Showing posts with label gwres. Show all posts
Showing posts with label gwres. Show all posts

20.5.26

Gwanwyn Cwmni Bro

Newyddion Cwmni Bro

Bydd gwanwyn prysur ar y gweill yma yn Cwmni Bro. Mae gennym weithwyr newydd yn ymuno â'r tîm, un yn canolbwyntio ar hanes a threftadaeth, a datblygu cymunedol. Bydd yn archwilio'r ffordd orau i ddal a rhannu'n hanes cyfoethog yma ym Mro Ffestiniog. Hefyd, bydd gweithiwr newydd yn edrych ar dyfu bwyd, gan bwysleisio pwysigrwydd cymunedoli ein cynnyrch a chyflenwad bwyd cyn gymaint â phosib a lleihau'r angen i fwyd deithio cyn cyrraedd ein byrddau.

Mae Kiki ac Erin yn brysur yn gweithio ar gynllun gwresogi Tanygrisiau. Maen nhw'n datblygu cynllun gwresogi ardal gan ddefnyddio arbenigedd y ddau sefydliad mawr sy'n gymdogion i'r pentref, defnyddio pibellau gwresogi ardal Rehau ac yn edrych i ddefnyddio gwres gweddilliol o Lyn Ystradau gyda help cwmni Engie.

 

Ond yn gyntaf, maen nhw'n peilota beth fydd angen ar dai yn yr ardal drwy greu cynllun yng Nghambrian Terrace. Mae'r holl beth yn wirioneddol wych!

Bu Nina yn cynnal gweithgareddau hwyl ac addysgiadol yn ystod Gwanwyn Gwyrddni gyda theithiau ecoleg, cyfleoedd i arddio, dysgu am ffermio, a gorffen gyda thwrnament codi sbwriel. Ie, darllenoch chi'n iawn, y twrnament mwyaf “rybish” yn y byd, lle  oedd timau'n cystadlu i godi'r nifer fwyaf o fagiau ac ennill gwobr o £100!

Y sbwriel a gasglwyd gan griw y Clwb Rygbi. Llun Nina Gwyrddni
 

A beth well i feddwl amdano yn ystod cawodydd Ebrill ond y gwyl fwyaf glawiog hwyliog Ffestiniog fydd yn cael ei gynnal ym mis Medi 19-20fed eleni. 

Os ydych chi yn awyddus i fod yn rhan o'r datblygu cymunedol a cynlluniau cyffrous yn Stiniog cysylltwch cwmnibro@cwmnibro.cymru   am fwy o manylion 

- - - - - - - -

Addasiad o ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2026 

 

5.11.23

Carafannau ac Ynni

Hawl cynllunio carafannau bugail Barlwyd

Yn dilyn y sylw yn y golofn olygyddol yn rhifyn yr haf ("sut ar y ddaear gafodd y fath bethau ganiatâd cynllunio mewn lle felly?"), cafwyd llawer o negeseuon a sgyrsiau ar y stryd am y carafannau hyn, sydd ym marn nifer mewn lleoliad cwbl anaddas, felly mi yrrodd Llafar Bro ymholiad i adran gynllunio Cyngor Gwynedd. 

Dyma eu hymateb:

“Mae’r safle wedi ei eithrio o’r angen am ganiatad cynllunio yn yr achos hwn, ac atodaf i eich sylw gopi o’r drwydded eithrio swyddogol a gyhoeddwyd gan Woodland Champions Club ar y 28 Gorffennaf 2023.

Yn anffodus, mae’r safle tu hwnt i reolaeth y Cyngor fel yr Awdurdod Cynllunio a Thrwyddedu Lleol ar hyn o bryd, gan mai Llywodraeth Cymru sydd yn rhoddi’r awdurdod i glybiau o’r fath gyhoeddi trwyddedau fel hyn.”
Dyna ni felly, rhaid i’r gymuned dderbyn nad oes sianel ddemocrataidd i gyfrannu sylwadau am ddatblygiadau fel hyn! 

Mae’n debyg fod Llechwedd wedi rhoi cyflwyniad i’r cyngor tref am eu bwriad yn yr hydref llynedd, ac wedi cael caniatâd cynllunio i adeiladu cwt pwrpasol i gadw’r carafannau dros y gaeaf.

Carafannau Barlwyd a Moel Penamnen yn y cefndir. Llun -Paul W

Ynni Cymunedol Twrog

Mae gan Feirionnydd, a Bro Stiniog yn arbennig, hanes gyfoethog ac arloesol o gynlluniau ynni adnewyddol yn cael eu datblygu gan defnyddio adnoddau naturiol yr ardal, ac mae cyfleon ar gyfer datblygu rhai newydd.

Sefydlwyd Ynni Cymunedol Twrog yn 2018 fel cwmni buddiant cymunedol gan griw o bobl leol yn sgil trafodaethau gan Gynghorau Tref a Chymuned yn yr ardal am sut i sicrhau bod cymunedau’r ardal yn elwa o’r cyfleon hyn. Nod Ynni Cymunedol Twrog ydy ceisio sicrhau bod y cymunedau hyn yn elwa cymaint â phosib o’r cyfleon i gynhyrchu ynni adnewyddol trwy berchnogaeth a rheolaeth cymunedol o’r cynlluniau, ac i greu cymunedau cadarn cynaliadwy. Gobeithir y gellir efelychu llwyddiannau mentrau ynni cymunedol eraill fel Ynni Ogwen.

Criw gwirfoddol sydd yn rhedeg y fenter ar yn hyn o bryd, ond yr ydym yn ceisio am grant i ni fedru cyflogi rhywun rhan amser.

Mae’r fenter yn gweithio ar nifer o brosiectau posib ar hyn o bryd. Yr ydym wedi bod yn ffodus yn ddiweddar i gael cymorth gan rai sydd yn gweithio ar ran consortiwm o fentrau ynni cymunedol yng Ngwynedd - Cyd Ynni. Maen nhw wedi bod yn asesu’r potensial i osod paneli solar ar doeau rhai o adeiladau cymunedol yr ardal, fel Canolfan Gymdeithasol Blaenau Ffestiniog, a fydd yn medru lleihau eu costau rhedeg a’u gwneud yn fwy cynaliadwy.

Yr ydym yn cydweithio mewn partneriaeth efo nifer o fentrau lleol eraill fel Cwmni Bro Stiniog a’r Dref Werdd, Cymunedoli Cyf, Cyngor Gwynedd ac eraill, i geisio datblygu atebion fydd yn medru gwneud costau gwresogi Tanygrisiau yn arbennig yn fwy fforddiadwy, a gwneud y tai yn fwy cynaliadwy. Ceir rhagor am hyn yn y rhifyn nesaf. 


Yn y cyfamser os am ragor o wybodaeth croeso i chi gysylltu â ni trwy ein ebost ynnitwrog@cwmnibro.cymru

GRANT

Yn Eisteddfod Boduan lansiodd Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru gwmni Ynni Cymru– cwmni ynni newydd, ym mherchnogaeth y cyhoedd i ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned ledled Cymru fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae’r datganiadau i’r wasg yn cyfeirio at £750,000 sydd wedi'i roi i 11 prosiect ar ffurf grantiau adnoddau dros y tair blynedd nesaf. Mae'r rhain yn cynnwys Prosiect gwres Tanygrisiau, Ynni Cymunedol Twrog. (Gol.)

3.6.21

Cynllun arloesol i wresogi Tanygrisiau?

“Mae cynhesu ein tai am gost sy’n berthynol i’n incwm yn rhywbeth gwbwl elfennol. Mae angen trwsio’r twll yn y bwced cyn mynd ati i chwilio am fwy o ddŵr.”

Mae’r gwaith o gynhyrchu ynni cynaliadwy wedi bod yn rhan o stori Bro Ffestiniog o’r cychwyn. Mae newidiadau mawr ar droed wrth i ni wynebu’r her o newid hinsawdd, ac mae cyfle yma rŵan i ni unwaith eto arloesi, ond y tro yma, cawn droi’r dŵr i’n melin ein hunain.


Gyda’r ardal yn dioddef rhai o’r lefelau o dlodi tanwydd uchaf yn Ewrop, mae sawl opsiwn ar gyfer mynd i’r afael â’r her a datgarboneiddio gwresogi yn Nhanygrisiau wedi cael eu ystyried dros y blynyddoedd. Bellach, mae cynlluniau cyffrous yn cael eu hystyried ar gyfer taclo’r broblem gyda’r bwriad o gynnal astudiaeth dichonoldeb fis nesaf.

Mae partneriaeth yn cynnwys Ynni Cymunedol Twrog, Y Dref Werdd, Cwmni Bro Ffestiniog, Arloesi Gwynedd Wledig, Cyngor Gwynedd (fel yr awdurdod tai strategol), Landlordiaid Cymdeithasol a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi dod ynghyd i daclo'r broblem unwaith ac am byth. Y bwriad ydi datblygu cynllun allai osod y ffordd i gynlluniau tebyg yng nghymunedau chwarelyddol eraill y gogledd a chymunedau sydd oddi ar y rhwydwaith nwy drwy Gymru.

Dywedodd y Cynghorydd Craig Ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd:

“Mae yna lawer o wahanol fathau o dlodi - economaidd, tanwydd, iechyd, addysg, tai, cymdeithasol a llawer mwy. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn effeithio arnom ni yma yng Ngwynedd. Ond rydan ni fel Cyngor yn benderfynol o daclo pob math o dlodi, ac mae’r prosiect yma yn dangos yr hyn sy’n bosib pan rydan ni’n dod a’n talentau at ei gilydd ac yn cydweithio.”

Does dim llawer o enghreifftiau o rwydweithiau gwresogi yng Nghymru, ond mae nifer o ffactorau yn ardal Tanygrisiau yn golygu y gallai ôl-osod rhwydwaith gwresogi ardal ym mherchnogaeth gymunedol neu leol fod yn opsiwn hyfyw.

Mae’r Dref Werdd, Cwmni Bro Ffestiniog ac Ynni Cymunedol Twrog wedi arwain wrth sefydlu grwp llywio i drefnu astudiaeth dichonoldeb cychwynnol er mwyn medru cymharu'r opsiwn yma efo atebion posib eraill ar gyfer dileu tlodi tanwydd a datgarboneiddio gwresogi yn Nhanygrisiau. Mae gwaith ar yr astudiaeth wedi cychwyn ar ddechrau’r mis hwn.

Medd Meilyr Tomos o’r Dref Werdd:

“Mae ‘na ryw ddeuddeg mlynedd ers i mi ddod yma i weithio gynta’. Roedd criw cyntaf o arloeswyr y Dref Werdd wedi bod wrthi’n ddygn yn pwyso i gael cynllun fel hyn ymhell cyn i mi landio. Nôl bryd hynny, y gobaith oedd cael cyflenwad nwy. Bellach, gyda’r newyddion yn ddyddiol yn trafod newid hinsawdd, gwyddom mai ateb tymor byr os nad niweidiol fydda hynny.”

Bydd yr astudiaeth yn adnabod cyfleon i weithio efo darparwyr ynni lleol megis Greaves Welsh Slate, Dŵr Cymru, Engie (First Hydro) a Scottish Power, wrth ddarparu atebion cynaliadwy i anghenion ynni fforddiadwy trigolion lleol.

Ychwanegodd Dafydd Watts o Ynni Cymunedol Twrog:

“Mae angen mwy o gynlluniau ynni glân ym mherchnogaeth cymunedau’r ardal, ac mae angen iddi fod yn haws defnyddio mwy o’r ynni ‘dan ni’n cynhyrchu yma at anghenion lleol yn lle dim ond ei allforio trwy'r grid.”

Y weledigaeth ydi y bydd partneriaid yn cydweithio i:

●    wneud y cyflenwad gwres yn Nhanygrisiau yn ddi-garbon;
●    bod newid i wresogi di-garbon yn hawdd i drigolion Tanygrisiau;
●    cadw gymaint a phosib o’r budd yn lleol trwy berchnogaeth leol o’r isadeiledd gwresogi.

Megis dechrau ar y daith o gyd-weithio fydd hyn ac mae cynlluniau cyffrous eraill y gweill i ddatblygu prosiectau eraill ym maes tai, iaith a gwaith wrth ddod a’r budd eithaf i’n cymunedau.

I wybod mwy cysylltwch gydag ynnitwrog@cwmnibro.cymru

---------------------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2021
 

12.10.18

DŴR: Blwyddyn o Eithafion Tywydd


Wir i chi mae hi’n braf o hyd ym Mlaenau Ffestiniog..” -medd anthem y grŵp lleol, Anweledig, ond be ydi’r gwir am ein tywydd enwog? Mae Dorothy a Gareth Williams wedi bod yn cofnodi  manylion tywydd 'Stiniog ers 1986.

Bu 2018 hyd yma yn flwyddyn eithriadol i’r rhai ohonom sydd yn cael pwnc y tywydd yn un diddorol. Os oes gennych ddiddordeb neu beidio, mae’r tywydd bob amser yn bwnc trafod yn y Blaenau ac yn cael effaith ar fywydau pob un ohonom.


Bydd y mwyafrif yn cofio’r flwyddyn am y gwres a’r sychder mawr a gafwyd o ganol Mai hyd at ganol Gorffennaf. Cawsom 21 o ddyddiau heb ddiferyn o law rhwng Mehefin 21ain a Gorffennaf 11eg. Dyma’r cyfnod pan gawsom wres eithriadol hefyd, gyda’r gwres yn codi ar ei uchaf i 28.7°C yn ôl fy nghofnodion yng Nghae Clyd. Cawsom haf cynnar gwerth chweil eleni gan gychwyn ym mis Mai pan fu 16 o ddyddiau yn ystod y mis heb law o gwbl a’r tymheredd yn codi  i 24.2 gradd ar Fai 28ain.

Er y byddwn yn cofio’r haf yma am y gwres a’r sychder, ni chafwyd tywydd mor dda ers i wyliau’r plant gychwyn a bu mis Awst yn fis siomedig a gwlyb a llawer o ddyddiau pan na gododd y niwl drwy’r dydd. Efallai bydd darllenwyr yn synnu clywed mai ym mis Awst y cawsom y diwrnod gwlypaf o’r flwyddyn gyfan hyd yn hyn! Ar Awst 15fed, cofnodwyd dros ddwy fodfedd o law (53.5mm) a’r Blaenau, ynghyd â Chapel Curig, oedd y ddau le gwlypaf ym Mhrydain ar y diwrnod hwnnw. Yn wir, dim ond pedwar diwrnod heb law a gofnodwyd drwy gydol y mis.

Efallai erbyn hyn i fwy o dywydd eithafol 2018 fynd yn angof gennym ond cychwynnodd y flwyddyn ar nodyn gwlyb iawn. Cawsom Ionawr gwlyb a hynny’n dilyn misoedd gwlyb iawn ar ddiwedd 2017. Onibai am wlypder y gaeaf, byddai argyfwng sychder y gwanwyn a’r haf cynnar wedi bod llawer gwaeth a chwtogi, mae’n siwr, ar ein defnydd o ddŵr.

Yng nghanol gwres a sychder Mehefin/Gorffennaf, pylodd y cof am yr oerfel eithriadol a gafwyd ddiwedd Chwefror ac i fewn i ddechrau Mawrth. Plymiodd y tymheredd o 11.9°C ar Chwefror 19eg i -6.8 gradd ar Fawrth 1af. Yn wir, bu’r tymheredd o dan bwynt rhewi am 9 noson yn olynol ac ni chododd y tymheredd uwch pwynt rhewi am dridiau. Wedyn, pan gododd y tymheredd yn sydyn, cafwyd y pibau yn gollwng a nifer fawr ohonom heb ddŵr gyda photeli yn cael eu dosbarthu ar Sgwâr Diffwys â’r plymars i gyd yn brysur.

Un o fendithion tywydd oer mis Chwefror oedd yr heulwen a gafwyd a glesni eithriadol yr awyr ar ambell ddiwrnod, ynghyd â chochni’r machlud dros y Moelwyn.

 ninnau’n meddwl ein bod wedi cael gaeaf heb eira, cawsom flas ohono yn Chwefror ac i mewn i Fawrth. Ar Chwefror 27ain, cofnodais yn fy Llyfr Tywydd:

"Rhewllyd drwy’r dydd, cawodydd cyson o eira, heulwen ar adegau. Ysgolion lleol ynghau.” 
Dyma’r cyfnod y cyhoeddwyd fod y ‘Bwystfil o’r Dwyrain’ wedi cyrraedd gogledd orllewin Cymru. Ac yna ar ddydd Gŵyl Ddewi, â’r tymheredd rhwng -6.8°C dros nos a -2.6°C ar ei uchaf yn y dydd â’r gwynt o’r gogledd ddwyrain, cofnodais:


“Rhewllyd, bwrw eira, gwynt yn chwyrlio ac yn achosi lluwchio.”
Dan bwysau aeron cochion, mae’r griafolen yn adlewyrchu’r math o haf a gawsom. Erbyn hyn, gwelwn fod y lawntydd melyn, sychder yr haf wedi gwyrddio a’r nant oedd wedi sychu’n grimp ger ein tŷ yn byrlymu unwaith eto. Yn wir, cofnodwyd bron i 10 modfedd o law fis Awst, un o’r misoedd Awst gwlypaf imi gofnodi.


Tybed oes yna fwy o eithafion tywydd i ddod cyn i 2018 ddod i’w therfyn?
----------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhan o gyfres arbennig o erthyglau yn rhifyn Medi 2018, ar y thema dŵr.
(Deallwn y bydd erthygl am dywydd ‘Stiniog ar hyd y blynyddoedd yn ymddangos yn Rhamant Bro, cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog ym mis Tachwedd. Bydd ar werth yng nghyfarfod y Gymdeithas ac yn Siop Lyfrau’r Hen Bost wedi hynny –Gol.)

Celf: Lleucu Gwenllian