar y raddfa yma mae Cysawd yr Haul wedi ei grebachu o ffactor cant pedwar deg miliwn (140,000,000) i un.
Bydd y planedau yn cael eu gosod dros y misoedd nesaf, gyda phamffled ar gael i roi mwy o wybodaeth am y prosiect. Gobeithio’n fawr y bydd ddarllenwyr Llafar Bro yn cael y cyfle i fwynhau Cysawd Eryri a dysgu mwy am Gysawd yr Haul!
Mae prosiect Cysawd Eryri yn brosiect cydweithredol rhwng Arloesi Gwynedd Wledig a Pharc Cenedlaethol Eryri. Cefnogir y cynllun gan Gronfa Eryri sydd yn rhan o grantiau Parc Cenedlaethol Eryri, a drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), a Chyngor Gwynedd.
-------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2018.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon